Cyfarfodydd

Craffu ar waith y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 29/03/2012 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog - y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Carl Sargeant AC, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

June Milligan, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Leol a Chymunedau

Owain Lloyd, Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithrediadau, Llywodraeth Leol a Chymunedau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog a’i swyddogion i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r Gweinidog.

 

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn am y canlynol:

 

Strwythur y Grŵp Arweinyddiaeth Gwasanaethau Cyhoeddus;

 

Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at yr awdurdodau lleol sydd heb gwblhau’r broses Setliad Cyflog Cyfartal ac i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am amcangyfrifon yr awdurdodau o’u hamserlenni i wneud hynny;

 

Y wybodaeth ddiweddaraf am rôl newydd Cyngor Partneriaeth Cymru;

 

When applicable an update on the monitoring and outcomes of the Communities First clusters;

 

Update on the progression with the Tier 4 planned proposals and the dual diagnostics issues.

 

2.3 The Chair agreed to send the unasked questions to the Minister for a written response.


Cyfarfod: 29/02/2012 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog - y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Papur 1

Carl Sargeant AC – Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Frances Duffy – Cyfarwyddwr Trafnidiaeth

Tim James – Dirprwy Gyfarwyddwr, Rhwydweithiau a Chynllunio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog a’i swyddogion. Holodd yr Aelodau’r Gweinidog.

 

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn ynghylch yr hyn a ganlyn:

         

- Pan fydd yn briodol, y wybodaeth ddiweddaraf ar ffurf ysgrifenedig yn rhoi manylion am gynigion y Gweinidog ynghylch cludo nwyddau, a’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed mewn perthynas â phob un o’r camau tuag at ddarparu a nodwyd yn Strategaeth Cludo Nwyddau Cymru;

- Manylion am y trafodaethau rhwng y Prif Weinidog a Llywodraeth y DU ynghylch y cyfleoedd arfaethedig ar gyfer yr M4;

- Manylion am waith a wnaed i wella’r cysylltiadau rhwng y gogledd a’r de;

- Y wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn trafodaethau ar y cynllun newydd ar gyfer cyllido bysiau, a darparu’r dangosyddion perfformiad allweddol i fesur llwyddiant y cynllun;

- Mwy o fanylion am ffigurau sylfaenol cyfraddau’r Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau a chymhariaeth â Lloegr, gan gynnwys cymhariaeth o gyfraddau’r grant cyn eu lleihau, a chymhariaeth o’r cyfraddau newydd yng Nghymru a Lloegr ar ôl cynnwys pob lwfans ac ad-daliad ychwanegol sydd ar gael;

- Copi o’r gwaith a wnaed gan gadeirydd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ar drafnidiaeth ysbyty nad yw ar gyfer achosion brys;

- Mwy o wybodaeth am gyflawni a chyllido’r cynllun gweithredu cerdded a seiclo, gan gynnwys cyfraddau llwyddiant a’r gwariant sy’n gysylltiedig â’r cynllun;

- Ffigurau sy’n dangos yr hyn y mae’r Canolfannau Teithio Cynaliadwy wedi’i gyflawni ynghyd â manylion am y cyllid refeniw a ddyrannwyd i’r cynllun Trefi Teithio Cynaliadwy, yn hanesyddol ac ar gyfer y tair blynedd nesaf.

 


Cyfarfod: 12/01/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

8 Papur CYP(4)-01-12 Papur 7 - Goheiaith gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, dyddiedig 22 Rhagfyr 2011, ynghylch gwybodaeth gan y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ar 5 Hydref 2011

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 05/10/2011 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Sesiwn Craffu ar waith y Gweinidog : Cyfiawnder Ieuenctid

Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Karin Phillips, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Diogelwch Cymunedol.

Sarah Cooper, Pennaeth Cyfiawnder Ieuenctid

 

Egwyl (10:00 – 10:10)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog a’i swyddogion i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y tystion.

 

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth am:

 

-        Y manylion ynghlych nifer y plant sydd yn y ddalfa yng Nghymru, gan gynnwys eu lleoliad a’u rhyw.  

 

-        A wariwyd yr holl arian yn y gronfa Diogelu Cymunedau yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf

 

-        Y gyllideb refeniw cyfiawnder ieuenctid

 

-        Cryfhau rôl y Comisiynydd Plant mewn perthynas â phlant o Gymru sydd yn y ddalfa yn Lloegr

 

-        Nifer yr unigolion yn y ddalfa sy’n cael dedfryd o garchar yn y diwedd

 


Cyfarfod: 13/07/2011 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Craffu ar waith y Gweinidog : Trafnidiaeth (11.00 - 12.00)

EBC(4)-01-11 Papur 2 (Saesneg yn Unig)

 

Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Jeff Collins,  Cyfarwyddwr, Y Grŵp Seilwaith)

Tim James, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rhwydweithiau a Chynllunio).

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, a’i swyddogion, i’r cyfarfod.

 

3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth am:

·         Newidiadau i werthuso a monitro prosiectau trafnidiaeth i reoli gorwariant

·         Argaeledd arian cydgyfeirio ar gyfer trydaneiddio’r cyswllt rheilffordd rhwng Abertawe a Llundain, a’r cyfrifoldeb dros ariannu’r gwaith hwn

·         Cyflwyno trenau deufodd, a’r cynnig i dreialu’r rhain ar y llwybr rhwng Caerdydd ac Abertawe

·         Yr angen i wella’r cysylltiadau seilwaith rheilffordd heibio i Gaerdydd

·         Achos busnes Llywodraeth flaenorol y DU dros drydaneiddio’r rheilffordd i Abertawe, a’r newidiadau sydd wedi digwydd ers llunio hynny

·         Y newid yn y cydbwysedd gwariant rhwng prosiectau ffyrdd a rheilffyrdd, a’r cynlluniau ynghylch beth ddylai’r cydbwysedd hwn fod yn y dyfodol

·         Cynnydd o ran cyflwyno gwasanaeth bob awr rhwng Amwythig ac Aberystwyth

·         Y rhaglen Gwelliant Cenedlaethol i orsafoedd trenau