Cyfarfodydd

P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 27/06/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Dadl ar Ddeisebau P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf a P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig

NDM6747 David J. Rowlands (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar ddeiseb P-04-472, 'Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf a Deiseb P04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig - Crynodeb o’r ystyriaeth', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ebrill 2018.

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.29

NDM6747 David J. Rowlands (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar ddeiseb P-04-472, 'Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf a Deiseb P04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig - Crynodeb o’r ystyriaeth', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ebrill 2018.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 05/06/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y papur.

 


Cyfarfod: 17/04/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig

Cofnodion:

Derbyniwyd yr adroddiad gyda rhai newidiadau ychwanegol.

 

 


Cyfarfod: 21/11/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

P-04-575 Galw i mewn bob cais cynllunio ar gyfer cloddio glo brig

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau y sesiynau tystiolaeth a gynhaliwyd ar 3 Hydref a 7 Tachwedd mewn perthynas â'r ddeiseb hon a P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn Ddeddf, a chytunodd i lunio adroddiad ar ystyriaeth y Pwyllgor o'r ddwy ddeiseb.

 

 


Cyfarfod: 07/11/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lesley Griffiths AC, Neil Hemington a Joanne Smith.

 

Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ymchwilio ymhellach i sylwadau a briodolir i’r arolygydd cynllunio yn ystod gwrandawiad apêl ynghylch cais cloddio glo brig ym Mryn Farteg, ac ysgrifennu at y Pwyllgor.


Cyfarfod: 03/10/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Grŵp Gweithredu United Valleys a deisebydd P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf.


Cyfarfod: 27/06/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn Ddeddf a chytunwyd i ofyn i'r ddau ddeisebydd ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig roi tystiolaeth i'r Pwyllgor ar ddechrau tymor yr hydref.

 

 


Cyfarfod: 09/05/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn am ragor o fanylion am y cynnig i gyfyngu ar y gwaith datblygiad glo newydd sydd wrthi'n cael ei ystyried i ymgynghori arno fel rhan o'r adolygiad o Bolisïau Cynllunio yng Nghymru y llynedd.

 

 


Cyfarfod: 04/04/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ddychwelyd at y ddeiseb yn y cyfarfod nesaf fel y gellir ei hystyried ochr yn ochr â deiseb arall ar geisiadau cloddio glo brig.

 

 


Cyfarfod: 03/02/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • gasglu holl ystyriaethau'r Pwyllgor ar y mater at ei gilydd a'i adrodd i'r Cynulliad; a
  • gwneud penderfyniad ynghylch cau’r ddeiseb. 

 

 


Cyfarfod: 09/12/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros nes y bydd Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn cwblhau trafod ei Flaenraglen Waith ar 10 Rhagfyr.

 


Cyfarfod: 13/11/2014 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

8 Deiseb P-04-575 - Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig: Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau

E&S(4)-27-14 Papur 14

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 


Cyfarfod: 07/10/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ofyn am farn y Gweinidog am sylwadau’r deisebwyr; 

·         ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd gan roi sylw i’r ddeiseb; ac

·         anelu at gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad fel y gellir trafod y mater yn y Cyfarfod Llawn yn unol â chais y deisebwyr. 

 


Cyfarfod: 15/07/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         y Gweinidog Tai ac Adfywio i ofyn am ei farn am y ddeiseb; ac at

·         y deisebwyr i'w hysbysu am amserlen y Bil Cynllunio (Cymru).