Cyfarfodydd
Arolygiad Staff Comisiwn y Senedd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 19/06/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Canlyniadau’r Arolwg Staff Blynyddol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
- Cyfyngedig 3
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr yr adroddiad ar Arolwg Staff Blynyddol Comisiwn y
Senedd ar gyfer y flwyddyn 2022/23.
Cyfarfod: 20/06/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Canlyniadau’r arolwg staff blynyddol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 6
- Cyfyngedig 7
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr
ganlyniadau’r arolwg blynyddol o staff y Comisiwn, gan gytuno i rannu'r
adroddiad cryno â’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, ac i
gyhoeddi'r adroddiad ar y canlyniadau, yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor
hwnnw.
Cyfarfod: 15/03/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Canlyniadau Arolwg Staff y Comisiwn
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 10
- Cyfyngedig 11
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr
yr adroddiad Arolwg Staff, sef y cyntaf a gynhaliwyd trwy arbenigwr arolwg
annibynnol. Gwnaethant gytuno i gyhoeddi’r adroddiad cryno.
Cyfarfod: 13/11/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 5)
Arolwg Staff 2017
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 14
Cofnodion:
Cyflwynodd Rhodri Wyn Jones ganlyniadau'r arolwg
staff a gynhaliwyd ym mis Mai a'r cynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r prif
faterion a'r themâu cylchol. Roedd 82 y cant o'r staff wedi ymateb, a oedd yn
galluogi'r Cynulliad i feincnodi yn erbyn sefydliadau eraill a chymharu adborth
o flynyddoedd blaenorol.
Mae pob thema yn parhau i fod yn gadarnhaol i
raddau helaeth, a phob un ond un maes wedi gweld cynnydd ers yr arolwg a
gynhaliwyd yn 2015 - sy'n cymharu'n ffafriol â sefydliadau allanol ar draws
Cymru. Cafwyd y gwelliant mwyaf yn y maes
arweinyddiaeth a rheoli newid. Yn gyffredinol, roedd tri maes i
ganolbwyntio arnynt, ac ers cyhoeddi'r arolwg, mae Penaethiaid hefyd wedi
dadansoddi'r canlyniadau ar gyfer eu maes Gwasanaeth ac wedi paratoi cynlluniau
gweithredu gwasanaeth penodol.
Trafododd y Bwrdd y canfyddiadau, gan gytuno ar yr
angen i gyfleu bod y Bwrdd yn gwrando, y gellid ei lunio o gwmpas dull 'fe
ddywedoch chi - fe wnaethom ni', ac yn amlinellu cyfres o ymrwymiadau i'w
cyflawni cyn yr arolwg nesaf, gan fod yn realistig, hefyd, am yr hyn sy'n
gyrraeddadwy.
Cyfarfod: 20/07/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 7)
Canlyniadau'r Arolwg Staff
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 17
Cofnodion:
Trafododd y Bwrdd ganlyniadau'r chweched arolwg staff gan drafod cynlluniau
i ymateb i'r canfyddiadau. Bu'n arolwg cadarnhaol o ystyried y pwysau sydd ar
staff o fewn yr hinsawdd o newid cyfansoddiadol sylweddol ac ansicrwydd. Roedd
arolwg 2017 yn seiliedig ar gwestiynau a ddewiswyd o Arolwg Pobl y Gwasanaeth
Sifil ac yn union yr un fath ag arolygon 2016 a 2015 er mwyn cymharu dros amser
a meincnodi â sefydliadau eraill y sector cyhoeddus. Roedd yr uchafbwyntiau yn
cynnwys cyfradd ymateb o 82% a sgôr mynegai ymgysylltu o 74%, y ddau yn
sylweddol uwch na sgorau'r Gwasanaeth Sifil o 65% a 59% yn y drefn honno.
Byddai'r adroddiad yn cael ei gyflwyno'n fewnol i staff ar 21 Gorffennaf a
byddai adroddiadau data yn benodol ar gyfer gwasanaethau ar gael i Benaethiaid
yn fuan.
