Cyfarfodydd
Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau’r Aelodau
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 18/06/2019 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
2 Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau'r Aelodau 2019-20
SoC(5)-08-19 – Papur 1 – Y Bwrdd Taliadau: Penderfyniad
ar Gyflogau a Lwfansau’r Aelodau 2019-20
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
2.1 Datganodd
Andrew RT Davies AC fuddiant gan ei fod yn cyflogi ei wraig.
2.2
Trafododd yr Aelodau y Penderfyniad ar Gyflogau’r Aelodau a chytunwyd y
byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Gadeirydd y Bwrdd Taliadau ynghylch cyflogi
aelodau'r teulu.
Cyfarfod: 12/10/2017 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 6)
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Arolwg ynglŷn ag effeithiolrwydd y Penderfyniad: Adroddiad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 6
Cofnodion:
6.1.
Trafododd y Bwrdd yr adroddiad ar ganlyniadau ei arolwg
diweddar i ba mor effeithiol yw'r Penderfyniad, a chytunodd i gyhoeddi crynodeb
o'r canlyniadau yn ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2017-2018.
6.2.
Cytunodd y Bwrdd hefyd i gyhoeddi detholiad perthnasol
o'r canlyniadau pan fo'n briodol, fel tystiolaeth ar gyfer unrhyw argymhellion
y gall fod yn dymuno'u rhoi ar waith yn rhan o'i raglen waith ehangach.
Cam gweithredu:
Yr ysgrifenyddiaeth i baratoi crynodeb o'r canlyniadau
i'r Bwrdd eu trafod mewn pryd cyn cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol ym mis
Gorffennaf.
Cyfarfod: 11/07/2017 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3)
Eitem i'w drafod: Ystyried canlyniadau'r arolwg o Aelodau a Staff Cymorth ar effeithiolrwydd y Penderfyniad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 9
Cofnodion:
3.1
Trafododd y Bwrdd ganlyniadau'r arolwg o Aelodau a Staff Cymorth ar
effeithiolrwydd y Penderfyniad a chytunodd ar:
- gyhoeddi crynodeb o'r canlyniadau ar wefan y
Bwrdd a dwyn y crynodeb hwn at sylw'r Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y
Cynulliad; a
- ystyried canlyniadau'r arolwg fel rhan o'i
adolygiad o strwythur gyrfa Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad a'u telerau ac
amodau.
Camau
gweithredu:
Cytunodd
yr Ysgrifenyddiaeth ar:
- ymgorffori'r canlyniadau perthnasol i bapurau
cwmpasu yn y dyfodol, er enghraifft yr adolygiad o strwythur gyrfa Staff
Cymorth Aelodau'r Cynulliad; a
- chyhoeddi adroddiad cryno o'r canlyniadau.
Cyfarfod: 24/05/2017 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2)
Eitem i'w thrafod: Cymorth i bleidiau gwleidyddol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 12
Cofnodion:
2.1 Trafododd y Bwrdd y papur ar gymorth i bleidiau gwleidyddol a chytunodd
i drafod y darpariaethau yn ymwneud â chymorth i bleidiau gwleidyddol ac
Aelodau unigol yn llawn yn ddiweddarach, ond ar hyn o bryd:
·
bydd cyflog Arweinwyr Pleidiau yn lleihau a chynyddu yn unol â sawl Aelod
Cynulliad sydd eu grŵp ac nid sawl aelod sydd yn y Blaid Wleidyddol;
·
caiff Lwfans Cymorth Pleidiau Gwleidyddol eu dyrannu i Aelodau annibynnol;
·
Gall Aelodau’r Cynulliad annibynnol drosglwyddo cyllid i grwpiau
gwleidyddol yn y Cynulliad.
Cyfarfod: 23/03/2017 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 4)
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Camau nesaf yr adolygiad o egwyddorion sylfaenol y Penderfyniad a'i effeithiolrwydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 15
Cofnodion:
4.1 Trafododd y Bwrdd yr holiadur drafft i Aelodau'r Cynulliad a'u staff
cymorth, a chytunwyd:
·
Ar fân newidiadau yn y ddau holiadur;
·
I ddangos yn glir pam mae agweddau ar y penderfyniad wedi cael eu cynnwys
neu eu hepgor o'r holiaduron yn unol â blaenraglen waith ehangach y Bwrdd;
·
I dreialu'r holiadur gyda Grŵp Cynrychiolwyr Aelodau'r Cynulliad a Grŵp
Cynrychiolwyr y Staff Cymorth o leiaf; ac
·
I nodi ffyrdd arloesol o annog y ddau grŵp i gwblhau'r holiaduron.
