Cyfarfodydd
BME Action Plan
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 01/06/2015 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 5)
Adroddiad Cynllun Gweithredu Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Adroddiad Cynllun Gweithredu Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig
Estynnwyd croeso i Selina Moyo (Cydlynydd Cynllun Gweithredu Pobl Dduon a
Lleiafrifoedd Ethnig, Adnoddau Dynol) a Razaque Roap (Cadeirydd y Rhwydwaith
Staff BME) i'r cyfarfod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd ar
weithgareddau a chynnydd ar y Cynllun Gweithredu BME ac argymhellion pellach o
ganlyniad i'w profiadau.
Cyflwynwyd
adroddiad i'r Bwrdd a darparodd Selina drosolwg gan amlygu'r rhwystrau o ran
cynyddu amrywiaeth o fewn y gweithlu. Roedd y rheiny'n cynnwys angen am fwy o
ymwybyddiaeth, hysbysebu swyddi mewnol yn rheolaidd a hysbysebu swyddi allanol
ar lefel cymorth tîm.
Mae'r prosiect yn
fan cychwyn ar gyfer gwaith parhaus. Cafwyd rhywfaint o lwyddiant yn ymgysylltu
â chymunedau BME a oedd am wybod mwy. Yn fewnol, nid oedd staff BME yn teimlo
fod y Cynulliad yn awyddus i ymgysylltu â hwy, nac yn annog eu cynnydd. Fodd
bynnag, ers rhoi'r cynllun gweithredu ar waith, mae newid wedi dechrau digwydd.
Gwnaed yr argymhellion a ganlyn:
·
Adnoddau Dynol i barhau i weithio ar bolisïau recriwtio i gysylltu'r rhain
â'r dyletswyddau cydraddoldeb;
·
parhau gydag ymgysylltu allanol; ac
·
angen i reolwyr llinell gael mwy o ddealltwriaeth am faterion yn ymwneud ag
amrywiaeth.
Roddodd Razaque ddiweddariad i'r Bwrdd ar waith y Rhwydwaith Staff BME, a
sefydlwyd dwy flynedd yn ôl. Cafodd Dave Tosh ei benodi yn hyrwyddwr
gweithgareddau a chynnydd y Cynllun Gweithredu BME. Maent wedi rhwydweithio â
sefydliadau eraill i drafod materion cyffredin ac wedi trefnu diwrnod
rhwydweithio BME ar 24 Mehefin, a gafodd ei gynnal gan y Cynulliad a'i noddi
gan y Llywydd. Y weledigaeth oedd sefydlu Fforwm BME Cymru Gyfan o dan
arweiniad y Cynulliad.
1.1
Daeth i'r amlwg fod staff BME yn teimlo diffyg cymhelliant a hyder o ran
gofyn am gyfleoedd datblygu, a bod rhwystrau cymdeithasol yn eu hynysu. Roedd
yr argymhellion i helpu i oresgyn y materion hynny'n cynnwys:
·
dangosyddion perfformiad allweddol sefydliadol a chardiau sgorio i fonitro
recriwtio;
·
ystyried dyfarniadau cydnabyddiaeth i staff BME er mwyn rhoi hwb i forâl;
·
mwy o dryloywder wrth ddethol a recriwtio;
·
hyfforddiant amrywiaeth ar gyfer rheolwyr llinell; a
·
rhaglenni talent a chofrestrau sgiliau i gydnabod a datblygu sgiliau megis
ieithoedd.
Y nod oedd sicrhau bod y Cynulliad yn gyflogwr o ddewis ar gyfer staff BME
ac yn esiampl i gyrff eraill yn y sector cyhoeddus. Cytunodd y Bwrdd Rheoli ar
y camau canlynol, er mwyn bwrw ymlaen â'r cynllun a gwreiddio arferion yn
niwylliant y sefydliad:
·
y tîm Cydraddoldeb i weithio gydag Adnoddau Dynol i benderfynu ar rolau;
·
opsiynau ar gyfer dyfarniadau a meincnodi i gael eu hystyried; a'r
·
tîm Cyfathrebu i weithio gydag Adnoddau Dynol a'r Rhwydwaith i gynnal y
ddeialog gyda sefydliadau allanol.
Diolchodd
y Bwrdd Rheoli i Selina a Razaque am rannu eu profiadau a'u hargymhellion a'u
canmol ar yr adroddiad a gyflwynwyd.