Cyfarfodydd

Cynigion ar gyfer deddfwriaeth ar iechyd y cyhoedd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 06/11/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Y Papur Gwyn ar Iechyd y Cyhoedd: Yn dilyn o 8 Hydref 2014

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.5a Nododd y Pwyllgor yr ymatebion gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Prif Swyddog Meddygol mewn perthynas â'r brîff ffeithiol ar y Papur Gwyn ar Iechyd Cyhoeddus.

 


Cyfarfod: 08/10/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Sesiwn friffio ffeithiol ar y Papur Gwyn ar Iechyd y Cyhoedd

Dr. Ruth Hussey, Prif Swyddog Meddygol

Chris Tudor-Smith, Uwch-swyddog Cyfrifol

Tracey Breheny, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Camddefnyddio Sylweddau, Busnes y Llywodraeth a Chorfforaethol

Sue Bowker, Pennaeth Cangen Polisi Tybaco

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio ffeithiol gan Lywodraeth Cymru ar y Papur Gwyn ar Iechyd y Cyhoedd.

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Prif Swyddog Meddygol i ofyn am wybodaeth am nifer y plant a phobl ifanc sy'n defnyddio sigaréts electronig a chynhyrchion tybaco traddodiadol.

3.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am eglurhad ynghylch a oes gan y Cynulliad gymhwysedd deddfwriaethol o ran isafswm prisio uned, yn ei farn ef, ac am unrhyw drafodaethau y mae'r Gweinidog neu ei swyddogion wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ar y mater hwn.