Cyfarfodydd
Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 10/02/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Y Wybodaeth Ysgrifenedig Ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru
PAC(4)-05-15
Papur 1 – Yr Athro Jean White – GIG Cymru
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
3.1 Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth
ysgrifenedig ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru.
3.2 Cytunodd y
Pwyllgor ar y canlynol:
·
Gwahodd y
Prif Swyddog Nyrsio i roi tystiolaeth i'r Pwyllgor mewn cyfarfod yn y dyfodol.
·
Ysgrifennu
at bob Cyngor Iechyd Cymuned yn holi pa waith sy’n cael ei wneud mewn perthynas
â hysbysu ynghylch maeth a hydradu ar gyfer cleifion.
Cyfarfod: 20/05/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru
PAC(4)-14-14(papur 1)
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
3.1 Trafododd yr Aelodau lythyr gan yr Athro White a nodwyd bod yr
Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu adolygu'r argymhellion yn ei adroddiad yn
2011 ac yn adroddiad y Pwyllgor yn 2012. Cytunodd y Pwyllgor i ail-ystyried yr
eitem hon mewn cyfarfod yn yr hydref.
Cyfarfod: 06/03/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Llythyr gan yr Athro Jean White (19 Chwefror 2014)
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 04/02/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)
Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Trafod y dystiolaeth
Cofnodion:
6.1 Bu’r
Aelodau’n trafod y dystiolaeth a gafwyd yn gynharach a chytunwyd i ystyried y
wybodaeth ychwanegol yn gynnar yn ystod tymor yr haf gyda golwg ar gynnal
sesiwn dystiolaeth bellach gyda’r Athro White.
Cyfarfod: 04/02/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru
PAC(4)-04-14
(papur 1)
Yr
Athro Jean White - Prif Swyddog Nyrsio, Llywodraeth Cymru
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
2.1 Bu’r
Pwyllgor yn holi’r Athro Jean White, Prif Swyddog Nyrsio, Peter Jones, Dirprwy
Gyfarwyddwr Digital Health and Care a Peter Wiles, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran
Polisi a Pherfformiad ynglŷn ag arlwyo a maeth mewn ysbytai.
2.2 Cytunodd
yr Athro White i anfon rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r ffordd y mae’r
rhaglen hyfforddi maeth e-ddysgu’n cael ei hariannu a’r
amserlen ar gyfer cynnwys yr holl hyfforddiant ar holl gofnodion staff
electronig.
2.3 Cytunodd
yr Athro White i ysgrifennu at y Pwyllgor ym mis Ebrill gyda gwerthusiad o’r
cynllun peilot sy’n cael ei gynnal ar wastraff bwyd yn Ysbyty Llandochau ym mis
Mawrth. Byddai hefyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau y mae’r
byrddau iechyd yn eu cael gydag awdurdodau lleol ynglŷn â chasglu gwastraff bwyd. Cytunodd
hefyd i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r ffordd y mae hyfforddiant
cyn-gofrestru’n cael ei grynhoi.
Cyfarfod: 03/12/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)
6 Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru
PAC(4)-32-13
papur 7
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
6.1 Nododd y
Pwyllgor yr ymateb pellach gan Lywodraeth Cymru, a chytunwyd i wahodd yr Athro
White i'r Pwyllgor i drafod eu pryderon.
