Cyfarfodydd

P-04-571 Trin Anemia Niweidiol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 22/09/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-571 Trin Anemia Niweidiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebwyr ar lythyr diweddaraf y Gweinidog a thrafod y mater eto pan ddaw ymateb i law. 

 


Cyfarfod: 16/06/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-571 Trin Anemia Niweidiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i gadw golwg arni, oherwydd y bydd trafod y mater hwn yn fater penodol i'r Comisiynydd Gwasanaeth Iechyd a'r Cynulliad maes o law.

 

 


Cyfarfod: 10/03/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-571 Trin Anemia Niweidiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ddiolch i'r Gweinidog am ei ymateb adeiladol a gofyn iddo hysbysu'r Pwyllgor o ganlyniad ei:

 

·         lythyr at Jane Ellison AS, Is-Ysgrifennydd Seneddol ar Iechyd mewn perthynas â chefnogaeth i ddatblygu triniaeth drwyddedig drwy'r geg yn gyflym; a

·         chais i NIHCE i ystyried datblygu cyngor i glinigwyr.  

 


Cyfarfod: 23/09/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-571 Trin Anemia Niweidiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • aros am ymateb gan y Gweinidog; a
  • gofyn am sylwadau gan y prif ddeisebydd ar y llythyr a dderbyniwyd eisoes gan y Gweinidog. 

 

 


Cyfarfod: 15/07/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-571 Trin Anemia Dinistriol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei farn am y ddeiseb.