Cyfarfodydd
Dadl Plaid Cymru
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 02/03/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5984 Elin Jones (Ceredigion)
1. Yn gresynu at y
ffaith bod gan Gymru un o'r cyfraddau goroesi isaf ar gyfer canser yn y DU a'r
UE.
2. Yn nodi bod amseroedd
aros ar gyfer profion diagnostig yn annerbyniol o uchel ac yn sylweddol uwch nag
yn Lloegr a'r Alban.
3. Yn gresynu at yr
anghydraddoldeb o ran mynediad cleifion ledled Cymru i gyffuriau a thriniaethau
canser.
4. Yn galw ar Lywodraeth
nesaf Cymru i:
a) gwella'r perfformiad
mewn perthynas ag amseroedd aros diagnostig yn sylweddol, fel bod 95 y cant o'r
bobl y mae eu meddyg teulu yn tybio bod canser ganddynt yn gallu cael diagnosis
neu gadarnhad nad oes canser ganddynt o fewn 28 diwrnod i'r dyddiad y cânt eu
cyfeirio i gael eu profi;
b) cyflwyno cronfa
triniaethau newydd i sicrhau ymagwedd genedlaethol tuag at fynediad i
driniaethau i sicrhau bod cleifion yn cael mynediad at driniaethau yn seiliedig
ar angen clinigol nid lle maent yn byw neu a ydynt yn bodloni meini prawf
eithriadol; a
c) sicrhau bod pob claf
canser yn cael mynediad at weithiwr allweddol, gan gasglu a chyhoeddi data yn
rheolaidd i ddangos perfformiad yn erbyn y targed hwn.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu ar ddiwedd
pwynt 3:
'a rhwng Cymru a rhannau
eraill o'r DU.'
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ym mhwynt 4b), dileu
'cyflwyno cronfa triniaethau newydd' a rhoi yn ei le 'ymestyn y gronfa technolegau iechyd i
feddyginiaethau newydd'.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys is-bwynt newydd
ar ddiwedd pwynt 4:
'datblygu panel Cymru
gyfan ar gyfer ceisiadau cyllido cleifion unigol i osgoi'r loteri cod post sy'n
bodoli eisoes ar gyfer triniaethau canser yng Nghymru.'
Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnwys is-bwynt newydd
ar ddiwedd pwynt 4:
'sefydlu gwasanaeth trin
canser symudol cenedlaethol i atal teithiau yn ôl a blaen hir i gleifion sydd
am gael mynediad i glinigau a thriniaeth cemotherapi'.
Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnwys is-bwynt newydd
ar ddiwedd pwynt 4:
'sefydlu ymgyrch addysg
gyhoeddus flynyddol i godi ymwybyddiaeth o achosion a symptomau canser'.
Gwelliant 6 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnwys is-bwynt newydd
ar ddiwedd pwynt 4:
'darparu gwarant o
apwyntiad dilynol fel bod pob claf yn cael ei weld o fewn chwe mis ar y mwyaf o
ddiwedd ei gyfnod cychwynnol o driniaeth canser ac ymhellach yn galw am casglu
a chyhoeddi data yn rheolaidd i fonitro perfformiad yn erbyn y warant.'
Gwelliant 7 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnwys is-bwynt newydd ar
ddiwedd pwynt 4:
'penodi eiriolwr dros
gleifion canser i ddwyn Llywodraeth Cymru a byrddau iechyd lleol i gyfrif mewn
perthynas â chyflawni cynlluniau cyflenwi canser cenedlaethol a lleol.'
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.35
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5984 Elin Jones (Ceredigion)
1. Yn gresynu at y ffaith bod
gan Gymru un o'r cyfraddau goroesi isaf ar gyfer canser yn y DU a'r UE.
2. Yn nodi bod amseroedd aros
ar gyfer profion diagnostig yn annerbyniol o uchel ac yn sylweddol uwch nag yn
Lloegr a'r Alban.
3. Yn gresynu at yr
anghydraddoldeb o ran mynediad cleifion ledled Cymru i gyffuriau a thriniaethau
canser.
4. Yn galw ar Lywodraeth nesaf
Cymru i:
a) gwella'r perfformiad mewn
perthynas ag amseroedd aros diagnostig yn sylweddol, fel bod 95 y cant o'r bobl
y mae eu meddyg teulu yn tybio bod canser ganddynt yn gallu cael diagnosis neu
gadarnhad nad oes canser ganddynt o fewn 28 diwrnod i'r dyddiad y cânt eu
cyfeirio i gael eu profi;
b) cyflwyno cronfa triniaethau
newydd i sicrhau ymagwedd genedlaethol tuag at fynediad i driniaethau i sicrhau
bod cleifion yn cael mynediad at driniaethau yn seiliedig ar angen clinigol nid
lle maent yn byw neu a ydynt yn bodloni meini prawf eithriadol; a
c) sicrhau bod pob claf canser
yn cael mynediad at weithiwr allweddol, gan gasglu a chyhoeddi data yn
rheolaidd i ddangos perfformiad yn erbyn y targed hwn.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
8 |
0 |
38 |
46 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 3:
'a rhwng Cymru a rhannau
eraill o'r DU.'
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
23 |
0 |
24 |
47 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y
Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly,
gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 2 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Ym mhwynt 4b), dileu 'cyflwyno
cronfa triniaethau newydd' a rhoi yn ei le
'ymestyn y gronfa technolegau iechyd i feddyginiaethau newydd'.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
4 |
0 |
42 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Cynnwys is-bwynt newydd ar
ddiwedd pwynt 4:
'datblygu panel Cymru gyfan ar
gyfer ceisiadau cyllido cleifion unigol i osgoi'r loteri cod post sy'n bodoli
eisoes ar gyfer triniaethau canser yng Nghymru.'
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
12 |
0 |
34 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Cynnwys is-bwynt newydd ar
ddiwedd pwynt 4:
'sefydlu gwasanaeth trin
canser symudol cenedlaethol i atal teithiau yn ôl a blaen hir i gleifion sydd
am gael mynediad i glinigau a thriniaeth cemotherapi'.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
46 |
0 |
0 |
46 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Cynnwys is-bwynt newydd ar
ddiwedd pwynt 4:
'sefydlu ymgyrch addysg
gyhoeddus flynyddol i godi ymwybyddiaeth o achosion a symptomau canser'.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
46 |
0 |
0 |
46 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Cynnwys is-bwynt newydd ar
ddiwedd pwynt 4:
'darparu gwarant o apwyntiad
dilynol fel bod pob claf yn cael ei weld o fewn chwe mis ar y mwyaf o ddiwedd
ei gyfnod cychwynnol o driniaeth canser ac ymhellach yn galw am casglu a
chyhoeddi data yn rheolaidd i fonitro perfformiad yn erbyn y warant.'
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
15 |
8 |
23 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Cynnwys is-bwynt newydd ar
ddiwedd pwynt 4:
'penodi eiriolwr dros gleifion
canser i ddwyn Llywodraeth Cymru a byrddau iechyd lleol i gyfrif mewn perthynas
â chyflawni cynlluniau cyflenwi canser cenedlaethol a lleol.'
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
15 |
0 |
31 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5984 Elin Jones
(Ceredigion)
1. Yn gresynu at y ffaith bod
gan Gymru un o'r cyfraddau goroesi isaf ar gyfer canser yn y DU a'r UE.
2. Yn nodi bod amseroedd aros
ar gyfer profion diagnostig yn annerbyniol o uchel ac yn sylweddol uwch nag yn
Lloegr a'r Alban.
3. Yn gresynu at yr
anghydraddoldeb o ran mynediad cleifion ledled Cymru i gyffuriau a thriniaethau
canser.
4. Yn galw ar Lywodraeth nesaf
Cymru i:
a) gwella'r perfformiad mewn
perthynas ag amseroedd aros diagnostig yn sylweddol, fel bod 95 y cant o'r bobl
y mae eu meddyg teulu yn tybio bod canser ganddynt yn gallu cael diagnosis neu
gadarnhad nad oes canser ganddynt o fewn 28 diwrnod i'r dyddiad y cânt eu
cyfeirio i gael eu profi;
b) cyflwyno cronfa triniaethau
newydd i sicrhau ymagwedd genedlaethol tuag at fynediad i driniaethau i sicrhau
bod cleifion yn cael mynediad at driniaethau yn seiliedig ar angen clinigol nid
lle maent yn byw neu a ydynt yn bodloni meini prawf eithriadol; a
c) sicrhau bod pob claf canser
yn cael mynediad at weithiwr allweddol, gan gasglu a chyhoeddi data yn
rheolaidd i ddangos perfformiad yn erbyn y targed hwn.
d) sefydlu gwasanaeth trin
canser symudol cenedlaethol i atal teithiau yn ôl a blaen hir i gleifion sydd
am gael mynediad i glinigau a thriniaeth cemotherapi.
e) sefydlu ymgyrch addysg
gyhoeddus flynyddol i godi ymwybyddiaeth o achosion a symptomau canser.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
23 |
0 |
24 |
47 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y
Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig wedi’i
ddiwygio. Felly, gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 10/02/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5954 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y gwerth i economi Cymru o gynnal
digwyddiadau mawr yng Nghymru
2. Yn galw am lunio cais i gynnal Gemau'r Gymanwlad gyda Chymru'n
croesawu'r Gemau hynny yn 2026 neu 2030.
3. Yn galw am lunio cais i ddod â Ras Fawr beicio i
Gymru, ar gyfer dynion a menywod.
4. Yn galw am ddigwyddiad swyddogol yn y Cynulliad hwn i
ffarwelio â thîm pêl-droed Cymru wrth iddo fynd i gystadlu yn Ewro 2016 yr
UEFA.
5. Yn galw am sefydlu 'parthau cefnogwyr' ledled Cymru
fel bod y rhai na allant fod yn bresennol yn Ewro 2016 yr UEFA yn gallu cefnogi
eu tîm gartref.
Cyflwynwyd y Gwelliant a
ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn credu bod angen cynllunio trafnidiaeth a gwaith rheoli
effeithiol ar bob digwyddiad mawr i sicrhau profiad o ansawdd uchel i ymwelwyr
a lleihau aflonyddwch i drigolion a busnesau lleol.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am
17.19
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5954
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn cydnabod y gwerth i economi Cymru o gynnal digwyddiadau mawr yng Nghymru
2.
Yn galw am lunio cais i gynnal Gemau'r Gymanwlad gyda Chymru'n croesawu'r Gemau
hynny yn 2026 neu 2030.
3.
Yn galw am lunio cais i ddod â Ras Fawr beicio i Gymru, ar gyfer dynion a
menywod.
4.
Yn galw am ddigwyddiad swyddogol yn y Cynulliad hwn i ffarwelio â thîm
pêl-droed Cymru wrth iddo fynd i gystadlu yn Ewro 2016 yr UEFA.
5.
Yn galw am sefydlu 'parthau cefnogwyr' ledled Cymru fel bod y rhai na allant
fod yn bresennol yn Ewro 2016 yr UEFA yn gallu cefnogi eu tîm gartref.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 10/02/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5952 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu bwriad Llywodraeth y DU i ddatganoli
manyleb a phroses gaffael masnachfraint nesaf rheilffyrdd Cymru a'r Gororau.
2. Yn nodi â braw bwriad Llywodraeth y DU i ddileu rhai
gwasanaethau o'r fasnachfraint honno cyn ei datganoli.
3. Yn nodi nad yw cyfyngiad o'r fath yn gymwys, ac ni
fu'n gymwys, i'r fasnachfraint rheilffyrdd yn yr Alban.
4. Yn credu y byddai ail-lunio map gwasanaethau
masnachfraint Cymru a'r Gororau yn sylweddol yn tanseilio'r broses o ddatganoli
swyddogaethau trafnidiaeth ac yn niweidio buddiannau teithwyr rheilffyrdd yng
Nghymru a'r Gororau.
Cyflwynwyd y Gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn nodi pwysigrwydd cysylltiadau rheilffordd trawsffiniol
i Fanceinion, Lerpwl a Birmingham i economïau gogledd a chanolbarth Cymru.
Gwelliant 2 - Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwyntiau 2, 3 a 4.
[os derbynnir gwelliant 2,
bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 3 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Mewnosod ar ddiwedd pwynt 2:
', yn enwedig cael gwared ar lwybrau trawsffiniol a all
danseilio atyniad masnachol y fasnachfraint'
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am
16.52
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5952
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn croesawu bwriad Llywodraeth y DU i ddatganoli manyleb a phroses gaffael
masnachfraint nesaf rheilffyrdd Cymru a'r Gororau.
2.
Yn nodi â braw bwriad Llywodraeth y DU i ddileu rhai gwasanaethau o'r
fasnachfraint honno cyn ei datganoli.
3.
Yn nodi nad yw cyfyngiad o'r fath yn gymwys, ac ni fu'n gymwys, i'r
fasnachfraint rheilffyrdd yn yr Alban.
4.
Yn credu y byddai ail-lunio map gwasanaethau masnachfraint Cymru a'r Gororau yn
sylweddol yn tanseilio'r broses o ddatganoli swyddogaethau trafnidiaeth ac yn
niweidio buddiannau teithwyr rheilffyrdd yng Nghymru a'r Gororau.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
35 |
0 |
16 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 27/01/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5939 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y dylai
cau'r bwlch ffyniant gyda gweddill y DU fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru;
2. Yn nodi cynllun
economaidd tymor hir Plaid Cymru fel modd i hybu twf economaidd cynaliadwy sy'n
cynnwys sefydlu corff masnach newydd, banc cenedlaethol i Gymru a chomisiwn
seilwaith cenedlaethol; a
3. Yn cefnogi dyfodol
llwyddiannus a chynaliadwy ar gyfer diwydiannau sylfaen, gan gynnwys y
diwydiant dur yn arbennig.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnwys pwynt 1 newydd
ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at y ffaith
bod gweinyddiaethau olynol Llywodraeth Cymru ers 1999 wedi â methu mynd i'r
afael â chau'r bwlch ffyniant yn effeithiol.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn
ei le:
Yn credu ym mhwysigrwydd
darparu strategaeth economaidd gytbwys ac integredig sy'n canolbwyntio ar
allforio ac sy'n mynd i'r afael â thanddatblygiad Cymru a'r angen am fanc
datblygu i Gymru i gefnogi ymrwymiad hirdymor i fuddsoddi ym mhobl, busnesau a
seilwaith Cymru.
[os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei
ddad-ddethol]
Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ym mhwynt 2, dileu
popeth ar ôl 'nodi' a mewnosod:
'cynllun economaidd
tymor hir Llywodraeth y DU fel modd i hybu twf economaidd cynaliadwy'.
Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Mewnosod pwynt 3 newydd
ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod y bydd y
polisïau a nodir yn 'Cyrchfan Cymru', 'Buddsoddi Cymru' a 'Gweledigaeth ar
gyfer y Stryd Fawr yng Nghymru' yn cyflawni datblygiad economaidd a
chymdeithasol cynaliadwy ledled Cymru.
Gweledigaeth
ar gyfer y Stryd Fawr yng Nghymru (Saesneg yn unig)
Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnwys pwynt 3 newydd
ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod er mwyn
sicrhau dyfodol llwyddiannus a chynaliadwy i'r diwydiant dur, ei bod yn ofynnol
bod:
a) yr Undeb Ewropeaidd
yn cymryd camau i fynd i'r afael â dympio dur gan Tsieina;
b) Llywodraeth y DU yn
parhau i gymryd camau i fynd i'r afael phrisiau ynni uchel a etifeddwyd gan y
blaid Lafur;
c) Llywodraeth Cymru yn
cyflwyno rhyddhad ardrethi busnes;
d) lleiafswm o ran y
safonau sy'n ofynnol ar gyfer dur o fewn prosesau caffael y sector cyhoeddus;
e) pecyn o gefnogaeth i
staff y disgwylir iddynt golli eu swyddi.
Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu ar ddiwedd
pwynt 3:
'ac yn galw am ddileu
ardrethi busnes ar offer a pheiriannau a sefydlu cwmni adfywio trefol i Bort
Talbot.'
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.12
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5939 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y dylai cau'r bwlch ffyniant gyda
gweddill y DU fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru;
2. Yn nodi cynllun economaidd tymor hir Plaid Cymru
fel modd i hybu twf economaidd cynaliadwy sy'n cynnwys sefydlu corff masnach
newydd, banc cenedlaethol i Gymru a chomisiwn seilwaith cenedlaethol; a
3. Yn cefnogi dyfodol llwyddiannus a chynaliadwy ar
gyfer diwydiannau sylfaen, gan gynnwys y diwydiant dur yn arbennig.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
9 |
0 |
39 |
48 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at y ffaith bod gweinyddiaethau olynol
Llywodraeth Cymru ers 1999 wedi â methu mynd i'r afael â chau'r bwlch ffyniant
yn effeithiol.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
16 |
0 |
32 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn credu ym mhwysigrwydd darparu strategaeth
economaidd gytbwys ac integredig sy'n canolbwyntio ar allforio ac sy'n mynd i'r
afael â thanddatblygiad Cymru a'r angen am fanc datblygu i Gymru i gefnogi
ymrwymiad hirdymor i fuddsoddi ym mhobl, busnesau a seilwaith Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
28 |
0 |
20 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gan fod gwelliant 2
wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol
Gwelliant 4 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Mewnosod pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod y bydd y polisïau a nodir yn 'Cyrchfan
Cymru', 'Buddsoddi Cymru' a 'Gweledigaeth ar gyfer y Stryd Fawr yng Nghymru' yn
cyflawni datblygiad economaidd a chymdeithasol cynaliadwy ledled Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
11 |
0 |
37 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod er mwyn sicrhau dyfodol llwyddiannus a
chynaliadwy i'r diwydiant dur, ei bod yn ofynnol bod:
a) yr Undeb Ewropeaidd yn cymryd camau i fynd i'r
afael â dympio dur gan Tsieina;
b) Llywodraeth y DU yn parhau i gymryd camau i fynd
i'r afael phrisiau ynni uchel a etifeddwyd gan y blaid Lafur;
c) Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rhyddhad ardrethi
busnes;
d) lleiafswm o ran y safonau sy'n ofynnol ar gyfer
dur o fewn prosesau caffael y sector cyhoeddus;
e) pecyn o gefnogaeth i staff y disgwylir iddynt
golli eu swyddi.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 5:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
15 |
0 |
33 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 3:
'ac yn galw am ddileu ardrethi busnes ar offer a
pheiriannau a sefydlu cwmni adfywio trefol i Bort Talbot.'
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 6:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
15 |
0 |
33 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5939 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y dylai cau'r bwlch ffyniant gyda
gweddill y DU fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru;
2. Yn credu ym mhwysigrwydd darparu strategaeth
economaidd gytbwys ac integredig sy'n canolbwyntio ar allforio ac sy'n mynd i'r
afael â thanddatblygiad Cymru a'r angen am fanc datblygu i Gymru i gefnogi
ymrwymiad hirdymor i fuddsoddi ym mhobl, busnesau a seilwaith Cymru; a
3. Yn cefnogi dyfodol llwyddiannus a chynaliadwy ar
gyfer diwydiannau sylfaen, gan gynnwys y diwydiant dur yn arbennig.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
36 |
0 |
11 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 09/12/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5905
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyflwyno cynigion i ddefnyddio pwerau trethu newydd o dan Deddf Cymru 2014
i ganiatáu i Lywodraeth nesaf Cymru i gyflwyno ardoll ar ddiodydd llawn siwgr.
Ddeddf
Cymru 2014 (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu 'ddefnyddio pwerau
trethu newydd o dan Ddeddf Cymru 2014 i ganiatáu i Lywodraeth nesaf Cymru i
gyflwyno ardoll ar ddiodydd llawn siwgr' a rhoi yn ei le 'leihau effeithiau
andwyol diodydd llawn siwgr ar iechyd y cyhoedd'.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.20
Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5905 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynigion i
ddefnyddio pwerau trethu newydd o dan Deddf Cymru 2014 i ganiatáu i Lywodraeth
nesaf Cymru i gyflwyno ardoll ar ddiodydd llawn siwgr.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
38 |
0 |
10 |
48 |
Derbyniwyd
y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 09/12/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5904
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu ei bod yn
bwysig sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer S4C fel darlledwr annibynnol iaith
Gymraeg;
2. Yn croesawu ymrwymiad
parhaus S4C i symud ei phencadlys allan o Gaerdydd i Gaerfyrddin; a
3. Yn credu bod y cynnig
yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant i dorri ymhellach cyllideb adran
Llywodraeth y DU dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i S4C gan 26 y cant
yn groes i'r amcanion hyn ac felly'n annerbyniol.
Yr adolygiad cynhwysfawr o wariant (Saesneg yn
unig)
Cyflwynwyd
y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Mewnosod ar ddiwedd pwynt 3:
'ac yn galw ar Lywodraeth y DU i amddiffyn cyllid ac
annibyniaeth olygyddol S4C'
Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ymdrechion gan yr holl bleidiau a
gynrychiolir yn y Cynulliad i sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer S4C.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.53
Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5904 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu ei bod yn bwysig sicrhau dyfodol
cynaliadwy ar gyfer S4C fel darlledwr annibynnol iaith Gymraeg;
2. Yn croesawu ymrwymiad parhaus S4C i symud ei
phencadlys allan o Gaerdydd i Gaerfyrddin; a
3. Yn credu bod y cynnig yn yr adolygiad
cynhwysfawr o wariant i dorri ymhellach cyllideb adran Llywodraeth y DU dros
Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i S4C gan 26 y cant yn groes i'r amcanion
hyn ac felly'n annerbyniol.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
48 |
0 |
0 |
48 |
Derbyniwyd
y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 25/11/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5890 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r angen i
gryfhau perfformiad economi gogledd Cymru;
2. Yn cydnabod yr angen
i ddatblygu gogledd Cymru fel pwerdy economaidd ochr yn ochr â phwerdy gogledd Lloegr
a gan gydweithio gydag ef er mwyn hyrwyddo gweithgarwch economaidd
trawsffiniol;
3. Yn cydnabod
pwysigrwydd buddsoddiad seilwaith i hyrwyddo'r economi, yn galw am raglen
barhaus o welliannau i goridor yr A55 ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i
gefnogi trydaneiddio rheilffordd arfordir gogledd Cymru; a
4. Yn credu bod yn rhaid
i fasnachfraint ddatganoledig nesaf Cymru barhau i gynnwys llwybrau i
ogledd-orllewin Lloegr.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Mewnosod ar ddiwedd
pwynt 3:
'i wella'r potensial ar
gyfer cludo teithwyr a nwyddau ar reilffyrdd.'
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Mewnosod ar ddiwedd
pwynt 4:
'a diogelu cysylltiadau
rheilffordd â Birmingham.'
Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu
cydnabyddiaeth Llywodraeth y DU bod gogledd Cymru yn rhan ganolog o brosiect
pwerdy'r gogledd.
Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith
nad oes gan Lywodraeth Cymru strategaeth glir sy'n anelu at sicrhau bod gogledd
Cymru yn elwa ar yr holl fanteision posibl y mae prosiect pwerdy'r gogledd yn
eu cynnig.
Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y byddai penodi
Gweinidog Llywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldeb dynodedig ar gyfer gogledd
Cymru yn chwarae rôl hollbwysig o ran gwella perfformiad economaidd y
rhanbarth.
Gwelliant 6 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi â phryder y
sylwadau gan gadeirydd Siambr Fasnach Gogledd Cymru, a ddywedodd fod
Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio gormod ar Gaerdydd.
'North
Wales: Chamber boss Richard Thomas calls for devolution debate' (Saesneg yn
unig)
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.56
Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5890 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r angen i gryfhau perfformiad economi
gogledd Cymru;
2. Yn cydnabod yr angen i ddatblygu gogledd Cymru
fel pwerdy economaidd ochr yn ochr â phwerdy gogledd Lloegr a gan gydweithio
gydag ef er mwyn hyrwyddo gweithgarwch economaidd trawsffiniol;
3. Yn cydnabod pwysigrwydd buddsoddiad seilwaith i
hyrwyddo'r economi, yn galw am raglen barhaus o welliannau i goridor yr A55 ac
yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi trydaneiddio rheilffordd
arfordir gogledd Cymru; a
4. Yn credu bod yn rhaid i fasnachfraint
ddatganoledig nesaf Cymru barhau i gynnwys llwybrau i ogledd-orllewin Lloegr.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
41 |
0 |
11 |
52 |
Derbyniwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 18/11/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5877 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gwrthwynebu
adnewyddu neu ailosod y system Trident bresennol gan Lywodraeth y DU; a
2. Yn cefnogi ymdrechion
rhyngwladol i ymgymryd â diarfogi niwclear ledled y byd.
Cyflwynwyd
y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pob dim a rhoi yn ei le:
Yn cefnogi ymdrechion rhyngwladol i ymgymryd â diarfogi
niwclear ledled y byd, ond yn cydnabod mai mater i Lywodraeth y DU yw hwn.
[os
derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol]
Gwelliant 2 - Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pob dim a rhoi yn
ei le:
Yn credu bod ailosod
Trident yn hanfodol i sicrhau diogelwch cenedlaethol.
Yn diolch i'r dynion a'r
menywod sy'n gweithio bob dydd i ddiogelu a darparu ataliad niwclear annibynnol
y Deyrnas Unedig, sydd wedi helpu i gynnal heddwch am nifer o flynyddoedd.
Yn nodi ymhellach bod
lleoliad ataliadau niwclear yn fater a gadwyd yn ôl ac felly nid yw o fewn maes
cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru.
[os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn
cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd
ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn croesawu'r
penderfyniad a wnaed gan Lywodraeth y DU i beidio ag adnewyddu Trident yn ystod
y tymor seneddol blaenorol o ganlyniad i'r ffaith bod y Democratiaid
Rhyddfrydol wedi mynnu hyn.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.09
Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5877 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gwrthwynebu adnewyddu neu ailosod y system
Trident bresennol gan Lywodraeth y DU; a
2. Yn cefnogi ymdrechion rhyngwladol i ymgymryd â
diarfogi niwclear ledled y byd.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
14 |
0 |
35 |
49 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu
pob dim a rhoi yn ei le:
Yn
cefnogi ymdrechion rhyngwladol i ymgymryd â diarfogi niwclear ledled y byd, ond
yn cydnabod mai mater i Lywodraeth y DU yw hwn.
Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 1:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
25 |
0 |
24 |
49 |
Derbyniwyd Gwelliant 1.
Gan
fod Gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd Gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol
Cynhaliwyd
pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5877 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cefnogi ymdrechion rhyngwladol i ymgymryd â diarfogi
niwclear ledled y byd, ond yn cydnabod mai mater i Lywodraeth y DU yw hwn.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
38 |
10 |
1 |
49 |
Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 11/11/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5870 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod costau
gofal plant yng Nghymru ymhlith y drutaf yn y byd datblygedig;
2. Yn nodi bod teuluoedd
yng Nghymru yn cael llai o ofal plant am ddim na'u cymheiriaid yn Lloegr a'r
Alban;
3. Yn cydnabod
pwysigrwydd addysg gynnar i godi cyrhaeddiad disgyblion difreintiedig;
4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gynnig darpariaeth gyson o ofal plant am ddim ac addysg gynnar ledled
Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliant a
ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r cyllid a gafodd ei sicrhau yn y cytuneb ar gyllideb 2014 rhwng
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru i ddarparu £0.4 miliwn dros
ddwy flynedd i weithredu astudiaeth ddichonoldeb a chynllun peilot gofal plant
ar gyfer myfyrwyr mewn addysg bellach.
Penderfyniad:
Dechreuodd
yr eitem am 17.57
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliant o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5870 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod costau gofal plant yng Nghymru ymhlith y
drutaf yn y byd datblygedig;
2. Yn nodi bod teuluoedd yng Nghymru yn cael llai o ofal
plant am ddim na'u cymheiriaid yn Lloegr a'r Alban;
3. Yn cydnabod pwysigrwydd addysg gynnar i godi
cyrhaeddiad disgyblion difreintiedig;
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnig darpariaeth gyson
o ofal plant am ddim ac addysg gynnar ledled Cymru.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
19 |
0 |
28 |
47 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1– Aled Roberts (Gogledd
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r cyllid a gafodd ei sicrhau yn y cytuneb ar
gyllideb 2014 rhwng Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru i
ddarparu £0.4 miliwn dros ddwy flynedd i weithredu astudiaeth ddichonoldeb a
chynllun peilot gofal plant ar gyfer myfyrwyr mewn addysg bellach.
