Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: y Bil Caethwasianaeth Fodern

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/12/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Caethwasiaeth Fodern – darpariaethau sy'n ymwneud ag eiriolwyr masnachu plant, canllawiau ar adnabod a chefnogi dioddefwyr a rhagdybio oedran

NDM5645 Leighton Andrews (Rhondda)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Caethwasiaeth Fodern sy'n ymwneud ag eiriolwyr masnachu plant, canllawiau ynghylch adnabod a chefnogi dioddefwyr a rhagdybio oedran, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Tachwedd 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

 

Cewch gopi o'r Bil ar wefan Senedd y DU:

http://services.parliament.uk/bills/2014-15/modernslavery.html (Saesneg yn unig)

 

Dogfennau Ategol

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.48

 

NDM5645 Leighton Andrews (Rhondda)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Caethwasiaeth Fodern sy'n ymwneud ag eiriolwyr masnachu plant, canllawiau ynghylch adnabod a chefnogi dioddefwyr a rhagdybio oedran, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Tachwedd 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 03/12/2014 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 9)

9 Ystyriaeth o adroddiad drafft y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Caethwasiaeth Fodern

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Caethwasiaeth Fodern

 


Cyfarfod: 19/11/2014 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 1)

1 Trafod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - y Bil Caethwasiaeth Fodern

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - y Bil Caethwasiaeth Fodern