Cyfarfodydd

Gweithdrefnau ac arferion gweithio'r Pwyllgor Deisebau

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 21/06/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

Gweithdrefnau ac arferion gweithio'r Pwyllgor Deisebau

Cofnodion:

2.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod ei weithdrefnau ar gyfer y dyfodol, ynghyd â’r arferion gweithio y bydd yn eu dilyn.

 

Camau i’w cymryd

Cytunodd y Pwyllgor i:

 

·           Ganiatàu uchafswm o 10 munud i ddeisebwyr gyflwyno eu safbwyntiau mewn sesiynau tystiolaeth yn y dyfodol, a chaniatàu 20 munud i’r Pwyllgor eu holi.

·           Gwneud mwy o ddefnydd o rwydweithio cymdeithasol er mwyn gwella ymgysylltiad â’r cyhoedd.