Cyfarfodydd
Recruitment principles
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 02/02/2015 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 5)
Egwyddorion recriwtio
MB
02-15 Papur 2 – Egwyddorion recriwtio
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Croesawyd Lowri Williams i'r cyfarfod i drafod
egwyddorion recriwtio drafft sydd wedi'u hanelu at gynyddu tryloywder yn y
prosesau recriwtio. Roedd y Cynulliad wedi ymrwymo i recriwtio ar sail
teilyngdod, tegwch a bod yn agored ac roedd yr egwyddorion, a ddyfeisiwyd yn
dilyn archwiliad mewnol o recriwtio, yn darparu fframwaith clir ar gyfer
polisïau, canllawiau ac arferion recriwtio.
Croesawodd y Bwrdd Rheoli'r ddogfen fel un a
oedd y cynnig eglurder a diogelwch ar gyfer recriwtio yn y dyfodol a chytunodd
ar y cynnwys a'r arddull. Byddai gwaith pellach yn dilyn er mwyn adolygu'r
gyfres o bolisiau Adnoddau Dynol ac i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'r
egwyddorion.
Roedd disgwyl i'r ddogfen gael ei hystyried gan
y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn eu cyfarfod ar 9 Chwefror.
Camau i’w cymryd:
· Lowri i ychwanegu 'egwyddorion' at y pwyntiau
bwled yn 3.2
Cyfarfod: 06/11/2014 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 7)
Adroddiad Archwilio Mewnol - Recriwtio
Cofnodion:
Cafodd y Bwrdd Rheoli drafodaeth gychwynnol ar
ganfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad archwilio terfynol. Croesawodd y
Bwrdd yr adroddiad a chytunodd i'w ystyried yn fwy trylwyr yn y flwyddyn
newydd, ar ôl iddo gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg ac ar
ôl i'r Pwyllgor hwnnw fynegi barn arno.