Cynhaliwyd
pleidlais ar Welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
28 |
10 |
9 |
47 |
Derbyniwyd
Gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5870 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod costau gofal plant yng Nghymru ymhlith y
drutaf yn y byd datblygedig;
2. Yn nodi bod teuluoedd yng Nghymru yn cael llai o ofal
plant am ddim na'u cymheiriaid yn Lloegr a'r Alban;
3. Yn cydnabod pwysigrwydd addysg gynnar i godi
cyrhaeddiad disgyblion difreintiedig;
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnig darpariaeth gyson
o ofal plant am ddim ac addysg gynnar ledled Cymru;
5. Yn croesawu'r cyllid a gafodd ei sicrhau yn y cytuneb ar
gyllideb 2014 rhwng Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru i
ddarparu £0.4 miliwn dros ddwy flynedd i weithredu astudiaeth ddichonoldeb a chynllun
peilot gofal plant ar gyfer myfyrwyr mewn addysg bellach.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
4 |
19 |
24 |
47 |
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 04/11/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5864 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella perfformiad o ran
mynd i'r afael â thlodi tanwydd.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 – Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai tlodi tanwydd fod yn ganolog i gynllun
gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer trechu tlodi;
Gwelliant 1 – Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn Cymru Effeithlon i
gynnig cynllun cynhwysfawr, yn debyg i Resource Efficient Scotland, i wella
effeithlonrwydd adnoddau a mynd i'r afael â thlodi tanwydd a newid hinsawdd.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.06
Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5864 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i wella perfformiad o ran mynd i'r afael â thlodi
tanwydd.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
37 |
0 |
5 |
42 |
Derbyniwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 21/10/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5852 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn galw am foratoriwm ar
unwaith ar unrhyw wariant a chynllunio ar gyfer 'llwybr du' yr M4 tan fydd pobl
Cymru yn rhoi mandad pan fyddant yn ethol Llywodraeth nesaf Cymru yn etholiad y
Cynulliad ym mis Mai 2016.
Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn croesawu'r ffaith bod cytundeb y gyllideb y cytunodd Llywodraeth Cymru a
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru arno yn sicrhau "na fydd gwaith yn cychwyn
i adeiladu ffordd liniaru'r M4 cyn etholiadau nesaf y Cynulliad" ym mis
Mai 2016 ac y byddai astudiaeth effaith amgylcheddol manwl ar y llwybr y mae
Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio, sef y llwybr du, yn cael ei gomisiynu.
Datganiad
ar y cyd Llywodraeth Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Yn cefnogi:
Edwina Hart (Gŵyr)
[os derbynnir gwelliant 1,
bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 – Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod y bydd unrhyw oedi o ran datblygu ffordd liniaru addas i'r M4 -
yn amodol ar archwiliad cynhwysfawr o'r holl opsiynau posibl - yn rhwystro twf
economi Cymru, twristiaeth ac integreiddio cymdeithasol yn y dyfodol.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.12
Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5852 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw
am foratoriwm ar unwaith ar unrhyw wariant a chynllunio ar gyfer 'llwybr du' yr
M4 tan fydd pobl Cymru yn rhoi mandad pan fyddant yn ethol Llywodraeth nesaf
Cymru yn etholiad y Cynulliad ym mis Mai 2016.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
9 |
0 |
40 |
49 |
Gwrthodwyd
y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn croesawu'r ffaith bod cytundeb y gyllideb y cytunodd Llywodraeth
Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru arno yn sicrhau "na fydd gwaith yn
cychwyn i adeiladu ffordd liniaru'r M4 cyn etholiadau nesaf y Cynulliad"
ym mis Mai 2016 ac y byddai astudiaeth effaith amgylcheddol manwl ar y llwybr y
mae Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio, sef y llwybr du, yn cael ei gomisiynu.
Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
29 |
0 |
20 |
49 |
Derbyniwyd
Gwelliant 1.
Derbyniwyd gwelliant 1, felly
cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5852 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn
croesawu'r ffaith bod cytundeb y gyllideb y cytunodd Llywodraeth Cymru a
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru arno yn sicrhau "na fydd gwaith yn cychwyn
i adeiladu ffordd liniaru'r M4 cyn etholiadau nesaf y Cynulliad" ym mis
Mai 2016 ac y byddai astudiaeth effaith amgylcheddol manwl ar y llwybr y mae
Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio, sef y llwybr du, yn cael ei gomisiynu.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
30 |
0 |
19 |
49 |
Derbyniwyd
y Cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 07/10/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5839
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bwriad datganedig Llywodraeth y DU i gyflwyno
model cadw pwerau ar gyfer datganoli drwy Fil Cymru newydd;
2. Yn ailddatgan ei gefnogaeth i ddatganoli yng Nghymru
ar sail model cadw pwerau;
3. Yn gwrthod
unrhyw fodel cadw pwerau sy'n dileu unrhyw bwerau sy'n arferadwy gan y
Cynulliad o dan y trefniadau presennol;
4. Yn galw am greu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru fel y
fframwaith cyfreithiol mwyaf dymunol ac effeithiol i gyd-fynd â'r broses o
weithredu'r model cadw pwerau ar gyfer datganoli; a
5. Yn galw am ddatganoli cyfiawnder troseddol a phlismona
i gyd-fynd â chreu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 5
newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn nodi adroddiad
diweddar Canolfan Llywodraethiant Cymru ac Uned y Cyfansoddiad, 'Darparu Model
Pwerau Wedi Cadw'n ôl ar gyfer Datganoli i Gymru', sy'n datgan bod y 'gallai
awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru fod yn wahanol, ond ni fyddai'n rhaid iddi fod
ar wahân i'r awdurdodaeth yn Lloegr';
‘Darparu
Model Pwerau Wedi Cadw’n ôl Ar Gyfer Datganoli i Gymru’
Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ym mhwynt 5,
dileu 'chreu' a rhoi 'datblygu'.
Gwelliant 3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
y DU i ddatganoli pwerau i amrywio treth incwm i Gymru ar y cyfle cyntaf.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.45
Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5839 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bwriad datganedig Llywodraeth y DU i gyflwyno model cadw
pwerau ar gyfer datganoli drwy Fil Cymru newydd;
2. Yn ailddatgan ei gefnogaeth i ddatganoli yng Nghymru ar sail model
cadw pwerau;
3. Yn gwrthod unrhyw fodel cadw
pwerau sy'n dileu unrhyw bwerau sy'n arferadwy gan y Cynulliad o dan y
trefniadau presennol;
4. Yn galw am greu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru fel y fframwaith
cyfreithiol mwyaf dymunol ac effeithiol i gyd-fynd â'r broses o weithredu'r
model cadw pwerau ar gyfer datganoli; a
5. Yn galw am ddatganoli cyfiawnder troseddol a phlismona i gyd-fynd â
chreu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
37 |
0 |
14 |
51 |
Derbyniwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 23/09/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5827
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cefnogi cyfryngau cryf fel elfen annatod o
ddemocratiaeth rydd a llawn weithredol yng Nghymru;
2. Yn cydnabod effaith sylweddol y cyfryngau a'r
diwydiannau creadigol ar economi Cymru;
3. Yn pryderu am gynigion presennol Llywodraeth y DU ar
gyfer y BBC cyn adnewyddu ei siarter yn 2016, gyda golwg arbennig ar ddarlledu
yn Gymraeg ac yn Saesneg a BBC Cymru ac S4C cryf;
4. Yn galw ar ei bwyllgorau i ymchwilio i newidiadau
sylfaenol i'r diwydiant cyfryngau er mwyn cefnogi ei swyddogaethau democrataidd
yng Nghymru a gweithredu'r newidiadau hynny; a
5. Yn ailsefydlu is-bwyllgor darlledu er mwyn ffurfio
barn a safbwynt ar adnewyddu siarter y BBC cyn gynted ag y bo modd.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y
DU i sicrhau sefydlogrwydd ariannol ac annibyniaeth olygyddol S4C.
Gwelliant
2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu'r ffaith bod y Pwyllgor Cymunedau,
Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i'r adolygiad o
siarter y BBC.
Penderfyniad:
Dechreuodd
yr eitem am 15.26
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5827 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cefnogi cyfryngau cryf
fel elfen annatod o ddemocratiaeth rydd a llawn weithredol yng Nghymru;
2. Yn cydnabod effaith sylweddol
y cyfryngau a'r diwydiannau creadigol ar economi Cymru;
3. Yn pryderu am gynigion
presennol Llywodraeth y DU ar gyfer y BBC cyn adnewyddu ei siarter yn 2016,
gyda golwg arbennig ar ddarlledu yn Gymraeg ac yn Saesneg a BBC Cymru ac S4C
cryf;
4. Yn galw ar ei bwyllgorau i
ymchwilio i newidiadau sylfaenol i'r diwydiant cyfryngau er mwyn cefnogi ei
swyddogaethau democrataidd yng Nghymru a gweithredu'r newidiadau hynny; a
5. Yn ailsefydlu is-bwyllgor
darlledu er mwyn ffurfio barn a safbwynt ar adnewyddu siarter y BBC cyn gynted
ag y bo modd.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
10 |
0 |
41 |
51 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo
yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau sefydlogrwydd ariannol ac annibyniaeth
olygyddol S4C.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd Gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu'r ffaith bod y
Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gynnal
ymchwiliad i'r adolygiad o siarter y BBC.
Cynhaliwyd
pleidlais ar Welliant 2:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
41 |
0 |
10 |
51 |
Derbyniwyd Gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5827 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cefnogi cyfryngau cryf
fel elfen annatod o ddemocratiaeth rydd a llawn weithredol yng Nghymru;
2. Yn cydnabod effaith
sylweddol y cyfryngau a'r diwydiannau creadigol ar economi Cymru;
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau
sefydlogrwydd ariannol ac annibyniaeth olygyddol S4C.
4. Yn pryderu am gynigion
presennol Llywodraeth y DU ar gyfer y BBC cyn adnewyddu ei siarter yn 2016,
gyda golwg arbennig ar ddarlledu yn Gymraeg ac yn Saesneg a BBC Cymru ac S4C
cryf;
5. Yn galw ar ei bwyllgorau i
ymchwilio i newidiadau sylfaenol i'r diwydiant cyfryngau er mwyn cefnogi ei
swyddogaethau democrataidd yng Nghymru a gweithredu'r newidiadau hynny; a
6. Yn croesawu'r ffaith bod y
Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gynnal
ymchwiliad i'r adolygiad o siarter y BBC.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
40 |
0 |
11 |
51 |
Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 16/09/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5822
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw gynnydd
yn y grant bloc sy'n deillio o gynnydd yng ngwariant iechyd Llywodraeth y DU, yn
cael ei fuddsoddi yng ngwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod
pwysigrwydd buddsoddi mewn lefelau diogel staff nyrsio sy'n cael effaith
sylweddol ar ofal cleifion a recriwtio a chadw staff.
Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cydraddoldeb ar gyfer gofal iechyd meddwl yn
flaenoriaeth ar gyfer buddsoddi yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn y
dyfodol.
Gwelliant 3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwella mynediad i feddygon teulu yn flaenoriaeth
ar gyfer buddsoddi yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn y dyfodol.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.58
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5822 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw gynnydd yn y grant bloc
sy'n deillio o gynnydd yng ngwariant iechyd Llywodraeth y DU, yn cael ei
fuddsoddi yng ngwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
10 |
11 |
31 |
52 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod pwysigrwydd
buddsoddi mewn lefelau diogel staff nyrsio sy'n cael effaith sylweddol ar ofal
cleifion a recriwtio a chadw staff.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd Gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
sicrhau bod cydraddoldeb ar gyfer gofal iechyd meddwl yn flaenoriaeth ar gyfer
buddsoddi yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn y dyfodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd Gwelliant 2.
Gwelliant 3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
sicrhau bod gwella mynediad i feddygon teulu yn flaenoriaeth ar gyfer buddsoddi
yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn y dyfodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd Gwelliant 3.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5822 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw gynnydd yn y grant
bloc sy'n deillio o gynnydd yng ngwariant iechyd Llywodraeth y DU, yn cael ei
fuddsoddi yng ngwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru.
2. Yn cydnabod pwysigrwydd
buddsoddi mewn lefelau diogel staff nyrsio sy'n cael effaith sylweddol ar ofal
cleifion a recriwtio a chadw staff.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i sicrhau bod cydraddoldeb ar gyfer gofal iechyd meddwl yn flaenoriaeth ar
gyfer buddsoddi yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn y dyfodol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i sicrhau bod gwella mynediad i feddygon teulu yn flaenoriaeth ar gyfer
buddsoddi yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn y dyfodol.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
15 |
11 |
26 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 15/07/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5817
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r anawsterau difrifol sy'n wynebu'r sectorau
cig coch a llaeth yng Nghymru.
2. Yn gresynu at y dirywiad ym mhris wrth gât y fferm
llaeth a chig oen.
3. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth y DU i ddiwygio'r
ardoll cig coch.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) defnyddio'r Rhaglen Datblygu Gwledig i ddarparu
cefnogaeth ar unwaith i'r sectorau a'r busnesau yr effeithir arnynt fwyaf;
b) amddiffyn ffermwyr Cymru rhag anwadalrwydd y
marchnadoedd byd-eang drwy gryfhau cadwyni cyflenwi domestig;
c) gwneud sylwadau brys i Lywodraeth y DU gyda'r bwriad o
gyflwyno system ddosbarthu ardoll cig coch decach; a
d) gweithio tuag at gynnal blwyddyn cenedlaethol bwyd a
diod Cymru fel canolbwynt ar gyfer hyrwyddo cynnyrch Cymreig ar lefel ddomestig
a rhyngwladol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt 3 a
rhoi yn ei le:
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i ddiwygio'r ardoll hybu cig.
[os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn
cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 3 a
rhoi yn ei le:
Yn cydnabod yr
angen brys i ddiwygio'r ardoll cig coch ac yn croesawu'r gwaith gan Fforwm y
Diwydiant Cig Coch i ddatblygu cynigion ar gyfer ailddosbarthu ardoll hon.
Gwelliant 3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys ar
ddechrau isbwynt 4(c):
'rhoi'r wybodaeth
ddiweddaraf am waith Fforwm y Diwydiant Cig Coch a'
Gwelliant 4 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys isbwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 4:
'Yn sefydlu
gwobrau bwyd a diod newydd i Gymru i ddarparu meincnod cydnabyddedig o
ragoriaeth o ran ansawdd i gynhyrchwyr a helpu i godi proffil bwyd a diod o
Gymru yn y DU a thramor.'
Gwelliant 5 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau lladd-dy cig eidion a chig oen wedi'i leoli yng
ngogledd Cymru i sicrhau cynaliadwyedd hir dymor cynhyrchu cig coch yng
Ngogledd Cymru.
Gwelliant 6 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am god
ymarfer gwirfoddol ar gyfer archfarchnadoedd a siopau i neilltuo rhan o'u
lloriau i gefnogi a hyrwyddo statws dynodiad daearyddol gwarchodedig o Gymru a
chig tractor coch Prydeinig.
Gwelliant 7 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gynyddu'n sylweddol y canran o'r cynnyrch a gaffelir yn
gyhoeddus sy'n dod o Gymru.
Gwelliant 8 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithredu argymhellion adolygiad Richardson o'r sector
llaeth yn ddi-oed.
Mae'r Adolygiad
Richardson ar gael yma
Gwelliant 9 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am
ymestyn labelu gwlad tarddiad gorfodol i'r sector llaeth.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.14
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5817
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r anawsterau difrifol sy'n wynebu'r sectorau
cig coch a llaeth yng Nghymru.
2. Yn gresynu at y dirywiad ym mhris wrth gât y fferm
llaeth a chig oen.
3. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth y DU i ddiwygio'r
ardoll cig coch.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) defnyddio'r Rhaglen Datblygu Gwledig i ddarparu
cefnogaeth ar unwaith i'r sectorau a'r busnesau yr effeithir arnynt fwyaf;
b) amddiffyn ffermwyr Cymru rhag anwadalrwydd y
marchnadoedd byd-eang drwy gryfhau cadwyni cyflenwi domestig;
c) gwneud sylwadau brys i Lywodraeth y DU gyda'r bwriad o
gyflwyno system ddosbarthu ardoll cig coch decach; a
d) gweithio tuag at
gynnal blwyddyn genedlaethol bwyd a diod Cymru fel canolbwynt ar gyfer hyrwyddo
cynnyrch Cymreig ar lefel ddomestig a rhyngwladol.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
34 |
0 |
16 |
50 |
Derbyniwyd y Cynnig heb
ei ddiwygio.
Cyfarfod: 01/07/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5802
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y dylai'r system addysg alluogi'r gweithlu
addysg i arwain ar ddatblygiad proffesiynol a gwella safonau addysg;
2. Yn galw am godi safonau proffesiynol y gweithlu addysg
drwy wneud addysgu yn broffesiwn lefel Meistr a gwella datblygiad proffesiynol
parhaus ar gyfer y gweithlu cyfan; a
3. Yn galw am ddatganoli tâl ac amodau athrawon i Gymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Mewnosod pwynt 2
newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn credu y gall
corff cofrestru proffesiynol helpu gyda gwelliant parhaus staff a myfyrwyr
addysgu ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cynrychiolaeth etholedig o
gyfoedion o'r proffesiwn addysgu i Gyngor y Gweithlu Addysg er mwyn sicrhau ei
fod yn atebol fel sy'n briodol.
Gwelliant 2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ym mhwynt 2,
dileu pob dim ar ôl 'Meistr' a rhoi yn ei le:
'ac yn galw am
well mynediad i ddatblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer y gweithlu cyfan, ni
waeth pwy yw'r cyflogwr; a'
Gwelliant 3 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 3 a
rhoi yn ei le:
Yn cydnabod y
manteision sydd ynghlwm wrth ddatganoli tâl ac amodau athrawon i Gymru cyn
belled â bod digon o adnoddau'n cael eu trosglwyddo.
[os derbynnir gwelliant 3, bydd gwelliant 4 yn
cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 4 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt 3.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.23
Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5802 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y dylai'r system
addysg alluogi'r gweithlu addysg i arwain ar ddatblygiad proffesiynol a gwella
safonau addysg;
2. Yn galw am godi safonau
proffesiynol y gweithlu addysg drwy wneud addysgu yn broffesiwn lefel Meistr a
gwella datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer y gweithlu cyfan; a
3. Yn galw am ddatganoli tâl
ac amodau athrawon i Gymru.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
9 |
0 |
44 |
53 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd
Cymru)
Mewnosod pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn credu y gall corff cofrestru proffesiynol helpu gyda gwelliant
parhaus staff a myfyrwyr addysgu ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau
cynrychiolaeth etholedig o gyfoedion o'r proffesiwn addysgu i Gyngor y Gweithlu
Addysg er mwyn sicrhau ei fod yn atebol fel sy'n briodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
26 |
0 |
27 |
53 |
Gwrthodwyd Gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Ym mhwynt 2, dileu pob dim ar ôl 'Meistr' a rhoi yn ei le:
'ac yn galw am well mynediad i ddatblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer
y gweithlu cyfan, ni waeth pwy yw'r cyflogwr; a'
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd Gwelliant 2.
Gwelliant 3 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod y manteision sydd ynghlwm wrth ddatganoli tâl ac amodau
athrawon i Gymru cyn belled â bod digon o adnoddau'n cael eu trosglwyddo.
Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 3:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
31 |
0 |
21 |
52 |
Derbyniwyd Gwelliant 3.
Derbyniwyd gwelliant 3, felly
cafodd gwelliant 4 ei ddad-ddethol.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5802 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y dylai'r system
addysg alluogi'r gweithlu addysg i arwain ar ddatblygiad proffesiynol a gwella
safonau addysg;
2. Yn galw am godi safonau
proffesiynol y gweithlu addysg drwy wneud addysgu yn broffesiwn lefel Meistr ac yn galw
am well mynediad i ddatblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer y gweithlu cyfan,
ni waeth pwy yw'r cyflogwr; a
3. Yn cydnabod y manteision sydd
ynghlwm wrth ddatganoli tâl ac amodau athrawon i Gymru cyn belled â bod digon o
adnoddau'n cael eu trosglwyddo.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
41 |
0 |
12 |
53 |
Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 17/06/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5788
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i ddiwygio
llywodraeth leol yng Nghymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau
cyhoeddus yng Nghymru yn cael eu darparu'n effeithlon ac yn effeithiol ac yn diwallu
anghenion dinasyddion Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Mewnosod ar
ddiwedd pwynt 2:
"ac yn credu
y dylai hyn gynnwys cyflwyno'r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer
etholiadau llywodraeth leol."
Gwelliant 2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei hagenda i ddiwygio llywodraeth leol yn arwain
at fwy o dryloywder ac atebolrwydd democrataidd o fewn llywodraeth leol.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.55
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5788
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i ddiwygio
llywodraeth leol yng Nghymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau
cyhoeddus yng Nghymru yn cael eu darparu'n effeithlon ac yn effeithiol ac yn
diwallu anghenion dinasyddion Cymru.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
34 |
0 |
14 |
48 |
Derbyniwyd y Cynnig heb
ei ddiwygio.
Cyfarfod: 10/06/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5781
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau effeithiol i
hyrwyddo cyfranogiad economaidd llawn gan fenywod.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu
cyflwyno rhannu cyfnodau absenoldeb rhieni, sef penderfyniad a ddaeth i rym ym
mis Ebrill 2015, a fydd yn cefnogi dynion i gymryd rôl fwy gweithredol o ran
magu plant, ac yn cefnogi menywod i ddychwelyd i gyfranogiad economaidd llawn
ar ôl rhoi genedigaeth.
Gwelliant 2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod yr
angen i gau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau er mwyn sicrhau bod menywod yn cael
mynediad i gyflogaeth o ansawdd, sy'n talu'n dda ac sy'n hyblyg.
Gwelliant 3 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi
manteision gofal plant fforddiadwy o ansawdd uchel o ran cefnogi menywod yn ôl
i'r gweithle.
Gwelliant 4 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cefnogi
galwadau i Gymru ddod yn genedl cyflog byw i fynd i'r afael â'r bwlch cyflog
rhwng y rhywiau.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.59
Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5781 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
gymryd camau effeithiol i hyrwyddo cyfranogiad economaidd llawn gan fenywod.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
33 |
0 |
15 |
48 |
Derbyniwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 13/05/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5759
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod nad yw fformiwla gyllido Barnett er budd
pennaf Cymru;
2. Yn nodi pe bai Cymru'n cael ei hariannu ar yr un sail
â'r Alban fesul pen o'r boblogaeth, byddai'n cael £1.2 biliwn ychwanegol bob
blwyddyn; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddadlau'r achos o blaid cyllido
Cymru ar yr un sail â'r Alban.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu popeth a
rhoi yn ei le:
1. Yn cydnabod
canfyddiadau Comisiwn Holtham fod fformiwla Barnett yn tanwario ar Gymru o ryw
£300 miliwn y flwyddyn;
2. Yn credu y
dylai Cymru gael ei hariannu'n deg;
3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i:
a) comisiynu
diweddariad o ddadansoddiad Comisiwn Holtham;
b) sefydlu llawr
Barnett ar unwaith; ac
c) cynyddu'r
grant bloc i lefel teg i sicrhau cyllid teg i Gymru.
[os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3 a
5 yn cael eu dad-ddethol]
Gwelliant 2 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwyntiau 2
a 3 ac yn eu lle rhoi:
2. Yn nodi bod
astudiaethau wedi dod i'r casgliad dro ar ôl tro nad yw Cymru'n cael ei
chyllido'n unol â'r angen.
3. Yn galw ar Lywodraeth
y DU i sicrhau bod Cymru yn cael ei chyllido'n deg drwy weithredu terfyn
ariannu isaf sy'n cael cefnogaeth drawsbleidiol.
[os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliannau 3 a 5
yn cael eu dad-ddethol]
Gwelliant 3 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt 2 a
rhoi yn ei le:
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gynnal adolygiad ar y cyd i asesu
anghenion cyllido Cymru.
Gwelliant 4 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnwys pwynt 3
newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn croesawu cytundeb
Dydd Gŵyl Dewi a'r cynlluniau ar gyfer cyllid gwaelodol ar gyfer Cymru.
Gwelliant 5 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ym mhwynt 3,
dileu ' yr un sail â'r Alban' a rhoi yn ei le 'sail angen, nid y boblogaeth'.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.20
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r Gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5759
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod nad yw fformiwla gyllido Barnett er budd
pennaf Cymru;
2. Yn nodi pe bai Cymru'n cael ei hariannu ar yr un sail
â'r Alban fesul pen o'r boblogaeth, byddai'n cael £1.2 biliwn ychwanegol bob
blwyddyn; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddadlau'r achos o blaid
cyllido Cymru ar yr un sail â'r Alban.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
9 |
0 |
38 |
47 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb
ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu popeth a
rhoi yn ei le:
1. Yn cydnabod
canfyddiadau Comisiwn Holtham fod fformiwla Barnett yn tanwario ar Gymru o ryw
£300 miliwn y flwyddyn;
2. Yn credu y
dylai Cymru gael ei hariannu'n deg;
3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i:
a) comisiynu
diweddariad o ddadansoddiad Comisiwn Holtham;
b) sefydlu llawr
Barnett ar unwaith; ac
c) cynyddu'r grant
bloc i lefel teg i sicrhau cyllid teg i Gymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
3 |
0 |
44 |
47 |
Gwrthodwyd Gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwyntiau 2 a
3 ac yn eu lle rhoi:
2. Yn nodi bod
astudiaethau wedi dod i'r casgliad dro ar ôl tro nad yw Cymru'n cael ei
chyllido'n unol â'r angen.
3. Yn galw ar
Lywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru yn cael ei chyllido'n deg drwy weithredu
terfyn ariannu isaf sy'n cael cefnogaeth drawsbleidiol.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
28 |
0 |
19 |
47 |
Derbyniwyd Gwelliant 2.
Derbyniwyd gwelliant 2, felly cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol
Gwelliant 4 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnwys pwynt 3
newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn croesawu
cytundeb Dydd Gŵyl Dewi a'r
cynlluniau ar gyfer cyllid gwaelodol ar gyfer Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 4:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
13 |
0 |
34 |
47 |
Gwrthodwyd Gwelliant 4.
Derbyniwyd gwelliant 2, felly cafodd gwelliant 5 ei ddad-ddethol
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5759
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod nad yw fformiwla gyllido Barnett er budd
pennaf Cymru;
2. Yn nodi bod
astudiaethau wedi dod i'r casgliad dro ar ôl tro nad yw Cymru'n cael ei
chyllido'n unol â'r angen.
3. Yn galw ar Lywodraeth
y DU i sicrhau bod Cymru yn cael ei chyllido'n deg drwy weithredu terfyn
ariannu isaf sy'n cael cefnogaeth drawsbleidiol.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd y Cynnig
wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 06/05/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5751
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y dylai plismona adlewyrchu anghenion pobl
Cymru.
2. Yn credu bod heddluoedd Cymru wedi cael eu
gwleidyddoli drwy sefydlu Comisiynwyr Heddlu a Throseddu etholedig.
3. Yn galw am ddileu'r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu cyn
gynted â phosibl.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Mewnosod pwynt 1
newydd ac ailrifo:
Yn croesawu bod
troseddu wedi gostwng mwy na 20 y cant i'r lefel isaf erioed o dan Lywodraeth y
DU a bod plant dan gadwad, fel yr oedd o dan y Blaid Lafur, wedi dod i ben.
Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Mewnosod ar
ddiwedd pwynt 1:
'ac y caiff hyn
ei wneud orau gan heddluoedd lleol ac atebol ac nid drwy greu un heddlu yng
Nghymru sydd wedi'i ganoli'n ormodol.'
Gwelliant 3 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwyntiau 2
a 3 a'u disodli gyda:
Yn croesawu
Comisiynwyr Heddlu a Throseddu a etholir yn uniongyrchol sy'n rhoi cymunedau
lleol wrth wraidd plismona ac yn dwyn Prif Gwnstabliaid lleol i gyfrif.
