Cyfarfodydd
Gweithdrefnau ac arferion gweithio'r Pwyllgor Deisebau
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 21/06/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
Gweithdrefnau ac arferion gweithio'r Pwyllgor Deisebau
Cofnodion:
2.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod ei weithdrefnau ar gyfer y dyfodol, ynghyd â’r arferion gweithio y bydd yn eu dilyn.
Camau i’w cymryd
Cytunodd y Pwyllgor i:
·
Ganiatàu uchafswm o 10 munud
i ddeisebwyr gyflwyno eu safbwyntiau mewn sesiynau tystiolaeth
yn y dyfodol, a chaniatàu 20 munud i’r Pwyllgor eu
holi.
·
Gwneud mwy o ddefnydd
o rwydweithio cymdeithasol er mwyn gwella
ymgysylltiad â’r cyhoedd.