Cyfarfodydd

Llywodraethiant Bwrdd Iechyd GIG Cymru - Y Pedwerydd Cynulliad

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/03/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru: Llythyr gan Dr Andrew Goodall (9 Mawrth 2016)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 02/02/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(4)-04-16 Papur 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, gan gytuno arno yn amodol ar rai mân newidiadau. 

 


Cyfarfod: 26/01/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(4)-03-16 Papur 1

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau'r adroddiad drafft a nodwyd y byddai drafft diwygiedig ar gael i'w drafod ymhellach yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 2 Chwefror.

 


Cyfarfod: 12/01/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

PAC(4)-01-16 Papur 3 - Llythyr gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

PAC(4)-01-16 Papur 4 - Llythyr gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

PAC(4)-01-16 Papur 5 – Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd a thrafododd yr Aelodau y wybodaeth ychwanegol a ddaeth i law yn dilyn y sesiynau tystiolaeth a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2015.

 


Cyfarfod: 24/11/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 24/11/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Dr Andrew Goodall - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr, GIG Cymru, Llywodraeth Cymru

Joanna Jordan - Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Llywodraethiant a Gwasanaethau Corfforaethol y GIG, Llywodraeth Cymru

Martin Sollis – Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru

Janet Davies - Cynghorydd Arbenigol – Ansawdd a Diogelwch, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru, Llywodraeth Cymru; Joanna Jordan, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Gwasanaethau Corfforaethol a Llywodraethu, Llywodraeth Cymru; Martin Sollis, Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru; a Janet Davies, Cynghorydd Arbennig - Ansawdd a Diogelwch, Llywodraeth Cymru, fel rhan o'i ymchwiliad i lywodraethu byrddau iechyd.

3.2 Cytunodd Dr Goodall i ddarparu gwybodaeth ychwanegol am:

·       Y broses benodi ar gyfer aelodau annibynnol o'r byrddau iechyd

·       Y llwybrau a pherthnasau sydd gan Fwrdd Iechyd Lleol Betsi Cadwaladr yn eu lle ar gyfer gwasanaethau arennol o ran y model both ac adenydd.

·       Rhagamcan o sefyllfa ariannol pob bwrdd iechyd ar ddiwedd y flwyddyn ariannol 2015-16

3.3 Yn ystod Eitem 5, wrth drafod y dystiolaeth a gafwyd, gofynnodd yr Aelodau am gael gwybod beth yw statws uwchgyfeirio pob bwrdd iechyd.

 


Cyfarfod: 17/11/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru: Adroddiad i Uwchgynhadledd Fach Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (Mai 2015)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 17/11/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 17/11/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru

PAC(4)-31-15 Papur 1

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Simon Dean - Prif Weithredwr Dros Dro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dr Peter Higson - Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith Simon Dean, Prif Weithredwr Dros Dro a Dr Peter Higson, Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, fel rhan o'r ymchwiliad i lywodraethu byrddau iechyd.

3.2 Cytunodd Simon Dean i anfon rhagor o wybodaeth am:

·       Cydleoli ar draws ardal y Bwrdd mewn perthynas â gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau.

·       Meysydd penodol a nodwyd ynglŷn â gallu'r tîm anweithredol a sut y mae'r Bwrdd yn bwriadu gwella hyn

·       Ffigurau cyfredol sy'n dangos presenoldeb yng nghyfarfodydd y Bwrdd

·       Yn dilyn y cyfarfod o'r Bwrdd sydd ar ddod, nodyn ar y penderfyniad a wnaed i gydlynu'r strwythur pwyllgorau presennol

·       Cyfanswm costau'r cynghorwyr annibynnol a benodwyd i gynorthwyo'r Bwrdd hyd yma a gwerthusiad o'u defnydd

·       Y cynnydd mewn gwasanaethau mamolaeth a ddarperir yn Ysbyty'r Countess of Chester

·       Y diweddaraf am gynigion y Bwrdd ar gyfer Gofal Sylfaenol

·       Cadarnhad ynghylch a gafodd Adroddiad Holden ei rannu â Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

·       Sut y mae'r Bwrdd wedi gwella ei weithdrefn trin cwynion a sut mae'n tracio cwynion ar ôl iddynt gyrraedd y system gan gynnwys cwynion hir sefydlog ac a fydd y rhain wedi'u cwblhau cyn diwedd mis Mawrth 2016

·       Beth yw'r broses o fewn y Bwrdd Iechyd ynghylch trin adroddiadau CIC

 


Cyfarfod: 10/11/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau’r dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 10/11/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru

PAC(4)-30-15 Papur 1

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Dr Kate Chamberlain - Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Alun Jones - Cyfarwyddwr Arolygu, Rheoleiddio ac Archwilio, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith Dr Kate Chamberlain, Prif Weithredwr, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Alun Jones, Cyfarwyddwr Arolygu, Rheoleiddio ac Ymchwilio, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, fel rhan o’r ymchwiliad i lywodraethu byrddau iechyd.

