Cyfarfodydd

Ymchwiliad i berfformiad Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/03/2016 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad dilynol i berfformiad y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru: trafod ymateb y Dirprwy Weinidog Iechyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Iechyd i geisio eglurhad ar rai o'r pwyntiau yn ei ymateb.

 


Cyfarfod: 09/03/2016 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Ymchwiliad dilynol i berfformiad y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru: ymateb y Dirprwy Weinidog Iechyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.4a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 


Cyfarfod: 14/01/2016 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Ymchwiliad dilynol i berfformiad y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru: trafod y deilliannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr drafft at y Dirprwy Weinidog Iechyd a chytunwyd ar y llythyr hwnnw, yn amodol ar fân newidiadau.

 


Cyfarfod: 03/12/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

Ymchwiliad dilynol i berfformiad y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 03/12/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Ymchwiliad dilynol i berfformiad y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 4

Mark Giannasi, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Tracy Myhill, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau.

5.2 Cytunodd Tracy Myhill i ddarparu data i'r Pwyllgor ynghylch perfformiad yn erbyn targedau ar gyfer mis Hydref 2015, wedi'u trefnu yn ôl ardal awdurdod lleol.

 


Cyfarfod: 03/12/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Ymchwiliad dilynol i berfformiad y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 3

Adam Cairns, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Allison Williams, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau.

 


Cyfarfod: 03/12/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad dilynol i berfformiad y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 1

Darron Dupree, UNSAIN Cymru

Nathan Holman, GMB

Richard Munn, Undeb Unite

Lisa Turnbull, y Coleg Nyrsio Brenhinol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau.

2.2 Datganodd Alun Davies y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

·         Mae'n aelod o UNSAIN Cymru.

2.2 Cytunodd Darron Dupre a Lisa Turnbull i ddarparu data arolwg staff i'r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 03/12/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad dilynol i berfformiad y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 2

Stephen Harrhy, Prif Gomisiynydd y Gwasanaethau Ambiwlans

Yr Athro Siobhan McClelland, Cadeirydd - y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau.

 


Cyfarfod: 11/06/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 9)

9 Ymchwiliad i berfformiad y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru: gwybodaeth ychwanegol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol a gafwyd.


Cyfarfod: 13/05/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Ymchwiliad i berfformiad y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru: gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Iechyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.5a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Iechyd.

 


Cyfarfod: 23/04/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Ymchwiliad i berfformiad y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru: gwybodaeth ychwanegol gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.2a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

 


Cyfarfod: 25/03/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Ymchwiliad i berfformiad y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru: trafod y llythyr drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr drafft i’w anfon at y Dirprwy Weinidog Iechyd ac fe’i derbyniwyd yn amodol ar rai mân newidiadau.


Cyfarfod: 05/03/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 9)

Ymchwiliad i berfformiad y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 3

Adam Cairns, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Alison Williams, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Cofnodion:

9.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.

9.2 Cytunodd y tystion i ddarparu'r eitemau a ganlyn i'r Pwyllgor:

·         manylion ar gyfer y mis diwethaf (Chwefror 2015) am nifer yr ambiwlansys a gyrhaeddodd pob adran damweiniau ac achosion brys yn ardaloedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, ac, os yw'n bosibl, yr orsaf ambiwlansys lle y mae pob un o'r ambiwlansys hynny wedi'u lleoli;

·         manylion am nifer y cleifion sy'n profi oedi wrth gael eu trosglwyddo yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro;

·         manylion am y camau gweithredu y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn eu cymryd i leihau oedi wrth drosglwyddo cleifion, y gwelliannau y disgwylir eu cyflawni, a'r amserlenni cysylltiedig; a

·         chopi o'r adroddiad ar yr ymchwiliad i brofiadau o ran gofal heb ei drefnu ym mhob bwrdd iechyd lleol, y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2015. 

 


Cyfarfod: 05/03/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

8 Ymchwiliad i berfformiad y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 2

Mick Giannasi, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Tracy Myhill, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.

8.2 Cytunodd y tystion i ddarparu'r eitemau a ganlyn i'r Pwyllgor:

·         manylion am y cynlluniau peilot sydd ar waith ledled Cymru i wella gwasanaethau ambiwlans;

·         nifer y galwadau brys Categori A a wnaed yn 2012 , 2013 a 2014, nifer y digwyddiadau y mae'r galwadau hyn yn ymwneud â nhw, nifer y galwadau lle cyrhaeddodd y gwasanaethau brys y digwyddiad, a nifer y galwadau lle cyrhaeddodd y gwasanaethau brys y digwyddiad o fewn wyth munud; 

·         y dyddiadau y cafodd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ei hymgynghori neu ei chynnwys yn y penderfyniad a wnaed i atal gofal mamolaeth dan arweiniad meddyg ymgynghorol yn Ysbyty Glan Clwyd; a

·         chopi o gynllun gweithredu ar gyfer gwella Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf.

 


Cyfarfod: 05/03/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 11)

Ymchwiliad i berfformiad y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru: trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

11.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol / y Dirprwy Weinidog Iechyd.

 


Cyfarfod: 05/03/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Ymchwiliad i berfformiad y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 1

Stephen Harrhy, Prif Gomisiynydd Gwasanaethau Ambiwlans

Yr Athro Siobhan McClelland, Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.

7.2 Cytunodd y tystion i ddarparu'r eitemau a ganlyn i'r Pwyllgor:

·         copi o'r cytundeb dros dro gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ar gyfer 2014-15;

·         syniad bras o'r amserlenni ar gyfer y fframwaith comisiynu, ansawdd a darparu ac, unwaith y bydd yn barod, copi o'r fframwaith.

 


Cyfarfod: 12/02/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 11)

11 Ymchwiliad i berfformiad y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru: ystyried y dull o graffu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

11.1a Ystyriodd y Pwyllgor ei ddull gweithredu o ran cynnal ymchwiliad i berfformiad y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru a chytunwyd arno.