Cyfarfodydd
Caffael Comisiwn y Senedd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 06/11/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Contract Arlwyo
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
- Cyfyngedig 3
Cofnodion:
Bu’r Comisiynwyr yn
ystyried opsiynau ar gyfer darparu gwasanaethau arlwyo yn y dyfodol, gan nodi rhesymau’r Bwrdd Gweithredol dros fethu ag
argymell dod â’r gwasanaeth arlwyo’n fewnol, yn dilyn eu hadolygiad a
dadansoddiad manwl o’r opsiwn hwnnw.
Cafodd y Comisiynwyr
drafodaeth ar wasanaethau dan gontract a oedd yn fwy eang na gofynion y
contract arlwyo presennol. Roeddent i gyd yn cytuno eu bod mewn egwyddor yn ffafrio darparu gwasanaethau’n
uniongyrchol, ac y dylid gwneud darn o waith gyda’r uchelgais o ddod â’r holl
wasanaethau dan gontract allanol yn fewnol yn y tymor hwy, gan ystyried y
broses Ddiwygio’r Senedd, newidiadau i’r ystâd a defnydd y gellir ei gyfiawnhau
o adnoddau cyhoeddus.
Trafododd y
Comisiynwyr yr angen i ymgysylltu ag Aelodau ac undebau ynghylch y dull hwn.
Cytunwyd y dylid
ymestyn y contract presennol gydag ESS am flwyddyn er mwyn i ofynion gwasanaeth
y Seithfed Senedd yn y dyfodol ddod yn gliriach.
Cytunwyd hefyd, yn y
tymor byr, y dylid rhoi nodyn i’r Comisiynwyr i roi gwybod iddynt am y pecyn
gwell a ddarparwyd i staff y contract arlwyo ar ystâd y Senedd a chadarnhad bod
yr ymgynghorydd technegol a ddefnyddiwyd i gynorthwyo gyda’r opsiynau ar gyfer
y contract arlwyo wedi adolygu costau staffio mewnol a nodir yn y papur.
Cyfarfod: 14/03/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
4 Y contract arlwyo
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 7 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (4/1)
- (cy)P4 Contract Arlwyo (Redacted), Eitem 4 PDF 247 KB
Cofnodion:
Trafododd y Comisiynwyr opsiynau ar gyfer y contract
arlwyo, a chytunwyd i ail-dendro am gontract byrrach. Pwysleisiwyd arwyddocâd
graddfeydd cyflog cyfartal ar gyfer staff ar gontract â’r rhai sy’n cael eu
cyflogi gan y Comisiwn, a nodwyd y byddai’r hyn a benderfynir yn galluogi
gwaith i gael ei wneud fel y byddai opsiynau ar gyfer darpariaeth yn y dyfodol
hefyd yn ystyried awydd y Comisiwn i gefnogi cyfleoedd yng Nghymru.
Cyfarfod: 15/07/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Staff contract
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 11
Cofnodion:
Trafododd y Comisiynwyr
wybodaeth ynghylch yr isafswm cyflog fesul awr ar gyfer staff contract, a delir
ar gyfradd gyfredol y Living Wage Foundation.
Gwnaethant gytuno mewn egwyddor i gysylltu isafswm
cyfradd cyflog contractwyr â chyfraddau staff a gyflogir yn uniongyrchol, a
gofynnwyd am i'r goblygiadau i'r gyllideb gael eu harchwilio, fel y gellid eu
cynnwys yn y trafodaethau parhaus o strategaeth y gyllideb.
Cyfarfod: 05/11/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Caffael yng Nghymru
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 14
Cofnodion:
Roedd y Comisiynwyr wedi gofyn am wybodaeth am ffyrdd o
gynyddu'r gyfran o wariant caffael y Comisiwn gyda chyflenwyr Cymreig a
chyflenwyr sydd wedi'u lleoli yng Nghymru. Trafodwyd papur a oedd yn nodi
strategaeth ar gyfer cynyddu cyfran y gwariant caffael gyda chyflenwyr Cymreig
a chyflenwyr sydd wedi'u lleoli yng Nghymru. Roedd y manylion hefyd yn cwmpasu
Dangosydd Perfformiad Allweddol corfforaethol newydd ar wariant cyflenwyr
Cymreig i roi ffocws i fonitro cynnydd yn ffurfiol.
