Cyfarfodydd

Menter Twyll Genedlaethol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 07/10/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Menter Twyll Genedlaethol 2012-13: Gohebiaeth y Pwyllgor

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 15/07/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

Y Fenter Dwyll Genedlaethol 2012-13: Papur briffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

Cofnodion:

8.1 Rhoddodd yr Archwilydd Cyffredinol wybodaeth lafar i Aelodau am ei adroddiad a gyhoeddwyd ar 12 Mehefin.

8.2 Gwnaeth Aelodau nodi a chroesawu’r adroddiad a chytunodd y dylai’r Cadeirydd ysgrifennu at Gartrefi Cymunedol Cymru a Sefydliadau Addysg Bellach ac Uwch i’w hannog i gymryd rhan yn y Fenter Dwyll Genedlaethol.

8.3 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am Argymhelliad 3 yn adroddiad y Pwyllgor ar Reoli Grantiau ynghylch achosion o dorri’r Cod Ymarfer ar gyfer ariannu’r trydydd sector, a’u hatgoffa y dylai manylion o unrhyw achosion o’r fath gael eu cynnwys yn yr adroddiad rheoli grantiau blynyddol.

 

 

 


Cyfarfod: 22/05/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Ystyried opsiynau ar gyfer ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, 'Menter Twyll Genedlaethol 2010-11: Sicrhau'r defnydd cywir o arian cyhoeddus'

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor sut y bu’n ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, ‘Menter Twyll Genedlaethol 2010-11: Sicrhau'r defnydd cywir o arian cyhoeddus’.


Cyfarfod: 22/05/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Sesiwn friffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, 'Menter Twyll Genedlaethol 2010-2011: Sicrhau'r defnydd cywir o arian cyhoeddus'

PAC(4) 08-12 – Papur 1 – Menter Twyll Genedlaethol 2010-2011: Sicrhau’r defnydd cywir o arian cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru; David Rees, Rheolwr Llywodraethu, Swyddfa Archwilio Cymru; a Katrina Febry, Arbenigwr Perfformio, Swyddfa Archwilio Cymru..

 

2.2 Cyflwynodd Archwilydd Cyffredinol Cymru wybodaeth i’r Pwyllgor am ganfyddiadau ei adroddiad, ‘Menter Twyll Genedlaethol 2010-2011: Sicrhau'r defnydd cywir o arian cyhoeddus’.