Cyfarfodydd

Treth Dirlenwi

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 25/03/2015 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 1)

1 Papur briffio ffeithiol gan Lywodraeth Cymru ar Dreth Tirlenwi

Georgina Haarhoff, Pennaeth Polisi Trethi a Deddfwriaeth, Llywodraeth Cymru

Sarah Tully, Rheolwr Prosiect Treth Gwarediadau Tirlenwi, Llywodraeth Cymru

Bethan Davies, Swyddog Prosiect Treth Gwarediadau Tirlenwi, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

1.2        Cafodd y Pwyllgor bapur briffio ffeithiol gan Lywodraeth Cymru ar Dreth Tirlenwi.

 

1.3        Gofynnodd yr Aelodau am y wybodaeth ychwanegol ganlynol:

·         rhestr o wastraff cymwys;

·         rhestr o safleoedd tirlenwi awdurdodau lleol; a

·         rhestr o’r 191 o gyrff Amgylcheddol a chyrff Dosbarthu Amgylcheddol sydd wedi’u cofrestru yng Nghymru.