Cyfarfodydd

Arolygiad Staff Comisiwn y Senedd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/06/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)

Canlyniadau’r Arolwg Staff Blynyddol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2
  • Cyfyngedig 3

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr yr adroddiad ar Arolwg Staff Blynyddol Comisiwn y Senedd ar gyfer y flwyddyn 2022/23.


Cyfarfod: 20/06/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)

Canlyniadau’r arolwg staff blynyddol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 6
  • Cyfyngedig 7

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr ganlyniadau’r arolwg blynyddol o staff y Comisiwn, gan gytuno i rannu'r adroddiad cryno â’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, ac i gyhoeddi'r adroddiad ar y canlyniadau, yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor hwnnw.

 


Cyfarfod: 15/03/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)

Canlyniadau Arolwg Staff y Comisiwn

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 10
  • Cyfyngedig 11

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr yr adroddiad Arolwg Staff, sef y cyntaf a gynhaliwyd trwy arbenigwr arolwg annibynnol. Gwnaethant gytuno i gyhoeddi’r adroddiad cryno.


Cyfarfod: 13/11/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 5)

Arolwg Staff 2017

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 14

Cofnodion:

Cyflwynodd Rhodri Wyn Jones ganlyniadau'r arolwg staff a gynhaliwyd ym mis Mai a'r cynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r prif faterion a'r themâu cylchol. Roedd 82 y cant o'r staff wedi ymateb, a oedd yn galluogi'r Cynulliad i feincnodi yn erbyn sefydliadau eraill a chymharu adborth o flynyddoedd blaenorol.

Mae pob thema yn parhau i fod yn gadarnhaol i raddau helaeth, a phob un ond un maes wedi gweld cynnydd ers yr arolwg a gynhaliwyd yn 2015 - sy'n cymharu'n ffafriol â sefydliadau allanol ar draws Cymru. Cafwyd y gwelliant mwyaf yn y maes  arweinyddiaeth a rheoli newid. Yn gyffredinol, roedd tri maes i ganolbwyntio arnynt, ac ers cyhoeddi'r arolwg, mae Penaethiaid hefyd wedi dadansoddi'r canlyniadau ar gyfer eu maes Gwasanaeth ac wedi paratoi cynlluniau gweithredu gwasanaeth penodol.

Trafododd y Bwrdd y canfyddiadau, gan gytuno ar yr angen i gyfleu bod y Bwrdd yn gwrando, y gellid ei lunio o gwmpas dull 'fe ddywedoch chi - fe wnaethom ni', ac yn amlinellu cyfres o ymrwymiadau i'w cyflawni cyn yr arolwg nesaf, gan fod yn realistig, hefyd, am yr hyn sy'n gyrraeddadwy.

 

 


Cyfarfod: 20/07/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 7)

Canlyniadau'r Arolwg Staff

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 17

Cofnodion:

Trafododd y Bwrdd ganlyniadau'r chweched arolwg staff gan drafod cynlluniau i ymateb i'r canfyddiadau. Bu'n arolwg cadarnhaol o ystyried y pwysau sydd ar staff o fewn yr hinsawdd o newid cyfansoddiadol sylweddol ac ansicrwydd. Roedd arolwg 2017 yn seiliedig ar gwestiynau a ddewiswyd o Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil ac yn union yr un fath ag arolygon 2016 a 2015 er mwyn cymharu dros amser a meincnodi â sefydliadau eraill y sector cyhoeddus. Roedd yr uchafbwyntiau yn cynnwys cyfradd ymateb o 82% a sgôr mynegai ymgysylltu o 74%, y ddau yn sylweddol uwch na sgorau'r Gwasanaeth Sifil o 65% a 59% yn y drefn honno.

Byddai'r adroddiad yn cael ei gyflwyno'n fewnol i staff ar 21 Gorffennaf a byddai adroddiadau data yn benodol ar gyfer gwasanaethau ar gael i Benaethiaid yn fuan.