Gwelliant 4 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Mewnosod pwynt 3
newydd ac ailrifo:
Yn credu y bydd
datganoli plismona i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn galluogi polisïau i fod yn
fwy ymatebol i anghenion Cymru ac felly'n galw am ddatganoli plismona a
chyfiawnder ieuenctid, a chynnal adolygiad i ddatganoli carchardai, y
gwasanaeth prawf a chyfiawnder.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am
16.49
Gohiriwyd y
bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5751 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y dylai plismona adlewyrchu
anghenion pobl Cymru.
2. Yn credu bod heddluoedd Cymru wedi cael
eu gwleidyddoli drwy sefydlu Comisiynwyr Heddlu a Throseddu etholedig.
3. Yn galw am ddileu'r Comisiynwyr Heddlu a
Throseddu cyn gynted â phosibl.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
25 |
0 |
8 |
33 |
Derbyniwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 22/04/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5741 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi pwysigrwydd sefydliadau addysg bellach i ddarparu addysg ôl-16;
2.
Yn nodi pwysigrwydd darparu cyfleoedd dysgu i oedolion ar gyfer oedolion sydd am
ddatblygu sgiliau newydd;
3.
Yn gresynu at effaith y toriadau i addysg ôl-16 ar y sector addysg bellach; a
4.
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fonitro tâl uwch reolwyr mewn addysg
uwch yn flynyddol ac yn annog hynny i gael ei ymestyn i addysg bellach.
Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Ar
ddiwedd pwynt 3, mewnosoder:
'ac
yn nodi'r gostyngiad o 47% yn nifer y bobl a gofrestrodd ar gyfer cyrsiau
rhan-amser rhwng 2003 a 2013.'
Gwelliant 2 – Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Cynnwys
pwynt 4 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn
nodi pwysigrwydd y Gronfa Blaenoriaethau Sector i sefydliadau addysg bellach o
ran datblygu sgiliau dysgwyr.
Gwelliant 3 – Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Cynnwys
pwynt 4 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn
gresynu at y ffaith bod llai o gyfleoedd prentisiaeth ar gael i feysydd
blaenoriaeth Llywodraeth Cymru, sef dysgwyr 16 i 24 oed a phrentisiaethau uwch.
Gwelliant 4 – Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Cynnwys
pwynt 4 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn
gresynu at ddiffyg brys Llywodraeth Cymru wrth roi gwybod i sefydliadau addysg
bellach a fyddant yn derbyn eu dyraniad o'r Gronfa Blaenoriaethau Sector.
Gwelliant 5 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Cynnwys
pwynt 4 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn
nodi yr amcangyfrifir bod nifer y bobl 50 oed a throsodd nad ydynt mewn
cyflogaeth, addysg na hyfforddiant (NEET) dair gwaith cymaint â nifer y bobl
NEET o dan 25 oed ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddylunio a gweithredu
rhaglen benodol i wella sgiliau a rhagolygon cyflogadwyedd pobl dros 50 nad
ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant .
Gwelliant 6 – Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
croesawu'r cytundeb cyllideb rhwng Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth
Cymru a oedd yn sicrhau cyllid ychwanegol ar gyfer 5,000 o brentisiaethau
newydd a chynllun newydd sy'n darparu gofal plant ar gyfer rhieni mewn addysg
bellach.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am
16.13
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o
dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5741 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd sefydliadau addysg bellach i
ddarparu addysg ôl-16;
2. Yn nodi pwysigrwydd darparu cyfleoedd dysgu i
oedolion ar gyfer oedolion sydd am ddatblygu sgiliau newydd;
3. Yn gresynu at effaith y toriadau i addysg ôl-16
ar y sector addysg bellach; a
4. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i
fonitro tâl uwch reolwyr mewn addysg uwch yn flynyddol ac yn annog hynny i gael
ei ymestyn i addysg bellach.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
37 |
0 |
9 |
46 |
Derbyniwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 25/03/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5733
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gwrthwynebu adleoli system arfau niwclear y DU i Gymru;
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau yn
nodi hyn i Lywodraeth y DU;
3. Yn gwrthwynebu adnewyddu neu newid y system Trident
bresennol gan Lywodraeth y DU; a
4. Yn cefnogi ymdrechion rhyngwladol i ymgymryd â
diarfogi niwclear ledled y byd.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a
rhoi yn ei le:
Yn nodi nad oes
gan Lywodraeth Cymru unrhyw bwerau i benderfynu ble i leoli arfau niwclear ac
yn cydnabod mai mater i Lywodraeth y DU yw hwn.
[os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn
cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3
newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn croesawu'r
penderfyniad a wnaed gan Lywodraeth y DU i beidio ag adnewyddu Trident yn ystod
y tymor seneddol hwn o ganlyniad i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn mynnu hyn.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.48
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5733
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gwrthwynebu adleoli system arfau niwclear y DU i
Gymru;
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau yn
nodi hyn i Lywodraeth y DU;
3. Yn gwrthwynebu adnewyddu neu newid y system Trident
bresennol gan Lywodraeth y DU; a
4. Yn cefnogi ymdrechion rhyngwladol i ymgymryd â
diarfogi niwclear ledled y byd.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
9 |
0 |
38 |
47 |
Gwrthodwyd y cynnig
heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi
yn ei le:
Yn nodi nad oes
gan Lywodraeth Cymru unrhyw bwerau i benderfynu ble i leoli arfau niwclear ac
yn cydnabod mai mater i Lywodraeth y DU yw hwn.
[os derbynnir gwelliant 1, bydd
gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol]
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
34 |
0 |
13 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant
1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei
ddad-ddethol
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5733
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi nad oes
gan Lywodraeth Cymru unrhyw bwerau i benderfynu ble i leoli arfau niwclear ac
yn cydnabod mai mater i Lywodraeth y DU yw hwn.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
38 |
0 |
9 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 11/03/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5718
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi Adroddiad Synthesis y Panel Rhynglywodraethol
ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) ar gyfer 2014 sy'n datgan:
a) bod dylanwad dynol ar y system hinsawdd yn glir, ac mai'r
allyriadau anthropogenig diweddar o nwyon tŷ gwydr yw'r rhai uchaf mewn
hanes;
b) bod yr awyrgylch a'r môr wedi cynhesu, bod cyfanswm yr
eira a'r rhew wedi lleihau, a lefel y môr wedi codi; a
c) y gall gostyngiadau sylweddol mewn allyriadau dros y
degawdau nesaf leihau risgiau i'r hinsawdd yn yr 21ain ganrif a thu hwnt,
cynyddu rhagolygon ar gyfer addasu effeithiol, lleihau costau a heriau lliniaru
yn y tymor hwy, a chyfrannu at lwybrau datblygu cynaliadwy sy'n gallu dygymod
â'r newid yn yr hinsawdd.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno targedau
statudol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru.
Mae Adroddiad Synthesis yr IPCC ar gyfer 2014 ar gael
yn: http://www.ipcc.ch/pdf/assessment-report/ar5/syr/SYR_AR5_SPMcorr2.pdf
(Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 2 a
rhoi'r canlynol yn ei le:
Yn edrych ymlaen
at Fil yr Amgylchedd a fydd yn gyfrwng i Lywodraeth Cymru ddeddfu ar gyfer
targedau statudol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.
[os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3
yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ym mhwynt 2, ar
ôl 'targedau' mewnosoder 'yn y Bil amgylchedd arfaethedig'.
Gwelliant 3 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnwys ar
ddiwedd pwynt 2:
'ac yn gwneud
datganiadau rheolaidd i'r Cyfarfod Llawn ar y targedau hynny'
Penderfyniad:
Dechreuodd
yr eitem am 16.41
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5718 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi Adroddiad Synthesis y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd
(IPCC) ar gyfer 2014 sy'n datgan:
a)
bod dylanwad dynol ar y system hinsawdd yn glir, ac mai'r allyriadau
anthropogenig diweddar o nwyon tŷ gwydr yw'r rhai uchaf mewn hanes;
b)
bod yr awyrgylch a'r môr wedi cynhesu, bod cyfanswm yr eira a'r rhew wedi
lleihau, a lefel y môr wedi codi; a
c)
y gall gostyngiadau sylweddol mewn allyriadau dros y degawdau nesaf leihau
risgiau i'r hinsawdd yn yr 21ain ganrif a thu hwnt, cynyddu rhagolygon ar gyfer
addasu effeithiol, lleihau costau a heriau lliniaru yn y tymor hwy, a chyfrannu
at lwybrau datblygu cynaliadwy sy'n gallu dygymod â'r newid yn yr hinsawdd.
2.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno targedau statudol i leihau allyriadau
nwyon tŷ gwydr yng Nghymru.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
9 |
0 |
40 |
49 |
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1
– Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu
pwynt 2 a rhoi'r canlynol yn ei le:
Yn
edrych ymlaen at Fil yr Amgylchedd a fydd yn gyfrwng i Lywodraeth Cymru ddeddfu
ar gyfer targedau statudol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
34 |
0 |
15 |
49 |
Derbyniwyd
gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio:
NDM5718 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi Adroddiad Synthesis y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd
(IPCC) ar gyfer 2014 sy'n datgan:
a)
bod dylanwad dynol ar y system hinsawdd yn glir, ac mai'r allyriadau
anthropogenig diweddar o nwyon tŷ gwydr yw'r rhai uchaf mewn hanes;
b)
bod yr awyrgylch a'r môr wedi cynhesu, bod cyfanswm yr eira a'r rhew wedi
lleihau, a lefel y môr wedi codi; a
c)
y gall gostyngiadau sylweddol mewn allyriadau dros y degawdau nesaf leihau
risgiau i'r hinsawdd yn yr 21ain ganrif a thu hwnt, cynyddu rhagolygon ar gyfer
addasu effeithiol, lleihau costau a heriau lliniaru yn y tymor hwy, a chyfrannu
at lwybrau datblygu cynaliadwy sy'n gallu dygymod â'r newid yn yr hinsawdd.
2. Yn
edrych ymlaen at Fil yr Amgylchedd a fydd yn gyfrwng i Lywodraeth Cymru ddeddfu
ar gyfer targedau statudol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 04/03/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5710
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu na ddylai lefel Cymru o hunanlywodraeth fod
yn is nag unrhyw ran arall o'r DU;
2. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi methu
â chyflawni cydraddoldeb o ran pwerau a pharch i Gymru yn ystod ei daliadaeth;
3. Yn galw am gydraddoldeb llawn o ran pwerau a chyllid
ar gyfer Cymru a'r Alban;
4. Yn galw am drosglwyddo cyfrifoldeb am gyfansoddiad
Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Fil ymreolaeth newydd;
5. Yn nodi y dylai'r Bil ymreolaeth gynnwys datganoli'r
cyfrifoldeb dros adnoddau naturiol Cymru yn llawn;
6. Yn galw ymhellach am greu awdurdodaeth gyfreithiol i
Gymru a datganoli plismona, carchardai, llysoedd a chyfiawnder troseddol; a
7. Yn credu y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael y
grym i gefnogi'r rhai sydd angen diogelwch cymdeithasol drwy bwerau cynyddol
mewn perthynas â budd-daliadau lles fel yr argymhellodd y Comisiwn Smith i'r
Alban.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu popeth a
rhoi yn ei le:
1. Yn croesawu'r
camau sylweddol a gymerwyd ymlaen mewn perthynas â'r setliad datganoli i Gymru
ers 2010, gan gynnwys:
a) refferendwm ar
bwerau deddfu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
b) sefydlu
Comisiwn Silk;
c) cyflwyno Deddf
Cymru 2014, sydd wedi datganoli treth stamp, trethi busnes a threth tirlenwi i
Gynulliad Cenedlaethol Cymru a darparu ar gyfer refferendwm ar a ddylid
datganoli elfen o dreth incwm.
2. Yn croesawu'r
cyhoeddiad Dydd Gŵyl
Dewi sy'n cynnig:
a) datganoli'r
cyfrifoldeb dros bob caniatâd cynllunio i ddatblygiadau prosiectau ynni hyd at
350 MW ar y tir ac yn nyfroedd tiriogaethol Cymru;
b) datganoli
terfynau cyflymder, rheoliadau bws a thacsi, a swyddogaethau'r Comisiynydd
Traffig;
c) cyflwyno model
cadw pwerau;
d) datganoli
datblygu porthladdoedd;
e) datganoli
pwerau yn ymwneud ag etholiadau'r Cynulliad ac etholiadau llywodraeth leol;
f) datganoli
cymhwysedd dros ddyletswyddau cydraddoldeb ar gyfer y sector cyhoeddus
datganoledig; a
g) datganoli
trwyddedu echdynnu olew a nwy ar y tir yng Nghymru
3. Yn credu bod
yn rhaid inni fynd ymhellach i sicrhau ymreolaeth i Gymru ac yn galw am:
a) datganoli'n
llawn y cynigion Silk Rhan 1 sy'n weddill ar bwerau ariannol i Gymru;
b) datganoli'n
llawn y cynigion Silk Rhan 2 sy'n weddill ar bwerau deddfwriaethol i Gymru;
c) datganoli
cyllid Network Rail mewn perthynas â rhwydwaith Cymru;
d) datganoli
terfynau yfed a gyrru;
e) datganoli'r
cyfrifoldeb dros ariannu gwariant cyhoeddus ar S4C i'r Cynulliad;
f) datganoli
cyfiawnder ieuenctid, plismona a phwerau cyfiawnder eraill yn y tymor hwy;
g) trosglwyddo
pwerau i reoli asedau economaidd Ystâd y Goron;
h) trosglwyddo
rheolaeth dros ystod o fuddion ar gyfer pobl hŷn, gofalwyr a phobl anabl;
i) datganoli
pwerau i ostwng yr oedran pleidleisio i 16 yn etholiadau cenedlaethol a lleol
Cymru;
j) rhoi'r hawl i
Lywodraeth Cymru osod ei gwyliau banc ei hun; a
k) rhoi'r pŵer i Gomisiynydd Plant Cymru archwilio
materion sy'n effeithio ar blant yng Nghymru ond nad ydynt o fewn rheolaeth
Llywodraeth Cymru.
4. Yn galw am
sefydlu confensiwn cyfansoddiadol ar draws y DU i ddrafftio cynllun ar gyfer
undeb newydd.
Mae Deddf Cymru
2014 ar gael yn:
www.legislation.gov.uk/mwa/2010/4/contents
(Saesneg yn unig)
Mae adroddiadau
Silk Rhan 1 a Rhan 2 ar gael yn:
[os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3
yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
1. Yn nodi cynnig
y Cynulliad, a gefnogwyd gan bob plaid a'i gymeradwyo ar 22 Hydref 2014, sy'n
amlinellu ei ddyheadau ar gyfer dyfodol datganoli yng Nghymru;
2. Yn nodi bod
Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi Papur Gorchymyn sy'n amlinellu ein cynigion ar
gyfer camau nesaf datganoli;
3. Yn cydnabod
bod cynnydd wedi'i wneud o safbwynt rhai o'r dyheadau y cytunwyd arnynt gan y
Cynulliad ar gyfer datganoli, gan gynnwys model cadw pwerau i Gymru, a phwerau
newydd i'r Cynulliad ar drafnidiaeth, adnoddau naturiol ac etholiadau;
4. Yn croesawu'r
ffaith bod Llywodraeth y DU yn cydnabod y dylai Cymru gael setliad cyllido
tecach, ond yn mynegi siom nad yw hyn yn mynd yn ddigon pell i fodloni cais
unfrydol gan y Cynulliad i Lywodraeth y DU ymrwymo i ddull penodedig o atal
rhagor o gydgyfeirio.
5. Yn mynegi siom
ynghylch y diffyg cynnydd o ran datganoli pwerau eraill a argymhellwyd gan
Gomisiwn Llywodraeth y DU ar Ddatganoli yng Nghymru: a
6. Yn galw ar
Lywodraeth nesaf y DU i roi sylw i'r materion hyn sy'n weddill yn dilyn
Etholiad Cyffredinol y DU.
Mae'r papur
gorchymyn ar gael yn:
Dogfen
Ategol (Saesneg yn unig)
[os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn
cael ei ddad-ddethol]
3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Dileu pob dim a
rhoi yn ei le:
Yn croesawu'r
newidiadau cyfansoddiadol sylweddol sydd wedi digwydd i setliad datganoli Cymru
ers 2010 ac yn galw ar Lywodraeth nesaf y DU i anrhydeddu y cytundeb Dydd Gŵyl Dewi trawsbleidiol a gyhoeddwyd yn
ddiweddar gan Brif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog y DU.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.45
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5710 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn
credu na ddylai lefel Cymru o hunanlywodraeth fod yn is nag unrhyw ran arall
o'r DU;
2. Yn
gresynu at y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi methu â chyflawni cydraddoldeb o
ran pwerau a pharch i Gymru yn ystod ei daliadaeth;
3. Yn
galw am gydraddoldeb llawn o ran pwerau a chyllid ar gyfer Cymru a'r Alban;
4. Yn
galw am drosglwyddo cyfrifoldeb am gyfansoddiad Cymru i Gynulliad Cenedlaethol
Cymru drwy Fil ymreolaeth newydd;
5. Yn
nodi y dylai'r Bil ymreolaeth gynnwys datganoli'r cyfrifoldeb dros adnoddau
naturiol Cymru yn llawn;
6. Yn
galw ymhellach am greu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru a datganoli plismona,
carchardai, llysoedd a chyfiawnder troseddol; a
7. Yn credu y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael y grym i gefnogi'r
rhai sydd angen diogelwch cymdeithasol drwy bwerau cynyddol mewn perthynas â
budd-daliadau lles fel yr argymhellodd y Comisiwn Smith i'r Alban.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
9 |
0 |
35 |
44 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu
popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn
croesawu'r camau sylweddol a gymerwyd ymlaen mewn perthynas â'r setliad
datganoli i Gymru ers 2010, gan gynnwys:
a)
refferendwm ar bwerau deddfu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
b)
sefydlu Comisiwn Silk;
c)
cyflwyno Deddf Cymru 2014, sydd wedi datganoli treth stamp, trethi busnes a
threth tirlenwi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a darparu ar gyfer refferendwm
ar a ddylid datganoli elfen o dreth incwm.
2. Yn
croesawu'r cyhoeddiad Dydd Gŵyl Dewi sy'n cynnig:
a)
datganoli'r cyfrifoldeb dros bob caniatâd cynllunio i ddatblygiadau prosiectau
ynni hyd at 350 MW ar y tir ac yn nyfroedd tiriogaethol Cymru;
b)
datganoli terfynau cyflymder, rheoliadau bws a thacsi, a swyddogaethau'r
Comisiynydd Traffig;
c)
cyflwyno model cadw pwerau;
d)
datganoli datblygu porthladdoedd;
e)
datganoli pwerau yn ymwneud ag etholiadau'r Cynulliad ac etholiadau llywodraeth
leol;
f)
datganoli cymhwysedd dros ddyletswyddau cydraddoldeb ar gyfer y sector
cyhoeddus datganoledig; a
g)
datganoli trwyddedu echdynnu olew a nwy ar y tir yng Nghymru
3. Yn
credu bod yn rhaid inni fynd ymhellach i sicrhau ymreolaeth i Gymru ac yn galw
am:
a)
datganoli'n llawn y cynigion Silk Rhan 1 sy'n weddill ar bwerau ariannol i
Gymru;
b)
datganoli'n llawn y cynigion Silk Rhan 2 sy'n weddill ar bwerau deddfwriaethol
i Gymru;
c)
datganoli cyllid Network Rail mewn perthynas â rhwydwaith Cymru;
d)
datganoli terfynau yfed a gyrru;
e)
datganoli'r cyfrifoldeb dros ariannu gwariant cyhoeddus ar S4C i'r Cynulliad;
f)
datganoli cyfiawnder ieuenctid, plismona a phwerau cyfiawnder eraill yn y tymor
hwy;
g)
trosglwyddo pwerau i reoli asedau economaidd Ystâd y Goron;
h)
trosglwyddo rheolaeth dros ystod o fuddion ar gyfer pobl hŷn, gofalwyr a
phobl anabl;
i)
datganoli pwerau i ostwng yr oedran pleidleisio i 16 yn etholiadau cenedlaethol
a lleol Cymru;
j)
rhoi'r hawl i Lywodraeth Cymru osod ei gwyliau banc ei hun; a
k)
rhoi'r pŵer i Gomisiynydd Plant Cymru archwilio materion sy'n effeithio ar
blant yng Nghymru ond nad ydynt o fewn rheolaeth Llywodraeth Cymru.
4. Yn
galw am sefydlu confensiwn cyfansoddiadol ar draws y DU i ddrafftio cynllun ar
gyfer undeb newydd.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
3 |
0 |
41 |
44 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi
cynnig y Cynulliad, a gefnogwyd gan bob plaid a'i gymeradwyo ar 22 Hydref 2014,
sy'n amlinellu ei ddyheadau ar gyfer dyfodol datganoli yng Nghymru;
2. Yn
nodi bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi Papur Gorchymyn sy'n amlinellu ein
cynigion ar gyfer camau nesaf datganoli;
3. Yn
cydnabod bod cynnydd wedi'i wneud o safbwynt rhai o'r dyheadau y cytunwyd
arnynt gan y Cynulliad ar gyfer datganoli, gan gynnwys model cadw pwerau i
Gymru, a phwerau newydd i'r Cynulliad ar drafnidiaeth, adnoddau naturiol ac etholiadau;
4. Yn
croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn cydnabod y dylai Cymru gael setliad
cyllido tecach, ond yn mynegi siom nad yw hyn yn mynd yn ddigon pell i fodloni
cais unfrydol gan y Cynulliad i Lywodraeth y DU ymrwymo i ddull penodedig o
atal rhagor o gydgyfeirio.
5. Yn
mynegi siom ynghylch y diffyg cynnydd o ran datganoli pwerau eraill a
argymhellwyd gan Gomisiwn Llywodraeth y DU ar Ddatganoli yng Nghymru: a
6. Yn
galw ar Lywodraeth nesaf y DU i roi sylw i'r materion hyn sy'n weddill yn dilyn
Etholiad Cyffredinol y DU.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 2:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
26 |
0 |
18 |
44 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gan fod gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5710 Elin Jones (Ceredigion)
1. Yn nodi cynnig y Cynulliad, a gefnogwyd gan bob plaid a'i gymeradwyo ar 22
Hydref 2014, sy'n amlinellu ei ddyheadau ar gyfer dyfodol datganoli yng
Nghymru;
2. Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi Papur Gorchymyn sy'n
amlinellu ein cynigion ar gyfer camau nesaf datganoli;
3. Yn cydnabod bod cynnydd wedi'i wneud o safbwynt rhai o'r dyheadau y
cytunwyd arnynt gan y Cynulliad ar gyfer datganoli, gan gynnwys model cadw
pwerau i Gymru, a phwerau newydd i'r Cynulliad ar drafnidiaeth, adnoddau
naturiol ac etholiadau;
4. Yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn cydnabod y dylai Cymru gael
setliad cyllido tecach, ond yn mynegi siom nad yw hyn yn mynd yn ddigon pell i
fodloni cais unfrydol gan y Cynulliad i Lywodraeth y DU ymrwymo i ddull
penodedig o atal rhagor o gydgyfeirio.
5. Yn mynegi siom ynghylch y diffyg cynnydd o ran datganoli pwerau eraill a
argymhellwyd gan Gomisiwn Llywodraeth y DU ar Ddatganoli yng Nghymru: a
6. Yn galw ar Lywodraeth nesaf y DU i roi sylw i'r materion hyn sy'n
weddill yn dilyn Etholiad Cyffredinol y DU.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
35 |
0 |
9 |
44 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 11/02/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5695
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Llywodraeth Cymru i baratoi cynllun gweithlu
cenedlaethol 10 mlynedd newydd ar gyfer y GIG, sy'n cynnwys camau i hyfforddi a
recriwtio 1,000 o feddygon ychwanegol, er mwyn sicrhau bod y GIG yn gallu
darparu gwasanaethau iechyd ym mhob rhan o Gymru.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu popeth ar ôl 'cynllun gweithlu cenedlaethol 10
mlynedd newydd ar gyfer y GIG,' a rhoi yn ei le 'sy'n sicrhau bod camau'n cael
eu cymryd i hyfforddi a recriwtio digon o feddygon, nyrsys a gweithwyr gofal
iechyd proffesiynol eraill i sicrhau bod iechyd a gofal cymdeithasol ledled
Cymru yn barod ar gyfer y dyfodol.'
[os derbynnir
gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant
2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu '1,000 o feddygon' a rhoi yn ei le 'meddygon'.
Gwelliant
3 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith bod y naill Llywodraeth Cymru ar
ôl y llall wedi methu â chynllunio'n effeithiol ar gyfer anghenion gweithlu'r
GIG yng Nghymru.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.50
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5695 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
baratoi cynllun gweithlu cenedlaethol 10 mlynedd newydd ar gyfer y GIG, sy'n
cynnwys camau i hyfforddi a recriwtio 1,000 o feddygon ychwanegol, er mwyn
sicrhau bod y GIG yn gallu darparu gwasanaethau iechyd ym mhob rhan o Gymru.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
10 |
0 |
38 |
48 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu popeth ar ôl 'cynllun gweithlu cenedlaethol 10
mlynedd newydd ar gyfer y GIG,' a rhoi yn ei le 'sy'n sicrhau bod camau'n cael
eu cymryd i hyfforddi a recriwtio digon o feddygon, nyrsys a gweithwyr gofal
iechyd proffesiynol eraill i sicrhau bod iechyd a gofal cymdeithasol ledled
Cymru yn barod ar gyfer y dyfodol '.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
28 |
0 |
20 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan
fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant
3 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith bod y naill Lywodraeth Cymru ar ôl
y llall wedi methu â chynllunio'n effeithiol ar gyfer anghenion gweithlu'r GIG
yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
23 |
0 |
25 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5695 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
baratoi cynllun gweithlu cenedlaethol 10 mlynedd newydd ar gyfer y GIG, sy'n
sicrhau bod camau'n cael eu cymryd i hyfforddi a recriwtio digon o feddygon,
nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i sicrhau bod iechyd a
gofal cymdeithasol ledled Cymru yn barod ar gyfer y dyfodol.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
48 |
0 |
0 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 04/02/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5686
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Cymru yn hanesyddol wedi gwneud cyfraniad
sylweddol i bortffolio ynni'r DU.
2. Yn gresynu at y darpariaethau ym Mil Seilwaith
Llywodraeth y DU a fydd yn caniatáu i gwmnïau ffracio ddrilio o dan gartrefi
yng Nghymru heb ganiatâd gan berchnogion yr eiddo.
3. Yn credu y dylai ynni gael ei ddatganoli'n llawn i
Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac y dylai Llywodraeth Cymru gael y pŵer i
atal ffracio.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn ei
phŵer i atal ffracio rhag digwydd yng Nghymru hyd nes y profir bod ffracio
yn ddiogel yng nghyd-destun yr amgylchedd a iechyd cyhoeddus.
Mae'r Bil Seilwaith ar gael ar wefan Senedd y DU: http://services.parliament.uk/bills/2014-15/infrastructure.html
(Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu pwyntiau 2,
3 a 4 a rhoi yn eu lle:
2. Yn gresynu at
y ffaith y gwrthodwyd gwelliant trawsbleidiol i Fil Seilwaith Llywodraeth y DU
i weithredu moratoriwm ar ffracio am ddwy flynedd a hanner tra bod risgiau'n
cael eu hasesu.
3. Yn galw ar
Lywodraeth y DU i weithredu argymhellion Comisiwn Silk ar gyfer datganoli ynni
a thrwyddedu olew ar y tir ac echdynnu nwy i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn
unol ag argymhelliad ar gyfer yr Alban gan Gomisiwn Smith.
4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i atal ffracio rhag digwydd yng Nghymru drwy gyhoeddi Nodyn
Cyngor Technegol newydd yn nodi'r safonau amgylcheddol ac iechyd a ddisgwylir o
weithrediadau ffracio a chyfarwyddo awdurdodau cynllunio i wrthod ceisiadau ar
gyfer gweithrediadau ffracio oni chaiff ei brofi i fod yn ddiogel ar gyfer yr
amgylchedd ac iechyd y cyhoedd.
