Cyfarfodydd

Buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn Isadeiledd Band Eang y Genhedlaeth Nesaf - Y Pedwerydd Cynulliad

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 08/03/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn Isadeiledd Band Eang y Genhedlaeth Nesaf: Trafod ymatebion i adroddiad y Pwyllgor

PAC(4)-09-16 Papur 1 – Ymateb Llywodraeth Cymru

PAC(4)-09-16 Papur 2 - Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(4)-09-16 Papur 3 - Llythyr gan y Cadeirydd at y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg

PAC(4)-09-16 Papur 4 – Gwybodaeth bellach gan Lywodraeth Cymru

 

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd yr Aelodau yr ymatebion a chytunwyd i gynnwys argymhelliad yn Adroddiad Etifeddiaeth y Pwyllgor bod y Pwyllgor olynol yn gofyn am ddiweddariad pellach ar y cynnydd a wnaed yn ystod hydref 2016.

3.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad pellach ynghylch cymhlethdod gosod Band Eang (R1), y gost bosibl yn ychwanegol at werth y talebau sydd ar gael (R2), beth mae 'deinamig' yn ei olygu i'r defnyddiwr (R8), a disgrifiad o sut y gellir gwella'r wefan.

 


Cyfarfod: 03/11/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn Isadeiledd Band Eang y Genhedlaeth Nesaf: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(4)-29-15 Papur 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau ar yr adroddiad drafft. Cytunwyd y byddai fersiwn ddiwygiedig yn cael ei ddosbarthu i Aelodau drwy e-bost i gytuno arno.

5.2 Cyhoeddir yr adroddiad yn ddiweddarach ym mis Tachwedd 2015.

 


Cyfarfod: 15/09/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn Isadeiledd Band Eang y Genhedlaeth Nesaf: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (17 Gorffennaf 2015)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 07/07/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn Seilwaith Band Eang y Genhedlaeth Nesaf: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 07/07/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn Seilwaith Band Eang y Genhedlaeth Nesaf: Sesiwn dystiolaeth 2

PAC(4)-20-15 Papur 1

Briff Swyddfa Archwilio Cymru

 

James Price – Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru

Simon Jones – Cyfarwyddwr, Cyllid a Pherfformiad, Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan James Price, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru a              Simon Jones, Cyfarwyddwr, Cyllid a Pherfformiad, Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru fel rhan o’i ymchwiliad i Fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn Seilwaith Band Eang y Genhedlaeth Nesaf.

2.2 Cytunodd James Price i anfon nodyn ar:

·       Restr o leoliadau lle mae problemau o ran mynediad wedi bod yn anodd i Openreach

·       Beth y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl a gaiff ei ddarparu fel rhan o’r gyllideb farchnata o £1.7m, a sut y caiff ei defnyddio ar sail ddaearyddol.

·       Hawliau datblygu a ganiateir

·       Cyflwyno Ffeibr yn Ôl y Galw

·       Lleoliadau ble y bydd contractau ychwanegol yn ofynnol yn dilyn y cyhoeddiad a ddisgwylir ar brosiect ‘Mewnlenwi Cyfnod 2’

 

 


Cyfarfod: 30/06/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn Seilwaith Band Eang y Genhedlaeth Nesaf: Trafod y dystiolaeth a gafwyd

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 30/06/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Welsh Government Investment in Next Generation Broadband Infrastructure: Evidence Session 1

Briff Swyddfa Archwilio Cymru

 

Ann Beynon OBE – Cyfarwyddwr Cymru (BT)

Ed Hunt – Cyfarwyddwr y Rhaglen, Cyflymu Cymru (BT)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 The Committee took evidence from Ann Beynon OBE, Director Wales (BT) and Ed Hunt, Programme Director, Superfast Cymru (BT) as part of its inquiry into Welsh Government Investment in Next Generation Broadband Infrastructure.

3.2 Ann Beynon agreed to send a note on:

 

 

 


Cyfarfod: 09/06/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn Isadeiledd Band Eang y Genhedlaeth Nesaf

PAC(4)-16-15 Papur 7

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio gan yr Archwilydd Cyffredinol ar ei adroddiad diweddar.

7.2 Cytunodd yr Aelodau gynnal ymchwiliad byr i'r pwnc hwn.