Cyfarfodydd

Polisi y Sector Economaidd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 08/10/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

Sectorau Blaenoriaethol Economaidd - Craffu ar Gadeiryddion y Paneli Sector - Panel 2

David Joyce, Cadeirydd y Panel Sector Adeiladu

Roger Evans, Dirprwy Gadeirydd y Panel Sector Deunyddiau a 

                         Gweithgynhyrchu Uwch

Cofnodion:

3.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.


Cyfarfod: 08/10/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Sectorau Blaenoriaethol Economaidd - Craffu ar Gadeiryddion y Paneli Sector - Panel 3

David Williams, Cadeirydd y Panel Sector Ynni a’r Amgylchedd

Dr Grahame Guilford, Dirprwy Gadeirydd y Panel Sector Gwyddorau

                                  Bywyd

Cofnodion:

4.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.


Cyfarfod: 08/10/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Sectorau Blaenoriaethol Economaidd - Craffu ar Gadeiryddion y Paneli Sector - Panel 1

Ron Jones, Cadeirydd y Panel Sector Creadigol

Chris Nott, Cadeirydd y Panel Sector Gwasanaethau Ariannol a

                  Phroffesiynol
David Jones, Dirprwy Gadeirydd y Panel Sector TGCh

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.


Cyfarfod: 20/02/2013 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Polisi y Sector Economaidd - Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog

 

Edwina Hart AC, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

 

Jeff Collins, Cyfarwyddwr Cyflawni, yr Adran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

 

Tracey Burke, Cyfarwyddwr, Strategaeth, yr Adran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

 

3.1. Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog a’i swyddogion i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y Gweinidog a’i swyddogion.

 

Camau i’w cymryd

Cytunodd y Gweinidog i roi gwybodaeth ychwanegol i’r Pwyllgor am y materion a ganlyn:

·         Yr amserlen ar gyfer cyfarfodydd panelau’r sectorau sy’n dangos faint o weithiau y maent wedi cwrdd hyd yn hyn a pha mor aml y byddant yn cwrdd yn y dyfodol.

·         Eglurhad o’r newidiadau i gyllideb yr Adran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon a’r allbwn a gafwyd o’r gyllideb sectorau a chyflenwi busnes yn 2012/13.

·         Y datganiad a gyhoeddwyd ar Busnes Cymru ac unrhyw wybodaeth ychwanegol arall am y rhaglen.

·         Gwybodaeth am beth yw dangosyddion perfformiad allweddol yr Adran ar gyfer y sectorau ar ôl yr arolwg presennol.

·         Ffigurau cywir ar fewnfuddsoddi yng Nghymru.

·         Rhagor o wybodaeth am y strategaeth brandio ar gyfer y sectorau.