Cyfarfodydd
Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Gwasanaethau Cyhoeddus (Menter Gymdeithasol a Gwerth Cymdeithasol)
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 22/11/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8.)
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwasanaethau Cyhoeddus (Menter Gymdeithasol a Gwerth Cymdeithasol)
NDM4857 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn
cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau sy’n ymwneud â lles
economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol drwy gontractau cyhoeddus yn y Bil
Gwasanaethau Cyhoeddus (Menter Gymdeithasol a Gwerth Cymdeithasol) fel y’i
cyflwynwyd yn Nhŷ’r Cyffredin ar 30 Mehefin 2010, i’r graddau y maent yn
dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Dogfennau Ategol
Gosodwyd Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Hydref 2011 yn unol â
Rheol Sefydlog 29.2.(ii)
Y
Pwyllgor Menter a Busnes: Adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol -
Bil Gwasanaethau Cyhoeddus (Menter Gymdeithasol a Gwerth Cymdeithasol)
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ychwanegwch fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod Senedd y DU wedi newid enw'r Bil i’r Bil Gwasanaethau Cyhoeddus
(Gwerth Cymdeithasol) drwy ei ddiwygio ar 18 Hydref 2011.
I weld copi o’r Bil Gwasanaethau Cyhoeddus (Gwerth Cymdeithasol) ewch i:
http://services.parliament.uk/bills/2010-11/publicservicessocialvalue.html
Penderfyniad:
NDM4857 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn
cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau sy’n ymwneud â lles
economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol drwy gontractau cyhoeddus yn y Bil
Gwasanaethau Cyhoeddus (Menter Gymdeithasol a Gwerth Cymdeithasol) fel y’i
cyflwynwyd yn Nhŷ’r Cyffredin ar 30 Mehefin 2010, i’r graddau y maent yn
dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant
1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod Senedd y DU wedi newid enw'r Bil i’r Bil Gwasanaethau Cyhoeddus
(Gwerth Cymdeithasol) drwy ei ddiwygio ar 18 Hydref 2011.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4857 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn
cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau sy’n ymwneud â lles
economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol drwy gontractau cyhoeddus yn y Bil
Gwasanaethau Cyhoeddus (Menter Gymdeithasol a Gwerth Cymdeithasol) fel y’i
cyflwynwyd yn Nhŷ’r Cyffredin ar 30 Mehefin 2010, i’r graddau y maent yn
dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Yn nodi bod Senedd y DU wedi newid enw'r Bil i’r Bil Gwasanaethau Cyhoeddus
(Gwerth Cymdeithasol) drwy ei ddiwygio ar 18 Hydref 2011.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio, yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.