[os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3
yn cael eu dad-ddethol]
Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt 2 a
rhoi yn ei le:
Yn croesawu ymrwymiad
Llywodraeth y DU i sicrhau y bydd cymunedau yn elwa o gronfa gymunedol
sylweddol, os bydd echdynnu nwy siâl yn digwydd.
Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt 3 a
rhoi yn ei le:
Yn galw am
ddatganoli cymhwysedd ar gyfer prosiectau ynni hyd at 100MW, ac i Lywodraeth
Cymru adeiladu capasiti ychwanegol ar gyfer prosiectau yn y dyfodol.
Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cymunedau lleol yn cael dweud eu dweud wrth
benderfynu a ydynt eisiau cefnogi cynlluniau i archwilio nwy siâl yn eu hardal.
Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod canllawiau cynllunio cyfredol ar waith mewn
perthynas ag echdynnu nwy siâl.
Gwelliant 6 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i sicrhau bod gan Cyfoeth Naturiol Cymru gyllid ac arbenigedd digonol i
allu ymateb i drwyddedau i ddrilio am nwy siâl a sicrhau bod cyflenwadau dŵr daear a dŵr gwastraff yn cael eu monitro'n briodol i
sicrhau eu bod yn ddiogel ac na achosir risg sylweddol i iechyd pobl neu'r
amgylchedd.
Gwelliant 7 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gynnal ymchwil sy'n ymwneud â'r meini prawf pellter diogel
gofynnol cyn cynnal gwaith ffracio yn agos i dai preswyl neu oddi tanynt.
Penderfyniad:
Dechreuodd
yr eitem am 16.59
Gohiriwyd y bleidlais ar y
cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5686 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi bod Cymru yn hanesyddol wedi gwneud cyfraniad sylweddol i bortffolio
ynni'r DU.
2.
Yn gresynu at y darpariaethau ym Mil Seilwaith Llywodraeth y DU a fydd yn
caniatáu i gwmnïau ffracio ddrilio o dan gartrefi yng Nghymru heb ganiatâd gan
berchnogion yr eiddo.
3.
Yn credu y dylai ynni gael ei ddatganoli'n llawn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru
ac y dylai Llywodraeth Cymru gael y pŵer i atal ffracio.
4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn ei phŵer i atal ffracio
rhag digwydd yng Nghymru hyd nes y profir bod ffracio yn ddiogel yng
nghyd-destun yr amgylchedd ac iechyd cyhoeddus.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
37 |
0 |
16 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei
ddiwygio.
Cyfarfod: 28/01/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5678
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at yr effaith y mae'r polisi o lymder
wedi'i gael ar gymunedau ledled Cymru, sydd wedi arwain at:
a) economi Cymru yn colli dros £1 biliwn drwy doriadau i
amddiffyn cymdeithasol;
b) cynnydd yn nibyniaeth pobl ar fanciau bwyd;
c) toriadau i wariant llywodraeth leol sydd wedi arwain
at gau asedau cymunedol a thynnu gwasanaethau yn ôl;
d) cynnydd yn y bwlch cyfoeth rhwng y cyfoethocaf a'r
tlotaf; a
e) parhad mewn anghydbwysedd economaidd gyda
gorddibyniaeth parhaus ar wasanaethau ariannol a chyfoeth yn cael ei
ganolbwyntio mewn un cornel o'r wladwriaeth Brydeinig.
2. Yn galw am:
a) rhoi terfyn ar economeg o lymder;
b) ail-gydbwyso grym a chyfoeth o fewn y wladwriaeth
Brydeinig;
c) mabwysiadu polisïau economaidd a fydd yn arwain at
swyddi newydd mewn sectorau cynaliadwy;
d) cynyddu'r isafswm cyflog i gyflog byw;
e) rhoi terfyn ar ddatgymalu'r wladwriaeth les;
f) cydraddoldeb ariannol rhwng Cymru a'r Alban; a
g) datganoli ysgogiadau cyllidol i Gynulliad Cenedlaethol
Cymru.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod yr angen am reolaeth economaidd ddarbodus gan
lywodraethau ar bob lefel a'r angen i ddarparu sicrwydd economaidd i bobl Cymru
a'r DU.
[os
derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3 a 4 yn cael eu dad-ddethol]
Gwelliant
2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi yr etifeddodd Llywodraeth Glymblaid y DU y
diffyg ariannol mwyaf erioed mewn cyfnod o heddwch.
2. Yn croesawu, diolch i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn
Llywodraeth Glymblaid y DU:
a) bod y diffyg yn y gyllideb wedi cael ei haneru;
b) bod buddsoddiad net y sector cyhoeddus yn uwch fel
cyfran o CMC nag yr oedd rhwng 1997 a 2010;
c) bod 1.8 miliwn o swyddi wedi cael eu creu;
d) bod treth incwm wedi cael ei thorri £800 ar gyfer 1.2
miliwn o weithwyr yng Nghymru sydd ar incwm isel a chanolig drwy godi trothwy’r
dreth incwm i £10,500, gan arbed 153,000 o bobl rhag talu treth incwm yn gyfan
gwbl;
e) bod y Banc Buddsoddi Gwyrdd cyntaf yn y byd wedi cael
ei sefydlu.
f) bod cyflogwyr yn cael £2,000 o arian yn ôl ar y dreth
y maent yn ei thalu ar eu gweithwyr.
g) y dilëwyd cynlluniau i dalu llai i weithwyr yn y
sector cyhoeddus yng Nghymru dim ond am eu bod yn byw y tu allan i Lundain a
de-ddwyrain Lloegr.
h) bod y gyfradd gyflogaeth ar y lefel uchaf erioed o
£30.8 miliwn, yn ôl ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
i) bod tâl rheolaidd wedi cynyddu 1.8 y cant a thâl yn y
sector preifat wedi cynyddu 2.2 y cant, sy'n cynrychioli cynnydd uwch na
chwyddiant mewn cyflogau gweithwyr, yn ôl ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
3. Yn credu:
a) na all rhaglen flaengar gael ei darparu gan Lywodraeth
sy'n fethdalwr;
b) na fyddai mynnu cyllid ychwanegol gan Lywodraeth San
Steffan yn bosibl yng nghyd-destun Cymru annibynnol; ac
c) y dylem gydbwyso'r gyllideb erbyn 2018, torri trethi
ar gyfer pobl sy'n ennill cyflogau isel a chanolig a sicrhau bod gwasanaethau
cyhoeddus digonol ar gael, gan greu cyfleoedd i bawb.
4. Yn galw am:
a) lleihad teg yn y diffyg ariannol drwy sicrhau bod pobl
sy'n ennill cyflogau uchel a'r bobl gyfoethocaf yn talu eu rhan, gan gynnwys
drwy gyflwyno treth plastai wedi'i fandio;
b) rheolau ariannol newydd i gydbwyso'r gyllideb wrth
ganiatáu ar gyfer buddsoddi cynhyrchiol;
c) toriad pellach o £400 yn y dreth incwm ar gyfer pobl
sydd ar gyflog isel a chanolig;
d) gweithredu cynigion Silk Rhan 1 ar bwerau ariannol i
Gymru yn llawn; a
d) cyllid teg i Gymru, drwy gynyddu grant bloc Cymru i
lefel deg dros gyfnod Senedd a mynd i'r afael â'r anghydbwysedd drwy sefydlu
llawr Barnett ar lefel sy'n adlewyrchu'r angen i Gymru gael ei hariannu'n deg.
[os
derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliannau 3 a 4 yn cael eu dad-ddethol]
Gwelliant
3 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ym mhwynt 1c) dileu 'toriadau i wariant llywodraeth leol'
a rhoi yn ei le 'y toriad digyffelyb o £1.5 biliwn gan Lywodraeth y DU i Grant
Bloc Llywodraeth Cymru';
Gwelliant
4 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 2f) a rhoi yn ei le:
setliad ariannol teg ar frys i Gymru gan weithredu cyllid
gwaelodol a fydd yn arwain at fwy o gydraddoldeb ariannol â'r Alban a gweddill
y DU;
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.50
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o
dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5678 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at yr effaith y
mae'r polisi o lymder wedi'i gael ar gymunedau ledled Cymru, sydd wedi arwain
at:
a) economi Cymru yn colli dros
£1 biliwn drwy doriadau i amddiffyn cymdeithasol;
b) cynnydd yn nibyniaeth pobl
ar fanciau bwyd;
c) toriadau i wariant
llywodraeth leol sydd wedi arwain at gau asedau cymunedol a thynnu gwasanaethau
yn ôl;
d) cynnydd yn y bwlch cyfoeth
rhwng y cyfoethocaf a'r tlotaf; a
e) parhad mewn anghydbwysedd
economaidd gyda gorddibyniaeth parhaus ar wasanaethau ariannol a chyfoeth yn
cael ei ganolbwyntio mewn un cornel o'r wladwriaeth Brydeinig.
2. Yn galw am:
a) rhoi terfyn ar economeg o
lymder;
b) ail-gydbwyso grym a
chyfoeth o fewn y wladwriaeth Brydeinig;
c) mabwysiadu polisïau
economaidd a fydd yn arwain at swyddi newydd mewn sectorau cynaliadwy;
d) cynyddu'r isafswm cyflog i
gyflog byw;
e) rhoi terfyn ar ddatgymalu'r
wladwriaeth les;
f) cydraddoldeb ariannol rhwng
Cymru a'r Alban; a
g) datganoli ysgogiadau
cyllidol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
9 |
0 |
43 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod yr angen am reolaeth
economaidd ddarbodus gan lywodraethau ar bob lefel a'r angen i ddarparu
sicrwydd economaidd i bobl Cymru a'r DU.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
12 |
9 |
31 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi yr etifeddodd
Llywodraeth Glymblaid y DU y diffyg ariannol mwyaf erioed mewn cyfnod o
heddwch.
2. Yn croesawu, diolch i'r
Democratiaid Rhyddfrydol yn Llywodraeth y DU:
a) bod y diffyg yn y gyllideb
wedi cael ei haneru;
b) bod buddsoddiad net y sector
cyhoeddus yn uwch fel cyfran o CMC nag yr oedd rhwng 1997 a 2010;
c) bod 1.8 miliwn o swyddi
wedi cael eu creu;
d) bod treth incwm wedi cael
ei thorri £800 ar gyfer 1.2 miliwn o weithwyr yng Nghymru sydd ar incwm isel a
chanolig drwy godi trothwy’r dreth incwm i £10,500, gan arbed 153,000 o bobl
rhag talu treth incwm yn gyfan gwbl;
e) bod y Banc Buddsoddi Gwyrdd
cyntaf yn y byd wedi cael ei sefydlu;
f) bod cyflogwyr yn cael
£2,000 o arian yn ôl ar y dreth y maent yn ei thalu ar eu gweithwyr;
g) y dilëwyd cynlluniau i dalu
llai i weithwyr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru dim ond am eu bod yn byw y tu
allan i Lundain a de-ddwyrain Lloegr;
h) bod y gyfradd gyflogaeth ar
y lefel uchaf erioed o £30.8 miliwn, yn ôl ffigurau'r Swyddfa Ystadegau
Gwladol; ac
i) bod tâl rheolaidd wedi
cynyddu 1.8 y cant a thâl yn y sector preifat wedi cynyddu 2.2 y cant, sy'n
cynrychioli cynnydd uwch na chwyddiant mewn cyflogau gweithwyr, yn ôl
ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
3. Yn credu:
a) na all rhaglen flaengar
gael ei darparu gan Lywodraeth sy'n fethdalwr;
b) na fyddai mynnu cyllid
ychwanegol gan Lywodraeth San Steffan yn bosibl yng nghyd-destun Cymru
annibynnol; ac
c) y dylem gydbwyso'r gyllideb
erbyn 2018, torri trethi ar gyfer pobl sy'n ennill cyflogau isel a chanolig a
sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus digonol ar gael, gan greu cyfleoedd i bawb.
4. Yn galw am:
a) lleihad teg yn y diffyg
ariannol drwy sicrhau bod pobl sy'n ennill cyflogau uchel a'r bobl gyfoethocaf
yn talu eu rhan, gan gynnwys drwy gyflwyno treth plastai wedi'i fandio;
b) rheolau ariannol newydd i
gydbwyso'r gyllideb wrth ganiatáu ar gyfer buddsoddi cynhyrchiol;
c) toriad pellach o £400 yn y
dreth incwm ar gyfer pobl sydd ar gyflog isel a chanolig;
d) gweithredu cynigion Silk
Rhan 1 ar bwerau ariannol i Gymru yn llawn; a
d) cyllid teg i Gymru, drwy
gynyddu grant bloc Cymru i lefel deg dros gyfnod Senedd a mynd i'r afael â'r
anghydbwysedd drwy sefydlu llawr Barnett ar lefel sy'n adlewyrchu'r angen i
Gymru gael ei hariannu'n deg.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
5 |
12 |
35 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ym mhwynt 1c) dileu 'toriadau
i wariant llywodraeth leol' a rhoi yn ei le 'y toriad digyffelyb o £1.5 biliwn
gan Lywodraeth y DU i Grant Bloc Llywodraeth Cymru';
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y
gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 4 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 2f) a rhoi yn ei
le:
setliad ariannol teg ar frys i
Gymru gan weithredu cyllid gwaelodol a fydd yn arwain at fwy o gydraddoldeb
ariannol â'r Alban a gweddill y DU;
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
28 |
12 |
11 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5678 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at yr effaith y mae'r
polisi o lymder wedi'i gael ar gymunedau ledled Cymru, sydd wedi arwain at:
a) economi Cymru yn colli dros
£1 biliwn drwy doriadau i amddiffyn cymdeithasol;
b) cynnydd yn nibyniaeth pobl
ar fanciau bwyd;
c) toriadau i wariant llywodraeth
leol sydd wedi arwain at gau asedau cymunedol a thynnu gwasanaethau yn ôl;
d) cynnydd yn y bwlch cyfoeth
rhwng y cyfoethocaf a'r tlotaf; a
e) parhad mewn anghydbwysedd
economaidd gyda gorddibyniaeth parhaus ar wasanaethau ariannol a chyfoeth yn
cael ei ganolbwyntio mewn un cornel o'r wladwriaeth Brydeinig.
2. Yn galw am:
a) rhoi terfyn ar economeg o
lymder;
b) ail-gydbwyso grym a
chyfoeth o fewn y wladwriaeth Brydeinig;
c) mabwysiadu polisïau
economaidd a fydd yn arwain at swyddi newydd mewn sectorau cynaliadwy;
d) cynyddu'r isafswm cyflog i
gyflog byw;
e) rhoi terfyn ar ddatgymalu'r
wladwriaeth les;
f) setliad ariannol teg ar
frys i Gymru gan weithredu cyllid gwaelodol a fydd yn arwain at fwy o
gydraddoldeb ariannol â'r Alban a gweddill y DU;
g) datganoli ysgogiadau
cyllidol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
9 |
0 |
43 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 21/01/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5671
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1. Yn nodi:
a) pwysigrwydd y diwydiant amaeth i economi, amgylchedd a
chymunedau Cymru;
b) yr argyfwng yn y sector llaeth sy'n deillio o
ostyngiad yn y prisiau llaeth a delir i ffermwyr ac ansefydlogrwydd y gadwyn
laeth;
c) yr ansicrwydd o ran y taliad sylfaenol sy'n deillio o
ddiddymu Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol y Polisi Amaethyddol Cyffredin
(Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Dros Dro) (Cymru) 2014 yn dilyn her barnwrol;
d) y bleidlais yn Senedd Ewrop i roi'r pŵer i
aelod-wladwriaethau i awdurdodi cnydau GM i aelod-wladwriaethau, a'r ffaith mai
Llywodraeth Cymru fydd yn gyfrifol am wneud y penderfyniad yng Nghymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithio gyda'r gadwyn laeth a Llywodraeth y Deyrnas
Unedig i weithredu'n benodol i sicrhau cynaliadwyedd hyfyw y cynhyrchwyr
llaeth;
b) sicrhau adnoddau digonol ac amserlen gyraeddadwy i
ddiogelu talu'r taliad sylfaenol ar 1 Rhagfyr 2015; ac
c) ail-ddatgan ei bwriad i gadw Cymru yn ddi-GM.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu
is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1:
y rôl ganolog y
mae cynhyrchu bwyd yn ei chwarae yn y byd ffermio yng Nghymru o ystyried yr
angen brys i ddiogelu'r cyflenwad bwyd.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu
is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:
gweithredu
mesurau rhagweithiol i hwyluso'r gwaith o gynllunio ar gyfer olyniaeth yn y sector
ffermio, o ystyried proffil oedran ffermwyr yng Nghymru a'r angen i ddarparu
mynediad i'r tir.
Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu
is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 2:
ymgysylltu ac
ymgynghori'n ddigonol â rhanddeiliaid ynghylch y system dalu newydd yn dilyn
diddymu Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol y Polisi Amaethyddol Cyffredin
(Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Dros Dro) (Cymru) 2014; a
ymgysylltu â
rhanddeiliaid a gweithio gyda hwy i sicrhau hyfywedd tymor hir y gwaith o gynhyrchu
bwyd a chynhyrchwyr bwyd yng Nghymru.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.06
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o
dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5671 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru
1. Yn nodi:
a) pwysigrwydd y diwydiant
amaeth i economi, amgylchedd a chymunedau Cymru;
b) yr argyfwng yn y sector
llaeth sy'n deillio o ostyngiad yn y prisiau llaeth a delir i ffermwyr ac
ansefydlogrwydd y gadwyn laeth;
c) yr ansicrwydd o ran y
taliad sylfaenol sy'n deillio o ddiddymu Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol y
Polisi Amaethyddol Cyffredin (Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Dros Dro) (Cymru)
2014 yn dilyn her barnwrol;
d) y bleidlais yn Senedd Ewrop
i roi'r pŵer i aelod-wladwriaethau i awdurdodi cnydau GM i
aelod-wladwriaethau, a'r ffaith mai Llywodraeth Cymru fydd yn gyfrifol am wneud
y penderfyniad yng Nghymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i:
a) gweithio gyda'r gadwyn
laeth a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i weithredu'n benodol i sicrhau
cynaliadwyedd hyfyw y cynhyrchwyr llaeth;
b) sicrhau adnoddau digonol ac
amserlen gyraeddadwy i ddiogelu talu'r taliad sylfaenol ar 1 Rhagfyr 2015; ac
c) ail-ddatgan ei bwriad i
gadw Cymru yn ddi-GM.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
33 |
0 |
17 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 03/12/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5643
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd cynyddu masnach rhwng Cymru ac
Unol Daleithiau America;
2. Yn credu y dylai gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y
Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gael eu heithrio rhag effeithiau y Bartneriaeth
Masnach a Buddsoddi Trawsatlantig;
3. Yn credu na ddylid caniatáu i'r Bartneriaeth Masnach a
Buddsoddi Trawsatlantig atal llywodraethau democrataidd rhag trefnu unrhyw
wasanaethau eraill ar sail perchnogaeth gyhoeddus;
4. Yn gwrthwynebu cynnwys setliad ar gyfer anghydfod
rhwng buddsoddwyr a gwladwriaethau yn y cytundeb;
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i
Lywodraeth y DU ynghylch:
a) eithrio gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y
Gwasanaeth Iechyd Gwladol, o'r Bartneriaeth Masnach a Buddsoddi Trawsatlantig;
a
b) gwrthod y Bartneriaeth Masnach a Buddsoddi
Trawsatlantig os yw'r cytundeb terfynol, pan gaiff ei gyflwyno i'w gadarnhau,
yn tanseilio pwerau llywodraethau democrataidd i wneud penderfyniadau.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd cytundebau masnach
rhyngwladol, fel y Bartneriaeth Masnach a Buddsoddi Trawsatlantig, i greu
dyfodol economaidd gwell i bobl Cymru;
2. Yn credu y dylai llywodraethau fod yn ymwybodol o
bwysigrwydd sefydliadau cenedlaethol, megis y GIG, wrth gytuno ar y
Bartneriaeth Masnach a Buddsoddi Trawsatlantig; a
3. Yn nodi cynsail partneriaethau masnach presennol sy'n
cynnwys dulliau diogelu sy'n eithrio gwasanaethau cyhoeddus allweddol o
gytundebau o'r fath.
[Os
derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu pwyntiau 2 i 5 a rhoi yn eu lle:
2. Yn croesawu trafodaethau ar fasnach a buddsoddi rhwng
yr UE a'r Unol Daleithiau a allai fod werth hyd at £10 biliwn ychwanegol i
economi'r DU bob blwyddyn;
3. Yn croesawu sylwadau'r Comisiynydd Ewropeaidd dros Fasnach,
Karel de Gucht, a ddywedodd wrth yr International Business Times: "Bydd
eithriad i wasanaethau cyhoeddus yn y Bartneriaeth Masnach a Buddsoddi
Trawsatlantig, ac rydym wedi gwneud hynny'n glir iawn yn ein trafodaethau
gyda'r Unol Daleithiau. Byddai hynny'n cynnwys y GIG...";
4. Yn croesawu'r ffaith na fydd y setliad ar gyfer
anghydfod rhwng buddsoddwyr a gwladwriaethau yn berthnasol i ddeddfwriaeth yr
aelod-wladwriaethau mewn perthynas ag iechyd, diogelwch y cyhoedd neu
ddiogelwch; a
5. Yn croesawu'r ffaith bod y Comisiwn Ewropeaidd yn atal
dros dro'r agwedd ar y cytuniad sy'n ymwneud â'r setliad ar gyfer anghydfod
rhwng buddsoddwyr a gwladwriaethau er mwyn ymgymryd â gwaith ymgynghori
pellach.
Gallwch weld yr erthygl o'r International Business Times
drwy ddilyn y linc a ganlyn:
http://www.ibtimes.co.uk/eu-trade-commissioner-karel-de-gucht-confirms-nhs-exemption-ttip-1456538
[Saesneg yn unig]
Cyfarfod: 19/11/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5622
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod costau cyfleustodau yn annerbyniol o
uchel ac yn nodi'r anawsterau penodol y mae hyn yn eu hachosi ar gyfer
cymunedau gwledig, busnesau, a'r rhai ar incwm isel.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun
gweithredu i liniaru costau cyfleustodau uchel.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi'r gronfa 'Cheaper Energy Together' a lansiwyd gan
Adran Llywodraeth y DU ar Ynni a Newid Hinsawdd (DECC) i gefnogi newid
cyflenwyr ar y cyd, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda DECC i
hyrwyddo newid cyflenwyr ar y cyd ledled Cymru i leihau biliau defnyddwyr.
Mae manylion y gronfa 'Cheaper Energy Together' ar gael
yn:
https://www.gov.uk/collective-switching-and-purchasing
(Saesneg yn unig)
Gwelliant
2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth y DU i rewi prisiau ynni.
Gwelliant
3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar gostau cysylltiad
â'r grid a'u heffaith ar filiau cyfleustodau, yn enwedig mewn ardaloedd
gwledig.
Gwelliant
4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i'r Grid
Cenedlaethol i sicrhau ei fod yn edrych ar Gymru yn ei chyfanrwydd wrth gyfrifo
sut y mae trydan yn cael ei allforio pan gaiff cyfrifiadau prisio eu gwneud er
mwyn sicrhau gwerth am arian i ddefnyddwyr.
Gwelliant
5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried pa mor agored i
gynnydd mewn prisiau y mae cwsmeriaid nad ydynt ar y grid, lle mae opsiynau ar
gyfer newid yn gyfyngedig, neu lle nad yw marchnadoedd yn cael eu rheoleiddio.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.14
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5622
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod costau cyfleustodau yn annerbyniol o
uchel ac yn nodi'r anawsterau penodol y mae hyn yn eu hachosi ar gyfer
cymunedau gwledig, busnesau, a'r rhai ar incwm isel.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun
gweithredu i liniaru costau cyfleustodau uchel.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
9 |
0 |
38 |
47 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi'r gronfa 'Cheaper Energy Together' a lansiwyd gan
Adran Llywodraeth y DU ar Ynni a Newid Hinsawdd (DECC) i gefnogi newid
cyflenwyr ar y cyd, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda DECC i
hyrwyddo newid cyflenwyr ar y cyd ledled Cymru i leihau biliau defnyddwyr.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth y DU i rewi prisiau ynni.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
33 |
0 |
14 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant
3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar gostau cysylltiad
â'r grid a'u heffaith ar filiau cyfleustodau, yn enwedig mewn ardaloedd
gwledig.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno
sylwadau i'r Grid Cenedlaethol i sicrhau ei fod yn edrych ar Gymru yn ei
chyfanrwydd wrth gyfrifo sut y mae trydan yn cael ei allforio pan gaiff
cyfrifiadau prisio eu gwneud er mwyn sicrhau gwerth am arian i ddefnyddwyr.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried
pa mor agored i gynnydd mewn prisiau y mae cwsmeriaid nad ydynt ar y grid, lle
mae opsiynau ar gyfer newid yn gyfyngedig, neu lle nad yw marchnadoedd yn cael
eu rheoleiddio.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5622
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod costau cyfleustodau yn annerbyniol o uchel
ac yn nodi'r anawsterau penodol y mae hyn yn eu hachosi ar gyfer cymunedau
gwledig, busnesau, a'r rhai ar incwm isel.
2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i rewi prisiau ynni.
3. Yn nodi'r gronfa 'Cheaper Energy Together' a lansiwyd
gan Adran Llywodraeth y DU ar Ynni a Newid Hinsawdd (DECC) i gefnogi newid
cyflenwyr ar y cyd, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda DECC i
hyrwyddo newid cyflenwyr ar y cyd ledled Cymru i leihau biliau defnyddwyr.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu
i liniaru costau cyfleustodau uchel.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar gostau
cysylltiad â'r grid a'u heffaith ar filiau cyfleustodau, yn enwedig mewn
ardaloedd gwledig.
6. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i'r Grid Cenedlaethol i sicrhau ei fod yn
edrych ar Gymru yn ei chyfanrwydd wrth gyfrifo sut y mae trydan yn cael ei
allforio pan gaiff cyfrifiadau prisio eu gwneud er mwyn sicrhau gwerth am arian
i ddefnyddwyr.
7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ystyried pa mor agored i gynnydd mewn prisiau y mae cwsmeriaid nad ydynt ar y
grid, lle mae opsiynau ar gyfer newid yn gyfyngedig, neu lle nad yw
marchnadoedd yn cael eu rheoleiddio.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
33 |
0 |
14 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 05/11/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5611
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at y ffaith bod y bwlch anghydraddoldeb
rhwng y bobl a'r rhanbarthau tlotaf a'r rhai cyfoethocaf wedi tyfu o dan y
naill Lywodraeth y DU ar ôl y llall.
2. Yn nodi bod GYC y pen yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd
yn 62.7% o gyfartaledd y DU tra bod GYC y pen yng nghanol Llundain yn 308.8%.
3. Yn cydnabod yr angen i newid cydbwysedd economi'r DU i
ffwrdd o grynodiad o gyfoeth yn ne-ddwyrain Lloegr.
4. Yn nodi ffocws strategaeth economaidd Llywodraeth y DU
ar y sector gwasanaethau ariannol ac yn nodi ymhellach, er y gall hwn fod yn
sector twf yng Nghymru, fod gweithgynhyrchu, cynhyrchu ac allforion wrth wraidd
economi Cymru.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) canolbwyntio ar wireddu ac adeiladu ar botensial
economaidd Cymru;
b) blaenoriaethu buddsoddiadau seilwaith mewn ardaloedd
sydd ei angen fwyaf;
c) sefydlu banc busnes sy'n eiddo i'r cyhoedd i gynnig
cyllid i fusnesau bach ar gyfraddau cystadleuol; a
d) ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach i
fod yn gymwys i bob busnes sydd â gwerth ardrethol o £15,000 neu lai.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ym mhwynt 1, ar ôl DU mewnosoder "a Llywodraeth
Cymru"
Gwelliant
2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 3:
ac yn cydnabod hefyd yr angen i newid cydbwysedd economi
Cymru i ffwrdd o grynodiad o gyfoeth ar hyd coridor de Cymru (yr M4).
Gwelliant
3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod y sefydlogrwydd economaidd sy'n deillio o
bolisïau Llywodraeth y DU sydd yn ysgogi twf economaidd ledled y DU.
Gwelliant
4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu is-bwynt 5(d).
Gwelliant
5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:
Paratoi strategaeth allforio glir i Gymru i uno
dyfeisgarwch sector preifat â chefnogaeth sector cyhoeddus.
