Cyfarfodydd

Craffu ar waith y Gweinidog Tai ac Adfywio

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/06/2014 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 10)

Sesiwn graffu gyffredinol: Y Gweinidog Tai ac Adfywio - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

10.1. Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Tai ac Adfywio ar y pwyntiau a godwyd.

 

 


Cyfarfod: 19/06/2014 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Sesiwn graffu gyffredinol: Y Gweinidog Tai ac Adfywio

Carl Sargeant AM, Gweinidog Tai ac Adfywio

John Howells, Cyfarwyddwr Yr Adran Tai ac Adfywio

Kath Palmer, Dirprwy Cyfarwyddwr Yr Is-Adran Cartrefi a Lleoedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Carl Sargeant AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio, a’i swyddogion.

 

2.2. Yn ystod y sesiwn, cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r wybodaeth a ganlyn i’r Pwyllgor:

  • eglurhad o’r diffiniad technegol o ‘dai fforddiadwy’, fel y cyfeirir atynt mewn perthynas â thargedau, a nodyn ar y gwahaniaethau rhwng defnydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o’r term "fforddiadwy";
  • nodyn yn cynnwys dadansoddiad o statws pob awdurdod lleol mewn perthynas â’u dyddiadau targed o ran cwblhau Safon Ansawdd Tai Cymru, gan gynnwys manylion am unrhyw awdurdod na fydd, o bosibl, yn cyrraedd y targed;
  • dadansoddiad manwl o’r ffigurau ar gyfer y cynllun rhannu ecwiti ‘Cymorth i Brynu’ ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru;
  • nodyn ar y cynlluniau busnes a’r prosiectau o fewn portffolio’r Gweinidog sy’n ymwneud â’r gronfa gofal canolraddol a’r canlyniadau a ddisgwylir;
  • manylion am adolygiad Adran 180 o’r Rhaglen Grantiau Digartrefedd, pan fo’r rhain ar gael;
  • canlyniad y newidiadau i’r rhaglen ‘cefnogi pobl’, yn dilyn y toriad o £5 miliwn a godwyd wrth graffu ar y gyllideb ar gyfer 2014/15 fis Tachwedd y llynedd.