Cyfarfodydd

P-04-577 Adfer Cyllid i’r Prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 08/12/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-577 Adfer Cyllid i’r Prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

·         Gau'r ddeiseb gan fod y Pwyllgor wedi cymryd y mater hwn cyn belled ag y gall; ac

·         Wrth wneud hynny, gofyn i Mr O'Brien, Prif Weithredwr WEFO:

o   am ei sylwadau am lythyr y deisebwyr a'i ymateb i'w cwestiynau penodol; a

o   chwrdd â'r deisebwyr i drafod eu pryderon. 

 


Cyfarfod: 22/09/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-577 Adfer Cyllid i’r Prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i aros am sylwadau pellach gan y deisebydd.

 

 

 


Cyfarfod: 30/06/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-577 Adfer Cyllid i’r Prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd, o ystyried pryderon y deisebydd, i:

 

  • ysgrifennu'n uniongyrchol at WEFO yn gofyn am ymateb i'r pwyntiau a wnaed; ac
  • anfon copi o'r llythyr at y Gweinidog.

 

 


Cyfarfod: 24/02/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-577 Adfer Cyllid i’r Prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         Roi gwybod i’r deisebydd ynghylch cyngor y Gweinidog y dylai gysylltu â Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) yn uniongyrchol; a 

·         Gofyn am sylwadau gan y deisebydd cyn mynd ymlaen i gau’r ddeiseb. 

 


Cyfarfod: 25/11/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-577 Adfer Cyllid i’r Prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb, a chytunodd i dynnu sylw’r Gweinidog at sylwadau pellach y deisebydd. Yn benodol, at y gwahoddiadau i gwrdd â’r deisebwyr i drafod eu cynnig, ac i sicrhau bod y Gweinidog yn ymwybodol o’r digwyddiad yn y Senedd ar 11 Rhagfyr, sy’n rhan o’r broses o werthuso Cyfleoedd Gwirioneddol.

 


Cyfarfod: 23/09/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-577 Adfer Cyllid i’r Prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am farn y Gweinidog ar y cynnig amlinellol a gyflwynwyd gan y deisebwyr.

 


Cyfarfod: 15/07/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-577 Adfer Cyllid i’r Prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gweinidog Cyllid a'r Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn am eu barn am y ddeiseb.