Cyfarfod: 14/04/2016 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 6)
Arolwg Staff 2016
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 20
Cofnodion:
Bu’r
Bwrdd yn trafod y trefniadau ar gyfer yr arolwg staff nesaf. Roedd yr arolwg yn
effeithiol y llynedd gyda’r gyfradd ymateb yn uchel iawn, sef 93%. Cytunodd y
Bwrdd ar yr argymhellion:
·
eleni,
byddai’r arolwg yn cael ei gynnal dros gyfnod o bedair wythnos o ddydd Llun 16
Mai tan ddydd Gwener 10 Mehefin; a
·
byddai’r
cwestiynau, y cynnwys a’r fformat adrodd yn aros yr un fath er mwyn ein
galluogi ni i’w gymharu’n uniongyrchol ag arolwg y llynedd, a byddai gwybodaeth
ychwanegol gyda themâu’r is-benawdau er mwyn darparu eglurder a chyd-destun i
arolygon yn y dyfodol.
Cytunwyd
y byddai dadansoddiad o ganlyniadau’r arolwg yn cael ei gyflwyno i’r Comisiwn
yn yr hydref.
Cafodd
y Bwrdd y newyddion diweddaraf am gynnydd o ran yr asesiad Buddsoddwyr mewn
Pobl, a oedd yn mynd yn dda er nad oes unrhyw adborth ffurfiol wedi dod i law.
Mae’r cyfweliadau â staff i ddod i ben ar 22 Ebrill.
Cyfarfod: 06/07/2015 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 6)
Arolwg Staff 2015
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 23
Cofnodion:
Ymunodd Rhodri Wyn Jones â Leanne ac Elin i drafod canlyniadau’r arolwg
staff ar gyfer 2015 a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
Roedd y gyfradd ymateb wedi bod yn uchel, gyda chanlyniadau da iawn mewn perthynas
â’r mynegai ymgysylltu, gan arwain at y sgôr uchaf yng Nghymru o gymharu â’r
sefydliadau yr ydym yn cael ein meincnodi yn eu herbyn. Ar ben hynny, cafwyd
rhai sylwadau cadarnhaol. Yn gyffredinol, mae’r Cynulliad yn cymharu’n ffafriol
â’r wybodaeth meincnodi.
Roedd yna feysydd a oedd yn dangos bod angen gwaith pellach, gan gynnwys
pwysau ar gydbwysedd gwaith/bywyd. Byddai’r Bwrdd Rheoli yn ystyried yr
adroddiad eto yn y digwyddiad ‘cwrdd i ffwrdd’ ar 13 Gorffennaf.
Diolchodd y Bwrdd i’r tîm am y gwaith a wnaed i gynhyrchu’r arolwg a
dadansoddi’r canlyniadau.
Cyfarfod: 15/09/2014 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 10)
Arolwg staff - ar lafar - papur 9 (e-bost) er gwybodaeth
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 26
Cofnodion:
Croesawyd Lowri Williams (Pennaeth Adnoddau Dynol) i'r cyfarfod a
chyflwynodd argymhellion ar gyfer yr arolwg staff nesaf. Cawsant eu trafod gan y Bwrdd wedyn.
Cynhaliwyd yr arolwg diwethaf ym mis Gorffennaf 2013, a chyhoeddwyd y
canlyniadau fis Hydref 2013. Roedd yr arolwg hwn wedi canolbwyntio ar 'faterion
moesol, cymhelliant a pharch'. Roedd yn
bwysig cynnwys cymaryddion priodol yn yr arolygon yn y dyfodol a'u bod yn cael
eu hanfon ar adeg addas o ran anghenion busnes. Cynigiwyd y dylai'r arolwg
nesaf fod yn fyrrach ac y dylai gynnwys llai o gwestiynau. Dylai ganolbwyntio
ar ymgysylltiad staff a rhoi cyfle i staff ychwanegu sylwadau.
Roedd y Bwrdd o'r farn bod hwn yn amser da i resymoli a gwella cyfathrebu
mewnol gan gyflwyno'r arolwg fel rhan o becyn cyfathrebu dwyffordd â staff.
Derbyniodd y Bwrdd ar yr argymhellion a chytunodd y dylid cynnal yr arolwg
nesaf yn ystod gwanwyn 2015.
Cam i’w gymryd: Lowri Williams i archwilio'r posibilrwydd o gyflwyno fforwm staff, a
fyddai'n gysylltiedig â chyfathrebu mewnol, ac i baratoi papur ar gyfer y Bwrdd
Rheoli cyn cyflwyno'r wybodaeth yng nghyfarfod nesaf yr Undeb Llafur.