Nododd y Comisiynwyr y
wybodaeth a ddarparwyd a chefnogodd gyfeiriad y gwaith.
Cyfarfod: 09/07/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Contract glanhau'r Comisiwn
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 17
Cofnodion:
Dychwelodd y
Comisiynwyr at y mater o opsiynau, a ystyriwyd gyntaf yn y cyfarfod ym mis
Mehefin, ar gyfer adnewyddu'r contract gwasanaethau glanhau presennol, yn
enwedig mewn perthynas â materion yn ymwneud â thelerau ac amodau staff y
contract.
Cytunodd y
Comisiynwyr i ymestyn y contract cyfredol am flwyddyn er mwyn mapio'n llawn y
gofynion ar gyfer y contract a thendro'r contract pan gaiff fframwaith nesaf y
Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ei gyhoeddi.
Cyfarfod: 04/06/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Contract glanhau'r Comisiwn
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 20
Cyfarfod: 05/12/2016 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Contractau a chaffael
Papur 3
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 23
Cofnodion:
Cyflwynodd
Jan Koziel, y Pennaeth Caffael, drosolwg o bwrpas, rôl a chyfrifoldebau'r
gwasanaeth caffael.
Archwiliodd
y Comisiynwyr faterion yn ymwneud â Thelerau ac Amodau yng nghontractau'r
Comisiwn, cynaliadwyedd ar gyfer busnesau bach a chanolig, a gweithio gyda chontractwyr
ar werthoedd cyffredin.
Yn
gynharach yn ystod y flwyddyn, roedd y Comisiynwyr wedi gofyn cwestiynau am
unrhyw effaith a gaiff y broses o adael yr UE ar ein trefniadau caffael –
rhoddwyd asesiad cychwynnol o'r sefyllfa yn y papur. Nododd y Comisiynwyr y
byddent yn hoffi dechrau ystyried sut y gellid cefnogi marchnadoedd lleol yng
Nghymru wrth i'r cyfleoedd gynyddu yn sgil newidiadau sy'n gysylltiedig â'r UE
a'r penderfyniad i adael.
Cyfarfod: 14/11/2016 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 5)
Caffael gan y Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 26
Cofnodion:
Croesawyd Jan Koziel i'r cyfarfod a rhoddodd amlinelliad i'r Bwrdd o'r
papur i'w gyflwyno i'r Comisiwn ar 5 Rhagfyr a fydd yn rhoi gwybod i'r Comisiynwyr
am ddulliau caffael strategol y Cynulliad. Mae hyn yn cynnwys gosod y strwythur
caffael cywir; arbedion o ran caffael a chyflawni contractau; ymgysylltiad y
Cynulliad â busnesau bach a chanolig; y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol; a'r
effaith ar gaffael yn y sector cyhoeddus yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Mynegodd y Comisiwn ddiddordeb hefyd mewn gwybod a oes gan y Cynulliad
gontractau â chwmnïau y tu allan i'r DU.
Gan ystyried yr eitem flaenorol mewn perthynas â chydraddoldeb, cafodd y
Bwrdd ei sicrhau bod y tîm Caffael yn gweithio'n agos gyda chontractwyr sy'n
rhannu gwerthoedd y Comisiwn, gan eu holi'n fanwl ynghylch eu polisïau
cydraddoldeb ac amrywiaeth, a chan sicrhau bod yr egwyddorion cydraddoldeb hyn
yn greiddiol yn amodau a thelerau'r contractwyr. Anogwyd y tîm Caffael i
gydweithio â'r tîm Cydraddoldeb a Chynhwysiant.
Nodwyd nad yw'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol bob amser yn diwallu
anghenion y Cynulliad, ac er bod y Cynulliad yn defnyddio llawer o'r
fframweithiau, nad yw contractwyr sydd wedi gweithio'n dda gyda'r Cynulliad bob
amser yn llwyddo i gael lle gyda'r gwasanaeth. Pwysleisiwyd yr egwyddor o roi
cyfleoedd i gyflenwyr o Gymru.
Gwnaeth y Bwrdd rai argymhellion i wella'r wybodaeth a ddarperir yn y
papur, gan gynnwys gofyn am fwy o enghreifftiau o arbedion o ran caffael.