Camau gweithredu:
·
Yr Ysgrifenyddiaeth i ddiwygio'r holiaduron fel sydd ei angen, a'u
dosbarthu eto yn electronig i'r Bwrdd eu hadolygu.
·
Yr Ysgrifenyddiaeth i gyflwyno treial ar gyfer yr holiadur.
·
Yr Ysgrifenyddiaeth i gyflwyno'r holiadur terfynol yn electronig ac ar
gopïau caled unwaith y cytunir arnynt.
Cyfarfod: 26/01/2017 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3)
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Cylch gorchwyl yr adolygiad a'i egwyddorion sylfaenol ynghyd ag effeithiolrwydd y Penderfyniad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 18
Cofnodion:
3.1
Cytunodd y Bwrdd y byddai paramedrau'r adolygiad o egwyddorion sylfaenol ac
effeithiolrwydd y Penderfyniad yn canolbwyntio ar y pecyn ariannol sydd ar gael
i'r Aelodau ar hyn o bryd.
3.2
Cytunodd y Bwrdd i gyhoeddi holiaduron wedi'u teilwra i Aelodau'r Cynulliad a'u
staff cymorth i ofyn eu barn am egwyddorion sylfaenol ac effeithiolrwydd y
Penderfyniad. Bydd pob holiadur yn canolbwyntio ar y rhannau hynny o'r
Penderfyniad sy'n gymwys i'w rôl, gan gynnwys unrhyw ddarpariaethau newydd a
gyflwynwyd ar gyfer y Pumed Cynulliad.
3.3
Cytunodd y Bwrdd hefyd y byddai'r gwaith hwn yn cael ei hysbysu drwy ei
gyfathrebu ffurfiol ac anffurfiol rheolaidd â'r ddau grŵp o gynrychiolwyr.
3.4
Cytunodd y Bwrdd ar yr amserlen ar gyfer y darn hwn o waith.
Camau i'w cymryd:
·
Yr
Ysgrifenyddiaeth i baratoi holiadur terfynol i'r Bwrdd ei ystyried y tu allan
i'w gyfarfodydd ffurfiol.
·
Ar ôl cael
sêl bendith y Bwrdd, dylai'r Ysgrifenyddiaeth ddosbarthu'r holiaduron.
·
Yr
Ysgrifenyddiaeth i roi crynodeb o'r ymatebion yn y cyfarfod nesaf.
Cyfarfod: 15/09/2016 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1)
Eitem i'w benderfynu: Diogelwch Aelodau'r Cynulliad a'u staff
Cofnodion:
1.1 Trafododd y Bwrdd bapur a oedd yn amlinellu
adolygiad o ddarpariaeth diogelwch ym mhob swyddfa etholaethol/rhanbarthol, a
oedd yn cael ei gynnal gan Uned Heddlu'r Cynulliad a thîm Diogelwch Comisiwn y
Cynulliad. Cynhaliwyd yr adolygiad mewn ymateb i gyngor gan Uned
Gwrthderfysgaeth Cymru, ac yn unol â gweithgarwch tebyg yn Lloegr.
1.2 Trafododd y Bwrdd y cymorth ariannol ar
gyfer darpariaethau diogelwch sydd ar gael ar hyn o bryd a thynnwyd sylw at
nifer o gamau y gellid eu cymryd i wella diogelwch ar gyfer yr Aelodau a'u
staff pan nad ydynt ar ystâd y Cynulliad, yn sgil penderfyniad Comisiwn y
Cynulliad i adolygu'r trefniadau diogelwch yn swyddfeydd yr Aelodau.
1.3 Cytunodd y Bwrdd fod diogelwch yr Aelodau
yn flaenoriaeth uchel ac y dylid mynd i'r afael ag unrhyw faterion sydd o fewn
cylch gwaith y Bwrdd fel mater o flaenoriaeth. Pwysleisiodd y Bwrdd, yn dilyn
marwolaeth drasig Jo Cox AS, fod mwy o frys i adolygu'r mesurau diogelwch
presennol.
1.4 Cytunodd y Bwrdd y byddai angen iddo
sicrhau bod adnoddau effeithiol ar gael er mwyn darparu mesurau ar gyfer helpu
i ddiogelu'r Aelodau.
