Cyfarfodydd
Monthly Finance Report
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 19/01/2015 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 9)
Adroddiad Rheolaeth Ariannol (Rhagfyr 2014) ac Aroddiad Rheolaeth Ariannol a'r wybodaeth ddiweddaraf gan y Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Amlinellodd Claire Clancy
fod y Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau yn rheoli buddsoddiadau a phrosiectau sydd ar
y gweill gyda'r bwriad o gyflawni tanwariant rhagamcanol o £50k erbyn diwedd y
flwyddyn. Bu Eric Gregory, un o'r Cynghorwyr Annibynnol a benodwyd, yn
bresennol yng nghyfarfod y Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau i wneud gwaith craffu,
yn arbennig ar gam nesaf y prosiect Adnoddau Dynol / cyflogres.
Yn dilyn trafodaethau'r
Bwrdd Rheoli ar gynllunio capasiti ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr, roedd y
ceisiadau awdurdodi recriwtio wedi dechrau cyrraedd y Bwrdd Buddsoddi ac
Adnoddau. Roedd effaith y rhain yn cael ei adlewyrchu yn yr adroddiad Rheolaeth
Ariannol.
Cyfarfod: 20/10/2014 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 7)
Adroddiad Rheoli Ariannol Medi 2014 - Papur 4
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5
Cofnodion:
Rhoddodd Claire Clancy y wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn
cyfarfod y Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau ar 20 Hydref, ac amlinellodd y sefyllfa
ariannol bresennol a’r rhagamcan o’r gyllideb sydd ar gael ar gyfer buddsoddi,
sef oddeutu £8-900,000. Gofynnwyd i Dave Tosh a Mike Snook adolygu eu
blaenraglenni gwaith o ran TGCh ac Ystadau, i archwilio’r hyn y gellid ei ddwyn
i’r flwyddyn ariannol gyfredol, er mwyn lleihau’r pwysau ar gyllidebau yn y
dyfodol. Byddai’r Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau yn adolygu’r sefyllfa ariannol
unwaith eto ym mis Tachwedd, ac yn canfod pa brosiectau neu eitemau buddsoddi a
ellid, yn wir, eu dwyn ymlaen.
Cyfarfod: 15/09/2014 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 11)
Yr Adroddiad Misol ar Gyllid (Awst 2014) - Papur 10
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 8
Cyfarfod: 14/07/2014 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 7)
Adroddiad ariannol misol (a ddosbarthwyd drwy e-bost ar 2 Gorffennaf)
Llafar
Cofnodion:
Darparodd Nicola Callow ddiweddariad llafar ar yr
adroddiad ariannol hyd at ddiwedd mis Mehefin 2014. Y prif uchafbwynt oedd yr
amcan o danwariant ar hyn o bryd ac roedd, felly, yn hanfodol bod y meysydd
gwasanaeth yn rhoi arwydd clir o wariant a blaenoriaethau, fel bod modd i’r
Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau wneud y defnydd mwyaf effeithiol o’r gyllideb sydd
ar gael. Gofynnwyd i aelodau’r Bwrdd Rheoli sicrhau bod yr Adran Gyllid yn
ymwybodol o unrhyw gynlluniau neu gynigion y gellid eu rhoi ar waith ar fyr
rybudd.
Rhoddodd Claire Clancy wybod i’r Bwrdd ei bod wedi
llofnodi’r Adroddiad Blynyddol a’r Datganiad o Gyfrifon (2013-14) ac y byddai’r
Archwilydd Cyffredinol yn ei lofnodi y diwrnod canlynol. Yna byddai’r adroddiad
yn cael ei osod gerbron y Cynulliad.