Gwelliant
6 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu cynigion y
Ceidwadwyr Cymreig sy'n cynnwys cael gwared ar Cyllid Cymru a sefydlu Buddsoddi
Cymru yn ei le.
Gwelliant
7 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y dirywiad yn GYC Cymru o dan 15 mlynedd o
Lywodraeth Lafur yng Nghymru.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.24
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5611 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at y ffaith bod y bwlch anghydraddoldeb rhwng y bobl a'r
rhanbarthau tlotaf a'r rhai cyfoethocaf wedi tyfu o dan y naill Lywodraeth y DU
ar ôl y llall.
2. Yn nodi bod GYC y pen yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd yn 62.7% o
gyfartaledd y DU tra bod GYC y pen yng nghanol Llundain yn 308.8%.
3. Yn cydnabod yr angen i newid cydbwysedd economi'r DU i ffwrdd o
grynodiad o gyfoeth yn ne-ddwyrain Lloegr.
4. Yn nodi ffocws strategaeth economaidd Llywodraeth y DU ar y sector
gwasanaethau ariannol ac yn nodi ymhellach, er y gall hwn fod yn sector twf yng
Nghymru, fod gweithgynhyrchu, cynhyrchu ac allforion wrth wraidd economi Cymru.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) canolbwyntio ar wireddu ac adeiladu ar botensial economaidd Cymru;
b) blaenoriaethu buddsoddiadau seilwaith mewn ardaloedd sydd ei angen
fwyaf;
c) sefydlu banc busnes sy'n eiddo i'r cyhoedd i gynnig cyllid i fusnesau
bach ar gyfraddau cystadleuol; a
d) ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach i fod yn gymwys i
bob busnes sydd â gwerth ardrethol o £15,000 neu lai.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
10 |
0 |
40 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ym mhwynt 1, ar ôl DU mewnosoder "a Llywodraeth
Cymru"
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
15 |
0 |
35 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 3:
ac yn cydnabod hefyd yr angen i newid cydbwysedd economi
Cymru i ffwrdd o grynodiad o gyfoeth ar hyd coridor de Cymru (yr M4).
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
15 |
0 |
35 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant
3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod y sefydlogrwydd economaidd sy'n deillio o
bolisïau Llywodraeth y DU sydd yn ysgogi twf economaidd ledled y DU.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
15 |
0 |
35 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant
4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu is-bwynt 5(d).
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
25 |
5 |
20 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant
5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:
Paratoi strategaeth allforio glir i Gymru i uno
dyfeisgarwch sector preifat â chefnogaeth sector cyhoeddus.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
25 |
0 |
26 |
51 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol
Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lwydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio
yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant
6 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu cynigion y
Ceidwadwyr Cymreig sy'n cynnwys cael gwared ar Cyllid Cymru a sefydlu Buddsoddi
Cymru yn ei le.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 6:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
10 |
0 |
40 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwelliant
7 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y dirywiad yn GYC Cymru o dan 15 mlynedd o
Lywodraeth Lafur yng Nghymru.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 7:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
15 |
0 |
35 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5611 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at y ffaith bod y bwlch anghydraddoldeb rhwng y bobl a'r
rhanbarthau tlotaf a'r rhai cyfoethocaf wedi tyfu o dan y naill Lywodraeth y DU
ar ôl y llall.
2. Yn nodi bod GYC y pen yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd yn 62.7% o
gyfartaledd y DU tra bod GYC y pen yng nghanol Llundain yn 308.8%.
3. Yn cydnabod yr angen i newid cydbwysedd economi'r DU i ffwrdd o grynodiad
o gyfoeth yn ne-ddwyrain Lloegr.
4. Yn nodi ffocws strategaeth economaidd Llywodraeth y DU ar y sector
gwasanaethau ariannol ac yn nodi ymhellach, er y gall hwn fod yn sector twf yng
Nghymru, fod gweithgynhyrchu, cynhyrchu ac allforion wrth wraidd economi Cymru.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) canolbwyntio ar wireddu ac adeiladu ar botensial economaidd Cymru;
b) blaenoriaethu buddsoddiadau seilwaith mewn ardaloedd sydd ei angen
fwyaf;
c) sefydlu banc busnes sy'n eiddo i'r cyhoedd i gynnig cyllid i fusnesau
bach ar gyfraddau cystadleuol.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
35 |
0 |
15 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 22/10/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5606
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r amodau economaidd sy'n gynyddol anodd i
ffermwyr;
2. Yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth Cymru i
drosglwyddo'r uchafswm o 15% o golofn 1 i golofn 2 o'r Polisi Amaethyddol
Cyffredin.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cynyddu ei hymdrechion i leihau biwrocratiaeth yn y
diwydiant;
b) cymryd camau ymarferol a chyflym i gefnogi'r sectorau
cig coch a llaeth yng Nghymru; ac
c) cyflwyno cynllun Ardaloedd â Chyfyngiadau
Naturiol i helpu'r rhai sy'n ffermio o
dan yr amgylchiadau mwyaf heriol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 1 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn nodi proffil oedran uchel ffermwyr Cymru ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gymryd camau i wella prosesau cynllunio ar gyfer olyniaeth a
ffermio ar y cyd.
Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at y ffaith nad oes Ardal â Chyfyngiadau
Naturiol benodedig yn rhan o'r Cynllun Datblygu Gwledig; penderfyniad sydd â'i
wreiddiau mewn dewisiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru'n Un.
Gwelliant
3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth Cymru i dorri'r
gyllideb Amaethyddiaeth a Bwyd o 17.8% a'r gyllideb Iechyd Anifeiliaid o 20.7%
yng Nghyllideb Ddrafft 2015-16.
Gwelliant
4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adfer swydd benodol yn y
Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Amaethyddiaeth a Bwyd.
Gwelliant
5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gefnogi cod
ymarfer gwirfoddol ar gyfer archfarchnadoedd i neilltuo rhan amlwg o'u
harwynebedd llawr ar gyfer cig ansawdd uchel o Gymru sydd â statws Dynodiad
Daearyddol Gwarchodedig a chig Tractor Coch Prydeinig.
Gwelliant
6 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y byddai lleoli lladd-dy cig eidion a chig oen
yng ngogledd Cymru yn sicrhau cynaliadwyedd cynhyrchu cig coch yng ngogledd
Cymru.
Gwelliant
7 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y
DU i ddiwygio'r ardoll hybu cig er mwyn sicrhau bod yr ardoll yn daladwy i'r
wlad lle cafodd yr anifail ei eni.
Gwelliant
8 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod canran uwch o'r
cynnyrch a brynir drwy brosesau caffael cyhoeddus yn dod o Gymru.
Gwelliant
9 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar gylch gorchwyl yr adolygiad annibynnol o'r
diwydiant llaeth yng Nghymru i gynnwys datblygu cynllun gweithredu strategol
cynhwysfawr i gefnogi'r diwydiant llaeth.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.36
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5606 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r amodau economaidd
sy'n gynyddol anodd i ffermwyr;
2. Yn gresynu at benderfyniad
Llywodraeth Cymru i drosglwyddo'r uchafswm o 15% o golofn 1 i golofn 2 o'r
Polisi Amaethyddol Cyffredin.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i:
a) cynyddu ei hymdrechion i
leihau biwrocratiaeth yn y diwydiant;
b) cymryd camau ymarferol a
chyflym i gefnogi'r sectorau cig coch a llaeth yng Nghymru; ac
c) cyflwyno cynllun Ardaloedd
â Chyfyngiadau Naturiol i helpu'r rhai
sy'n ffermio o dan yr amgylchiadau mwyaf heriol.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
8 |
0 |
41 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 1 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn nodi proffil oedran uchel ffermwyr Cymru ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gymryd camau i wella prosesau cynllunio ar gyfer olyniaeth a
ffermio ar y cyd.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at y ffaith nad oes Ardal â Chyfyngiadau
Naturiol benodedig yn rhan o'r Cynllun Datblygu Gwledig; penderfyniad sydd â'i
wreiddiau mewn dewisiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru'n Un.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
16 |
0 |
33 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant
3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth Cymru i dorri'r
gyllideb Amaethyddiaeth a Bwyd o 17.8% a'r gyllideb Iechyd Anifeiliaid o 20.7%
yng Nghyllideb Ddrafft 2015-16.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
19 |
5 |
25 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant
4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adfer swydd benodol yn y
Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Amaethyddiaeth a Bwyd.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
24 |
0 |
25 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant
5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gefnogi cod
ymarfer gwirfoddol ar gyfer archfarchnadoedd i neilltuo rhan amlwg o'u
harwynebedd llawr ar gyfer cig ansawdd uchel o Gymru sydd â statws Dynodiad
Daearyddol Gwarchodedig a chig Tractor Coch Prydeinig.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
23 |
0 |
25 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant
6 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y byddai lleoli lladd-dy cig eidion a chig oen
yng ngogledd Cymru yn sicrhau cynaliadwyedd cynhyrchu cig coch yng ngogledd
Cymru.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 6:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
24 |
0 |
25 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwelliant
7 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y
DU i ddiwygio'r ardoll hybu cig er mwyn sicrhau bod yr ardoll yn daladwy i'r
wlad lle cafodd yr anifail ei eni.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 7:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 7.
Gwelliant
8 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod canran uwch o'r
cynnyrch a brynir drwy brosesau caffael cyhoeddus yn dod o Gymru.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 8:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 8.
Gwelliant
9 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar gylch gorchwyl yr adolygiad annibynnol o'r
diwydiant llaeth yng Nghymru i gynnwys datblygu cynllun gweithredu strategol
cynhwysfawr i gefnogi'r diwydiant llaeth.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 9:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
24 |
0 |
25 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 9.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5606 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi proffil oedran uchel ffermwyr Cymru ac yn galw
ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i wella prosesau cynllunio ar gyfer
olyniaeth a ffermio ar y cyd.
2. Yn nodi'r amodau economaidd
sy'n gynyddol anodd i ffermwyr;
3. Yn gresynu at benderfyniad
Llywodraeth Cymru i drosglwyddo'r uchafswm o 15% o golofn 1 i golofn 2 o'r
Polisi Amaethyddol Cyffredin.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i:
a) cynyddu ei hymdrechion i
leihau biwrocratiaeth yn y diwydiant;
b) cymryd camau ymarferol a
chyflym i gefnogi'r sectorau cig coch a llaeth yng Nghymru; ac
c) cyflwyno cynllun Ardaloedd
â Chyfyngiadau Naturiol i helpu'r rhai
sy'n ffermio o dan yr amgylchiadau mwyaf heriol.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth
y DU i ddiwygio'r ardoll hybu cig er mwyn sicrhau bod yr ardoll yn daladwy i'r
wlad lle cafodd yr anifail ei eni.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod canran uwch
o'r cynnyrch a brynir drwy brosesau caffael cyhoeddus yn dod o Gymru.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
24 |
0 |
25 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 01/10/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5587
Elin Jones AC (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod tagfeydd ar yr M4 yn ardal Casnewydd yn
niweidiol i economi Cymru, a bod angen datrysiad cynaliadwy a fforddiadwy;
2. Yn cadarnhau nad yw'r achos wedi'i wneud ar gyfer bwrw
ymlaen â'r 'llwybr du';
3. Yn credu y bydd neilltuo holl bwerau benthyca newydd
Cymru i un prosiect yn cyfyngu ar fuddsoddi mewn mannau eraill; a
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi ystyriaeth lawn i'r
'llwybr glas' am resymau economaidd, amgylcheddol ac ariannol ac er mwyn rheoli
traffig.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn credu bod tagfeydd ar yr M4 yn ardal Casnewydd yn
niweidiol i economi Cymru, a bod angen datrysiad cynaliadwy a fforddiadwy;
2. Yn cadarnhau bod diffyg achos tryloyw dros fwrw ymlaen
â'r 'llwybr du' ac yn galw ar Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
i gyhoeddi tystiolaeth glir bod materion amgylcheddol wedi cael eu hystyried yn
llawn a bod proses o ddiwydrwydd dyladwy effeithiol wedi ei dilyn;
3. Yn credu y bydd neilltuo holl bwerau benthyca newydd
Cymru i un prosiect yn cyfyngu ar fuddsoddi mewn mannau eraill ac y bydd, yn
ddiamau, yn effeithio ar gynlluniau trafnidiaeth ledled Cymru; a
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro pam y cafodd y
'llwybr glas' ei ddiystyru yn gynnar ac amlinellu pa amodau economaidd, rheoli
traffig, amgylcheddol ac ariannol y methodd y llwybr â'u cwrdd.
[Os
derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3 a 4 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant
2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwyntiau 2, 3 a 4.
[Os
derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliannau 3 a 4 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn credu y dylai buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus a
chamau gweithredu i annog newid moddol oddi wrth ddefnyddio ceir fod yn
flaenoriaeth fel rhan o gynllun trafnidiaeth gynaliadwy ac integredig.
Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Mewnosod ym mhwynt 4 ar ôl 'llwybr glas':
Yn ogystal â datrysiadau trafnidiaeth gyhoeddus addas
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.14
Gohiriwyd y bleidlais ar y
cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5587 Elin Jones AC
(Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod tagfeydd ar yr M4 yn ardal Casnewydd yn niweidiol i
economi Cymru, a bod angen datrysiad cynaliadwy a fforddiadwy;
2. Yn cadarnhau nad yw'r achos wedi'i wneud ar gyfer bwrw ymlaen â'r
'llwybr du';
3. Yn credu y bydd neilltuo holl bwerau benthyca newydd Cymru i un
prosiect yn cyfyngu ar fuddsoddi mewn mannau eraill; a
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi ystyriaeth llawn i'r 'llwybr glas'
am resymau economaidd, amgylcheddol ac ariannol ac er mwyn rheoli traffig.
Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig heb ei ddiwygio:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
14 |
0 |
36 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn credu bod tagfeydd ar yr M4 yn ardal Casnewydd yn niweidiol i
economi Cymru, a bod angen datrysiad cynaliadwy a fforddiadwy;
2. Yn cadarnhau bod diffyg achos tryloyw dros fwrw ymlaen â'r 'llwybr
du' ac yn galw ar Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i gyhoeddi
tystiolaeth glir bod materion amgylcheddol wedi cael eu hystyried yn llawn a
bod proses o ddiwydrwydd dyladwy effeithiol wedi ei dilyn;
3. Yn credu y bydd neilltuo holl bwerau benthyca newydd Cymru i un
prosiect yn cyfyngu ar fuddsoddi mewn mannau eraill ac y bydd, yn ddiamau, yn
effeithio ar gynlluniau trafnidiaeth ledled Cymru; a
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro pam y cafodd y 'llwybr glas' ei
ddiystyru yn gynnar ac amlinellu pa amodau economaidd, rheoli traffig,
amgylcheddol ac ariannol y methodd y llwybr â'u cwrdd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
11 |
0 |
39 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Dileu pwyntiau 2, 3 a 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
25 |
0 |
26 |
51 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog
6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y
gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 3 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn credu y dylai buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus a chamau
gweithredu i annog newid moddol oddi wrth ddefnyddio ceir fod yn flaenoriaeth
fel rhan o gynllun trafnidiaeth gynaliadwy ac integredig.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
39 |
0 |
10 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Mewnosod ym mhwynt 4 ar ôl 'llwybr glas':
Yn ogystal â datrysiadau trafnidiaeth gyhoeddus addas
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
14 |
0 |
36 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5587 Elin Jones AC (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod tagfeydd ar yr M4 yn ardal Casnewydd
yn niweidiol i economi Cymru, a bod angen datrysiad cynaliadwy a fforddiadwy;
2. Yn cadarnhau nad yw'r achos wedi'i wneud ar
gyfer bwrw ymlaen â'r 'llwybr du';
3. Yn credu y dylai buddsoddi mewn trafnidiaeth
gyhoeddus a chamau gweithredu i annog newid moddol oddi wrth ddefnyddio ceir
fod yn flaenoriaeth fel rhan o gynllun trafnidiaeth gynaliadwy ac integredig.
4. Yn credu y bydd neilltuo holl bwerau
benthyca newydd Cymru i un prosiect yn cyfyngu ar fuddsoddi mewn mannau eraill;
a
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi
ystyriaeth llawn i'r 'llwybr glas' am resymau economaidd, amgylcheddol ac
ariannol ac er mwyn rheoli traffig.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
14 |
0 |
36 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 24/09/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5571
Elin Jones (Ceredigion)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y dylai'r berthynas rhwng cenhedloedd yr
ynysoedd hyn newid yn dilyn y refferendwm ar annibyniaeth yn yr Alban;
2. Yn credu bod pobl Cymru yn sofran ac mai nhw ddylai benderfynu
ar natur a chyflymder datblygiadau cyfansoddiadol yn y wlad hon; a
3. Yn galw ar y Prif Weinidog i ddechrau trafodaethau
gyda Llywodraeth y DU ar unwaith i hwyluso'r broses o drosglwyddo cyfrifoldeb
dros swyddogaethau i Gymru, er mwyn ail-gydbwyso pwerau rhwng y cenhedloedd.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn croesawu'n fawr benderfyniad diamwys yr Alban i
bleidleisio yn erbyn annibyniaeth ac yn edrych ymlaen at weithio gyda phob rhan
o'r Deyrnas Unedig i greu undeb cryfach at y dyfodol.
[Os
derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant
2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg), Aled Roberts (Gogledd Cymru):
Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:
1. Yn croesawu'r ffaith fod pobl yr Alban wedi dewis aros
yn aelod o deulu cenhedloedd y Deyrnas Unedig;
2. Yn credu bod yn rhaid inni hyrwyddo undeb newydd ar
gyfer holl bobl y DU, gan gynnwys Cymru; a
3. Yn galw am weithredu ar fyrder Rannau 1 a 2 o'r Comisiwn
ar Ddatganoli yng Nghymru a sefydlu confensiwn cyfansoddiadol ar draws y DU i
ddrafftio cynllun ar gyfer undeb newydd.
Mae Rhan 1 o adroddiad y Comisiwn ar Ddatganoli yng
Nghymru i'w gweld drwy ddilyn y linc hwn:
http://commissionondevolutioninwales.independent.gov.uk/files/2012/11/Welsh-WEB-main-report.pdf
Mae Rhan 2 o adroddiad y Comisiwn ar Ddatganoli yng
Nghymru i'w gweld drwy ddilyn y linc hwn:
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.14
NDM5571 Elin Jones
(Ceredigion)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y dylai'r berthynas rhwng cenhedloedd
yr ynysoedd hyn newid yn dilyn y refferendwm ar annibyniaeth yn yr Alban;
2. Yn credu bod pobl Cymru yn sofran ac mai nhw
ddylai benderfynu ar natur a chyflymder datblygiadau cyfansoddiadol yn y wlad
hon; a
3. Yn galw ar y Prif Weinidog i ddechrau
trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar unwaith i hwyluso'r broses o drosglwyddo
cyfrifoldeb dros swyddogaethau i Gymru, er mwyn ail-gydbwyso pwerau rhwng y
cenhedloedd.
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
10 |
0 |
42 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro):
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn croesawu'n fawr benderfyniad diamwys yr Alban i bleidleisio
yn erbyn annibyniaeth ac yn edrych ymlaen at weithio gyda phob rhan o'r Deyrnas
Unedig i greu undeb cryfach at y dyfodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
11 |
0 |
41 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro
Morgannwg), Aled Roberts (Gogledd Cymru):
Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:
1. Yn croesawu'r ffaith fod pobl yr Alban wedi
dewis aros yn aelod o deulu cenhedloedd y Deyrnas Unedig;
2. Yn credu bod yn rhaid inni hyrwyddo undeb newydd
ar gyfer holl bobl y DU, gan gynnwys Cymru; a
3. Yn galw am weithredu ar fyrder Rannau 1 a 2 o'r
Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru a sefydlu confensiwn cyfansoddiadol ar draws
y DU i ddrafftio cynllun ar gyfer undeb newydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
31 |
11 |
10 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5571 Elin Jones
(Ceredigion)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu'r ffaith fod pobl yr Alban wedi
dewis aros yn aelod o deulu cenhedloedd y Deyrnas Unedig;
2. Yn credu bod yn rhaid inni hyrwyddo undeb newydd
ar gyfer holl bobl y DU, gan gynnwys Cymru; a
3. Yn galw am weithredu ar fyrder Rannau 1 a 2 o'r
Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru a sefydlu confensiwn cyfansoddiadol ar draws
y DU i ddrafftio cynllun ar gyfer undeb newydd.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
31 |
11 |
10 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i
ddiwygio.
Cyfarfod: 17/09/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5562
Elin Jones AC (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod 266,000 o weithwyr yng Nghymru yn cael eu
talu llai na'r cyflog byw.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio tuag at greu
cyflog byw yng Nghymru drwy:
a) sefydlu cyflog byw ar draws y sector cyhoeddus yng
Nghymru;
b) gweithio gyda chyflogwyr i esbonio manteision talu'r
cyflog byw; a
c) cyflwyno sylwadau i'r Comisiwn Cyflogau Isel i sicrhau
bod yr isafswm cyflog yn codi i lefel y cyflog byw erbyn 2020.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn nodi ymhellach fod 98.4% o fusnesau yng Nghymru yn
fusnesau micro neu fach, a bod angen sicrhau bod unrhyw bolisi cyflog byw yn
ddichonadwy yn ogystal â sicrhau bod ein busnesau bach yn goroesi.
Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu 2 c) a rhoi yn ei le:
Sefydlu adolygiad annibynnol i ymgynghori ar sut i bennu
cyflog byw teg, gan weithio gyda rhanddeiliaid fel y Sefydliad Cyflog Byw, heb
niweidio cyfleoedd cyflogaeth ac er mwyn gwella camau gorfodi.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r ffaith y bydd 1.2 miliwn o bobl yng Nghymru
yn derbyn toriad treth o £800 o fis Ebrill 2015 ymlaen diolch i benderfyniad
Llywodraeth y DU i godi'r trothwy treth incwm i £10,500, ac y bydd hyn yn
cynorthwyo'r gweithwyr hynny yng Nghymru sy'n cael eu talu llai na'r cyflog
byw.
Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai'r trothwy treth incwm gael ei godi i
£12,500, i sicrhau na fydd gweithwyr
sy’n cael eu talu’r cyflog isafswm yn gorfod talu treth incwm o gwbl.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16:53
NDM5562 Elin Jones AC
(Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod 266,000 o weithwyr yng Nghymru yn cael eu talu llai na'r
cyflog byw.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio tuag at greu cyflog byw yng
Nghymru drwy:
a) sefydlu cyflog byw ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru;
b) gweithio gyda chyflogwyr i esbonio manteision talu'r cyflog byw; a
c) cyflwyno sylwadau i'r Comisiwn Cyflogau Isel i sicrhau bod yr isafswm
cyflog yn codi i lefel y cyflog byw erbyn 2020.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
33 |
0 |
13 |
46 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 02/07/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5545
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu
Gwasanaethau Cyhoeddus.
2. Yn nodi nad yw'r adroddiad yn ymdrin yn gynhwysfawr â gwasanaethau
cyhoeddus, yn enwedig y gwasanaeth iechyd, yn sgil y cylch gorchwyl a nodwyd
gan Lywodraeth Cymru.
3. Yn credu bod angen darparu mandad democrataidd ar gyfer
pecyn strategol hirdymor i ddiwygio’r ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus.
4. Yn credu ymhellach mai'r ffordd orau o drafod a datrys y
cydbwysedd o gymwyseddau a darparu gwasanaethau cyhoeddus rhwng llywodraeth
genedlaethol, ranbarthol a chymunedol yw drwy faniffestos pleidiau yn ystod
etholiad nesaf y Cynulliad.
Mae adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu
Gwasanaethau Cyhoeddus ar gael yn:
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwynt 2.
Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn credu y byddai’r atebolrwydd ychwanegol a fyddai’n deillio
o system bleidleisio deg yn gwella gwasanaethau cyhoeddus.
Gwelliant
3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod yr adroddiad yn datgan y dylid sicrhau y caiff
dinasyddion a chymunedau eu cynnwys yn fwy wrth gydgynhyrchu'r gwaith o
ddatblygu a darparu gwasanaethau.
Gwelliant
4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod yr adroddiad yn datgan y 'gall y trydydd sector
roi gwybodaeth am brofiad defnyddwyr o wasanaethau a gall helpu i sicrhau yr
ymgysylltir mewn ffordd systematig a chynaliadwy â chymunedau yn ogystal ag
arbenigedd y sector mewn meysydd polisi a gwasanaeth amrywiol'.
Gwelliant
5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod yr angen am werthusiadau cost llawn cyn cymryd
unrhyw gamau mewn perthynas â newidiadau strwythurol i wasanaethau cyhoeddus.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.07
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM5545 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu
Gwasanaethau Cyhoeddus.
2. Yn nodi nad yw'r adroddiad yn ymdrin yn gynhwysfawr â
gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig y gwasanaeth iechyd, yn sgil y cylch
gorchwyl a nodwyd gan Lywodraeth Cymru.
3. Yn credu bod angen darparu mandad democrataidd ar gyfer
pecyn strategol hirdymor i ddiwygio’r ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus.
4. Yn credu ymhellach mai'r ffordd orau o drafod a datrys y
cydbwysedd o gymwyseddau a darparu gwasanaethau cyhoeddus rhwng llywodraeth
genedlaethol, ranbarthol a chymunedol yw drwy faniffestos pleidiau yn ystod
etholiad nesaf y Cynulliad.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
8 |
0 |
39 |
47 |
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwynt 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
24 |
0 |
23 |
47 |
Derbyniwyd
gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn credu y byddai’r atebolrwydd ychwanegol a fyddai’n deillio
o system bleidleisio deg yn gwella gwasanaethau cyhoeddus.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
12 |
0 |
35 |
47 |
Gwrthodwyd
gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod yr adroddiad yn datgan y dylid sicrhau y caiff
dinasyddion a chymunedau eu cynnwys yn fwy wrth gydgynhyrchu'r gwaith o
ddatblygu a darparu gwasanaethau.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd
gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod yr adroddiad yn datgan y 'gall y trydydd sector
roi gwybodaeth am brofiad defnyddwyr o wasanaethau a gall helpu i sicrhau yr ymgysylltir
mewn ffordd systematig a chynaliadwy â chymunedau yn ogystal ag arbenigedd y
sector mewn meysydd polisi a gwasanaeth amrywiol'.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd
gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod yr angen am werthusiadau cost llawn cyn cymryd
unrhyw gamau mewn perthynas â newidiadau strwythurol i wasanaethau cyhoeddus.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
23 |
0 |
24 |
47 |
Gwrthodwyd
gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio:
NDM5545 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu
Gwasanaethau Cyhoeddus.
2. Yn credu bod angen darparu mandad democrataidd ar gyfer
pecyn strategol hirdymor i ddiwygio’r ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus.
3. Yn credu ymhellach mai'r ffordd orau o drafod a datrys y
cydbwysedd o gymwyseddau a darparu gwasanaethau cyhoeddus rhwng llywodraeth
genedlaethol, ranbarthol a chymunedol yw drwy faniffestos pleidiau yn ystod
etholiad nesaf y Cynulliad.
4. Yn nodi bod yr adroddiad yn datgan y dylid sicrhau y caiff
dinasyddion a chymunedau eu cynnwys yn fwy wrth gydgynhyrchu'r gwaith o
ddatblygu a darparu gwasanaethau.
5. Yn nodi bod yr adroddiad yn datgan y 'gall y trydydd
sector roi gwybodaeth am brofiad defnyddwyr o wasanaethau a gall helpu i
sicrhau yr ymgysylltir mewn ffordd systematig a chynaliadwy â chymunedau yn
ogystal ag arbenigedd y sector mewn meysydd polisi a gwasanaeth amrywiol'.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 25/06/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5536
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn dymuno'n dda i dîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad.
