Cyfarfodydd

Newid Cyfansoddiadol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 04/05/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 4)

Diwygio'r Cynulliad - diweddaru adroddiad y Comisiwn, sef "Dyfodol y Cynulliad: sicrhau capasiti i gyflawni ar gyfer Cymru".

Trafodaeth

Cofnodion:

Trafododd y Bwrdd yr asesiad wedi'i ddiweddaru o oblygiadau cynnydd yng nghapasiti'r Cynulliad a gofynnwyd iddo ystyried y materion y byddai angen eu trafod. Roedd asesiadau wedi'u darparu gan benaethiaid gwasanaethau o bob rhan o'r Cynulliad.

Heriodd y Bwrdd yr asesiadau a'r rhagdybiaethau a thrafodwyd a ydynt yn rhesymol, gan nodi'r gwahaniaeth rhwng cynnydd cymesur yn uniongyrchol a'r rhai a oedd yn fwy hapfasnachol. Cytunwyd y dylid rhoi mwy o ystyriaeth i gysondeb rhagdybiaethau a wneir ar draws y darn a chyflwyno'r amrywiadau a'r risgiau posibl a allai effeithio ar y tybiaethau hynny yn y dyfodol.

Camau i’w cymryd: Anna Daniel i ymgynghori â chydweithwyr i wella'r wybodaeth a gasglwyd ymhellach.  

 

 


Cyfarfod: 15/01/2015 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Newid Cyfansoddiadol – Cyflwyniad i’r Ysgrifennydd Gwladol.

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 4
  • Cyfyngedig 5
  • Cyfyngedig 6
  • Cyfyngedig 7
  • Cyfyngedig 8

Cofnodion:

Yn y cyfarfod ar 17 Tachwedd, cytunodd y Comisiynwyr i ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol Cymru er mwyn llywio’r cytundeb trawsbleidiol Dydd Gŵyl Dewi disgwyliedig a fyddai’n amlinellu dyfodol setliad datganoli Cymru.  Trafododd y Comisiwn gwmpas a chynnwys adroddiad drafft ar y mater hwn, yn ogystal â threfniadau ar gyfer rhannu’r adroddiad â rhanddeiliaid.  

 

Cytunodd y Comisiwn y dylid datganoli materion yn ymwneud â maint y Cynulliad, a’i system etholiadol, i’r sefydliad ei hun, yn hytrach na bod San Steffan yn deddfu arnynt.  Teimlai y dylid gwneud hyn cyn gynted â phosib.  Trafododd y Comisiynwyr faint y Cynulliad hefyd, a goblygiadau sawl cynnydd gwahanol ym maint y Cynulliad, yn enwedig y goblygiadau ariannol. 

 

Cytunodd y Comisiwn bod yn rhaid cynyddu nifer yr Aelodau etholedig yn y Cynulliad. Roedd ymresymiad y Comisiynwyr yn cael ei lywio gan eu dymuniad i roi cyfle realistig i Aelodau graffu ar bolisïau, gweinyddiaeth, gwariant a chynigion deddfwriaethol Llywodraeth Cymru mor gadarn ag y mae pobl Cymru yn ei haeddu.  Teimlent fod canlyniadau ac effeithiau’r gwaith a wneir gan yr Aelodau yn arwyddocaol a’i bod yn bwysig canolbwyntio yn eu hadroddiad ar ymdrin ag anghenion y sefydliad.  Roedd y Comisiwn yn cydnabod bod costau yn gysylltiedig â democratiaeth, a nodwyd bod y ffigurau yn y papur a gawsant yn dangos bod y gost, hyd yn oed gyda chynnydd yn nifer yr Aelodau, yn parhau’n ganran fach iawn o floc Cymru; gofynwyd am i hyn gael ei bwysleisio yn yr adroddiad.  

 

Trafododd y Comisiynwyr y ffaith bod y disgwyliadau ar Aelodau heddiw, heb son am unrhyw estyniad i bwerau a chyfrifoldebau’r Cynulliad, yn gwneud yr achos am fwy o Aelodau yn un cryf.  Teimlent y byddai angen iddynt ystyried sut i gynorthwyo Aelodau wrth ymgymryd â’u swyddi yn y cyfnod cyn cynyddu nifer yr Aelodau. 

 

Cytunodd y Comisiwn y byddai’n cyhoeddi adroddiad yn egluro themâu eu trafodaethau, ac ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol, ac arweinwyr grwpiau, yn amgáu copi o’r adroddiad.  Teimlai’r Comisiynwyr ei bod yn bwysig canolbwyntio yn eu hadroddiad ar y ffeithiau a gwneud cyfraniad defnyddiol i’r ddadl gyfansoddiadol gyfredol.  Cytunwyd y byddai eu hadroddiad ar gael i Aelodau, y cyfryngau a’r cyhoedd. 