Cyfarfod: 03/10/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)
Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Trafodaeth yr Aelodau ar yr ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru
PAC(4)-25-13
(papur 1)
PAC(4)-25-13 (papur 2)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 24 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (6/1)
- Cyfyngedig 25
Cofnodion:
6.1 Nododd yr Aelodau yr
ohebiaeth a gafwyd gan y Llywodraeth, a chytunasant i ysgrifennu at y
Llywodraeth, gan godi'r materion a ganlyn:
·
Seilwaith
TG mewn perthynas ag e-ddysgu
·
Cyfranogiad
mewn perthynas â phecynnau dysgu ar-lein
·
Gwastraff
bwyd mewn ysbytai
·
Sut y
mae sticeri sgorio hylendid bwyd yn cael eu harddangos mewn ysbytai
Cyfarfod: 06/06/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Y diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar weithredu'r argymhellion a wnaed yn adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, 'Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai'
PAC(4) 16-13 – Papur 1 – Y diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar ‘Arlwyo a
Maeth Cleifion mewn Ysbytai’
Yr Athro Jean White, Prif Swyddog Nyrsio, Llywodraeth Cymru
Dogfennau ategol:
- PAC(4) 16-13 (p1) Y diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar ‘Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai’ (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 188 KB Gweld fel HTML (2/1) 82 KB
- Linc i'r Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai, Eitem 2 PDF 5 KB Gweld fel HTML (2/2) 3 KB
Cofnodion:
2.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Athro Jean White, Prif Swyddog Nyrsio Llywodraeth Cymru; Maureen
Howell, Pennaeth y Gangen Newid Ffyrdd o Fyw, Llywodraeth Cymru; a Val Whiting,
Pennaeth yr Is-adran Cyfalaf, Ystadau a Chyfleusterau, Llywodraeth Cymru, i'r
cyfarfod.
2.2 Bu'r Pwyllgor yn
holi'r tystion.
Camau gweithredu:
Cytunodd Llywodraeth
Cymru i ddarparu:
·
Dadansoddiad
cost a budd o bob opsiwn ar gyfer y strwythur TG arfaethedig a fydd yn sail i'r
swyddogaeth arlwyo mewn ysbytai;
·
Manylion
am ganran yr aelodau o staff nyrsio Band 5 ar draws yr holl fyrddau iechyd sy'n
methu â chael mynediad i gyfleusterau e-ddysgu gan nad oes ganddynt fynediad i
gyfrifon e-bost gwaith;
·
Costau
sy'n gysylltiedig â rhoi'r pecyn e-ddysgu ynghylch maeth cleifion ar waith;
·
Rhagor o
fanylion ynghylch lefel y cyfranogiad mewn pecynnau hyfforddi ar-lein yn y GIG;
·
Rhagor o
wybodaeth ynghylch i lle mae gwastraff bwyd yn mynd, gan gynnwys manylion am y
contractau gwastraff rhwng byrddau iechyd ac awdurdodau lleol; a
·
Nodyn yn
esbonio'r mesurau a roddwyd ar waith gan fyrddau iechyd i ateb y gofynion a
bennwyd gan y Bil Sgorio Hylendid Bwyd.
2.3 Cytunodd y Pwyllgor
i ysgrifennu at y Gweinidog yn nodi'r pryderon a godwyd yn y cyfarfod hwn.
Cyfarfod: 22/05/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Cyngor gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ymateb Llywodraeth Cymru i 'Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai'
PAC(4) 08-12 –
Papur 2 – Ymateb Llywodraeth Cymru i ‘Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai’
PAC(4) 08-12 –
Papur 3 – Cyngor gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ymateb Llywodraeth Cymru i
‘Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai’
Dogfennau ategol:
- PAC(4) 08-12 (p2) Ymateb Llywodraeth Cymru i 'Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai', Eitem 3 PDF 196 KB Gweld fel HTML (3/1) 27 KB
- PAC(4) 08-12 (p3) Cyngor gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ymateb Llywodraeth Cymru i 'Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai', Eitem 3 PDF 532 KB
Cofnodion:
3.1 Croesawodd y
Cadeirydd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, a Dave Thomas, y Cyfarwyddwr
Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
3.2 Bu’r Pwyllgor
yn trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Arlwyo
a Maeth Cleifion mewn Ysbytai, a’r cyngor cysylltiedig a gafwyd gan Archwilydd
Cyffredinol Cymru.
