Cyfarfodydd

Cyllid Iechyd 2013-14

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 24/11/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Cyllid Iechyd 2013-14: Llythyr gan Gyfarwyddwr Cyffredinol y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr y GIG, Llywodraeth Cymru (16 Tachwedd 2015)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 16/06/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Cyllid Iechyd 2013-14: Gwybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf (Mai 2015)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 02/06/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Cyllid Iechyd 2013-14: Gwybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru (Mai 2015)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 28/04/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Amseroedd Aros a Thargedau Perfformiad Allweddol y GIG: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 28/04/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Amseroedd Aros a Thargedau Perfformiad Allweddol y GIG

Sesiwn Briffio Swyddfa Archwilio Cymru

 

Allison Williams – Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Ruth Treharne – Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Allison Williams, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a Ruth Treharne, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf ar yr ymchwiliad i Amseroedd Aros a Thargedau Perfformiad Allweddol y GIG.

4.2 Cytunodd Allison Williams i ddarparu:

·       Adroddiad diweddaraf y Bwrdd Iechyd sydd yn dangos y tafl-lwybrau o un mis i'r llall ynghyd â chanran y cleifion sydd wedi methu targedau

·       Copi o gynllun tair blynedd cyfredol y Bwrdd Iechyd

·       Templedi o bob llythyr apwyntiad a roddwyd i gleifion

·       Nodyn ar wasanaethau Offthalmoleg o fewn y Bwrdd Iechyd

·       Nodyn ar sut y mae cleifion, sydd yn aros am driniaeth ar hyn o bryd, sydd yn symud i ardal y Bwrdd Iechyd o'r tu allan i Gymru, yn cael eu hychwanegu at restrau aros fel nad ydynt o dan anfantais.

·       Nodyn ar amserlenni'r gwaith archwilio sy'n cael ei wneud ar apwyntiadau dilynol i gleifion hirdymor (cleifion nad oes ganddynt apwyntiadau dilynol wedi'u trefnu)

 

 

 

 


Cyfarfod: 28/04/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Amseroedd Aros a Thargedau Perfformiad Allweddol y GIG

Sesiwn Briffio Swyddfa Archwilio Cymru

 

Peter Meredith-Smith – Cyfarwyddwr, y Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru

Mary Williams – Cadeirydd, Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf

Dr Paul Worthington – Prif Swyddog, Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Peter Meredith-Smith, Cyfarwyddwr Bwrdd y Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru, Mary Williams, Cadeirydd, Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf a Dr Paul Worthington, Prif Swyddog, Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf ar yr ymchwiliad i Amseroedd Aros a Thargedau Perfformiad Allweddol y GIG.

2.1 Cytunodd Peter Meredith-Smith i ddarparu manylion am nifer y cwynion yn ymwneud â chyfathrebu ac achosion ar draws Cymru pan fo cleifion wedi dioddef o ganlyniad i aildrefnu eu hapwyntiad a chrynodeb, gan CIC, o nifer y materion a godwyd trwy wybodaeth, pryder a chwyn

 


Cyfarfod: 10/03/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Amseroedd Aros y GIG: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1     Ystyriodd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Amseroedd Aros y GIG, a chytunodd i wahodd Cadeirydd Cyngor Iechyd Cymuned a Bwrdd Iechyd i ddarparu tystiolaeth lafar mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

6.2     Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Dr Andrew Goodall i holi am yr amserlen ar gyfer gweithredu’r argymhellion y cytunwyd arnynt, fel y nodir yn ei lythyr.

 


Cyfarfod: 27/01/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Papur Briffio Swyddfa Archwilio Cymru ar Amseroedd Aros y GIG

PAC(4)-03-15 Papur 1 - Amseroedd Aros y GIG ar gyfer Gofal Dewisol yng Nghymru

PAC(4)-03-15 Papur 2 - Amseroedd Aros y GIG ar gyfer Gofal Dewisol yng Nghymru: Adroddiad Technegol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cyflwynodd Swyddfa Archwilio Cymru wybodaeth am ei adroddiad i’r Aelodau.

 

4.2 Ar ôl cyhoeddi ac ystyried yr adroddiad, cytunodd y Pwyllgor y dylai glywed rhagor o dystiolaeth gan randdeiliaid.

 

4.3 Cytunodd Swyddfa Archwilio Cymru i geisio darganfod a oes dadansoddiad ar gael o’r cleifion allanol nad ydynt yn dod i apwyntiadau.

 

 


Cyfarfod: 13/01/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Cyllid Iechyd 2013-14: Llythyr gan Dr Andrew Goodall, Llywodraeth Cymru (18 Rhagfyr 2014)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 02/12/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Cyllid Iechyd 2013-14: Llythyr gan Dr Andrew Goodall, Llywodraeth Cymru (24 Tachwedd 2014)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 11/11/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Cyllid Iechyd 2013-14: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

7.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Dr Goodall i ofyn am eglurhad ynghylch nifer o faterion a godwyd.

7.2 Nododd y Pwyllgor fod disgwyl i adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar amseroedd aros gael ei gyhoeddi yn fuan a chytunodd i'w drafod cyn cyflwyno adroddiad.

 


Cyfarfod: 11/11/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Cyllid Iechyd 2013-14: Gwybodaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(4)-28-14 papur 2

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru drosolwg byr o brif ganfyddiadau ei adroddiad i'r Aelodau.

 


Cyfarfod: 11/11/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Cyllid Iechyd 2013-14

PAC(4)-28-14 papur 3

Briff Ymchwil

 

Dr Andrew Goodall - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru, Llywodraeth Cymru

Simon Dean, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru, Llywodraeth Cymru

Martin Sollis, Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1Bu'r Pwyllgor yn craffu ar Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru; Simon Dean, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru; a Martin Sollis, Llywodraeth Cymru, ynghylch Cyllid Iechyd 2013-14.

5.2 Cytunodd Dr Goodall i ddarparu nodyn ar y canlynol:

·       Casgliad Canolfan Metaddadansoddi Cochrane (2012) bod y driniaeth pan fo pwysedd gwaed yn ymylu ar fod yn uchel yn fwy tebygol o niweidio cleifion na'u helpu, ac eithrio yn achos diabetes, a bod hynny'n un o'r contractau fframwaith ansawdd a deilliannau ar gyfer meddygon teulu

·       Sut y rhoddir ystyriaeth i ardaloedd gwledig wrth ddyrannu unrhyw adnoddau yn y dyfodol

·       Rheoli meddyginiaethau

·       Sut y mae Llywodraeth Cymru yn dwyn byrddau iechyd i gyfrif yn erbyn yr amcan gofal iechyd darbodus

·       Gweithio gyda chyfarwyddwyr gweithluoedd yng Nghymru, amlinellu eu dull gweithredu o ran polisïau disgyblu a sut y gellir cyflymu'r broses