 

 


Cyfarfod: 14/04/2016 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 6)

Arolwg Staff 2016

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 20

Cofnodion:

Bu’r Bwrdd yn trafod y trefniadau ar gyfer yr arolwg staff nesaf. Roedd yr arolwg yn effeithiol y llynedd gyda’r gyfradd ymateb yn uchel iawn, sef 93%. Cytunodd y Bwrdd ar yr argymhellion:

·         eleni, byddai’r arolwg yn cael ei gynnal dros gyfnod o bedair wythnos o ddydd Llun 16 Mai tan ddydd Gwener 10 Mehefin; a

·         byddai’r cwestiynau, y cynnwys a’r fformat adrodd yn aros yr un fath er mwyn ein galluogi ni i’w gymharu’n uniongyrchol ag arolwg y llynedd, a byddai gwybodaeth ychwanegol gyda themâu’r is-benawdau er mwyn darparu eglurder a chyd-destun i arolygon yn y dyfodol.

Cytunwyd y byddai dadansoddiad o ganlyniadau’r arolwg yn cael ei gyflwyno i’r Comisiwn yn yr hydref.

Cafodd y Bwrdd y newyddion diweddaraf am gynnydd o ran yr asesiad Buddsoddwyr mewn Pobl, a oedd yn mynd yn dda er nad oes unrhyw adborth ffurfiol wedi dod i law. Mae’r cyfweliadau â staff i ddod i ben ar 22 Ebrill.


Cyfarfod: 06/07/2015 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 6)

Arolwg Staff 2015

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 23

Cofnodion:

Ymunodd Rhodri Wyn Jones â Leanne ac Elin i drafod canlyniadau’r arolwg staff ar gyfer 2015 a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

Roedd y gyfradd ymateb wedi bod yn uchel, gyda chanlyniadau da iawn mewn perthynas â’r mynegai ymgysylltu, gan arwain at y sgôr uchaf yng Nghymru o gymharu â’r sefydliadau yr ydym yn cael ein meincnodi yn eu herbyn. Ar ben hynny, cafwyd rhai sylwadau cadarnhaol. Yn gyffredinol, mae’r Cynulliad yn cymharu’n ffafriol â’r wybodaeth meincnodi.

Roedd yna feysydd a oedd yn dangos bod angen gwaith pellach, gan gynnwys pwysau ar gydbwysedd gwaith/bywyd. Byddai’r Bwrdd Rheoli yn ystyried yr adroddiad eto yn y digwyddiad ‘cwrdd i ffwrdd’ ar 13 Gorffennaf.

Diolchodd y Bwrdd i’r tîm am y gwaith a wnaed i gynhyrchu’r arolwg a dadansoddi’r canlyniadau.

 


Cyfarfod: 15/09/2014 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 10)

Arolwg staff - ar lafar - papur 9 (e-bost) er gwybodaeth

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 26

Cofnodion:

Croesawyd Lowri Williams (Pennaeth Adnoddau Dynol) i'r cyfarfod a chyflwynodd argymhellion ar gyfer yr arolwg staff nesaf.  Cawsant eu trafod gan y Bwrdd wedyn.

Cynhaliwyd yr arolwg diwethaf ym mis Gorffennaf 2013, a chyhoeddwyd y canlyniadau fis Hydref 2013. Roedd yr arolwg hwn wedi canolbwyntio ar 'faterion moesol, cymhelliant a pharch'.  Roedd yn bwysig cynnwys cymaryddion priodol yn yr arolygon yn y dyfodol a'u bod yn cael eu hanfon ar adeg addas o ran anghenion busnes. Cynigiwyd y dylai'r arolwg nesaf fod yn fyrrach ac y dylai gynnwys llai o gwestiynau. Dylai ganolbwyntio ar ymgysylltiad staff a rhoi cyfle i staff ychwanegu sylwadau.

Roedd y Bwrdd o'r farn bod hwn yn amser da i resymoli a gwella cyfathrebu mewnol gan gyflwyno'r arolwg fel rhan o becyn cyfathrebu dwyffordd â staff.

Derbyniodd y Bwrdd ar yr argymhellion a chytunodd y dylid cynnal yr arolwg nesaf yn ystod gwanwyn 2015.

Cam i’w gymryd: Lowri Williams i archwilio'r posibilrwydd o gyflwyno fforwm staff, a fyddai'n gysylltiedig â chyfathrebu mewnol, ac i baratoi papur ar gyfer y Bwrdd Rheoli cyn cyflwyno'r wybodaeth yng nghyfarfod nesaf yr Undeb Llafur.