Cyfarfod: 21/05/2015 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Adroddiad Caffael (Ionawr – Mawrth)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 29
Cofnodion:
Trafododd y Comisiwn bapur a oedd yn
rhoi trosolwg iddo o'r cynnydd a wnaed o ran caffael, dair blynedd ar ôl
canoli'r gwasanaeth.
Mae ymdrechion y tîm caffael yn
canolbwyntio ar sicrhau bod y Comisiwn yn caffael nwyddau a gwasanaethau mewn
modd effeithlon a chynaliadwy ac mewn modd sy'n amgylcheddol a chymdeithasol
gyfrifol. Mae'r pwyslais hefyd ar gyrchu
nwyddau a gwasanaethau o ansawdd da ac sy'n darparu'r gwerth am arian y gall
Aelodau'r Cynulliad a'r cyhoedd eu disgwyl. Darperir cefnogaeth ac anogaeth
benodol i gyflenwyr posibl sy'n fach ac sydd wedi eu lleoli yng Nghymru.
Roedd gan aelodau'r Comisiwn
ddiddordeb mewn cynlluniau i gyflwyno rhaglen datblygu cyflenwyr ar gyfer y
cyflenwyr allweddol hynny sydd â staff sy'n gweithio ar y cyd â staff y
Comisiwn ar ein hystâd. Y nod yw annog effeithlonrwydd gwell a gwerth am arian
o'r contractau hyn, annog arloesedd a hyrwyddo ein gwerthoedd sefydliadol, fel
bod cyflenwyr yn cefnogi ein gwerthoedd craidd, yn arbennig ym meysydd
cydraddoldeb, amrywiaeth a chynaliadwyedd. Dyma'r contractau a nodwyd:
• Darlledu;
• Rheoli Cyfleusterau;
• Glanhau; ac
• Arlwyo
Gofynnodd y Comisiynwyr nifer o
gwestiynau am y cyfleoedd sydd gan fusnesau bach a chanolig lleol i ennill
busnes y Comisiwn, a thrafodwyd y posibilrwydd efallai nad yw contractau
fframwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol bob amser yn addas i'r Comisiwn.
Nod y tîm caffael yw bod yn fwy rhagweithiol wrth ymgysylltu â'r gronfa o
gyflenwyr lleol. Mae cynlluniau ar waith i gynnal dadansoddiad o'r farchnad yng
Nghymru gyfan mewn perthynas â'r hyn yr ydym yn ei brynu er mwyn hysbysu
cyflenwyr posibl o gyfleoedd pan maent yn codi.
Cyfarfod: 14/05/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
3 Caffael yn y Cynulliad 2012-14
Dogfennau ategol:
- AC(4)2012(4) Papur 3 - Caffael yn y Cynulliad 2012-14, Eitem 3 PDF 545 KB Gweld fel HTML (3/1) 25 KB
- AC(4)2012(4) Papur 3 (Atodiad A) - Rhestr o'r contractau (Saesneg yn Unig)
Cofnodion:
Cryfhawyd y tîm Caffael, ac mae bellach yn gweithredu’n fwy canolog wrth reoli’r broses o gaffael, yn arbennig gyda chytundebau gwerth dros £25,000.
Datblygir y gwaith hwn yn unol â nodau’r Comisiwn, yn benodol, yr angen i gaffael yn effeithlon pan fyddwn yn cefnogi datblygiad cadwyn gyflenwi amrywiol fydd yn cynorthwyo cyflenwyr bach i gystadlu; ac i ganolbwyntio ar werth am arian.
Croesawodd y Comisiynwyr y dull a ddatblygir, a fydd yn sicrhau bod modd mabwysiadu strategaethau priodol ar gyfer marchnadoedd gwahanol.
Cyfarfod: 29/06/2011 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
6 Rhestr o gontractau
Dogfennau ategol:
- AC(4)2011(2) Papur 6 - Rhestr o gontractau, Eitem 6 PDF 136 KB Gweld fel HTML (6/1) 18 KB
- AC(4)2011(2) Paper 6 Annex A
Cofnodion:
Gohiriwyd yr eitem hon tan gyfarfod 14
Gorffennaf.