3.2 Cytunodd Dr Chamberlain i anfon y wybodaeth / eglurhad ychwanegol a ganlyn ar:

·       Nifer yr adroddiadau a dderbyniodd AGIC gan Gynghorau Iechyd Cymuned yn rhanbarth Gogledd Cymru ynghylch y 39 o ymweliadau a wnaed yn BIPBC;

·       A gafodd gohebiaeth Weinidogol mewn cysylltiad â’r pryderon a godwyd ynghylch ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd ei rhannu gyda AGIC;

·       Nifer yr adolygwyr lleyg gwirfoddol a recriwtiwyd yn ddiweddar gan AGIC;

·       Arbenigedd a sgiliau aelodau’r Bwrdd Cynghori, a

·       Dadansoddiad, yn ôl mis, o nifer yr adroddiadau nad oedd yn cyrraedd y dyddiad cyhoeddi targed o uchafswm o dri mis yn dilyn yr arolygiad.

 


Cyfarfod: 23/06/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law am lywodraethu byrddau iechyd yn y cyfarfod ar 16 Mehefin.

5.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at y Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn am ragor o wybodaeth am nifer o faterion a nodwyd gan yr Aelodau. Ar ol cael y wybodaeth hon, bydd y clercod yn paratoi adroddiad drafft ar lywodraethu byrddau iechyd ac yn nodi'r problemau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fel astudiaeth achos.

 


Cyfarfod: 16/06/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru

PAC(4)-17-15 Papur 1 - Adroddiad ar Ymyrraeth Benodol

PAC(4)-17-15 Papur 2 - Siartiau Strwythur GIG Cymru

 

Dr Andrew Goodall - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru

Joanna Jordan - Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol a Phartneriaethau, Llywodraeth Cymru

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru a Joanna Jordan, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol a Phartneriaethau, Llywodraeth Cymru, fel rhan o'i ymchwiliad i Lywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru.

4.2 Cytunodd Dr Goodall i:

·       gadarnhau amseriad adroddiad Capita ar gynllunio ariannol, pan fyddai’r Bwrdd yn trafod ei ymateb dros dro.

·       darparu nodyn o'r holl ddigwyddiadau difrifol yn deillio o lefel nyrsys / ward yn ystod y deuddeg mis diwethaf ledled Cymru.

·       darparu nodyn o aelodau annibynnol presennol  Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a'u sgiliau a’r profiad o recriwtio pobl o gefndiroedd ariannol / masnachol.

·       darparu nodyn ar gydymffurfio â’r Polisi Disgyblu Cymru Gyfan (a chopi o'r polisi).

·       anfon copi o'r adroddiad gan y Gymdeithas Frenhinol y Seiciatryddion a'r camau a gymerwyd.

·       darparu nodyn ar agweddau gweithredol y gwasanaeth y tu allan i oriau.

 

 


Cyfarfod: 16/06/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru: Ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

7.1 Oherwydd bod amser yn brin, ni chyrhaeddwyd yr eitem hon.

 


Cyfarfod: 09/06/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru

PAC(4)-16-15 Papur 2

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd yr aelodau y llythyr a gafwyd gan Dr Peter Higson (4 Mehefin) ynglŷn â gohirio'r cam o anfon yr adroddiad ar statws uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr at y Pwyllgor, a'r cyhoeddiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (8 Mehefin) bod mesurau arbennig wedi cael eu gosod ar y bwrdd iechyd fel rhan o Fframwaith Uwchgyfeirio GIG Cymru.

 


Cyfarfod: 05/05/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru: Memorandwm Archwilydd Cyffredinol Cymru a thystiolaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

PAC(4)-12-15 Papur 3

PAC(4)-12-15 Papur 4

PAC(4)-12-15 Papur 5

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Bu’r Aelodau yn trafod Memorandwm Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Lywodraethu’r GIG.

