Cyfarfodydd
P-04-597 Diogelu dyfodol Draig Ffynci, Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 14/02/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-04-597 Diogelu dyfodol y Ddraig Ffynci, Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb gan fod cryn amser wedi mynd heibio ers
i’r deisebydd gysylltu ddiwethaf a'r ffaith bod y Cynulliad Cenedlaethol Cymru
yn cymryd camau i sefydlu senedd ieuenctid Cymru ar hyn o bryd.
Cyfarfod: 16/06/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-597 Diogelu dyfodol Draig Ffynci, Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 25 KB Gweld fel HTML (3/1) 10 KB
- 21.05.2015 Gohebiaeth – y Llywydd at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 1 MB
- 02.06.2015 Gohebiaeth – gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi i'r Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 197 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i:
- aros am farn y deisebydd cyn
penderfynu ar unrhyw gamau pellach; ac
- ysgrifennu at Gadeirydd y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn gofyn am wybodaeth am ymrwymiadau
a roddwyd gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi ar y mater hwn yn
ystod sesiwn dystiolaeth ddiweddar gyda'r Pwyllgor.
Cyfarfod: 24/02/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Trafod y sesiwn dystiolaeth a gynhaliwyd ar 3 Chwefror 2015 - P-04-597 Diogelu dyfodol y Ddraig Ffynci, Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 103 KB Gweld fel HTML (3/1) 10 KB
- Trawsgrifiad o’r sesiwn dystiolaeth, Eitem 3 PDF 104 KB Gweld fel HTML (3/2) 64 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor y sesiwn dystiolaeth gyda Phlant yng Nghymru a gynhaliwyd ar 3 Chwefror,
a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a Chomisiwn y Cynulliad i ofyn:
·
a oes
unrhyw gynnydd pellach wedi’i wneud i sefydlu corff ieuenctid cynrychiadol i
olynu y Ddraig Ffynci; ac
·
am
wybodaeth am unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd mewn perthynas â’r materion a
godwyd yn y ddeiseb.
Cyfarfod: 03/02/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Sesiwn Dystiolaeth - P-04-597 Diogelu dyfodol Draig Ffynci, Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru
Catriona Williams OBE – Prif Weithredwr, Plant yng
Nghymru
Lynne Hill – Cyfarwyddwr Polisi, Plant yng Nghymru
Ed Janes – Swyddog Datblygu (Cyfranogiad), Plant yng
Nghymru
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 2 PDF 103 KB Gweld fel HTML (2/1) 10 KB
- Briff Ymchwil , Gweld rhesymau dros gyfyngu (2/2)
Cofnodion:
Atebodd y tystion a ganlyn gwestiynau gan y Pwyllgor:
·
Catriona Williams OBE – Prif Weithredwr, Plant yng Nghymru
·
Lynne Hill – Cyfarwyddwr Polisi, Plant yng Nghymru
·
Ed Janes – Swyddog Datblygu (Cyfranogiad), Plant yng Nghymru
Cyfarfod: 25/11/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Trafod y sesiwn dystiolaeth a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 2014 - P-04-597 Diogelu dyfodol y Ddraig Ffynci, Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Trafododd
yr Aelodau y sesiwn dystiolaeth a chytunwyd i geisio hwyluso ffordd ymlaen sy’n
cynnwys partneriaid fel:
·
Plant yng
Nghymru
·
Y Gweinidog
Cymunedau a Threchu Tlodi;
·
Comisiynydd
Plant Cymru, a
·
Chynrychiolydd
o Gomisiwn y Cynulliad.
Cyfarfod: 11/11/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Sesiwn Dystiolaeth - P-04-597 Diogelu dyfodol Draig Ffynci, Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 2 PDF 103 KB Gweld fel HTML (2/1) 10 KB
- Briff gan y Gwasanaeth Ymchwil , Gweld rhesymau dros gyfyngu (2/2)
Cofnodion:
Atebodd
Tricia Jones, Jack Gillum, Catherine Jones ac Anne Crowley, cynrychiolwyr y
Ddraig Ffynci, gwestiynau'r Pwyllgor.
Cyfarfod: 21/10/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 P-04-597 Diogelu dyfodol Draig Ffynci, Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 2 PDF 103 KB Gweld fel HTML (2/1) 10 KB
- 16.10.2014 Gohebiaeth – gan y deisebydd i'r tîm clercio (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 94 KB
Cofnodion:
Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i drefnu sesiwn dystiolaeth yn unol
â chais y deisebwyr.
Cyfarfod: 07/10/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-597 Diogelu dyfodol Draig Ffynci, Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 103 KB Gweld fel HTML (3/1) 10 KB
- 01.10.2014 Gohebiaeth - Y Llywydd I’r Cadeirydd, Eitem 3 PDF 1 MB
- 29.09.2014 Gohebiaeth - Plant yng Nghymru I’r Cadeirydd, Eitem 3 PDF 219 KB Gweld fel HTML (3/3) 26 KB
- 02.10.2014 Gohebiaeth - Comisiynydd Plant Cymru I’r Cadeirydd, Eitem 3 PDF 502 KB Gweld fel HTML (3/4) 24 KB
- 02.10.2014 Gohebiaeth - Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi i'r Cadeirydd, Eitem 3 PDF 163 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i drefnu sesiwn
dystiolaeth lafar mewn lleoliad anffurfiol gyda’r Ddraig Ffynci, y Comisiynydd
Plant, Plant yng Nghymru a chynrychiolydd o Gomisiwn y Cynulliad i geisio gweld
a ellir canfod ffordd i ddarparu llwyfan cynrychioliadol cenedlaethol parhaus
ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru.
Cyfarfod: 23/09/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 P-04-597 Diogelu dyfodol Draig Ffynci, Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 2 PDF 103 KB Gweld fel HTML (2/1) 10 KB
- 08.09.2014 Gohebiaeth Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi i'r Cadeiryddi’r Deisebydd (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 150 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:
- y Gweinidog Cymunedau a
Threchu Tlodi;
- y Llywydd, yn ei rôl fel
Cadeirydd Comisiwn y Cynulliad;
- Comisiynydd Plant Cymru, a
- Plant yng Nghymru
i geisio eu barn am y ddeiseb.