2. Yn nodi pwysigrwydd chwaraeon a gweithgarwch corfforol i
iechyd a lles.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau bod gan bawb fynediad i chwaraeon a gweithgarwch
corfforol;
b) adolygu effeithiolrwydd addysg gorfforol o ran annog
cyfranogi gydol oes mewn chwaraeon a mynd i’r afael â chyfraddau cyfranogi isel
ymhlith rhai grwpiau economaidd-gymdeithasol; ac
c) gwella'r cysylltiadau rhwng cyrff llywodraethu
cenedlaethol, awdurdodau lleol, ysgolion a chlybiau chwaraeon i sicrhau bod
arferion hyfforddiant gorau yn cael eu mabwysiadu i gynyddu'r tebygolrwydd y
bydd cenedlaethau'r dyfodol yn gallu cystadlu ar y lefel uchaf.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn credu ei bod yn bwysig bod ffyrdd egnïol o fyw ar gael i
bawb.
Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Yn is-bwynt 3b, dileu ‘cyfranogi gydol oes mewn chwaraeon’ a
rhoi ‘ymarfer corff gydol oes’ yn ei le.
Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:
sicrhau bod yr amgylchedd adeiledig wedi’i ddylunio i annog
ffyrdd egnïol o fyw.
Gwelliant
4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu effaith gadarnhaol digwyddiadau chwaraeon ar
lefelau cyfranogaeth mewn chwaraeon, megis Pencampwriaethau Athletau Ewrop y
Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol sydd ar fin cael eu cynnal yn Abertawe.
Gwelliant
5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod bod cymryd rhan mewn chwaraeon a hyfforddi
chwaraeon yn gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn y gymuned.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.00
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM5536
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn dymuno'n dda i dîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad.
2. Yn nodi pwysigrwydd chwaraeon a gweithgarwch corfforol i
iechyd a lles.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau bod gan bawb fynediad i chwaraeon a gweithgarwch
corfforol;
b) adolygu effeithiolrwydd addysg gorfforol o ran annog
cyfranogi gydol oes mewn chwaraeon a mynd i’r afael â chyfraddau cyfranogi isel
ymhlith rhai grwpiau economaidd-gymdeithasol; ac
c) gwella'r cysylltiadau rhwng cyrff llywodraethu
cenedlaethol, awdurdodau lleol, ysgolion a chlybiau chwaraeon i sicrhau bod
arferion hyfforddiant gorau yn cael eu mabwysiadu i gynyddu'r tebygolrwydd y
bydd cenedlaethau'r dyfodol yn gallu cystadlu ar y lefel uchaf.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
32 |
0 |
14 |
46 |
Derbyniwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 18/06/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5529
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi Dogfen Ymgynghori Llywodraeth Cymru ar y Cynllun
drafft “Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd”.
2. Yn nodi mai dewis Llywodraeth Cymru fyddai adeiladu M4 newydd
dros Wastadeddau Gwent i'r de o Gasnewydd.
3. Yn credu y dylid diystyru'r llwybr a ffefrir gan
Lywodraeth Cymru ar gyfer M4 newydd ar sail amgylcheddol a gwerth am arian.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi gwelliannau i ôl
troed ffordd yr A48 bresennol o amgylch Casnewydd fel yr amlinellwyd yng
nghysyniad y ‘Llwybr Glas’.
5. Yn credu na ddylai pwerau benthyca i Gymru fod yn
seiliedig ar gymorth Llywodraeth Cymru i brosiect penodol, ond y dylent fod ar
gael i'w defnyddio ar draws y cyfan o'r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru.
Mae gweld Dogfen Ymgynghori ar y Cynllun drafft ‘Coridor yr
M4 o amgylch Casnewydd’ ar gael yma:
http://cymru.gov.uk/docs/det/consultation/130923m4conscy.pdf
Mae dogfen y ‘Llwybr Glas’ ar gael yma:
http://www.foe.co.uk/sites/default/files/downloads/m4-blue-route-45610.pdf
[Saesneg yn unig]
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwyntiau 3, 4 a 5.
[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei
ddad-ddethol]
Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 4:
‘fel rhan o strategaeth drafnidiaeth integredig ar gyfer de
ddwyrain Cymru sy’n cynnwys buddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus, seilwaith
rheilffyrdd ar gyfer cludo nwyddau a gwella llwybrau lleol strategol'.
Gwelliant
3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r buddsoddiad gan Lywodraeth y DU a’r ymrwymiad i
gael mynediad cynnar at bwerau benthyca er mwyn ariannu gwelliannau i’r M4;
Gwelliant
4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod bod angen penderfyniad cynnar ynghylch cael
ffordd i ysgafnhau’r tagfeydd ar seilwaith presennol yr M4 o amgylch Casnewydd,
a rhoi’r penderfyniad hwnnw ar waith.
Gwelliant
5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod pryderon y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
yn ei lythyr yn dwyn y teitl ‘Cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer yr M4 o
amgylch Casnewydd’, ar 5 Mehefin 2014.
Mae llythyr y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar gael
yn:
http://www.senedd.cynulliadcymru.org/documents/s28157/Llythyr.pdf
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.07
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM5529 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi Dogfen Ymgynghori Llywodraeth Cymru ar y Cynllun
drafft “Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd”.
2. Yn nodi mai dewis Llywodraeth Cymru fyddai adeiladu M4
newydd dros Wastadeddau Gwent i'r de o Gasnewydd.
3. Yn credu y dylid diystyru'r llwybr a ffefrir gan
Lywodraeth Cymru ar gyfer M4 newydd ar sail amgylcheddol a gwerth am arian.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi gwelliannau i ôl
troed ffordd yr A48 bresennol o amgylch Casnewydd fel yr amlinellwyd yng
nghysyniad y ‘Llwybr Glas’.
5. Yn credu na ddylai pwerau benthyca i Gymru fod yn
seiliedig ar gymorth Llywodraeth Cymru i brosiect penodol, ond y dylent fod ar
gael i'w defnyddio ar draws y cyfan o'r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
9 |
1 |
16 |
26 |
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwyntiau 3, 4 a 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
11 |
0 |
15 |
26 |
Gwrthodwyd
gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 4:
‘fel rhan o strategaeth drafnidiaeth integredig ar gyfer de ddwyrain Cymru
sy’n cynnwys buddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus, seilwaith rheilffyrdd ar
gyfer cludo nwyddau a gwella llwybrau lleol strategol'.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
15 |
0 |
11 |
26 |
Derbyniwyd
gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r buddsoddiad gan Lywodraeth y DU a’r ymrwymiad i gael
mynediad cynnar at bwerau benthyca er mwyn ariannu gwelliannau i’r M4;
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
16 |
0 |
10 |
26 |
Derbyniwyd
gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod bod angen penderfyniad cynnar ynghylch cael ffordd i
ysgafnhau’r tagfeydd ar seilwaith presennol yr M4 o amgylch Casnewydd, a rhoi’r
penderfyniad hwnnw ar waith.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
25 |
0 |
0 |
25 |
Derbyniwyd
gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod pryderon y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn ei lythyr
yn dwyn y teitl ‘Cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer yr M4 o amgylch
Casnewydd’, ar 5 Mehefin 2014.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
26 |
0 |
0 |
26 |
Derbyniwyd
gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio:
NDM5529 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi Dogfen Ymgynghori Llywodraeth Cymru ar y Cynllun
drafft “Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd”.
2. Yn nodi mai dewis Llywodraeth Cymru fyddai adeiladu M4
newydd dros Wastadeddau Gwent i'r de o Gasnewydd.
3. Yn credu y dylid diystyru'r llwybr a ffefrir gan
Lywodraeth Cymru ar gyfer M4 newydd ar sail amgylcheddol a gwerth am arian.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi gwelliannau i ôl
troed ffordd yr A48 bresennol o amgylch Casnewydd fel yr amlinellwyd yng
nghysyniad y ‘Llwybr Glas’ fel rhan o strategaeth
drafnidiaeth integredig ar gyfer de ddwyrain Cymru sy’n cynnwys buddsoddiad
mewn trafnidiaeth gyhoeddus, seilwaith rheilffyrdd ar gyfer cludo nwyddau a
gwella llwybrau lleol strategol.
5. Yn credu na ddylai pwerau benthyca i Gymru fod yn
seiliedig ar gymorth Llywodraeth Cymru i brosiect penodol, ond y dylent fod ar
gael i'w defnyddio ar draws y cyfan o'r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru.
6. Yn croesawu’r buddsoddiad gan
Lywodraeth y DU a’r ymrwymiad i gael mynediad cynnar at bwerau benthyca er mwyn
ariannu gwelliannau i’r M4.
7. Yn cydnabod bod angen penderfyniad cynnar
ynghylch cael ffordd i ysgafnhau’r tagfeydd ar seilwaith presennol yr M4 o
amgylch Casnewydd, a rhoi’r penderfyniad hwnnw ar waith.
8. Yn cydnabod pryderon y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn ei
lythyr yn dwyn y teitl ‘Cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer yr M4 o amgylch
Casnewydd’, ar 5 Mehefin 2014.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
5 |
1 |
20 |
26 |
Gwrthodwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 21/05/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5511
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu bod rhannau o gymoedd de Cymru yn parhau i
wynebu lefelau uchel o amddifadedd.
2. Yn cydnabod bod trechu tlodi yn y Cymoedd yn ei gwneud yn ofynnol
cael buddsoddiad parhaus ac ymyriad Llywodraeth Cymru.
3. Yn nodi'r potensial sylweddol i gymoedd de Cymru hyrwyddo
eu treftadaeth gymdeithasol a diwylliannol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cynorthwyo'n uniongyrchol fentrau ar lawr gwlad i drechu
tlodi a gwella adfywiad ardaloedd ag amddifadedd yn y Cymoedd;
b) sicrhau bod digon o ofal plant fforddiadwy i ddiwallu
anghenion rhieni;
c) sicrhau bod gan bob unigolyn sydd allan o waith yn y
Cymoedd fynediad i hyfforddiant prentisiaeth neu sgiliau;
d) datblygu, drwy ymgynghori â'r cyhoedd, strategaeth
gynhwysfawr i fynd i'r afael â'r problemau a meithrin cymunedau cynaliadwy yn y
Cymoedd.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnwys pwynt 1 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
1. Yn cydnabod yr effaith y mae polisi economaidd Llywodraeth
y DU wedi’i chael ar gymoedd de Cymru o ran:
a) sefydlogi’r economi a hybu twf economaidd;
b) rhoi hyder i gyflogwyr gynyddu cyfleoedd cyflogaeth;
c) cefnogi creu cyfoeth a fydd yn cyllido ac yn cynnal
darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus.
Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ym mhwynt 3 ar ôl ‘gymdeithasol a diwylliannol’, rhoi:
‘ac yn condemnio’r camreolaeth sydd wedi arwain at gau rhai o
ganolfannau pwysig o werth cymdeithasol a diwylliannol sylweddol yn yr
ardaloedd hynny’.
Gwelliant
3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnwys is-bwynt 4a) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
cydlynu’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r gymdeithas
sifil yng nghymoedd de Cymru i sicrhau bod yr ardaloedd hynny yn manteisio i’r
eithaf ar botensial twf economaidd Cymru.
Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys is-bwynt 4d) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
‘annog awdurdodau lleol yn y Cymoedd i ddefnyddio pwerau o
dan Ddeddf Lleoliaeth 2011 i ddynodi Asedau o Werth Cymunedol a gwarchod
adeiladau pwysig rhag y perygl o orfod cau.’
Gwelliant
5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Yn gresynu bod Gorllewin Cymru a’r Cymoedd wedi bod yn gymwys
ar gyfer tri chylch o gyllid strwythurol yr UE gan eu bod yn is na 75% o
gynnyrch mewnwladol crynswth yr UE.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.49
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5511 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn
gresynu bod rhannau o gymoedd de Cymru yn parhau i wynebu lefelau uchel o
amddifadedd.
2. Yn
cydnabod bod trechu tlodi yn y Cymoedd yn ei gwneud yn ofynnol cael buddsoddiad
parhaus ac ymyriad Llywodraeth Cymru.
3. Yn
nodi'r potensial sylweddol i gymoedd de Cymru hyrwyddo eu treftadaeth
gymdeithasol a diwylliannol.
4. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cynorthwyo'n
uniongyrchol fentrau ar lawr gwlad i drechu tlodi a gwella adfywiad ardaloedd
ag amddifadedd yn y Cymoedd;
b)
sicrhau bod digon o ofal plant fforddiadwy i ddiwallu anghenion rhieni;
c)
sicrhau bod gan bob unigolyn sydd allan o waith yn y Cymoedd fynediad i
hyfforddiant prentisiaeth neu sgiliau;
d)
datblygu, drwy ymgynghori â'r cyhoedd, strategaeth gynhwysfawr i fynd i'r afael
â'r problemau a meithrin cymunedau cynaliadwy yn y Cymoedd.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
28 |
0 |
15 |
43 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 14/05/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5505
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i ddatblygu rhwydwaith
rheilffordd cyflymder uchel HS2 yn Lloegr.
2. Yn cydnabod y rhagwelir y bydd datblygu HS2 yn cael
effaith negyddol gyffredinol ar economi Cymru.
3. Yn gresynu, hyd yma, na chadarnhawyd y bydd Cymru yn cael
unrhyw adnodd ychwanegol pellach drwy fformiwla Barnett yn sgîl gwariant
Llywodraeth y DU ar HS2.
4. Yn nodi pwysigrwydd hanfodol buddsoddi yn y seilwaith
trafnidiaeth ar gyfer rhagolygon economi Cymru yn y dyfodol.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cyllid canlyniadol
Barnett llawn neu unrhyw setliad ariannol teg arall, yn sgîl datblygu HS2.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ym mhwynt 2, dileu popeth ar ôl ‘cydnabod’ a rhoi yn ei le:
‘y cyfleoedd y mae HS2 yn eu cynnig i gryfhau’r achos busnes
dros drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru.’
Gwelliant
2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu’r buddsoddiad sylweddol i drydaneiddio Prif
Reilffordd y Great Western.
Gwelliant
3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwyntiau 4 a 5 a rhoi yn eu lle:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i anrhydeddu ei chytundeb gyda
Llywodraeth y DU i weithio mewn partneriaeth i drydaneiddio rheilffyrdd de
Cymru.
Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 5 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn croesawu’r cynnydd yng nghapasiti rheilffyrdd y DU yn sgîl
datblygu HS2, a fydd yn galluogi rhagor o gerbydau cludo i deithio ar y
rheilffyrdd ar hyd a lled y DU.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.28
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM5505 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i ddatblygu
rhwydwaith rheilffordd cyflymder uchel HS2 yn Lloegr.
2. Yn cydnabod y rhagwelir y bydd datblygu HS2
yn cael effaith negyddol gyffredinol ar economi Cymru.
3. Yn gresynu, hyd yma, na chadarnhawyd y bydd
Cymru yn cael unrhyw adnodd ychwanegol pellach drwy fformiwla Barnett yn sgîl
gwariant Llywodraeth y DU ar HS2.
4. Yn nodi pwysigrwydd hanfodol buddsoddi yn y
seilwaith trafnidiaeth ar gyfer rhagolygon economi Cymru yn y dyfodol.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cyllid canlyniadol Barnett llawn
neu unrhyw setliad ariannol teg arall, yn sgîl datblygu HS2.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
9 |
0 |
41 |
50 |
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ym mhwynt 2, dileu popeth ar ôl ‘cydnabod’ a
rhoi yn ei le:
‘y cyfleoedd y mae HS2 yn eu cynnig i gryfhau’r achos busnes dros
drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru.’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
41 |
0 |
9 |
50 |
Derbyniwyd
gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu’r buddsoddiad sylweddol i drydaneiddio Prif Reilffordd y Great
Western.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
41 |
0 |
9 |
50 |
Derbyniwyd
gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwyntiau 4 a 5 a rhoi yn eu lle:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i anrhydeddu ei chytundeb gyda Llywodraeth y
DU i weithio mewn partneriaeth i drydaneiddio rheilffyrdd de Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
16 |
0 |
34 |
50 |
Gwrthodwyd
gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 5 newydd ac ailrifo yn unol â
hynny:
Yn croesawu’r cynnydd yng nghapasiti rheilffyrdd y DU yn sgîl datblygu HS2,
a fydd yn galluogi rhagor o gerbydau cludo i deithio ar y rheilffyrdd ar hyd a
lled y DU.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
41 |
9 |
0 |
50 |
Derbyniwyd
gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio:
NDM5505 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i ddatblygu
rhwydwaith rheilffordd cyflymder uchel HS2 yn Lloegr.
2. Yn cydnabod y cyfleoedd y mae HS2 yn eu
cynnig i gryfhau’r achos busnes dros drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru.
3. Yn croesawu’r buddsoddiad sylweddol i drydaneiddio Prif Reilffordd y
Great Western.
4. Yn nodi pwysigrwydd hanfodol buddsoddi yn y seilwaith
trafnidiaeth ar gyfer rhagolygon economi Cymru yn y dyfodol.
5. Yn croesawu’r cynnydd yng nghapasiti rheilffyrdd y DU yn sgîl datblygu HS2,
a fydd yn galluogi rhagor o gerbydau cludo i deithio ar y rheilffyrdd ar hyd a
lled y DU.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cyllid canlyniadol Barnett llawn
neu unrhyw setliad ariannol teg arall, yn sgîl datblygu HS2.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
31 |
0 |
19 |
50 |
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 07/05/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5498
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw am ddiddymu'r dreth ystafell wely.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod problem tanfeddiannaeth mewn tai cymdeithasol.
2. Yn cydnabod gwaith y Democratiaid Rhyddfrydol yn
Llywodraeth y DU o ran sicrhau Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn i awdurdodau lleol
er mwyn helpu i liniaru effaith diwygiadau mewn achosion teilwng unigol.
3. Yn croesawu'r cyhoeddiad diweddar y bydd y cap ar y swm y
gall cynghorau ei wario ar Daliadau Tai yn ôl Disgresiwn yn cael ei godi i roi
mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol.
4. Yn mynegi pryder ynghylch y rhwystrau a roddwyd yn eu lle
gan gynghorau lleol i'r rhai sy'n ceisio gwneud cais am Daliadau Tai yn ôl
Disgresiwn a'u methiant i ddyrannu'r holl adnoddau a roddwyd iddynt at y diben
hwn mewn da bryd.
5. Yn croesawu'r cynnig a basiwyd yng nghynhadledd y
Democratiaid Rhyddfrydol ym mis Medi 2013 yn galw am werthusiad ar unwaith o
effaith y cymhorthdal ystafell sbâr, ac yn aros am ganlyniad yr adolygiad
annibynnol o'r polisi a gomisiynwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau sydd ar y
gweill.
6. Yn credu y dylai tynnu'r cymhorthdal ystafell sbâr yn ôl
gael ei liniaru drwy eithrio oedolion anabl a phlant anabl y mae angen gofalwr
arnynt a'i gymhwyso i denantiaethau newydd y sector cyhoeddus yn unig.
[Os
derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant
2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi:
a) bod prinder tai cymdeithasol ledled y DU, ac yng Nghymru’n
arbennig, a bod cael gwared ar y cymhorthdal ystafell sbâr yn ymateb dilynol
i’r cynnydd mewn rhestrau aros, gorlenwi a digartrefedd cudd sy’n mynd ochr yn
ochr â phroblem tanfeddiannu mewn tai cymdeithasol;
b) mai Llywodraeth Lafur y DU, ym mis Ebrill 2008, aeth ati i
gael gwared ar y cymhorthdal ystafell sbâr am y tro cyntaf ar gyfer y rheini a
oedd yn derbyn budd-dal tai yn y sector rhentu preifat;
c) bod arian ychwanegol gan Lywodraeth y DU wedi cael ei
ddarparu ar gyfer Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn o 2013/14 ymlaen gan ganiatáu i
awdurdodau lleol dargedu’r rheini sydd ei angen fwyaf;
d) y cyhoeddiad diweddar y bydd y cap ar faint y caiff
cynghorau ei wario ar Daliadau Tai yn ôl Disgresiwn yn cael ei godi er mwyn
rhoi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol;
e) methiant awdurdodau lleol i ddyrannu’r holl adnoddau a
roddwyd iddynt ar gyfer Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn mewn da bryd;
f) yr arweiniad a roddwyd ymlaen llaw i awdurdodau lleol gan
yr Adran Gwaith a Phensiynau, sy’n dweud y dylai pobl anabl sy’n byw mewn llety
sydd wedi’i addasu’n sylweddol a’r rheini sy’n ddibynnol iawn ar rwydwaith
cefnogi lleol gael eu blaenoriaethu ar gyfer taliadau tai yn ôl disgresiwn.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.13
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM5498 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw am ddiddymu'r dreth ystafell wely.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
32 |
0 |
16 |
48 |
Derbyniwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 30/04/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5495
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod y gyfradd ddiweithdra ymhlith ieuenctid yn
21.3% - y lefel uchaf o blith pedair gwlad y DU;
2. Yn gresynu bod diweithdra hirdymor ymhlith pobl ifanc wedi
cynyddu bedair gwaith ers ffurfio'r Llywodraeth Cymru bresennol;
3. Yn cydnabod gwerth pobl ifanc i economi Cymru; a
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau ar unwaith i
wella rhagolygon economaidd pobl ifanc.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ym mhwynt 3, ar ôl 'Cymru’ rhoi ‘ac yn gresynu mai dim ond
60% o raddedigion gradd gyntaf cyflogedig, llawn amser o Sefydliadau Addysg
Uwch Cymru a arhosodd yng Nghymru i weithio chwe mis ar ôl graddio.'
[Nid yw’r Llywydd wedi dethol gwelliant 2 ar gyfer y ddadl]
Gwelliant
2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt 3 a’i roi yn ôl i mewn fel pwynt 1 newydd ac
ailrifo yn unol â hynny.
Gwelliant
3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ym mhwynt 4, dileu ‘gymryd camau ar unwaith’ a rhoi yn ei le
‘weithio ar y cyd gyda Llywodraeth y DU’.
Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gasglu gwell data er mwyn
cyfrannu at bolisïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i allu cydweddu cyfleoedd hyfforddi
a graddedigion yng Nghymru yn well.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.56
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM5495 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod y gyfradd ddiweithdra ymhlith
ieuenctid yn 21.3% - y lefel uchaf o blith pedair gwlad y DU;
2. Yn gresynu bod diweithdra hirdymor ymhlith
pobl ifanc wedi cynyddu bedair gwaith ers ffurfio'r Llywodraeth Cymru
bresennol;
3. Yn cydnabod gwerth pobl ifanc i economi
Cymru; a
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau ar unwaith i wella
rhagolygon economaidd pobl ifanc.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
8 |
0 |
37 |
45 |
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ym mhwynt 3, ar ôl 'Cymru’ rhoi ‘ac yn gresynu mai dim ond 60% o
raddedigion gradd gyntaf cyflogedig, llawn amser o Sefydliadau Addysg Uwch
Cymru a arhosodd yng Nghymru i weithio chwe mis ar ôl graddio.'
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
22 |
0 |
23 |
45 |
Gwrthodwyd
gwelliant 1.
Ni ddetholwyd gwelliant 2 a gyflwynwyd ar gyfer
y ddadl.
Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ym mhwynt 4, dileu ‘gymryd camau ar unwaith’ a rhoi yn ei le ‘weithio ar y
cyd gyda Llywodraeth y DU’.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
14 |
0 |
31 |
45 |
Gwrthodwyd
gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gasglu gwell data er mwyn cyfrannu at
bolisïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i allu cydweddu cyfleoedd hyfforddi a
graddedigion yng Nghymru yn well.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
22 |
0 |
23 |
45 |
Gwrthodwyd
gwelliant 4.
Gan fod
y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y
gwelliannau i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.
Cyfarfod: 26/03/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5478
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r cyfraddau disgwyliad oes is mewn cymunedau o
amddifadedd;
2. Yn cydnabod rôl deddfwriaeth, trethiant a pholisi
cyhoeddus o ran hyrwyddo iechyd da a mynd i’r afael â'r cysylltiad rhwng tlodi
ac afiechyd; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu i dorri'r
cysylltiad rhwng tlodi ac afiechyd.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod y toriadau termau real i gyllideb GIG Cymru yn
peryglu gwell canlyniadau iechyd y cyhoedd, yn enwedig i’r rheini sy’n byw mewn
cymunedau o amddifadedd.
Gwelliant
2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella’r ffordd y mae’n
cynllunio ac yn gwerthuso cynlluniau iechyd y cyhoedd er mwyn cyflawni gwell
gwasanaethau a gwasanaethau mwy effeithiol ar gyfer cymunedau o amddifadedd.
Gwelliant
3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
O gofio’r cysylltiad rhwng tlodi ac afiechyd, yn croesawu’r
camau sy’n cael eu cymryd gan Lywodraeth y DU i fynd i’r afael â thlodi, gan
gynnwys cynyddu’r isafswm cyflog cenedlaethol a’r manteision treth i’r rheini
ar incymau isel.
Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu’r amserlen ar gyfer
cyflwyno’r bil iechyd y cyhoedd arfaethedig, ac i egluro sut y bydd y
ddeddfwriaeth hon yn mynd i’r afael â’r lefelau presennol o dlodi ac afiechyd
yng Nghymru.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.13
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM5478 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r cyfraddau disgwyliad oes is mewn
cymunedau o amddifadedd;
2. Yn cydnabod rôl deddfwriaeth, trethiant a
pholisi cyhoeddus o ran hyrwyddo iechyd da a mynd i’r afael â'r cysylltiad
rhwng tlodi ac afiechyd; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu i
dorri'r cysylltiad rhwng tlodi ac afiechyd.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
35 |
0 |
15 |
50 |
Derbyniwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 19/03/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5467
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â rhwystrau i
gyflogaeth a dilyniant gyrfa drwy:
a) Ymestyn gofal plant fforddiadwy ledled Cymru;
b) Sicrhau bod cyrff y sector cyhoeddus yn cymryd camau
gweithredu cadarnhaol i gynyddu amrywiaeth;
c) Gweithio gyda chyflogwyr mawr i gynyddu cyfleoedd i bobl
anabl;
d) Cefnogi'r cyflog byw a dileu arferion cyflogaeth gwael fel
contractau dim oriau.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys is-bwynt b) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Adolygu beth sy’n achosi’r cynnydd mewn llwythi gwaith ac
absenoldeb salwch oherwydd straen ymysg gweithwyr yn y sector cyhoeddus, yn
benodol nyrsys ac athrawon.
Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu is-bwynt d) a rhoi yn ei le:
Croesawu’r cynnydd yn y lwfans personol i £10,000 yn ogystal
ag ymgynghoriad Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau y DU ar gontractau dim oriau.
Mae ymgynghoriad Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau y DU i’w
weld yn:
https://www.gov.uk/government/consultations/zero-hours-employment-contracts
[Saesneg yn unig]
[Os
derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant
3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth yn is-bwynt d) a rhoi yn ei le:
Cefnogi arferion rheoli da sy’n sicrhau cysylltiadau da yn y
gweithle a chyflogaeth gynaliadwy.
Gwelliant
4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod sgiliau gweithio
wrth galon ei Hadolygiad Cwricwlwm ac Asesu newydd er mwyn lleihau’r rhwystrau
y mae pobl ifanc yn eu hwynebu o ran cyflogaeth.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 18.08
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM5467 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â
rhwystrau i gyflogaeth a dilyniant gyrfa drwy:
a) Ymestyn gofal plant fforddiadwy ledled Cymru;
b) Sicrhau bod cyrff y sector cyhoeddus yn cymryd
camau gweithredu cadarnhaol i gynyddu amrywiaeth;
c) Gweithio gyda chyflogwyr mawr i gynyddu
cyfleoedd i bobl anabl;
d) Cefnogi'r cyflog byw a dileu arferion
cyflogaeth gwael fel contractau dim oriau.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
35 |
0 |
17 |
52 |
Derbyniwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 12/03/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5449
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod y Gymraeg yn sbarduno'r economi a bod ei
ffyniant tymor hir fel iaith gymunedol yn dibynnu ar dwf economaidd rhanbarthol
a lleol cryf.
2. Yn cydnabod bod gwariant gan Lywodraeth Cymru a chyrff
cyhoeddus yn gallu dylanwadu’n drwm ar yr iaith.
3. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid
ddatblygu polisïau i gefnogi’r iaith a hyrwyddo ei budd economaidd ar sail
ardaloedd penodedig.
Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys asesiad o effaith ei
pholisïau ar y Gymraeg yn ei Chanllawiau ar yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.00
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM5449 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod y Gymraeg yn sbarduno'r
economi a bod ei ffyniant tymor hir fel iaith gymunedol yn dibynnu ar dwf
economaidd rhanbarthol a lleol cryf.
