Cyfarfodydd

Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 12/05/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant: Llythyr gan William Graham AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes (1 Mai 2015)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 16/09/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant

PAC(4)-22-14 (papur 1)

PAC(4)-22-14 (papur 2)

 

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at William Graham  fel Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes i rannu ymateb Llywodraeth Cymru a nodyn yr Archwilydd Cyffredinol er mwyn cynorthwyo eu hymchwiliad. Bydd y llythyr yn pwysleisio pryderon y Pwyllgor ynglŷn â chyfran y bobl ifanc a ystyrir i fod yn NEET yn y grŵp oedran 19-24 oed ynghyd â phryderon ynghylch casglu a rhannu data. Gofynnodd y Pwyllgor am y wybodaeth ddiweddaraf gan y Pwyllgor Menter a Busnes pan fydd wedi cwblhau'i waith a bydd y Pwyllgor wedyn yn ystyried ymhellach a yw'n dymuno ymgymryd ag unrhyw waith ei hun ar y mater hwn.

 

 


Cyfarfod: 15/07/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant: Papur briffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

Cofnodion:

7.1 Rhoddodd yr Archwilydd Cyffredinol wybodaeth lafar i Aelodau am ei adroddiad a gyhoeddwyd ar 10 Gorffennaf.

7.2 Cytunodd Aelodau i ofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru ac i drafod y mater eto yn yr hydref.

7.3 Cytunodd yr Aelodau hefyd y dylai’r Cadeirydd ysgrifennu at y Pwyllgor Menter a Busnes yn gofyn a fydd yn gwneud unrhyw waith pellach ar y mater hwn.