5.2 Trafododd yr Aelodau’r wybodaeth ychwanegol a gafwyd gan Dr Peter Higson, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dilyn ei ymddangosiad yn y Pwyllgor ar 24 Mawrth.

5.3 Gofynnodd yr Aelodau i’r Clercod baratoi adroddiad drafft i’w ystyried.

 


Cyfarfod: 03/03/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1     Ystyriodd y Pwyllgor lythyr oddi wrth yr Athro June Andrews a Mark Butler, a chytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu i fynegi awydd y Pwyllgor iddi ddod i gyfarfod yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 27/01/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Llywodraethiant Bwrdd Iechyd GIG Cymru: Llythyr gan William Powell AC, Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 13/01/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Llywodraethiant Bwrdd Iechyd GIG Cymru: Llythyr gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru (9 Rhagfyr 2014)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 09/12/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Llywodraethu’r GIG: Tystiolaeth gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru

PAC(4)-32-14 papur 4

Nodyn Briffio

 

Sarah Rochira – Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

 

7.2 Cytunodd y Comisiynydd i ddarparu’r wybodaeth a ganlyn:

 

·         Y 12 dangosydd perfformiad allweddol y mae’r Comisiynydd wedi’u datblygu mewn perthynas â phobl hŷn.

·         Gwybodaeth am y pryderon a’r materion allweddol y mae’r Comisiynydd wedi’u nodi o ran y Papur Gwyrdd ar Lywodraethu ac Ansawdd y GIG.

 


Cyfarfod: 09/12/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Llywodraethu’r GIG

PAC(4)-32-14 papur 3

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Ystyriodd y Pwyllgor bapur ar y gwaith dilynol ar Lywodraethu’r GIG.

 


Cyfarfod: 25/11/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Llywodraethiant Byrddau Iechyd GIG Cymru: Llythyr gan Dr Andrew Goodall (10 Tachwedd 2014)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 04/11/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru

Yr Athro Andrew Davies – Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Paul Roberts - Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Rory Farrelly – Cyfarwyddwr Nyrsio, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Hamish Laing - Cyfarwyddwr Meddygol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

 

,

 

Cofnodion:

4.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar yr Athro Andrew Davies, Cadeirydd; Paul Roberts, Prif Weithredwr; Rory Farrelly, Cyfarwyddwr Nyrsio a Phrofiad y Claf; a, Hamish Laing, Cyfarwyddwr Meddygol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, ynghylch llywodraethu byrddau iechyd GIG Cymru.

 


Cyfarfod: 04/11/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru, yn gofyn am eglurhad ynghylch dosbarthiad yr adnoddau ariannol ychwanegol yn ystod y flwyddyn ar gyfer byrddau iechyd yn 2014-15.

 


Cyfarfod: 04/11/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru

PAC(4)-27-14 Papur 1

PAC(4)-27-14 Papur 2

PAC(4)-27-14 Papur 3

Briff Ymchwil

 

Dr Andrew Goodall - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru, Llywodraeth Cymru

Simon Dean – Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru, Llywodraeth Cymru

Ruth Hussey - Prif Swyddog Meddygol, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru; Simon Dean, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru; a, Dr Ruth Hussey, Prif Swyddog Meddygol, Llywodraeth Cymru, ynghylch llywodraethu byrddau iechyd GIG Cymru, yn benodol ar faterion yn ymwneud â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

 

3.2 Datganodd Dr Hussey fuddiant am ei bod yn perthyn i Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

 

3.3 Cytunodd Dr Goodall i anfon manylion am gostau ariannol darparu cefnogaeth ychwanegol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gan gynnwys defnyddio meddygon locwm a nyrsys asiantaeth, ac i anfon enwau'r holl aelodau cyfetholedig ar y bwrdd ynghyd â manylion am eu sgiliau a'u pecynnau tâl (os yn briodol). Cytunodd hefyd i ddarparu rhagor o fanylion ac amserlen ar y Fframwaith Safonau Iechyd ar gyfer Papur Gwyrdd GIG Cymru a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 3 Tachwedd 2014.

 

3.4 Cytunodd Dr Goodall i ystyried cyhoeddi lefel yr ymyrraeth ym mhob bwrdd iechyd yn fwy cyhoeddus, efallai ar wefan Fy Ngwasanaeth Iechyd Lleol.