2. Yn cydnabod bod gwariant gan Lywodraeth Cymru
a chyrff cyhoeddus yn gallu dylanwadu’n drwm ar yr iaith.
3. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru a’i
phartneriaid ddatblygu polisïau i gefnogi’r iaith a hyrwyddo ei budd economaidd
ar sail ardaloedd penodedig.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
50 |
0 |
5 |
55 |
Derbyniwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 05/03/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5441
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod llwyddiant hanesyddol Cymru fel canolfan ar
gyfer arloesi a diwydiant;
2. Yn cydnabod rhan ganolog strategaeth sy’n seiliedig ar allforio
ar gyfer llwyddiant economaidd yn y dyfodol;
3. Yn credu bod dulliau newydd yn angenrheidiol i asesu'r
gallu i allforio; a
4. Yn cefnogi ymdrechion i sicrhau potensial mwyaf posibl
busnesau cynhenid i ehangu a chreu cyflogaeth a ffyniant.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ym mhwynt 1, dileu popeth ar ôl ‘Cymru’ a rhoi yn ei le ‘fel
cenedl o entrepreneuriaeth, creadigrwydd, diwydiant, arloesedd cymdeithasol ac
economaidd’
Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod pwysigrwydd allforio, mewnfuddsoddi a masnach o
fewn y DU o ran unrhyw strategaeth ar gyfer llwyddiant economaidd i Gymru.
Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod pwysigrwydd aelodaeth Cymru o’r Undeb Ewropeaidd
i fusnesau Cymru a’r potensial o ran allforio, gyda 44% o allforion Cymru’n
mynd i aelod-wladwriaethau eraill yr UE.
Gwelliant
4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ym mhwynt 3, dileu popeth ar ôl ‘bod’ a rhoi yn ei le ‘rhaid
i Lywodraeth Cymru ddatblygu dulliau newydd i asesu’r gallu i allforio; a’
Gwelliant
5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ym mhwynt 4, dileu ‘busnesau cynhenid’ a rhoi yn ei le
‘busnesau a leolir yng Nghymru’.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr
eitem am 16.52
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM5441 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod llwyddiant hanesyddol Cymru fel
canolfan ar gyfer arloesi a diwydiant;
2. Yn cydnabod rhan ganolog strategaeth sy’n
seiliedig ar allforio ar gyfer llwyddiant economaidd yn y dyfodol;
3. Yn credu bod dulliau newydd yn angenrheidiol i
asesu'r gallu i allforio; a
4. Yn cefnogi ymdrechion i sicrhau potensial
mwyaf posibl busnesau cynhenid i ehangu a chreu cyflogaeth a ffyniant.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
34 |
0 |
17 |
51 |
Derbyniwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 19/02/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5438
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r gostyngiad o 44% mewn incwm ffermydd ar draws
pob math o ffermydd yng Nghymru y llynedd;
2. Yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth Cymru i drosglwyddo'r
15% yn llawn o Golofn 1 i Golofn 2 o'r Polisi Amaethyddol Cyffredin a'r
gostyngiad dilynol o 23.4% o ran hawliau Cynllun y Taliad Sengl; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi ystyriaeth lawn i'r
amgylchiadau heriol hyn ac amgylchiadau heriol eraill a wynebir gan y diwydiant
amaethyddol ar hyn o bryd wrth iddi gyflwyno diwygiadau i'r Polisi Amaethyddol
Cyffredin, Cynllun Datblygu Gwledig newydd a mentrau polisi gwledig ehangach
yng Nghymru.
Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio’r Cynllun Datblygu
Gwledig i gyflwyno cynllun Ardaloedd â Chyfyngiadau Naturiol penodol i Rhostiroedd.
Gwelliant
2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu ymhellach at effaith TB buchol ar incwm ffermydd
yng Nghymru a methiant Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r mater pwysig hwn.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr
eitem am 15.55
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM5438
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r gostyngiad o 44% mewn incwm ffermydd ar draws
pob math o ffermydd yng Nghymru y llynedd;
2. Yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth Cymru i
drosglwyddo'r 15% yn llawn o Golofn 1 i Golofn 2 o'r Polisi Amaethyddol
Cyffredin a'r gostyngiad dilynol o 23.4% o ran hawliau Cynllun y Taliad Sengl;
a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi ystyriaeth lawn i'r
amgylchiadau heriol hyn ac amgylchiadau heriol eraill a wynebir gan y diwydiant
amaethyddol ar hyn o bryd wrth iddi gyflwyno diwygiadau i'r Polisi Amaethyddol
Cyffredin, Cynllun Datblygu Gwledig newydd a mentrau polisi gwledig ehangach
yng Nghymru.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
10 |
0 |
43 |
53 |
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn
unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
ddefnyddio’r Cynllun Datblygu Gwledig i gyflwyno cynllun Ardaloedd â
Chyfyngiadau Naturiol penodol i Weundiroedd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
27 |
0 |
28 |
55 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog
6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn
y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â
hynny:
Yn gresynu ymhellach at effaith TB buchol ar
incwm ffermydd yng Nghymru a methiant Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r
mater pwysig hwn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
26 |
1 |
27 |
54 |
Gwrthodwyd
gwelliant 2.
Gan fod
y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y
gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.
Cyfarfod: 05/02/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5422
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod potensial sylweddol adnoddau naturiol Cymru ac yn
credu y dylai rheolaeth lawn dros y defnydd ohonynt gael ei datganoli i’r
Cynulliad Cenedlaethol.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu popeth ar ôl ‘adnoddau naturiol Cymru’.
Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylid defnyddio adnoddau naturiol Cymru mewn modd
sy’n gynaliadwy o ran yr amgylchedd a’r economi er budd tymor hir pobl Cymru.
Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi pwysigrwydd cynlluniau ynni cymunedol i fanteisio ar
ein hadnoddau naturiol yng Nghymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i
amlinellu’r camau gweithredu y bydd yn eu cymryd i wella rhaglen Ynni’r Fro yn
dilyn cyfres o argymhellion yn adroddiad Gwerthusiad Canol Tymor Ynni’r Fro.
Mae adroddiad Gwerthusiad Canol Tymor Ynni’r Fro ar gael yn:
http://wales.gov.uk/statistics-and-research/evaluation-ynnir-fro/?lang=cy
Gwelliant
4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu nad yw Llywodraeth Cymru wedi datblygu’r arbenigedd
a’r gallu eto i weinyddu prosiectau ynni ar raddfa fawr.
Gwelliant
5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cynnal ymchwiliad i sut y gellir datblygu buddion
cymunedol prosiectau ynni;
b) cynnal adolygiad o ganiatáu a thrwyddedu prosiectau ynni
adnewyddadwy ar raddfa fach; ac
c) gweithio gyda Llywodraeth y DU i edrych ar ffiniau dwr.
Gwelliant
6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganiatáu rhagor o leoliaeth o
ran defnyddio adnoddau naturiol mewn cymunedau, a rhoi’r un hawliau i bobl
Cymru â’r hawliau sydd gan gymunedau yn Lloegr ar hyn o bryd o dan Ddeddf
Lleoliaeth 2011.
Gwelliant
7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod camreolaeth Llywodraeth Cymru ar adnoddau pren
naturiol ystâd Coedwigaeth Cymru wedi:
a) caniatáu i ardaloedd mawr o goed llarwydd a rhywogaethau
coed eraill fod wedi’u heintio o hyd â phytopthora ramorum; a
b) golygu bod clwstwr enfawr o goed llarwydd heintiedig heb
eu torri a dwy flynedd o waith wedi cronni yn y rhaglen torri coed.
Gwelliant
8 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi’r rhwystrau o ran hyrwyddo ac amddiffyn adnoddau
naturiol Cymru a ddaeth yn sgîl y system gynllunio bresennol.
Gwelliant
9 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod penderfyniadau ynghylch taliadau CAP wedi rhoi
ffermwyr Cymru o dan anfantais gystadleuol o’u cymharu â gwledydd datganoledig
eraill y Deyrnas Unedig wrth iddynt reoli eu hadnoddau naturiol.
Gwelliant
10 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod camreoli adnoddau naturiol Cymru yn cyfrannu at
ledaenu TB buchol ac yn effeithio ar fywyd gwyllt a chynhyrchu amaethyddol yng
Nghymru.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.16
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM5422
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod potensial sylweddol adnoddau naturiol Cymru ac yn
credu y dylai rheolaeth lawn dros y defnydd ohonynt gael ei datganoli i’r
Cynulliad Cenedlaethol.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
32 |
0 |
16 |
48 |
Derbyniwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 22/01/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5405
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod dros flwyddyn wedi mynd heibio ers cyhoeddi
ffigurau cyfrifiad 2011 sy’n dangos bod gostyngiad o 2 y cant yn y nifer o
siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu er mwyn galluogi’r
Gymraeg i ffynnu drwy, ymysg pethau eraill:
a) sicrhau bod gan bawb yng Nghymru’r cyfle i ddysgu Cymraeg;
b) buddsoddi mewn gofal plant trwy gyfrwng y Gymraeg;
c) cynyddu nifer y disgyblion sy’n derbyn y Cyfnod Sylfaen
drwy gyfrwng y Gymraeg;
d) defnyddio’r potensial o dan Fesur y Gymraeg 2011 i osod
safonau ar gyfer y Gymraeg sy’n rhoi hawliau cryfach i siaradwyr Cymraeg na
chynlluniau iaith o dan Ddeddf Iaith 1993;
e) annog cyrff cyhoeddus i ddefnyddio’r Gymraeg fel iaith
weinyddol yn fewnol;
f) creu cyfleoedd economaidd a swyddi yng nghadarnleoedd y
Gymraeg drwy hybu datblygiad Bangor a Menai, Aberystwyth a Chaerfyrddin fel
dinas-ranbarthau;
g) sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei chymryd o ddifrif yn y
system gynllunio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi methiannau Llywodraeth Cymru o ran bodloni’r safonau
yn llawn wrth hybu’r defnydd o ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol mewn bywyd
cyhoeddus, fel y nodir yn Siarter Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol Ewrop.
Mae ‘European Charter for Regional or Minority Languages –
Fourth report of the Committee of Experts in respect of the United Kingdom’ ar
gael yn:
European
Charter for Regional or Minority Languages
Gwelliant
2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys ‘yn effeithiol’ ar ddiwedd is-bwynt 2a.
Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 2f a rhoi yn ei le:
cefnogi cadarnleoedd y Gymraeg yng ngorllewin Cymru drwy
ddatblygu strategaeth economaidd ar gyfer yr ardaloedd hyn, sy’n adlewyrchu eu
cymeriad ac sydd wedi’u teilwra’n unol â'u hanghenion
[Os derbynnir
gwelliant 3, bydd gwelliant 4 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant
4 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Yn is-bwynt 2f, dileu popeth ar ôl ‘Gymraeg’.
Gwelliant
5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:
manteisio ar y cyllid ychwanegol ar gyfer Dechrau'n Deg i
wella’r broses o hyrwyddo'r Gymraeg ymysg plant ifanc a'u teuluoedd.
Gwelliant
6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:
gweithio gydag oedolion sy’n dysgu Cymraeg er mwyn creu
cyfleoedd i siarad Cymraeg yn eu cymunedau.
Gwelliant
7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:
rhoi sylw i’r anawsterau a wynebwyd yn lleol o ran derbyn
darllediadau yn y Gymraeg ers newid i’r digidol ar gyfer teledu yn 2010.
Gwelliant
8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:
rhoi sylw i’r gwendidau yn narpariaeth Cymraeg fel ail iaith
mewn ysgolion.
Gwelliant
9 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:
sicrhau y caiff Comisiynydd y Gymraeg ei benodi gan Gynulliad
Cenedlaethol Cymru.
Gwelliant
10 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:
sicrhau bod Cynlluniau Strategol Addysg Gymraeg yn gadarn ac
yn cynnwys mesurau y mae modd eu cyflawni i gwrdd â’r galw am addysg cyfrwng
Cymraeg ac i sicrhau dilyniant rhwng yr addysg gynradd ac uwchradd a gynigir.
Gwelliant
11 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:
sicrhau bod unrhyw werthusiad o’r rhaglen Dechrau’n Deg yn
rhoi sylw i’r ddarpariaeth Gymraeg.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.46
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM5405
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod dros flwyddyn wedi mynd heibio ers cyhoeddi
ffigurau cyfrifiad 2011 sy’n dangos bod gostyngiad o 2 y cant yn y nifer o
siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu er mwyn galluogi’r
Gymraeg i ffynnu drwy, ymysg pethau eraill:
a) sicrhau bod gan bawb yng Nghymru’r cyfle i ddysgu Cymraeg;
b) buddsoddi mewn gofal plant trwy gyfrwng y Gymraeg;
c) cynyddu nifer y disgyblion sy’n derbyn y Cyfnod Sylfaen
drwy gyfrwng y Gymraeg;
d) defnyddio’r potensial o dan Fesur y Gymraeg 2011 i osod
safonau ar gyfer y Gymraeg sy’n rhoi hawliau cryfach i siaradwyr Cymraeg na
chynlluniau iaith o dan Ddeddf Iaith 1993;
e) annog cyrff cyhoeddus i ddefnyddio’r Gymraeg fel iaith
weinyddol yn fewnol;
f) creu cyfleoedd economaidd a swyddi yng nghadarnleoedd y
Gymraeg drwy hybu datblygiad Bangor a Menai, Aberystwyth a Chaerfyrddin fel
dinas-ranbarthau;
g) sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei chymryd o ddifrif yn y
system gynllunio.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
9 |
0 |
43 |
52 |
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi methiannau Llywodraeth Cymru o ran bodloni’r safonau
yn llawn wrth hybu’r defnydd o ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol mewn bywyd
cyhoeddus, fel y nodir yn Siarter Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol Ewrop.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog
6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn
y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant
2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys ‘yn effeithiol’ ar ddiwedd is-bwynt 2a.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
38 |
0 |
14 |
52 |
Derbyniwyd
gwelliant 2.
Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 2f a rhoi yn ei le:
cefnogi cadarnleoedd y Gymraeg yng ngorllewin Cymru drwy
ddatblygu strategaeth economaidd ar gyfer yr ardaloedd hyn, sy’n adlewyrchu eu
cymeriad ac sydd wedi’u teilwra’n unol â'u hanghenion
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
31 |
0 |
21 |
52 |
Derbyniwyd
gwelliant 3.
Gan
fod gwelliant 3 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 4 ei ddad-ddethol.
Gwelliant
5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:
manteisio ar y cyllid ychwanegol ar gyfer Dechrau'n Deg i
wella’r broses o hyrwyddo'r Gymraeg ymysg plant ifanc a'u teuluoedd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd
gwelliant 5.
Gwelliant
6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:
gweithio gydag oedolion sy’n dysgu Cymraeg er mwyn creu
cyfleoedd i siarad Cymraeg yn eu cymunedau.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd
gwelliant 6.
Gwelliant
7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:
rhoi sylw i’r anawsterau a wynebwyd yn lleol o ran derbyn darllediadau
yn y Gymraeg ers newid i’r digidol ar gyfer teledu yn 2010.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd
gwelliant 7.
Gwelliant
8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:
rhoi sylw i’r gwendidau yn narpariaeth Cymraeg fel ail iaith
mewn ysgolion.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd
gwelliant 8.
Gwelliant
9 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:
sicrhau y caiff Comisiynydd y Gymraeg ei benodi gan Gynulliad
Cenedlaethol Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
17 |
0 |
35 |
52 |
Gwrthodwyd
gwelliant 9.
Gwelliant
10 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:
sicrhau bod Cynlluniau Strategol Addysg Gymraeg yn gadarn ac
yn cynnwys mesurau y mae modd eu cyflawni i gwrdd â’r galw am addysg cyfrwng
Cymraeg ac i sicrhau dilyniant rhwng yr addysg gynradd ac uwchradd a gynigir.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd
gwelliant 10.
Gwelliant
11 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:
sicrhau bod unrhyw werthusiad o’r rhaglen Dechrau’n Deg yn
rhoi sylw i’r ddarpariaeth Gymraeg.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 11:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd
gwelliant 11.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio:
NDM5405
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod dros flwyddyn wedi mynd heibio ers cyhoeddi
ffigurau cyfrifiad 2011 sy’n dangos bod gostyngiad o 2 y cant yn y nifer o
siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu er mwyn galluogi’r
Gymraeg i ffynnu drwy, ymysg pethau eraill:
a) sicrhau bod gan bawb yng Nghymru’r cyfle i ddysgu Cymraeg yn effeithiol;
b) buddsoddi mewn gofal plant trwy gyfrwng y Gymraeg;
c) cynyddu nifer y disgyblion sy’n derbyn y Cyfnod Sylfaen
drwy gyfrwng y Gymraeg;
d) defnyddio’r potensial o dan Fesur y Gymraeg 2011 i osod
safonau ar gyfer y Gymraeg sy’n rhoi hawliau cryfach i siaradwyr Cymraeg na
chynlluniau iaith o dan Ddeddf Iaith 1993;
e) annog cyrff cyhoeddus i ddefnyddio’r Gymraeg fel iaith
weinyddol yn fewnol;
f) cefnogi cadarnleoedd y Gymraeg yng ngorllewin Cymru drwy
ddatblygu strategaeth economaidd ar gyfer yr ardaloedd hyn, sy’n adlewyrchu eu
cymeriad ac sydd wedi’u teilwra’n unol â'u hanghenion;
g) sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei chymryd o ddifrif yn y
system gynllunio;
h) manteisio ar y cyllid ychwanegol ar gyfer Dechrau'n Deg i
wella’r broses o hyrwyddo'r Gymraeg ymysg plant ifanc a'u teuluoedd;
i) gweithio gydag oedolion sy’n dysgu Cymraeg er mwyn creu
cyfleoedd i siarad Cymraeg yn eu cymunedau;
j) rhoi sylw i’r anawsterau a wynebwyd yn lleol o ran derbyn
darllediadau yn y Gymraeg ers newid i’r digidol ar gyfer teledu yn 2010;
k) rhoi sylw i’r gwendidau yn narpariaeth Cymraeg fel ail
iaith mewn ysgolion;
l) sicrhau bod Cynlluniau Strategol Addysg Gymraeg yn gadarn
ac yn cynnwys mesurau y mae modd eu cyflawni i gwrdd â’r galw am addysg cyfrwng
Cymraeg ac i sicrhau dilyniant rhwng yr addysg gynradd ac uwchradd a gynigir;
m) sicrhau bod unrhyw werthusiad o’r rhaglen Dechrau’n Deg yn
rhoi sylw i’r ddarpariaeth Gymraeg.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
40 |
12 |
0 |
52 |
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 15/01/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5399
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu ac i weithredu
cynllun gweithlu GIG cenedlaethol newydd ar gyfer y degawd nesaf ac i gynyddu’r
gweithlu meddygol yn sylweddol yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu ‘ac i gynyddu’r
gweithlu meddygol yn sylweddol yng Nghymru’ a rhoi yn ei le ‘i fynd i’r afael â
heriau recriwtio yng ngwasanaeth iechyd Cymru’
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
amlinellu sut y mae’n bwriadu defnyddio’r £180 miliwn ychwanegol a ddyrannwyd i
wasanaeth iechyd Cymru ar gyfer 2014-15 yn dilyn argymhellion Adroddiad
Francis, er mwyn ymateb i faterion o ran y gweithlu yn GIG Cymru.
Mae Adroddiad Francis ar gael
yn:
http://www.midstaffspublicinquiry.com/report
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd
y cynnig:
Yn gresynu mai ychydig iawn o
effaith y mae ymgyrchoedd recriwtio Llywodraeth Cymru, fel Gweithio dros Gymru,
wedi ei chael o ran lliniaru’r prinder o glinigwyr mewn rhai disgyblaethau.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod ansicrwydd
ynghylch dyfodol gwasanaethau mewn rhai ysbytai yng Nghymru wedi bod yn
anfanteisiol wrth geisio recriwtio staff.
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd
y cynnig:
Yn nodi’r gwariant uchel ar
staff locwm ac asiantaeth ar draws byrddau iechyd yng Nghymru o ganlyniadau i
heriau o ran y gweithlu.
Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod bod angen GIG
sydd ag adnoddau priodol a phwysigrwydd buddsoddi mewn hyfforddiant a swyddi
parhaol.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.01
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
NDM5399
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu ac i weithredu
cynllun gweithlu GIG cenedlaethol newydd ar gyfer y degawd nesaf ac i gynyddu’r
gweithlu meddygol yn sylweddol yng Nghymru.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
11 |
0 |
47 |
58 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu ‘ac i gynyddu’r gweithlu meddygol yn sylweddol yng
Nghymru’ a rhoi yn ei le ‘i fynd i’r afael â heriau recriwtio yng ngwasanaeth
iechyd Cymru’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
47 |
0 |
11 |
58 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y mae’n bwriadu
defnyddio’r £180 miliwn ychwanegol a ddyrannwyd i wasanaeth iechyd Cymru ar
gyfer 2014-15 yn dilyn argymhellion Adroddiad Francis, er mwyn ymateb i
faterion o ran y gweithlu yn GIG Cymru.
Mae Adroddiad Francis ar gael yn:
http://www.midstaffspublicinquiry.com/report
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
58 |
0 |
0 |
58 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant
3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu mai ychydig iawn o effaith y mae ymgyrchoedd
recriwtio Llywodraeth Cymru, fel Gweithio dros Gymru, wedi ei chael o ran
lliniaru’r prinder o glinigwyr mewn rhai disgyblaethau.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
29 |
0 |
30 |
59 |
Fel sy’n
ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais
fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant
4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod ansicrwydd ynghylch dyfodol gwasanaethau mewn
rhai ysbytai yng Nghymru wedi bod yn anfanteisiol wrth geisio recriwtio staff.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
29 |
0 |
30 |
59 |
Fel sy’n
ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais
fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant
5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi’r gwariant uchel ar staff locwm ac asiantaeth ar draws
byrddau iechyd yng Nghymru o ganlyniadau i heriau o ran y gweithlu.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
29 |
0 |
30 |
59 |
Fel sy’n
ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais
fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant
6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
cydnabod bod angen GIG sydd ag adnoddau priodol a phwysigrwydd buddsoddi mewn
hyfforddiant a swyddi parhaol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
57 |
0 |
0 |
57 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig wedi’i ddiwygio:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu ac i weithredu
cynllun gweithlu GIG cenedlaethol newydd ar gyfer y degawd nesaf i fynd i’r
afael â heriau recriwtio yng ngwasanaeth iechyd Cymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y mae’n
bwriadu defnyddio’r £180 miliwn ychwanegol a ddyrannwyd i wasanaeth iechyd
Cymru ar gyfer 2014-15 yn dilyn argymhellion Adroddiad Francis, er mwyn ymateb
i faterion o ran y gweithlu yn GIG Cymru.
Mae Adroddiad Francis ar gael yn:
http://www.midstaffspublicinquiry.com/report
3. Yn cydnabod bod angen GIG sydd ag adnoddau priodol a
phwysigrwydd buddsoddi mewn hyfforddiant a swyddi parhaol.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
29 |
0 |
30 |
59 |
Fel
sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei
bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig fel y’i diwygiwyd. Felly,
gwrthodwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Cyfarfod: 11/12/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5386
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r cynnydd diweddar mewn prisiau ynni ac yn gresynu
at yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar bob aelwyd yng Nghymru, yn enwedig y rhai
sy'n dlawd o ran tanwydd na allant fanteisio ar fargeinion ynni tanwydd deuol
ffafriol.
2. Yn gresynu bod y defnydd o fanciau bwyd wedi bron â
threblu dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda mwyafrif y rhai sy'n troi at fanciau
bwyd yn deuluoedd oedran gweithio, rhai oherwydd cyflog isel.
3. Yn nodi bod adroddiad diweddar Cartrefi Cymunedol Cymru ar
effaith y dreth ystafell wely wedi canfod y disgwylir i ôl-ddyledion yn sgîl y
dreth ystafell wely fod dros £2 filiwn erbyn mis Ebrill nesaf.
4. Yn nodi bod dros 41,000 yn fwy o bobl o hyd yn ddi-waith
nawr nag a oedd cyn i'r argyfwng economaidd ddechrau.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu a diwygio ei
strategaeth yn erbyn tlodi yng ngoleuni'r argyfwng cynyddol a wynebir gan bobl
yn sgîl caledi, newidiadau i fudd-daliadau a chynnydd yng nghostau byw.
Mae adroddiad Cartrefi Cymunedol Cymru ar gael yn:
http://chcymru.org.uk/en/news/latest-news/chc-news/bedroom-tax-will-mean-1000-fewer-homes-in-wales
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1- Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddechrau'r cynnig ac ailrifo yn
unol â hynny:
Yn croesawu bod economi’r DU wedi tyfu 0.8% yn nhrydydd
chwarter 2013 a bod y rhagolwg ar gyfer twf CMC y DU yn 2013 wedi codi o 0.6% i
1.4%.
Gwelliant
2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1:
‘, a’r angen i roi sylw i effaith hyn gyda dealltwriaeth glir
o’r canlyniadau o ran prisiau, buddsoddiad, ymateb y diwydiant a defnyddwyr’
Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU am ddiwygiadau a fydd
yn golygu y bydd cartrefi’n arbed £50 y flwyddyn ar gyfartaledd ar eu biliau
ynni a bod y dreth ar danwydd yn cael ei rhewi am weddill y Senedd hon.
Gwelliant
4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod banciau bwyd sydd wedi agor yn ddiweddar ledled
Cymru yn helpu i fodloni anghenion y garfan gudd o bobl newynog, ac yn cydnabod
gwaith pwysig banciau bwyd a’u cyfraniad at fywydau pobl mewn argyfwng.
Gwelliant
5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn croesawu polisi’r Democratiaid Rhyddfrydol i godi
trothwy’r dreth incwm i £10,000, a
weithredwyd gan Lywodraeth y DU, sy’n golygu, o fis Ebrill 2014, y bydd dros 1.1 miliwn o bobl yng Nghymru yn
cael dros £700 o doriad mewn treth ac na fydd 106,000 o weithwyr ar incwm isel
yng Nghymru yn gorfod talu’r dreth incwm o gwbl.
Gwelliant
6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau ar frys i ddarparu
ateb marchnad gyfan i’r argyfwng mewn cyflenwad tai ers datganoli.
Gwelliant
7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu wrth fethiant y cymdeithasau tai a Llywodraeth
Cymru i baratoi ar gyfer newidiadau yn y system fudd-daliadau, er gwaethaf dwy
flynedd o rybudd, a methiant y llywodraethau Llafur a Cheidwadol blaenorol i
adeiladu digon o gartrefi, gan olygu bod 1.5 miliwn o gartrefi wedi’u colli.
Gwelliant
8 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu’r gostyngiad yn nifer y bobl nad ydynt mewn
cyflogaeth yng Nghymru ers 2010, ond yn cydnabod bod gan Gymru lawer o ffordd i
fynd o hyd o’i gymharu â gweddill y DU.
[Os
derbynnir gwelliant 8 bydd gwelliant 9 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant
9 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 4:
‘ac yn gresynu bod Cymru yn dal ar ei hôl hi y tu ôl i
weddill y DU gyda chyfradd ddiweithdra o 7.8% o gymharu â chyfartaledd o 7.1%
yn y DU’.
Gwelliant
10 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu a diwygio ei
strategaeth yn erbyn tlodi ar sail cyd-gynhyrchu er mwyn mynd i’r afael â’r
achosion o dlodi yng Nghymru sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn, y bwlch tlodi
cynyddol, a’r symudedd cymdeithasol sydd wedi peidio ers datganoli.
[Os
derbynnir gwelliant 10, bydd gwelliant 11 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant
11 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ym mhwynt 5, dileu ‘yng ngoleuni’r argyfwng cynyddol a
wynebir gan bobl yn sgîl caledi, newidiadau i fudd-daliadau a chynnydd yng
nghostau byw’ a rhoi yn ei le ‘er mwyn mynd i’r afael â thlodi cynyddol, sydd
wedi’i wreiddio’n ddwfn, mewn cymunedau yng Nghymru’.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.11
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5386 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r cynnydd diweddar mewn prisiau ynni ac yn
gresynu at yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar bob aelwyd yng Nghymru, yn
enwedig y rhai sy'n dlawd o ran tanwydd na allant fanteisio ar fargeinion ynni
tanwydd deuol ffafriol.
