Cyfarfodydd

Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 10/02/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Y Wybodaeth Ysgrifenedig Ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru

PAC(4)-05-15 Papur 1 – Yr Athro Jean White – GIG Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1     Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ysgrifenedig ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru.

 

3.2     Cytunodd y Pwyllgor ar y canlynol:

 

·         Gwahodd y Prif Swyddog Nyrsio i roi tystiolaeth i'r Pwyllgor mewn cyfarfod yn y dyfodol.

·         Ysgrifennu at bob Cyngor Iechyd Cymuned yn holi pa waith sy’n cael ei wneud mewn perthynas â hysbysu ynghylch maeth a hydradu ar gyfer cleifion.

 


Cyfarfod: 20/05/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru

PAC(4)-14-14(papur 1)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd yr Aelodau lythyr gan yr Athro White a nodwyd bod yr Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu adolygu'r argymhellion yn ei adroddiad yn 2011 ac yn adroddiad y Pwyllgor yn 2012. Cytunodd y Pwyllgor i ail-ystyried yr eitem hon mewn cyfarfod yn yr hydref.

 


Cyfarfod: 06/03/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Llythyr gan yr Athro Jean White (19 Chwefror 2014)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 04/02/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Bu’r Aelodau’n trafod y dystiolaeth a gafwyd yn gynharach a chytunwyd i ystyried y wybodaeth ychwanegol yn gynnar yn ystod tymor yr haf gyda golwg ar gynnal sesiwn dystiolaeth bellach gyda’r Athro White.

 


Cyfarfod: 04/02/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru

PAC(4)-04-14 (papur 1)

 

Yr Athro Jean White - Prif Swyddog Nyrsio, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Pwyllgor yn holi’r Athro Jean White, Prif Swyddog Nyrsio, Peter Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Digital Health and Care a Peter Wiles, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Polisi a Pherfformiad ynglŷn ag arlwyo a maeth mewn ysbytai.

 

2.2 Cytunodd yr Athro White i anfon rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r ffordd y maer rhaglen hyfforddi maeth e-ddysgun cael ei hariannu ar amserlen ar gyfer cynnwys yr holl hyfforddiant ar holl gofnodion staff electronig.

 

2.3 Cytunodd yr Athro White i ysgrifennu at y Pwyllgor ym mis Ebrill gyda gwerthusiad o’r cynllun peilot sy’n cael ei gynnal ar wastraff bwyd yn Ysbyty Llandochau ym mis Mawrth. Byddai hefyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau y mae’r byrddau iechyd yn eu cael gydag awdurdodau lleol ynglŷn â chasglu gwastraff bwyd. Cytunodd hefyd i ddarparur wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r ffordd y mae hyfforddiant cyn-gofrestrun cael ei grynhoi.

 


Cyfarfod: 03/12/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru

PAC(4)-32-13 papur 7

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd y Pwyllgor yr ymateb pellach gan Lywodraeth Cymru, a chytunwyd i wahodd yr Athro White i'r Pwyllgor i drafod eu pryderon.

 


Cyfarfod: 03/10/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Trafodaeth yr Aelodau ar yr ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru

PAC(4)-25-13 (papur 1)

PAC(4)-25-13 (papur 2)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth a gafwyd gan y Llywodraeth, a chytunasant i ysgrifennu at y Llywodraeth, gan godi'r materion a ganlyn:

 

·       Seilwaith TG mewn perthynas ag e-ddysgu

·       Cyfranogiad mewn perthynas â phecynnau dysgu ar-lein

·       Gwastraff bwyd mewn ysbytai

·       Sut y mae sticeri sgorio hylendid bwyd yn cael eu harddangos mewn ysbytai

 

 

 


Cyfarfod: 06/06/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Y diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar weithredu'r argymhellion a wnaed yn adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, 'Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai'

PAC(4) 16-13 – Papur 1 – Y diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar ‘Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai’

Yr Athro Jean White, Prif Swyddog Nyrsio, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Athro Jean White, Prif Swyddog Nyrsio Llywodraeth Cymru; Maureen Howell, Pennaeth y Gangen Newid Ffyrdd o Fyw, Llywodraeth Cymru; a Val Whiting, Pennaeth yr Is-adran Cyfalaf, Ystadau a Chyfleusterau, Llywodraeth Cymru, i'r cyfarfod.

 

2.2 Bu'r Pwyllgor yn holi'r tystion.

 

Camau gweithredu:

 

Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:

 

·         Dadansoddiad cost a budd o bob opsiwn ar gyfer y strwythur TG arfaethedig a fydd yn sail i'r swyddogaeth arlwyo mewn ysbytai;

·         Manylion am ganran yr aelodau o staff nyrsio Band 5 ar draws yr holl fyrddau iechyd sy'n methu â chael mynediad i gyfleusterau e-ddysgu gan nad oes ganddynt fynediad i gyfrifon e-bost gwaith;

·         Costau sy'n gysylltiedig â rhoi'r pecyn e-ddysgu ynghylch maeth cleifion ar waith;

·         Rhagor o fanylion ynghylch lefel y cyfranogiad mewn pecynnau hyfforddi ar-lein yn y GIG;

·         Rhagor o wybodaeth ynghylch i lle mae gwastraff bwyd yn mynd, gan gynnwys manylion am y contractau gwastraff rhwng byrddau iechyd ac awdurdodau lleol; a

·         Nodyn yn esbonio'r mesurau a roddwyd ar waith gan fyrddau iechyd i ateb y gofynion a bennwyd gan y Bil Sgorio Hylendid Bwyd.

