Cyfarfodydd
Strategaeth Cyfryngau Cymdeithasol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 29/09/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Strategaeth Cyfryngau Cymdeithasol
papur 3
Cofnodion:
Trafododd y Comisiwn y papur
sy’n rhoi manylion am strategaeth y Cyfryngau Cymdeithasol, y polisi newydd
sy’n rheoli’r defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol a’r casgliadau’n dilyn y
cyfnod o dreialu trydar yn fyw, a gynhaliwyd cyn toriad yr haf.
Bwriad y polisi hwn yw sicrhau
bod y mecanweithiau priodol ar waith i reoli a monitro y defnydd effeithiol o
gyfryngau cymdeithasol ac i gefnogi, cynghori a hysbysu staff ar ei ddefnydd.
Mae’n diffinio’r cyd-destun lle dylid defnyddio cyfryngau cymdeithasol, yn
trafod y mathau o gynnwys sy’n briodol ar gyfer cyfryngau cymdeithasol, yn
amlinellu rôl y Rheolwr Cyfryngau Cymdeithasol wrth gynorthwyo defnyddwyr a
darparu cyngor llywodraethu ac yn mynd i’r afael â phob sianel a ddefnyddir,
gan gynnwys Facebook a Twitter.
Roedd Comisiynwyr yn pryderu y
dylai aelodau unigol o staff sy’n trydar ar ran y Cynulliad gael hyfforddiant a
gwybodaeth briodol a bod yr holl drydar yn llawn gwybodaeth ac yn amhleidiol.
Cawsant sicrwydd bod rheolaethau priodol ar waith a bod hyfforddiant a rhannu
arfer gorau yn digwydd.
Trafododd y Comisiynwyr
effaith y cyfryngau cymdeithasol fel rhan o sbectrwm o weithgareddau
ymgysylltu, nid rhywbeth a wneir ar wahân.
Gwnaethant nodi fod trydariadau’r Cynulliad yn fwy gwerthfawr pan
fyddant yn cysylltu â Senedd.tv a gwefannau defnyddiol eraill.
Bwriad polisi’r cyfryngau
cymdeithasol yw darparu fframwaith y gall pobl ei ddefnyddio fel man cychwyn.
Gofynnodd y Comisiynwyr i’r polisi gael ei wneud mor glir â phosibl a chytunwyd
y dylid ei gwblhau ac yna ei gyhoeddi.
Cyfarfod: 15/09/2014 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 6)
Strategaeth ar y Cyfryngau Cymdeithasol - Papur 4 + Papur 5 ac atodiadau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 4
- Cyfyngedig 5
Cofnodion:
Cyflwynodd Non Gwilym
ddwy eitem i'w trafod. Yr eitem gyntaf oedd Strategaeth Cyfryngau Cymdeithasol
y Cynulliad sy'n ehangu ar yr egwyddorion a nodir yn strategaeth
e-ddemocratiaeth 2010 y Cynulliad, a nododd sut y dylai'r Comisiwn ymgysylltu'n
ddigidol â phobl Cymru. Roedd yr ail
bapur yn ymdrin â'r adolygiad o'r cynllun i
drydar yn fyw, a oedd yn pwyso a mesur y cynllun i dreialu'r cynllun
gyda'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ym mis Mehefin.
Gwnaeth y Bwrdd Rheoli
argymhellion ynghylch y dogfennau drafft yn tanlinellu bod y gwaith hwn yn
helpu i lenwi bwlch y 'ddiffyg democrataidd'[1]. Roedd y Cynulliad yn arloesi ac yn arwain y
ffordd yn y maes hwn a dylid cynnwys cymaryddion â sefydliadau eraill yn y
ddogfen. Fodd bynnag, roedd yn bwysig tawelu ofnau'r Comisiwn ynglŷn â
thrydar yn fyw gan ofalu bod y goblygiadau'n glir a chan egluro beth yn union
oedd yn cael ei ddweud a'i wneud, gan gynnwys negeseuon trydar gan Aelodau'r
Cynulliad.
Byddai'r strategaeth cyfryngau cymdeithasol
yn cael ei chyflwyno i'r Comisiynwyr yn eu cyfarfod ar 29 Hydref.
Camau i’w cymryd:
·
Non Gwilym i grynhoi'r
strategaeth ar ffurf papur esboniadol ac atodiadau'n cyfeirio at y polisi a'r broses o werthuso'r cynllun i
drydar yn fyw;
·
Elisabeth Jones i
sicrhau bod y polisi'n gydnaws â'r polisi rhyddid gwybodaeth ac yn gyson â'r
Ddeddf Diogelu Data a Hawlfraint.
[1]"Diffyg democrataidd" yw'r term a ddefnyddiodd
y Llywydd, y Fonesig Rosemary Butler i ddisgrifio'r ffaith nad yw llawer o
sefydliadau'r cyfryngau yn y DU a Chymru yn rhoi'r sylw dyledus i waith y
Cynulliad, a'r gwahaniaethau mewn polisi cyhoeddus yng Nghymru o ganlyniad i
ddatganoli.