Cyfarfod: 17/11/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Newid cyfansoddiadol

papur 2

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am faterion cyfansoddiadol allweddol a'u goblygiadau i'r Comisiwn.

 

Amcan y Comisiwn yw sicrhau bod y cymorth a ddarperir i Aelodau drwy wasanaethau'r Cynulliad yn cael ei baratoi gyda goblygiadau newid cyfansoddiadol mewn golwg.

 

Mae'r gwaith yn canolbwyntio ar dri maes:

·                     sicrhau bod deddfwriaeth yn bodloni anghenion y Cynulliad (Bil Cymru ac unrhyw ddeddfwriaeth ddilynol ar gyfer gweithredu Silk II);

·                     bod yn barod ar gyfer y newid, gan gynnwys cynllunio capasiti a'r goblygiadau ehangach o ran y modd y mae'r Cynulliad yn gweithredu; a

·                     chodi ymwybyddiaeth am y newidiadau er mwyn sicrhau bod y posibiliadau yn cael eu hystyried wrth gynllunio ar gyfer y Pumed Cynulliad.

 

Mae'r Comisiwn yn cydnabod bod rhywfaint o sicrwydd ynghylch rhai o'r materion y mae'n eu hwynebu, ond bod materion eraill yn parhau i fod yn anelwig.

 

O ran capasiti Aelodau'r Cynulliad, rhoddodd y Comisiynwyr ystyriaeth i'r goblygiadau o ran darparu adnoddau a gwasanaethau a fyddai'n deillio o gynyddu nifer yr Aelodau. Yn ogystal, trafododd y Comisiynwyr yr heriau cynyddol y mae'r Aelodau yn eu hwynebu gan mai ond 60 ohonynt sydd ar hyn o bryd.

 

Cytunodd y Comisiwn i ddychwelyd at y pwnc hwn yn gynnar yn y flwyddyn newydd, gan ofyn am ragor o wybodaeth fanwl. Yn y cyfamser, cytunodd y Comisiynwyr i ysgrifennu at y Bwrdd Taliadau i ofyn iddo ystyried opsiynau ar gyfer darparu cymorth ychwanegol i Aelodau'r Cynulliad yn y pumed Cynulliad.


Cyfarfod: 06/11/2014 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 4)

Newid cyfansoddiadol - Papur 2, atodiadau A i C ac atodiad

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 13
  • Cyfyngedig 14

Cofnodion:

Cyflwynwyd papur i'r Bwrdd a oedd i fod i gael ei gyflwyno i'r Comisiwn ar 17 Tachwedd yn nodi'r wybodaeth ddiweddaraf am faterion cyfansoddiadol pwysig, eu goblygiadau a sut y mae staff yn paratoi ar gyfer y newidiadau hynny.  Byddai gofyn i'r Comisiynwyr gymeradwyo'r dull gweithredu a fabwysiedir i sicrhau bod y capasiti ar gael i gefnogi pa bynnag newid cyfansoddiadol a allai ddigwydd ac i ddarparu arweiniad ar gyfer unrhyw waith neu gyngor pellach sydd eu hangen.

Rhoddodd y papur syniad da o raddfa'r newid sydd ei angen, yn enwedig ynghylch y cynnydd posibl yn nifer yr Aelodau, er bod elfennau o'r wybodaeth hon yn ddamcaniaethol, sy'n golygu bod y cyngor yn betrus mewn rhai mannau. Mae'r Cynulliad wedi darparu lefelau eithriadol o gefnogaeth, ond byddai cynnydd yn nifer yr Aelodau, mewn rhai mannau, yn arwain at benderfyniadau ynghylch a ddylid lleihau lefel y cymorth a ddarperir, cynyddu lefel y costau neu edrych ar ffyrdd eraill o wneud pethau. Cytunodd y Bwrdd y byddai'n ddefnyddiol cael barn y Comisiynwyr ynghylch yr hyn y byddai Aelodau yn ei ddisgwyl o ran lefelau cymorth.

Camau i’w cymryd:

·           Anna Daniel i ailedrych ar yr atodiad costau i sicrhau ei fod yn cynnwys yr holl feysydd gwasanaeth, ac i ystyried ychwanegu amserlen at y papur; a

Non Gwilym i baratoi llinellau drafft ar gyfer y cyfryngau os oes angen.