Cyfarfodydd
Craffu ar waith y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 29/11/2012 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Dinas-ranbarthau ac ardaloedd menter: Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog
Edwina Hart, Y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Tracey Burke, Cyfarwyddwr, Strategaeth, Llywodraeth Cymru
Dogfennau ategol:
- EBC(4)-38-12 Papur 2 Llywodraeth Cymru: Dinas-ranbarthau ac ardaloedd menter, Eitem 3
PDF 123 KB
Gweld fel HTML (3/1) 16 KB
Cofnodion:
Croesawodd y
Cadeirydd y Gweinidog a’i swyddogion i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y tystion.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd y
Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth i:
ddarparu’r wybodaeth
ddiweddaraf unwaith y bydd yr Ardaloedd Menter wedi bod yn gweithredu am 12 mis
(hynny yw ym mis Ebrill 2013 ar gyfer y pum ardal gychwynnol a mis Medi 2013 ar
gyfer y ddwy ardal arall) am y busnesau a ddenwyd i’r Ardaloedd Menter, sut
caiff cynnig Ardaloedd Menter Cymru ei fonitro a sut y sicrheir bod y cynnig yn
cymharu â chynnig Lloegr.
darparu nodyn ar
ddefnydd a buddiannau bwriededig Gorchmynion Datblygu Lleol mewn Ardaloedd
Menter, a manylion unrhyw Orchmynion sydd ar waith ar hyn o bryd neu sy’n cael
eu datblygu ym mhob Ardal.
darparu
dangosyddion perfformiad allweddol i’r Pwyllgor a ddefnyddir i fonitro a
gwerthuso pa mor effeithiol yw’r polisi Ardaloedd Menter.
darparu manylion
am unrhyw feini prawf ychwanegol y gellid eu defnyddio i asesu busnesau
ymhellach i’r rhai a nodwyd yn llythyr y Gweinidog at bob Aelod Cynulliad ar 27
Tachwedd.
Cyfarfod: 29/11/2012 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Ardrethi busnes: Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog
Edwina Hart, Y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Yr Athro Brian Morgan, Athro Entrepreneuriaeth, Cyfarwyddwr, Arweinyddiaeth Greadigol a Chanolfan Menter - Prifysgol Fetropolitan Caerdydd
Tracey Burke, Cyfarwyddwr, Strategaeth, Llywodraeth Cymru
Dogfennau ategol:
- EBC(4)-38-12 Papur 1 Llywodraeth Cymru: Adrethi Busnes, Eitem 2
PDF 121 KB
Gweld fel HTML (2/1) 10 KB
Cofnodion:
Croesawodd y
Cadeirydd y Gweinidog a’i swyddogion i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y tystion.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd y
Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth i:
ddarparu papur
technegol ar gyfrifo ardrethi busnes, gan gyfeirio at faterion datganoli yn
benodol.
Cyfarfod: 14/03/2012 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog - y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Papur 4
Edwina Hart AC, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Yr Adran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth (BETS)
Dogfennau ategol:
- EBC(4)-10-12 Papur 4 - Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, Eitem 3
PDF 136 KB
Gweld fel HTML (3/1) 20 KB
Cofnodion:
3.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog a’i swyddogion i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r Gweinidog.
3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn am y canlynol:
- Dehongliad y Llywodraeth o’r ffigurau cynnyrch mewnwladol crynswth diweddaraf, a chyd-destun ehangach y ffigurau sy’n ymwneud â chyfraddau diweithdra ac anweithgarwch economaidd.
- Yr amodau sy’n effeithio ar yr arian cyfatebol ar gyfer gwahanol raglenni ariannu Llywodraeth Cymru a’r UE.
- Y diffiniad o “werth am arian” a sut y cafodd ei asesu o fewn eich gwerthusiad o Gronfa Twf Economaidd Cymru a’i effaith ar yr economi – pan fydd ar gael.
- Cytunodd y Gweinidog i rannu gyda’r Pwyllgor yr ymarfer sydd bron a chael ei gwblhau sef pennu’r llinellau sylfaen a’r targedau y bydd ei hadran yn cael eu mesur yn eu herbyn.
Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am ymateb ysgrifenedig i’r cwestiynau nas gofynnwyd yn ystod y sesiwn.
Cyfarfod: 22/09/2011 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
4 Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog: Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth ( 11.00 - 12.00)
EBC(4)-02-11 Papur 3
·
Edwina Hart, y Gweinidog
Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Dogfennau ategol:
- EBC(4)-02-11 Papur 3 - Tystiolaeth gan Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, Eitem 4
PDF 49 KB
Gweld fel HTML (4/1) 27 KB
Cofnodion:
4.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, a’i swyddogion, i’r cyfarfod. Holwyd y Gweinidog gan Aelodau.
4.2 Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor ynghylch gwahaniaethau rhwng adfywio ac adnewyddu economaidd yn sgîl y sylwadau a wnaed gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth yn gynt yn y cyfarfod.
4.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog er mwyn gofyn y cwestiynau nas cyrhaeddwyd yn ystod y cyfarfod.