Cyfarfodydd

P-04-579 Adfer cyllid ar gyfer monitro Gwylogod Ynys Sgomer

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 02/06/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-579 Adfer cyllid ar gyfer monitro Gwylogod Ynys Sgomer

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am sylwadau'r deisebydd ar ohebiaeth y Gweinidog.

 

Datganodd Joyce Watson ei bod yn Aelod o'r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt.  

 


Cyfarfod: 24/02/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-579 Adfer cyllid ar gyfer monitro Gwylogod Ynys Sgomer

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol i ofyn am ei farn ar sylwadau’r deisebydd, yn benodol ar y pryderon a fynegwyd y gall y data a gasglwyd o dan gontract y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur fod wedi dangos canlyniadau diffygiol.

 

 


Cyfarfod: 11/11/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-579 Adfer cyllid ar gyfer monitro Gwylogod Ynys Sgomer

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd ar yr ohebiaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 23/09/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-579 Adfer cyllid ar gyfer monitro Gwylogod Ynys Sgomer

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol i ofyn am ei farn am y ddeiseb.