Cyfarfodydd
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Seilwaith
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 23/09/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7.)
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Seilwaith: Darpariaethau ar gyfer Rheoli Rhywogaethau Estron Goresgynnol
NDM5533 Alun Davies (Blaenau Gwent)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn
cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Seilwaith, sy'n ymwneud
â dileu a rheoli rhywogaethau estron goresgynnol drwy gytundebau a gorchmynion
rheoli rhywogaethau, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18
Mehefin 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Gellir cael copi o'r Bil Seilwaith yma:
http://services.parliament.uk/bills/2014-15/infrastructure.html
(Saesneg yn unig)
Dogfennau Ategol
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol
Adroddiad
Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.54
NDM5533 Alun Davies (Blaenau
Gwent)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â
Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn
y Bil Seilwaith, sy'n ymwneud â dileu a rheoli rhywogaethau estron goresgynnol
drwy gytundebau a gorchmynion rheoli rhywogaethau, i'r graddau y maent yn dod o
fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynig yn unol â
Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 17/09/2014 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)
7 Cynnig cydsyniad deddfwriaethol ynghylch y Bil Seilwaith: Ymateb gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Diwylliant a Chwaraeon i lythyr gan y Cadeirydd ar 21 Gorffennaf
E&S(4)-20-14
papur 6
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
7.3 Nododd
y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.
Cyfarfod: 17/07/2014 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 11)
11 Cynnig cydsyniad deddfwriaethol ynghylch y Bil seilwaith
E&S(4)-19-14 papur 12
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
11.1 Nododd
y Pwyllgor y cynnig cydsyniad deddfwriaethol a chytunodd i ysgrifennu at y
Gweinidog ynghylch y pwyntiau a nodwyd gan NFU Cymru.