Cyfarfodydd

Craffu ar waith y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 18/11/2015 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Craffu ar waith y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd: ymateb gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

E&S(4)-32-15 Papur 9

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 14/10/2015 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Sesiwn graffu gyffredinol: Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

 

Rebecca Evans AM, Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Andrew Slade, Cyfarwyddwr, Amaethyddiaeth, Bwyd a Môr

Christianne Glossop, Y Prif Swyddog Milfeddygol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

 

3.1 Datgan buddiannau: Nododd William Powell ei fod yn bartner mewn busnes fferm sy'n cael taliadau o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin, ac mae'n aelod o Glastir Uwch.

 

3.2 Ymatebodd y Dirprwy Weinidog a swyddogion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

 

3.3 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i ddarparu'r canlynol:

 

  • Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru: Darparu manylion am gylch gorchwyl y Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru, unwaith y byddant ar gael.

 

  • Adolygiad annibynnol o Glastir Uwch: Nodyn ar y cynnydd mewn perthynas â'r 10 argymhelliad a wnaed yn dilyn y gwerthusiad annibynnol o Glastir Uwch.

 

  • Deddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014: Nodyn ar effaith y Ddeddf Rheoli Ceffylau ar les ceffylau.

 

  • Lles anifeiliaid: Cadarnhau nifer y carcasau moch daear y cafodd Llywodraeth Cymru wybod amdanynt mewn ymateb i'w harolwg o foch daear marw a nifer y moch daear sydd â thwbercwlosis, unwaith y bydd y wybodaeth hon ar gael.

 


Cyfarfod: 20/05/2015 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd: Craffu ar faterion amaethyddol

Rebecca Evans AM, Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Andrew Slade, Cyfarwyddwr, Amaeth, Bwyd â’r Môr  
Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol

Dogfennau ategol:

  • Briff y Gwasanaeth Ymchwil

Cofnodion:

Atebodd y Dirprwy Weinidog a swyddogion gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor.

 

Fe wnaeth y Dirprwy Weinidog gytuno i ddarparu nodyn am:

 

·         yr argymhellion yn ‘Hwyluso’r Dref’ sydd heb eu cwblhau; a

·         cynnydd mewn perthynas â sefydlu panel adborth ar gyfer ffermwyr ifanc.

 


Cyfarfod: 30/04/2015 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Polisi amaethyddol - blaenoriaethau ar gyfer 2015-16: Tystiolaeth gan randdeilaid

Tim Bevan, Cynghorydd busnesau ffermio, Cymdeithas y Pridd

Arfon Williams, Rheolwr Cefn Gwlad, RSPB

Tony Little, Swyddog Prosiect, Canolfan Organig Cymru

Haydn Evans, Grŵp Organig Cymru

Keri Davies, Grŵp Organig Cymru

 

E&S(4)-12-15 Papur 4

E&S(4)-12-15 Papur 5

E&S(4)-12-15 Papur 6

E&S(4)-12-15 Papur 7

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Fe wnaeth y tystion ymateb i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 30/04/2015 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

Polisi amaethyddol - blaenoriaethau ar gyfer 2015-16: Tystiolaeth gan randdeiliaid

Ceri Davies, Cadeirydd Pwyllgor Materion Gwledig, CFfI Cymru

Carys Vaughan, Is-Gadeirydd Pwyllgor Materion Gwledig, CFfI Cymru

Cynrychiolydd o Ffermwyr Dyfodol Cymru (I’w gadarnhau)

Cofnodion:

Fe wnaeth y tystion ymateb i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 30/04/2015 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Polisi amaethyddol - blaenoriaethau ar gyfer 2015-16: Tystiolaeth gan randdeiliaid

Stephen James, Llywydd, NFU Cymru

Dylan Morgan, Dirprwy Gyfarwyddwr a Phennaeth Polisi, NFU Cymru

Emyr Jones, Llywydd, Undeb Amaethwyr Cymru

Nick Fenwick, Cyfarwyddwr Polisi Amaethyddol, Undeb Amaethwyr Cymru

Dennis Matheson, Cadeirydd Cymdeithas Ffermwyr Tenant Cymru

 

E&S(4)-12-15 Papur 1

E&S(4)-12-15 Papur 2

E&S(4)-12-15 Papur 3

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Fe wnaeth y tystion ymateb i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.


Cyfarfod: 22/04/2015 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Craffu ariannol – Portffolio ffermio a bwyd: ymateb gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth.


Cyfarfod: 26/03/2015 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

E&S(4)-10-15 Papur 3

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth.


Cyfarfod: 04/03/2015 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Craffu ar waith y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Rebecca Evans AC, Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Andrew Slade, Cyfarwyddwr Amaeth, Bwyd a'r Môr

Graham Rees, Dirprwy Gyfarwyddwr, Môr a Physgodfeydd

Tony Clark, Pennaeth Cyllid, Adnoddau Naturiol

 

E&S(4)-07-15 Papur 2

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd y Gweinidog a’i swyddogion gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

Fe wnaeth y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd gytuno i ddarparu rhagor o wybodaeth am sicrwydd mewn perthynas â tharddiad porthiant ar gyfer ffermydd llaeth mawr.

 


Cyfarfod: 23/10/2014 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Craffu ar waith y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd: Rhagor o wybodaeth gan y Dirprwy Weinidog yn dilyn cyfarfod 17 Medi

E&S(4)-25-14 papur 7

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.6 Nododd y Pwyllgor y papur.

 


Cyfarfod: 17/09/2014 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Craffu ar waith y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

E&S(4)-20-14 papur 3

 

Rebecca Evans AC, y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Andrew Slade, Cyfarwyddwr, Amaeth, Bwyd a'r Môr

Christianne Glossop, Y Prif Swyddog Milfeddygol

         

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Ymatebodd y Dirprwy Weinidog a swyddogion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

6.2 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i rannu adroddiad Cymorth TB gyda’r Pwyllgor.

 

6.3 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor i egluro safbwynt y Llywodraeth ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) mewn perthynas â’r gofynion Gwyrddu newydd.

 

6.4 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y sector cynnyrch llaeth.