3.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru
mewn perthynas â materion o bryder a gododd yn sgil ymateb Llywodraeth Cymru i
adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai, fel
y nodwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Cyfarfod: 17/01/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
Adroddiad drafft y Pwyllgor ar arlwyo a maeth cleifion mewn ysbytai
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 38 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (5/1)
Cofnodion:
Cyfarfod: 08/11/2011 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)
6 Arlwyo mewn ysbytai a maeth cleifion: tystiolaeth gan Brif Weithredwr GIG Cymru
PAC(4)-06-11 – Papur 3 – Llywodraeth Cymru - Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai
David Sissling Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a phlant
Jean White Prif Swyddog
Nyrsio/Cyfarwyddwr Nyrsio Cymru
Andrew Walker Pennaeth Cyfalaf, Ystadau
a Chyfleusterau
Dogfennau ategol:
- PAC(4)-06-11 (p3) Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai, Eitem 6 PDF 152 KB Gweld fel HTML (6/1) 35 KB
- Response to action points, Eitem 6 PDF 112 KB
Cofnodion:
6.1 Estynnodd y Pwyllgor groeso i David Sissling, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Adran Iechyd,
Gwasanaethau Cymdeithasol a
Phlant; Jean White, Prif Swyddog Nyrsio/Cyfarwyddwr Nyrsio GIG Cymru; ac Andrew Walker, Pennaeth
Cyfalaf, Ystadau a Chyfleusterau.
6.2 Estynnodd y Pwyllgor groeso i Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, a Dave Thomas,
o Swyddfa Archwilio Cymru.
6.3 Bu’r Pwyllgor yn holi’r tystion.
6.4 Gohiriodd y Cadeirydd
y cyfarfod am bum munud, yn unol â Rheol
Sefydlog 17.47, o ganlyniad
i nam technegol.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:
- Rhagor o fanylion ynghylch sut y mae ysbytai’n cydymffurfio â’r safonau hylendid bwyd angenrheidiol, gan gynnwys nifer yr ysbytai cyffredinol na ddyfarnwyd graddfa hylendid dderbyniol iddynt dros y pum mlynedd diwethaf.
- Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch ailarolygu ac ailraddio safonau hylendid yn Ysbyty’r Eglwys Newydd, gan dynnu sylw at feysydd lle y gwnaed cynnydd.
Cyfarfod: 04/10/2011 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai
Sesiwn
dystiolaeth gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru
PAC(4) 04-11 (papur
2)
Ruth Marks, Comisiynydd
Pobl Hŷn Cymru
Sarah Stone, Dirprwy
Gomisiynydd Pobl Hŷn
Cymru
Rebecca Stafford,
Swyddog Polisi
Dogfennau ategol:
- PAC(4)-04-11 Papur 2- Adroddiad ar Arlwyo mewn Ysbytai - Tystiolaeth Ruth Marks, Eitem 3 PDF 249 KB Gweld fel HTML (3/1) 52 KB
Cofnodion:
3.1 Croesawyd Ruth Marks, Comisiynydd
Pobl Hŷn Cymru;
Sarah Stone, Dirprwy Gomisiynydd
Pobl Hŷn Cymru; a Rebecca Stafford, Swyddog Polisi, i gyfarfod y Pwyllgor.
3.2 Hefyd, croesawyd
Huw Vaughan Thomas, Archwilydd
Cyffredinol Cymru, a Dave
Thomas o Swyddfa Archwilio Cymru, i’r cyfarfod.
3.3 Bu’r Pwyllgor yn holi’r tystion.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd Comisiynydd Pobl Hŷn
Cymru i ddarparu:
·
gwybodaeth ychwanegol am ganfyddiadau’r adroddiad ar urddas
mewn gofal;
·
canlyniadau’r gwerthusiad o gynllun Robin yn y Gogledd; a
·
gwybodaeth ychwanegol am arferion da sy’n cael eu
rhoi ar waith
gan ysbytai, yn enwedig y model cadw tŷ.
Cytunodd Archwilydd Cyffredinol Cymru i ddarparu:
·
crynodeb o arferion da.
Cyfarfod: 05/07/2011 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
4. Y wybodaeth ddiweddaraf gan Archwilydd Cyffredinol Cymru am adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai (10.15 - 10.30)
Papur: PAC(4) 01-11 (p2)
Dogfennau ategol: