Cyfarfodydd

Cyllideb Llywodraeth Cymru 2011-12

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 27/09/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Ystyried y diwygiadau a wnaed i gyllidebau 2011-2012 - adroddiad alldro

Dogfennau ategol:

  • Papur Preifat - Ystyried y diwygiadau a wnaed i gyllidebau 2011-2012 - adroddiad alldro (Saesneg yn unig)
  • Papur Preifat - Ystyried y diwygiadau a wnaed i gyllidebau 2011-2012 - adroddiad alldro - Atodiad (Saesneg yn unig)

Cyfarfod: 20/02/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Trafod y dystiolaeth - cyllideb atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2011-2012

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’i Chyllideb Atodol ar gyfer 2011-2012.


Cyfarfod: 20/02/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Cyllideb atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2011-2012 - y Gweinidog Cyllid

 

FIN(4)-03-12 – Papur 1 – Cyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2011-2012

FIN(4)-03-12 - Papur 2 - Comisiynydd y Cynulliad - Cyllideb Atodol

FIN(4)-03-12 - Paper 3 – Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

 

 

Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid  

Jo Salway,  Pennaeth Cyllidebu Strategol
Martin Sollis, Dirprwy Cyfarwyddwr Cyllid
Jeff Andrews, Ymgyngnorydd Polisi Arbenigol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid; Jo Salway, Pennaeth Cyllidebu Strategol; Martin Sollis, y Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid; a Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi Arbenigol.

 

2.2 Holodd yr Aelodau y Gweinidog.

 

Pwyntiau gweithredu:

 

Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:

 

·         Manylion am sut mae cyfalaf ychwanegol wedi cael ei fuddsoddi yn y portffolio Gwasanaethau Canolog.

·         Nodyn yn amlygu’r broses o gysoni’r prif grŵp gwariant addysg a sgiliau â’r strwythur yn y gyllideb ddrafft, gan adlewyrchu’r newidiadau i’r gyllideb atodol bresennol.

·         Eglurhad ynghylch a fydd Cronfa Twf Economaidd Cymru yn dod o’r Gronfa Fuddsoddi Sengl Etifeddol ac ynghylch a oedd tanwariant yn y Gronfa Fuddsoddi Sengl Etifeddol.

·         Rhagor o fanylion am y Gronfa Buddsoddi i Arbed, gan gynnwys eglurhad ynghylch ar gyfer pa flwyddyn ariannol y byddai’r £10 miliwn ychwanegol o gyllid buddsoddi i arbed (a gyhoeddwyd gan y Gweinidog ym mis Rhagfyr 2011) yn cael ei ddyrannu.

·         Rhestr o’r holl broffiliau gwobrwyo ac ad-dalu a wnaed o fewn y Gronfa Buddsoddi i Arbed.


Cyfarfod: 12/07/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)

Cynnig i gymeradwyo cyllideb atodol

NDM4748 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30 , yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2011-12 , a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau’r Cynulliad ddydd Mawrth  21 Mehefin 2011.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

(i) y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb floc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb floc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

(iv) cysoniad rhwng amcangyfrif y symiau sydd i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau yr awdurdodir eu talu o’r Gronfa yn y cynnig; a

(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau: nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Dogfennau Ategol
Cyllideb Atodol ar gyfer blwyddyn ariannol 2011-12

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Craffu ar y Cynnig ynghylch Cyllideb Atodol 2011-2012 (Haf 2011)

 

Papur gan Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru  Ymchwil: Cyllideb Atodol 2011-12

 

Penderfyniad:

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 07/07/2011 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

Craffu ar gynnig y Gyllideb Atodol 2011 -12 (Haf 2011) – Ystyried adroddiad drafft y Pwyllgor

FIN(4) 02-11(p1)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y pwyllgor ar ei adroddiad drafft yn craffu ar gynnig Llywodraeth Cymru ynghylch cyllideb atodol 2011-12, a fyddai’n cael ei gyhoeddi cyn y ddadl yn y cyfarfod llawn ar 12 Gorffennaf.

 


Cyfarfod: 29/06/2011 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

Cyllideb Atodol 2011-2012 – Ystyried y dystiolaeth

Cofnodion:

 

3.1 Trafododd y Pwyllgor y prif faterion a gododd o’i waith o graffu ar Gyllideb Atodol 2011-12.


Cyfarfod: 29/06/2011 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Cyllideb Atodol 2011-12 – Y Gweinidog Cyllid

Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid

Andrew Jeffreys, Pennaeth Cyllidebu Strategol – Cynllunio Strategol, Cyllid a Pherfformiad

Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi Arbenigol, Cynllunio Strategol, Cyllid a Pherfformiad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

 

Craffu ar waith Llywodraeth Cymru

2.1 Croesawodd y Pwyllgor Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid; Andrew Jeffreys, Pennaeth Cyllidebu Strategol, yr Adran Cynllunio Strategol, Cyllid a Pherfformiad; a Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi Arbenigol, yr Adran Cynllunio Strategol, Cyllid a Pherfformiad.  

2.2 Holodd y Pwyllgor y Gweinidog.

 

2.3 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu:

 

·         rhagor o fanylion am y diwygiadau i’r dull o ymdrin â’r cyfrifon, a arweiniodd at ostyngiad o £92.4 miliwn mewn perthynas â darparu benthyciadau i fyfyrwyr;

·         rhagor o fanylion am y broses o drosglwyddo £18.6 miliwn o Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag iechyd a lles anifeiliaid;

·         manylion symiau canlyniadol yn deillio o gyllideb 2011 y DU, gan gynnwys y penderfyniadau polisi a arweiniodd atynt, a ffigurau dangosol y symiau canlyniadol refeniw a chyfalaf ar gyfer y blynyddoedd sy’n weddill o’r arolwg o wariant;

·         manylion fesul rhanbarth o gostau etholiad 2011 a chymhariaeth â chostau rhanbarthol etholiadau blaenorol y Cynulliad, gan gynnwys costau cynnal y refferendwm yn 2011; 

·         manylion y gostyngiadau gwirioneddol mewn arian refeniw a chyfalaf yn ffigurau dangosol y gyllideb atodol ar gyfer y ddwy flynedd nesaf; a

·         rhagor o fanylion am yr amserlen ar gyfer dyrannu’r Gronfa Gyfalaf a Gedwir yn Ganolog.