Cyfarfodydd

P-04-322 Galw am ryddhau gafael Cadw ar eglwysi

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/03/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-322 Galw am ryddhau gafael Cadw ar eglwysi yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i aros am ragor o wybodaeth am waith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen.


Cyfarfod: 29/01/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-322 Galw am ryddhau gafael Cadw ar eglwysi yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth i ofyn:

·         bod pob eglwys annibynnol yn rhan o waith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen;

·         pryd y mae’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn disgwyl cwblhau ei waith; a

·         bod y Pwyllgor yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd.

 

 


Cyfarfod: 04/12/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-322 Galw am ryddhau gafael Cadw ar eglwysi yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth weinidogol mewn perthynas â’r ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn pryd fydd penderfyniad yn cael ei wneud o ran sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen, ac i ofyn i’r Pwyllgor gael gwybod am y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith o ddatblygu’r grŵp hwnnw.

 


Cyfarfod: 02/10/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-322 Galw am ryddhau gafael Cadw ar eglwysi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth yn ymwneud â’r ddeiseb hon a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn iddo a fydd gweithgor Tasglu Adeiladau Hanesyddol yn cael ei sefydlu ac a fydd yn cynnwys eglwysi annibynnol, gan anfon copi at Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd.

 


Cyfarfod: 27/03/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-322 Galw am ryddhau gafael Cadw ar eglwysi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth a’r Deisebydd.

 

Camau i’w cymryd

Cytunodd y Pwyllgor:

I ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn iddo gynnwys eglwysi annibynnol yn nhrafodaethau’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen;

I ofyn i’r Gweinidog pryd fydd cyfarfodydd cyhoeddus am y Bil Treftadaeth yn cael eu cynnal a hysbysu’r deisebydd;

Ysgrifennu at Cadw am y mater.

 


Cyfarfod: 11/10/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-322 Galw am ryddhau gafael Cadw ar eglwysi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y deisebwyr, gan gynnwys yr ohebiaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth er mwyn gofyn iddynt sut yr hoffent symud ymlaen.

 


Cyfarfod: 21/06/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-322 Galw am ryddhau gafael Cadw ar eglwysi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf.

 

Camau i’w cymryd

Cytunodd y Pwyllgor i:

·               Ysgrifennu at y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth yn gofyn am ei sylwadau ar y materion sy’n deillio o’r ddeiseb ac am ragor o wybodaeth am y ffordd y byddai’r Bil Diogelu Treftadaeth arfaethedig yn effeithio ar y ddeiseb hon.