1.5 Cytunodd y Bwrdd i ddileu'r gofyniad
presennol, sef fod y £500 cyntaf ar gyfer costau diogelwch sy'n gysylltiedig
â'r swyddfa yn cael ei dalu drwy Gostau Swyddfa'r Aelod unigol. Cytunodd y
Bwrdd i greu cronfa wedi'i neilltuo a fyddai'n darparu gwelliannau diogelwch
angenrheidiol a rhesymol ar gyfer Aelodau'r Cynulliad yn eu swyddfeydd, eu
llety preswyl a'u cartrefi.
1.6 Nododd y Bwrdd fod yr adolygiad diogelwch a
gynhaliwyd gan swyddogion cymwysedig yn nodi gwelliannau sy'n 'rhaid' digwydd,
a 'ddylai' ddigwydd ac y 'gallent' ddigwydd.
Bydd yr holl ychwanegiadau y mae'n 'rhaid' iddynt ddigwydd ac y 'dylent'
ddigwydd yn cael eu hariannu gan Gomisiwn y Cynulliad. Fodd bynnag, cytunodd y
Bwrdd y byddai'r gwelliannau hynny y 'gallent' ddigwydd yn amodol ar achos
busnes gan Aelodau'r Cynulliad.
Cyfarfod: 24/03/2016 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 7)
Trosolwg o adnoddau a ddarperir i Aelodau'r Cynulliad drwy'r Penderfyniad a chan Gomisiwn y Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 23
Cofnodion:
7.1
Bu'r Bwrdd yn trafod adnodd drafft a fyddai'n caniatáu iddo ddeall yn well
sut y mae'r lwfansau amrywiol yn cydblethu ac yn cefnogi Aelodau
Cynulliad.
7.2
Nododd y Bwrdd, lle y bo'n bosibl, y
byddai'r adnodd yn nodi'n glir y gyllideb ar gyfer pob lwfans neu wasanaeth a
ddarperir, o Lwfans yr Aelodau ac o gronfeydd canolog Comisiwn y Cynulliad, er
mwyn adlewyrchu'r pecyn cyffredinol o gymorth i Aelodau Cynulliad yn well.
7.3
Cytunodd y Bwrdd y byddai'n trafod
yr adnodd ymhellach mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Cyfarfod: 10/12/2015 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 7.)
Costau Swyddfa 2016-17: trafodaeth gyntaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 26
Cyfarfod: 16/01/2015 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3.)
Lwfansau Aelodau'r Cynulliad: Ystyried ymatebion i'r ymgynghoriad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 28
Cyfarfod: 12/12/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3.)
Penderfyniad ar gyfer pumed flwyddyn y Pedwerydd Cynulliad: Ystyried y Penderfyniad ar gyfer ymgynghori yn ei gylch
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 30
Cyfarfod: 16/10/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3.)
Lwfansau Aelodau'r Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 32
- Cyfyngedig 33
- Cyfyngedig 34
- Cyfyngedig 35
- Cyfyngedig 36
Cyfarfod: 31/01/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2)
Materion ar gyfer penderfyniad buan ac ymgynghori/cyfathrebu
Cyfarfod: 15/11/2013 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 4)
Treuliau eithriadol
·
Papur 12 – Nodyn ar lwfansau eithriadol, a ddarparwyd gan y
Gwasanaethau Cyfreithiol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 40
Cofnodion:
4.1 Nododd y Bwrdd
fod y Cadeirydd wedi cael cais yn gofyn i’r Bwrdd Taliadau adolygu’r treuliau
eithriadol a ysgwyddir, neu sydd i gael eu hysgwyddo, gan Aelodau’r Cynulliad,
wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau.
4.2 Ystyriodd y
Bwrdd bapur a oedd yn cadarnhau’r arfer presennol, ac yn nodi’r ffordd ymlaen
bosibl. Roedd y papur, a ddarparwyd gan y Gwasanaethau Cyfreithiol, yn ceisio
cael cydbwysedd rhwng yr angen am ddisgresiwn i’r sawl sy’n gwneud cais, ag arferion
llywodraethu clir a chadarn.
4.3 Cytunodd y Bwrdd
y dylid diwygio’r Penderfyniad, ac na ddylid cynnal ymgynghoriad ag Aelodau’r
Cynulliad. Fodd bynnag, cytunodd y Bwrdd y dylid rhoi gwybod i Aelodau’r
Cynulliad am unrhyw newidiadau a wnaed o ran treuliau eithriadol yn y
Penderfyniad.
Cam i’w gymryd:
Yr ysgrifenyddiaeth neu’r tîm Cymorth Busnes i’r Aelodau i
ddiwygio’r Penderfyniad i adlewyrchu’r cynigion yn y papur.