Cyfarfodydd

Adolygiad o'r System ddeisebau Cymru y Cynulliad Cenedlaethol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/11/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Adolygiad o System Ddeisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cofnodion:

Cafodd Aelodau'r Pwyllgor ddiweddariad ar y gwaith o ddatblygu system ddeisebu ar-lein newydd ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

 


Cyfarfod: 03/07/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Adolygu prosesau ar gyfer deisebau gyda dros 5000 o lofnodion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Gohiriwyd eitem 5 tan ar ôl y sesiwn dystiolaeth a drefnwyd yn eitem 6.

 

Adolygodd y Pwyllgor y prosesau ar gyfer deisebau gyda thros 5000 o lofnodion a chytunodd i beidio â gwneud unrhyw newidiadau i nifer y llofnodion sydd eu hangen cyn i'r ddeiseb gael ei ystyried ar gyfer dadl mewn Cyfarfod Llawn o'r Cynulliad.  

 

Fodd bynnag, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Llywydd gan nodi nifer o gynigion ar gyfer newid y dulliau ar gyfer casglu llofnodion.

 

 


Cyfarfod: 07/03/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Adolygiad o System Ddeisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cofnodion:

Rhoddodd Clerc y Pwyllgor ddiweddariad i'r Aelodau ar gyflwyno newidiadau posibl i System Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. 

 

 


Cyfarfod: 02/03/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar ei adolygiad o Ddeisebau Cyhoeddus

NDM5981 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar yr 'Adolygiad o Drefniadau Deisebau Cyhoeddus' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Chwefror 2016.

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Deisebau
Llythyr gan y Llywydd at y Cadeirydd

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.06

NDM5981 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar yr 'Adolygiad o Drefniadau Deisebau Cyhoeddus' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Chwefror 2016.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 08/12/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Trafod y Sesiwn Tystiolaeth Lafar - Adolygu'r System Ddeisebau

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth cyn iddo baratoi ei adroddiad.

 


Cyfarfod: 08/12/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Adolygiad o System Ddeisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor bapur ar yr adolygiad o ddeisebau, ynghyd â'r dystiolaeth lafar a glywyd yn y sesiwn cynharach, a chytunodd i ystyried argymhellion ar gyfer newidiadau posibl trwy ohebiaeth yn y lle cyntaf.

 


Cyfarfod: 08/12/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Sesiwn Dystiolaeth - Adolygiad o System Ddeisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Dr John Cox, Deisebydd

Nesta Lloyd – Jones, Conffederasiwn GIG Cymru

Robert Southall, Deisebydd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau i'r tystion am eu profiad o system ddeisebau'r Cynulliad.

 

 


Cyfarfod: 24/11/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Adolygiad o System Ddeisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau dystiolaeth a gafwyd o arolygon ac ymgynghoriadau a gynhaliwyd, a chytunwyd i ddychwelyd at y mater yn dilyn sesiwn dystiolaeth lafar a gynhelir ar 8 Rhagfyr.

 


Cyfarfod: 06/10/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Adolygiad o System Ddeisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y cynnydd a wnaed o ran adolygu’r system ddeisebau.

 


Cyfarfod: 14/07/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Adolygiad o System Ddeisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y cynnydd ar adolygu'r system ddeisebau.

 


Cyfarfod: 10/03/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Adolygiad o'r System Ddeisebau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr eitem hon mewn sesiwn breifat.