 

2.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog yn nodi'r pryderon a godwyd yn y cyfarfod hwn.

 

 

 


Cyfarfod: 22/05/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Cyngor gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ymateb Llywodraeth Cymru i 'Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai'

PAC(4) 08-12 – Papur 2 – Ymateb Llywodraeth Cymru i ‘Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai’

 

PAC(4) 08-12 – Papur 3 – Cyngor gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ymateb Llywodraeth Cymru i ‘Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai’

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, a Dave Thomas, y Cyfarwyddwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

 

3.2 Bu’r Pwyllgor yn trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai, a’r cyngor cysylltiedig a gafwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

 

3.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru mewn perthynas â materion o bryder a gododd yn sgil ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai, fel y nodwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.


Cyfarfod: 17/01/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Adroddiad drafft y Pwyllgor ar arlwyo a maeth cleifion mewn ysbytai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Gwnaeth aelodau’r Pwyllgor sylwadau ar adroddiad drafft y Pwyllgor ar arlwyo a maeth cleifion mewn ysbytai.

 

5.2 Cytunodd aelodau’r Pwyllgor i ystyried adroddiad diwygiedig a gaiff ei anfon atynt ar ffurf e-bost.


Cyfarfod: 08/11/2011 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Arlwyo mewn ysbytai a maeth cleifion: tystiolaeth gan Brif Weithredwr GIG Cymru

PAC(4)-06-11 – Papur 3 – Llywodraeth Cymru - Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai

 

David Sissling Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a phlant
Jean White Prif Swyddog Nyrsio/Cyfarwyddwr Nyrsio Cymru
Andrew Walker Pennaeth Cyfalaf, Ystadau a Chyfleusterau

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Estynnodd y Pwyllgor groeso i David Sissling, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant; Jean White, Prif Swyddog Nyrsio/Cyfarwyddwr Nyrsio GIG Cymru; ac Andrew Walker, Pennaeth Cyfalaf, Ystadau a Chyfleusterau.

 

6.2 Estynnodd y Pwyllgor groeso i Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, a Dave Thomas, o Swyddfa Archwilio Cymru.

 

6.3 Bu’r Pwyllgor yn holi’r tystion.

 

6.4 Gohiriodd y Cadeirydd y cyfarfod am bum munud, yn unol â Rheol Sefydlog 17.47, o ganlyniad i nam technegol. 

 

Camau i’w cymryd:

 

Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:

 

  • Rhagor o fanylion ynghylch sut y mae ysbytai’n cydymffurfio â’r safonau hylendid bwyd angenrheidiol, gan gynnwys nifer yr ysbytai cyffredinol na ddyfarnwyd graddfa hylendid dderbyniol iddynt dros y pum mlynedd diwethaf.
  • Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch ailarolygu ac ailraddio safonau hylendid yn Ysbyty’r Eglwys Newydd, gan dynnu sylw at feysydd lle y gwnaed cynnydd.

Cyfarfod: 04/10/2011 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai

Sesiwn dystiolaeth gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru

PAC(4) 04-11 (papur 2)

 

Ruth Marks, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Sarah Stone, Dirprwy Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Rebecca Stafford, Swyddog Polisi

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

 

3.1 Croesawyd Ruth Marks, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru; Sarah Stone, Dirprwy Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru; a Rebecca Stafford, Swyddog Polisi, i gyfarfod y Pwyllgor.

 

3.2 Hefyd, croesawyd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, a Dave Thomas o Swyddfa Archwilio Cymru, i’r cyfarfod.

 

3.3 Bu’r Pwyllgor yn holi’r tystion.

 

Camau i’w cymryd:

 

Cytunodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru i ddarparu:

 

·         gwybodaeth ychwanegol am ganfyddiadau’r adroddiad ar urddas mewn gofal;

·         canlyniadau’r gwerthusiad o gynllun Robin yn y Gogledd; a

·         gwybodaeth ychwanegol am arferion da sy’n cael eu rhoi ar waith gan ysbytai, yn enwedig y model cadw tŷ.

 

 

Cytunodd Archwilydd Cyffredinol Cymru i ddarparu:

 

·         crynodeb o arferion da.

 


Cyfarfod: 05/07/2011 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)

4. Y wybodaeth ddiweddaraf gan Archwilydd Cyffredinol Cymru am adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai (10.15 - 10.30)

Papur: PAC(4) 01-11 (p2)

 

Dogfennau ategol: