Cyfarfodydd

P-04-609 Cefnogwch Fusnesau Bach - Cefnogwch ein Strydoedd Mawr

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 12/05/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-609 Cefnogwch Fusnesau Bach - Cefnogwch ein Strydoedd Mawr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a chytunwyd i:

·         Aros am sylwadau gan y deisebydd, ac

·         Os bydd y deisebydd yn cytuno, o ystyried bod llythyr y Gweinidog yn awgrymu bod prif fyrdwn y mater a godwyd wedi cael ei gyflawni, i gau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 20/01/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-609 Cefnogwch Fusnesau Bach - Cefnogwch ein Strydoedd Mawr.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • dynnu sylw'r Gweinidog at sylwadau’r deisebwr, yn enwedig o ran y diffyg amlwg yn y wybodaeth a’r cymorth sydd ar gael a beth y gellid ei wneud i wella hyn;
  • gofyn am farn y Gweinidog ynghylch pa rôl y gallai Ffederasiwn y Busnesau Bach a’r Siambrau Masnach ei chwarae wrth ledaenu gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael; ac
  • ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn gofyn pa rôl y mae Awdurdodau Lleol yn ei chwarae o ran darparu gwybodaeth am gymorth i fusnesau bach.