Cyfarfodydd

P-04-572 Grantiau ar gyfer Gwrthsefyll Llifogydd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 12/07/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-04-572 Grantiau ar gyfer Gwrthsefyll Llifogydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru a chytunwyd i gau’r ddeiseb.  Wrth wneud hynny, cytunwyd y dylid gofyn i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig nodi’r materion a godwyd gan y Pwyllgor Deisebau wrth iddo drafod ei flaenraglen waith.

 


Cyfarfod: 08/03/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-572 Grantiau ar gyfer Gwrthsefyll Llifogydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

·         Aros am ymateb gan y Gweinidog a Chyfoeth Naturiol Cymru;

·         Gofyn i’r Pwyllgor Amgylchedd nesaf ystyried y materion a godir gan y ddeiseb, neu, yn dibynnu ar eu hymateb;

·         Gofyn i’r Pwyllgor nesaf i ystyried cynnal darn o waith ei hun ar y materion a nodwyd yn y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 02/02/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-572 Grantiau ar gyfer Gwrthsefyll Llifogydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

·         ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol ac Emyr Roberts, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru i ofyn eu barn ar y gwahaniaeth sydd i'w weld o ran y camau sy'n cael eu cymryd yng Nghymru a Lloegr;

·         disgwyl yr ymateb gan Gymdeithas Yswirwyr Prydain; a

·         gofyn am nodyn gan y Gwasanaeth Ymchwil yn nodi'r gwahaniaeth o ran y camau sy'n cael eu cymryd yng Nghymru a Lloegr.

 


Cyfarfod: 11/11/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-572 Grantiau ar gyfer Gwrthsefyll Llifogydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         Cyfoeth Naturiol Cymru, i ofyn am farn ar yr ohebiaeth hyd yn hyn;

·         Cymdeithas Yswirwyr Prydain, i ofyn am farn ar y premiymau yswiriant ar gyfer tai sydd wedi cael llifogydd o'r blaen ond sydd mewn ardaloedd risg isel o ran llifogydd; ac

·         archwilio a oes unrhyw waith blaenorol wedi'i wneud gan Bwyllgor arall ar Wrthsefyll Llifogydd.

 


Cyfarfod: 23/09/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-572 Grantiau ar gyfer Gwrthsefyll Llifogydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau gan y prif ddeisebydd.   

 


Cyfarfod: 15/07/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-572 Grantiau ar gyfer Gwrthsefyll Llifogydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Diwylliant a Chwaraeon i ofyn am ei farn am y ddeiseb.