Cyfarfodydd
Committee Procedures for Consideration of Petitions
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 02/02/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
Gweithredu ar Ddeisebau Agored ar ddiwedd y Cynulliad Presennol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (5/1)
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor mewn egwyddor y byddai deisebau'n cael eu gadael yn
agored i'r Pwyllgor newydd eu trafod yn y Pumed Cynulliad.
Hefyd, cytunodd y Pwyllgor i ystyried rhestr o ddeisebau segur, gyda'r
posibilrwydd o'u cau mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Cyfarfod: 07/10/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
5 Gweithdrefnau’r Pwyllgor ar gyfer Trafod Deisebau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 6 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (5/1)
Cofnodion:
Ystyriodd y
Pwyllgor weithdrefnau ar gyfer ystyried deisebau.