Cyfarfodydd

P-04-319 Deiseb ynghylch Traffig yn y Drenewydd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 30/06/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-319 Deiseb ynghylch Traffig yn y Drenewydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros i gael y wybodaeth ddiweddaraf a addawodd y Gweinidog.

 


Cyfarfod: 25/11/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-319 Deiseb ynghylch Traffig yn y Drenewydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb, a chytunodd i aros i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad y cynllun gan y Gweinidog, yn ôl ei addewid. 

 


Cyfarfod: 23/09/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-319 Deiseb ynghylch Traffig yn y Drenewydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ddiolch i’r Gweinidog am ei hymateb a gofyn am gael y wybodaeth ddiweddaraf;

·         aros am unrhyw sylwadau pellach gan y prif ddeisebydd.

 


Cyfarfod: 03/06/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-319 Deiseb ynghylch Traffig yn y Drenewydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ddiolch iddi am roi'r wybodaeth ddiweddaraf ac i ofyn iddi a fyddai modd parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor ynghylch unrhyw ddatblygiadau.

 


Cyfarfod: 26/11/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-319 Deiseb ynghylch Traffig yn y Drenewydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Gweinidog am wybodaeth am y datblygiadau diweddaraf wrth i'r camau gweithredu a awgrymwyd gan y grŵp rhanddeiliaid gael eu datblygu gan swyddogion y Gweinidog.

 


Cyfarfod: 16/07/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-319 Deiseb ynghylch Traffig yn y Drenewydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd y Cadeirydd a Russell George fuddiant yn y ddeiseb hon.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i;

·         aros am ganfyddiadau’r adolygiad o opsiynau; ac

·         ysgrifennu at y deisebydd yn ei hysbysu o ddatganiad diweddar Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth.


Cyfarfod: 14/05/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-319 Deiseb ynghylch Traffig yn y Drenewydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ofyn am ragor o wybodaeth am yr oedi yn y gwaith adeiladu a sut y bydd y tagfeydd traffig yn cael eu datrys yn y cyfamser.

 

 


Cyfarfod: 19/03/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-319 Deiseb ynghylch Traffig yn y Drenewydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth;

 

·         yn amlinellu’r dull o weithio a awgrymwyd gan y Gweinidog blaenorol a oedd yn gyfrifol am hyn gan ofyn iddi ac ydyw’n cytuno â’r dull hwn o weithio; ac

·         yn ceisio eglurhad am bryd y mae disgwyl y dyddiad cychwyn , gan egluro bod dyddiadau gwahanol wedi cael eu cyflwyno. 

 

Cytunodd y Pwyllgor i gau P-04-261 yn wyneb penderfyniad Llywodraeth Cymru i fynd ymlaen â’r ffordd osgoi.

 


Cyfarfod: 15/01/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-319 Deiseb ynghylch Traffig yn y Drenewydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:

Rannu ymateb y deisebydd â’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau gan ofyn iddo ymateb i’r cwestiynau a godwyd, a’i fod yn rhoi manylion am amserlen y ffordd osgoi;

Sicrhau nodyn o unrhyw benderfyniadau a chamau gweithredu sy’n codi o gyfarfodydd cyhoeddus yn y dyfodol gyda Llywodraeth Cymru ar y ffordd osgoi.


Cyfarfod: 19/06/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-319 Deiseb ynghylch traffig yn y Drenewydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth mewn perthynas â’r deisebau hyn, a chytunodd i:

geisio sylwadau deisebwyr am yr adroddiad a ddarparwyd gan y Gweinidog; 

gofyn i’r Gweinidog a oes unrhyw ddata a ddefnyddiwyd i lunio’r adroddiad, y cytunodd y Gweinidog yn ystod ei sesiwn tystiolaeth lafar i’w anfon at y Pwyllgor, nas anfonwyd hyd yn hyn; ac

anfon yr adroddiad at Gadeirydd grŵp Parthau Twf Lleol Powys er gwybodaeth.

 


Cyfarfod: 10/01/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-319 Deiseb ynghylch traffig yn y Drenewydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau yn ateb cwestiynau gan y Pwyllgor am y mater a chytunodd i rannu’r data o’r astudiaeth o dagfeydd traffic cyn ac ar ôl gyda’r Pwyllgor, a fydd ar gael fis nesaf.

 


Cyfarfod: 01/11/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 P-04-319 Deiseb ynghylch Traffig yn y Drenewydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i wahodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i roi tystiolaeth gerbron y Pwyllgor mewn perthynas â’r deisebau hyn.


Cyfarfod: 21/06/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-319 Deiseb traffig y Drenewydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf.

Datganodd Russell George fuddiant yn y ddeiseb.

 

Camau i’w cymryd

Cytunodd y Pwyllgor i:

·               Ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau yn gofyn am ei sylwadau ar y materion sy’n deillio o’r ddeiseb.