2. Yn gresynu bod y defnydd o fanciau bwyd wedi bron â
threblu dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda mwyafrif y rhai sy'n troi at fanciau
bwyd yn deuluoedd oedran gweithio, rhai oherwydd cyflog isel.
3. Yn nodi bod adroddiad diweddar Cartrefi Cymunedol
Cymru ar effaith y dreth ystafell wely wedi canfod y disgwylir i ôl-ddyledion
yn sgîl y dreth ystafell wely fod dros £2 filiwn erbyn mis Ebrill nesaf.
4. Yn nodi bod dros 41,000 yn fwy o bobl o hyd yn
ddi-waith nawr nag a oedd cyn i'r argyfwng economaidd ddechrau.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu a diwygio ei
strategaeth yn erbyn tlodi yng ngoleuni'r argyfwng cynyddol a wynebir gan bobl
yn sgîl caledi, newidiadau i fudd-daliadau a chynnydd yng nghostau byw.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
9 |
0 |
44 |
53 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru)
Ychwanegu
fel pwynt newydd ar ddechrau'r cynnig ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn
croesawu bod economi’r DU wedi tyfu 0.8% yn nhrydydd chwarter 2013 a bod y
rhagolwg ar gyfer twf CMC y DU yn 2013 wedi codi o 0.6% i 1.4%.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
44 |
0 |
9 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De
Cymru)
Cynnwys
ar ddiwedd pwynt 1:
‘,
a’r angen i roi sylw i effaith hyn gyda dealltwriaeth glir o’r canlyniadau o
ran prisiau, buddsoddiad, ymateb y diwydiant a defnyddwyr’
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
44 |
0 |
9 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru)
Cynnwys
pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn
croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU am ddiwygiadau a fydd yn golygu y bydd
cartrefi’n arbed £50 y flwyddyn ar gyfartaledd ar eu biliau ynni a bod y dreth
ar danwydd yn cael ei rhewi am weddill y Senedd hon.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
44 |
0 |
9 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De
Cymru)
Dileu
pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn
nodi bod banciau bwyd sydd wedi agor yn ddiweddar ledled Cymru yn helpu i
fodloni anghenion y garfan gudd o bobl newynog, ac yn cydnabod gwaith pwysig
banciau bwyd a’u cyfraniad at fywydau pobl mewn argyfwng.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
39 |
5 |
9 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru)
Cynnwys
pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn
croesawu polisi’r Democratiaid Rhyddfrydol i godi trothwy’r dreth incwm i £10,000, a weithredwyd gan Lywodraeth y DU,
sy’n golygu, o fis Ebrill 2014, y bydd
dros 1.1 miliwn o bobl yng Nghymru yn cael dros £700 o doriad mewn treth ac na
fydd 106,000 o weithwyr ar incwm isel yng Nghymru yn gorfod talu’r dreth incwm
o gwbl.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
32 |
12 |
9 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De
Cymru)
Dileu
pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau ar frys i ddarparu ateb marchnad gyfan
i’r argyfwng mewn cyflenwad tai ers datganoli.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 6:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
44 |
0 |
9 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru)
Cynnwys
pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn
gresynu wrth fethiant y cymdeithasau tai a Llywodraeth Cymru i baratoi ar gyfer
newidiadau yn y system fudd-daliadau, er gwaethaf dwy flynedd o rybudd, a
methiant y llywodraethau Llafur a Cheidwadol blaenorol i adeiladu digon o
gartrefi, gan olygu bod 1.5 miliwn o gartrefi wedi’u colli.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 7:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
5 |
0 |
48 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain De
Cymru)
Dileu
pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn
croesawu’r gostyngiad yn nifer y bobl nad ydynt mewn cyflogaeth yng Nghymru ers
2010, ond yn cydnabod bod gan Gymru lawer o ffordd i fynd o hyd o’i gymharu â
gweddill y DU.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 8:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
12 |
0 |
41 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 8.
Gwelliant 9 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru)
Cynnwys
ar ddiwedd pwynt 4:
‘ac
yn gresynu bod Cymru yn dal ar ei hôl hi y tu ôl i weddill y DU gyda chyfradd
ddiweithdra o 7.8% o gymharu â chyfartaledd o 7.1% yn y DU’.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 9:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
17 |
0 |
36 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 9.
Gwelliant 10 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Dileu
pwynt 5 a rhoi yn ei le:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu a diwygio ei strategaeth yn erbyn tlodi ar
sail cyd-gynhyrchu er mwyn mynd i’r afael â’r achosion o dlodi yng Nghymru sydd
wedi’u gwreiddio’n ddwfn, y bwlch tlodi cynyddol, a’r symudedd cymdeithasol
sydd wedi peidio ers datganoli.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 10:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
12 |
0 |
41 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 10.
Gwelliant 11 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru)
Ym
mhwynt 5, dileu ‘yng ngoleuni’r argyfwng cynyddol a wynebir gan bobl yn sgîl
caledi, newidiadau i fudd-daliadau a chynnydd yng nghostau byw’ a rhoi yn ei le
‘er mwyn mynd i’r afael â thlodi cynyddol, sydd wedi’i wreiddio’n ddwfn, mewn
cymunedau yng Nghymru’.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 11:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
17 |
0 |
35 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 11.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5386 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn
croesawu bod economi’r DU wedi tyfu 0.8% yn nhrydydd chwarter 2013 a bod y
rhagolwg ar gyfer twf CMC y DU yn 2013 wedi codi o 0.6% i 1.4%.
2. Yn
nodi'r cynnydd diweddar mewn prisiau ynni ac yn gresynu at yr effaith y bydd
hyn yn ei chael ar bob aelwyd yng Nghymru, yn enwedig y rhai sy'n dlawd o ran
tanwydd na allant fanteisio ar fargeinion ynni tanwydd deuol ffafriol, a’r
angen i roi sylw i effaith hyn gyda dealltwriaeth glir o’r canlyniadau o ran
prisiau, buddsoddiad, ymateb y diwydiant a defnyddwyr.
3. Yn
croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU am ddiwygiadau a fydd yn golygu y bydd
cartrefi’n arbed £50 y flwyddyn ar gyfartaledd ar eu biliau ynni a bod y dreth
ar danwydd yn cael ei rhewi am weddill y Senedd hon.
4. Yn
nodi bod banciau bwyd sydd wedi agor yn ddiweddar ledled Cymru yn helpu i
fodloni anghenion y garfan gudd o bobl newynog, ac yn cydnabod gwaith pwysig
banciau bwyd a’u cyfraniad at fywydau pobl mewn argyfwng.
5. Yn
croesawu polisi’r Democratiaid Rhyddfrydol i godi trothwy’r dreth incwm i £10,000, a weithredwyd gan Lywodraeth y DU,
sy’n golygu, o fis Ebrill 2014, y bydd
dros 1.1 miliwn o bobl yng Nghymru yn cael dros £700 o doriad mewn treth ac na
fydd 106,000 o weithwyr ar incwm isel yng Nghymru yn gorfod talu’r dreth incwm
o gwbl.
6. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau ar frys i ddarparu ateb marchnad gyfan
i’r argyfwng mewn cyflenwad tai ers datganoli.
7. Yn
nodi bod dros 41,000 yn fwy o bobl o hyd yn ddi-waith nawr nag a oedd cyn i'r
argyfwng economaidd ddechrau.
8. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu a diwygio ei strategaeth yn erbyn tlodi yng
ngoleuni'r argyfwng cynyddol a wynebir gan bobl yn sgîl caledi, newidiadau i
fudd-daliadau a chynnydd yng nghostau byw.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
5 |
0 |
48 |
53 |
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 04/12/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5379
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) mai'r bwlch cyllido a amcangyfrifir rhwng y galw am gyllid
gan fusnesau Cymru a'r cyflenwad presennol o'r sector bancio yw £500 miliwn;
b) bod ardrethi annomestig yn cyfrif am gyfran sylweddol o
gostau gweithredu ar gyfer microfusnesau a busnesau bach;
c) bod cynnydd o 1% yng nghyfradd contractau caffael y sector
cyhoeddus sy'n mynd i fusnesau Cymru yn creu 2,000 o swyddi newydd; a
d) bod adnoddau naturiol Cymru yn cynnig cryn botensial ar
gyfer budd economaidd.
2. Yn gresynu:
a) mai’r GYC y pen yng Nghymru yw'r isaf o blith pob un o
wledydd y DU sef cyfradd o 75.2% o ffigur y DU;
b) bod dulliau macro-economaidd yn aros yn nwylo Aelodau
Seneddol yn Senedd y DU ond yn cydnabod bod gan Lywodraeth Cymru rôl sylweddol
i'w chwarae o ran tyfu economi Cymru;
c) absenoldeb dangosyddion economaidd cyfredol i Gymru;
d) methiant Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â diweithdra a
thangyflogaeth; a
e) methiant cyrff y sector cyhoeddus i weithredu Polisi
Llywodraeth Cymru ar gaffael.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cyhoeddi cynllun cynhwysfawr a hirdymor ar gyfer tyfu
economi Cymru;
b) bwysleisio i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yr angen i ddarparu
dangosyddion economaidd rheolaidd a mynych i Gymru;
c) mabwysiadu polisi Plaid Cymru i estyn rhyddhad ardrethi
busnesau bach i bob busnes â gwerth ardrethol o £15,000 neu lai; a
d) archwilio manteision sefydlu banc datblygu busnes
cyhoeddus, hyd braich, nid er elw i'w ddosbarthu.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys is-bwynt 1a) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
y twf yng Nghynnyrch Mewnwladol Crynswth y DU yn 2013;
Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys is-bwynt 1a) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
bod 29.8% o bobl Cymru yn cael eu cyflogi yn y sector
cyhoeddus, sy’n uwch na 23.5%, sef cyfartaledd y DU.
Gwelliant
3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1:
bod economi’r DU wedi cynyddu 0.8% yn ystod trydydd chwarter
2013, sy’n pwysleisio llwyddiant polisi economaidd Llywodraeth y DU.
Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys is-bwynt 2a) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
bod oddeutu 200,000 o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru yn
cael trafferth cael gafael ar gyllid, yn ôl adroddiad Cam 1 o’r ‘Adolygiad o’r
Cyllid sydd ar gael i Fusnesau yng Nghymru’ gan yr Athro Dylan Jones-Evans.
Gellir gweld yr ‘Adolygiad o’r Cyllid sydd ar gael i Fusnesau
yng Nghymru’ yn: http://wales.gov.uk/topics/businessandeconomy/publications/accesstofinance/?skip=1&lang=cy
Gwelliant
5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu is-bwynt 2b) a rhoi yn ei le:
methiant Llywodraeth Cymru i ddefnyddio’r ysgogiadau
economaidd sylweddol sydd ar gael iddi er mwyn sbarduno twf yn economi Cymru;
Gwelliant
6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu is-bwynt 2e).
Gwelliant
7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu is-bwynt 3c) a rhoi yn ei le:
mabwysiadu polisi’r Ceidwadwyr Cymreig i ymestyn rhyddhad
ardrethi i fusnesau bach sydd â gwerth ardrethol o hyd at £12,000, a darparu
rhyddhad sy’n lleihau’n raddol i’r rheini sydd â gwerth ardrethol o hyd at
£15,000;
[Os
derbynnir gwelliant 7, bydd gwelliant 8 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant
8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu is-bwynt 3c) a rhoi yn ei le:
ymestyn rhyddhad ardrethi busnes i bob busnes sydd â gwerth
ardrethol o £15,000 neu lai, ac i fwy o gyfleusterau cymunedol fel swyddfeydd
post, tafarndai a siopau annibynnol; a
Gwelliant
9 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys is-bwynt 3d) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
rhoi cyfle i awdurdodau lleol gadw cyfran o’r ardrethi busnes
y maent yn eu casglu er mwyn ysgogi twf economaidd lleol;
Gwelliant
10 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu is-bwynt 3d) a rhoi yn ei le:
ymateb cyn gynted â phosibl i adroddiad yr Adolygiad o'r
Cyllid sydd ar gael i Fusnesau yng Nghymru – Cam 2, ac ystyried yr achos dros
ddatblygu banciau busnes rhanbarthol fel yr amlinellwyd yn ‘Buddsoddi Cymru’.
Gellir gweld adroddiad yr ‘Adolygiad o’r Cyllid sydd ar gael
i Fusnesau yng Nghymru – Cam 2’ yn:
http://wales.gov.uk/docs/det/publications/131121accesstofund2en.pdf
Gellir gweld ‘Buddsoddi Cymru’ yn:
http://yourvoiceintheassembly.co.uk/wp-content/uploads/2013/01/Buddsoddi-Cymru-FINAL1.pdf
Gwelliant
11 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:
ystyried y posibilrwydd o rannu lluosydd Cymru yn fusnesau
bach a mawr, a fyddai'n sicrhau bod y system ardrethi busnes yn deg a bod Cymru
ar yr un lefel â Lloegr a'r Alban.
Gwelliant
12 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:
sicrhau bod polisïau’r llywodraeth yn symleiddio ein
rheoliadau a’n prosesau caffael ar gyfer y sector cyhoeddus.
Gwelliant
13 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:
cefnogi mentrau cymdeithasol a busnesau llai a'u galluogi i
dyfu drwy ddadfwndelu contractau'r sector cyhoeddus yn rhannau mwy hylaw, gan
ei gwneud yn haws i'r busnesau hyn gyflwyno cynigion a chystadlu.
Gwelliant
14 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:
gweithio i godi ymwybyddiaeth ymysg busnesau o gyfleoedd
cyllid sy’n bodoli ar hyn o bryd, a gwrando ar y gymuned fusnes ynghylch ffyrdd
o wella cymorth.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.49
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5379 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) mai'r bwlch cyllido a amcangyfrifir rhwng y galw am
gyllid gan fusnesau Cymru a'r cyflenwad presennol o'r sector bancio yw £500
miliwn;
b) bod ardrethi annomestig yn cyfrif am gyfran sylweddol
o gostau gweithredu ar gyfer microfusnesau a busnesau bach;
c) bod cynnydd o 1% yng nghyfradd contractau caffael y
sector cyhoeddus sy'n mynd i fusnesau Cymru yn creu 2,000 o swyddi newydd; a
d) bod adnoddau naturiol Cymru yn cynnig cryn botensial
ar gyfer budd economaidd.
2. Yn gresynu:
a) mai’r GYC y pen yng Nghymru yw'r isaf o blith pob un
o wledydd y DU sef cyfradd o 75.2% o ffigur y DU;
b) bod dulliau macro-economaidd yn aros yn nwylo Aelodau
Seneddol yn Senedd y DU ond yn cydnabod bod gan Lywodraeth Cymru rôl sylweddol
i'w chwarae o ran tyfu economi Cymru;
c) absenoldeb dangosyddion economaidd cyfredol i Gymru;
d) methiant Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â
diweithdra a thangyflogaeth; a
e) methiant cyrff y sector cyhoeddus i weithredu Polisi
Llywodraeth Cymru ar gaffael.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cyhoeddi cynllun cynhwysfawr a hirdymor ar gyfer tyfu
economi Cymru;
b) bwysleisio i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yr angen i
ddarparu dangosyddion economaidd rheolaidd a mynych i Gymru;
c) mabwysiadu polisi Plaid Cymru i estyn rhyddhad
ardrethi busnesau bach i bob busnes â gwerth ardrethol o £15,000 neu lai; a
d) archwilio manteision sefydlu banc datblygu busnes
cyhoeddus, hyd braich, nid er elw i'w ddosbarthu.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
10 |
0 |
46 |
56 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru)
Cynnwys
is-bwynt 1a) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
y twf
yng Nghynnyrch Mewnwladol Crynswth y DU yn 2013;
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
46 |
0 |
10 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru)
Cynnwys
is-bwynt 1a) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
bod
29.8% o bobl Cymru yn cael eu cyflogi yn y sector cyhoeddus, sy’n uwch na
23.5%, sef cyfartaledd y DU.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
28 |
0 |
29 |
57 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy
Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly,
gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De
Cymru)
Cynnwys
is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1:
bod
economi’r DU wedi cynyddu 0.8% yn ystod trydydd chwarter 2013, sy’n pwysleisio
llwyddiant polisi economaidd Llywodraeth y DU.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
18 |
0 |
37 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru)
Cynnwys
is-bwynt 2a) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
bod
oddeutu 200,000 o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru yn cael trafferth cael
gafael ar gyllid, yn ôl adroddiad Cam 1 o’r ‘Adolygiad o’r Cyllid sydd ar gael
i Fusnesau yng Nghymru’ gan yr Athro Dylan Jones-Evans.
Gellir
gweld yr ‘Adolygiad o’r Cyllid sydd ar gael i Fusnesau yng Nghymru’ yn: http://wales.gov.uk/topics/businessandeconomy/publications/accesstofinance/?skip=1&lang=cy
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
56 |
0 |
0 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De
Cymru)
Dileu
is-bwynt 2b) a rhoi yn ei le:
methiant
Llywodraeth Cymru i ddefnyddio’r ysgogiadau economaidd sylweddol sydd ar gael
iddi er mwyn sbarduno twf yn economi Cymru;
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
13 |
0 |
43 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De
Cymru)
Dileu
is-bwynt 2e).
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 6:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
46 |
0 |
10 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De
Cymru)
Dileu
is-bwynt 3c) a rhoi yn ei le:
mabwysiadu
polisi’r Ceidwadwyr Cymreig i ymestyn rhyddhad ardrethi i fusnesau bach sydd â
gwerth ardrethol o hyd at £12,000, a darparu rhyddhad sy’n lleihau’n raddol i’r
rheini sydd â gwerth ardrethol o hyd at £15,000;
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 7:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
13 |
0 |
43 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Gwelliant 8 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru)
Dileu
is-bwynt 3c) a rhoi yn ei le:
ymestyn
rhyddhad ardrethi busnes i bob busnes sydd â gwerth ardrethol o £15,000 neu
lai, ac i fwy o gyfleusterau cymunedol fel swyddfeydd post, tafarndai a siopau
annibynnol; a
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 8:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
18 |
0 |
38 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 8.
Gwelliant 9 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru)
Cynnwys
is-bwynt 3d) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
rhoi
cyfle i awdurdodau lleol gadw cyfran o’r ardrethi busnes y maent yn eu casglu
er mwyn ysgogi twf economaidd lleol;
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 9:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
28 |
0 |
29 |
57 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog
6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn
y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 10 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Dileu
is-bwynt 3d) a rhoi yn ei le:
ymateb
cyn gynted â phosibl i adroddiad yr Adolygiad o'r Cyllid sydd ar gael i
Fusnesau yng Nghymru – Cam 2, ac ystyried yr achos dros ddatblygu banciau
busnes rhanbarthol fel yr amlinellwyd yn ‘Buddsoddi Cymru’.
Gellir
gweld adroddiad yr ‘Adolygiad o’r Cyllid sydd ar gael i Fusnesau yng Nghymru –
Cam 2’ yn:
http://wales.gov.uk/docs/det/publications/131121accesstofund2en.pdf
Gellir
gweld ‘Buddsoddi Cymru’ yn:
http://yourvoiceintheassembly.co.uk/wp-content/uploads/2013/01/Buddsoddi-Cymru-FINAL1.pdf
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 10:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
41 |
0 |
15 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 10.
Gwelliant 11 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu
is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:
ystyried
y posibilrwydd o rannu lluosydd Cymru yn fusnesau bach a mawr, a fyddai'n
sicrhau bod y system ardrethi busnes yn deg a bod Cymru ar yr un lefel â Lloegr
a'r Alban.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 11:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
56 |
0 |
0 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 11.
Gwelliant 12 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu
is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:
sicrhau
bod polisïau’r llywodraeth yn symleiddio ein rheoliadau a’n prosesau caffael ar
gyfer y sector cyhoeddus.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 12:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
56 |
0 |
0 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 12.
Gwelliant 13 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru)
Ychwanegu
is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:
cefnogi
mentrau cymdeithasol a busnesau llai a'u galluogi i dyfu drwy ddadfwndelu
contractau'r sector cyhoeddus yn rhannau mwy hylaw, gan ei gwneud yn haws i'r
busnesau hyn gyflwyno cynigion a chystadlu.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 13:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
56 |
0 |
0 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 13.
Gwelliant 14 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru)
Ychwanegu
is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:
gweithio
i godi ymwybyddiaeth ymysg busnesau o gyfleoedd cyllid sy’n bodoli ar hyn o
bryd, a gwrando ar y gymuned fusnes ynghylch ffyrdd o wella cymorth.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 14:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
56 |
0 |
0 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 14.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5379
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn
nodi:
a) y
twf yng Nghynnyrch Mewnwladol Crynswth y DU yn 2013;
b) mai'r
bwlch cyllido a amcangyfrifir rhwng y galw am gyllid gan fusnesau Cymru a'r
cyflenwad presennol o'r sector bancio yw £500 miliwn;
c)
bod ardrethi annomestig yn cyfrif am gyfran sylweddol o gostau gweithredu ar
gyfer microfusnesau a busnesau bach;
d) bod
cynnydd o 1% yng nghyfradd contractau caffael y sector cyhoeddus sy'n mynd i
fusnesau Cymru yn creu 2,000 o swyddi newydd; ac
e)
bod adnoddau naturiol Cymru yn cynnig cryn botensial ar gyfer budd economaidd.
2. Yn
gresynu:
a)
bod oddeutu 200,000 o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru yn cael trafferth
cael gafael ar gyllid, yn ôl adroddiad Cam 1 o’r ‘Adolygiad o’r Cyllid sydd ar
gael i Fusnesau yng Nghymru’ gan yr Athro Dylan Jones-Evans.
b)
mai’r GYC y pen yng Nghymru yw'r isaf o blith pob un o wledydd y DU sef cyfradd
o 75.2% o ffigur y DU;
c)
bod dulliau macro-economaidd yn aros yn nwylo Aelodau Seneddol yn Senedd y DU
ond yn cydnabod bod gan Lywodraeth Cymru rôl sylweddol i'w chwarae o ran tyfu
economi Cymru;
d)
absenoldeb dangosyddion economaidd cyfredol i Gymru; ac
e)
methiant Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â diweithdra a thangyflogaeth; a
3. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i:
a)
cyhoeddi cynllun cynhwysfawr a hirdymor ar gyfer tyfu economi Cymru;
b)
bwysleisio i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yr angen i ddarparu dangosyddion
economaidd rheolaidd a mynych i Gymru;
c)
mabwysiadu polisi Plaid Cymru i estyn rhyddhad ardrethi busnesau bach i bob
busnes â gwerth ardrethol o £15,000 neu lai;
d)
ymateb cyn gynted â phosibl i adroddiad yr Adolygiad o'r Cyllid sydd ar gael i
Fusnesau yng Nghymru – Cam 2, ac ystyried yr achos dros ddatblygu banciau
busnes rhanbarthol fel yr amlinellwyd yn ‘Buddsoddi Cymru’;
e)
ystyried y posibilrwydd o rannu lluosydd Cymru yn fusnesau bach a mawr, a
fyddai'n sicrhau bod y system ardrethi busnes yn deg a bod Cymru ar yr un lefel
â Lloegr a'r Alban;
f)
sicrhau bod polisïau’r llywodraeth yn symleiddio ein rheoliadau a’n prosesau
caffael ar gyfer y sector cyhoeddus;
g)
cefnogi mentrau cymdeithasol a busnesau llai a'u galluogi i dyfu drwy
ddadfwndelu contractau'r sector cyhoeddus yn rhannau mwy hylaw, gan ei gwneud
yn haws i'r busnesau hyn gyflwyno cynigion a chystadlu; a
h)
gweithio i godi ymwybyddiaeth ymysg busnesau o gyfleoedd cyllid sy’n bodoli ar
hyn o bryd, a gwrando ar y gymuned fusnes ynghylch ffyrdd o wella cymorth.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
10 |
0 |
46 |
56 |
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 27/11/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5372 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru
1. Yn nodi na fydd perfformiad
Cymru yn erbyn PISA a mesuriadau perfformiad addysgol cenedlaethol a
rhyngwladol eraill yn gwella digon i gyrraedd targedau Llywodraeth Cymru oni bai
bod cyfraddau cyrhaeddiad disgyblion o gefndir difreintiedig yn gwella'n
sylweddol.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
fuddsoddi mewn rhaglen hyfforddi gynhwysfawr i athrawon, penaethiaid a staff
cymorth newydd a phresennol ar ymyriad cynnar i wella llythrennedd, rhifedd,
presenoldeb ac ymddygiad er mwyn codi cyfraddau cyrhaeddiad disgyblion
difreintiedig.
3. Yn croesawu cytundeb cyllideb
Plaid Cymru gyda Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru i fwy na
dyblu'r cyllid a roddir fesul plentyn drwy'r Grant Amddifadedd Disgyblion.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cryfhau'r canllawiau ar y
defnydd o'r Grant Amddifadedd Disgyblion i sicrhau ei fod yn cael ei
ddefnyddio'n effeithiol ac yn effeithlon i godi cyrhaeddiad disgyblion
difreintiedig yn seiliedig ar dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio; a
b) cryfhau'r broses o fonitro’r
defnydd o’r Grant Amddifadedd Disgyblion i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio
at y diben a fwriadwyd.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo
yn unol â hynny:
Yn nodi bod cyflwyno ‘Premiwm
Disgybl’ yn un o brif ymrwymiadau maniffesto Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ac
felly’n croesawu’r Grant Amddifadedd Disgyblion a gyflwynwyd yn dilyn cytundeb
cyllideb 2012–13 rhwng Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru, a
sicrhaodd £32.4 miliwn i helpu i dorri'r cysylltiad rhwng tlodi a thangyflawni
addysgol.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn nodi’r cyllid ychwanegol fesul
plentyn yn y Grant Amddifadedd Disgyblion a neilltuwyd yng Nghyllideb Ddrafft
2014/15.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 4 newydd ac ailrifo
yn unol â hynny:
Yn nodi’r cyhoeddiad ‘Dysgu
gwersi o’r Grant Amddifadedd Disgyblion’ gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru,
a’i argymhellion.
Mae linc i’r cyhoeddiad ‘Dysgu
gwersi o’r Grant Amddifadedd Disgyblion’ ar gael yn:
http://welshlibdems.org.uk/cy/page/education
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 4 newydd ac ailrifo
yn unol â hynny:
Yn nodi bod y Cynulliad hwn, ar
30 Mai 2012, wedi pleidleisio’n unfrydol o blaid gwelliant gan Ddemocratiaid
Rhyddfrydol Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i “sicrhau bod gwario’r Grant
Amddifadedd Disgyblion yn cael ei fonitro'n effeithiol er mwyn iddo gyflawni
gwelliannau mewn cyrhaeddiad”.
Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys is-bwynt newydd ar
ddiwedd pwynt 4:
cyflwyno rhaglen monitro
disgyblion unigol i fesur cynnydd disgyblion, gan alluogi ysgolion i hoelio’u
hymdrechion ar y disgyblion hynny nad ydynt yn cyflawni eu potensial.
Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd
y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
adolygu a gwella’r dangosyddion ar gyfer mesur anfantais ymhlith disgyblion
ysgol yng Nghymru.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 16.57
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5372 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru
1. Yn nodi na fydd perfformiad
Cymru yn erbyn PISA a mesuriadau perfformiad addysgol cenedlaethol a
rhyngwladol eraill yn gwella digon i gyrraedd targedau Llywodraeth Cymru oni
bai bod cyfraddau cyrhaeddiad disgyblion o gefndir difreintiedig yn gwella'n sylweddol.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
fuddsoddi mewn rhaglen hyfforddi gynhwysfawr i athrawon, penaethiaid a staff
cymorth newydd a phresennol ar ymyriad cynnar i wella llythrennedd, rhifedd,
presenoldeb ac ymddygiad er mwyn codi cyfraddau cyrhaeddiad disgyblion
difreintiedig.
3. Yn croesawu cytundeb cyllideb
Plaid Cymru gyda Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru i fwy na
dyblu'r cyllid a roddir fesul plentyn drwy'r Grant Amddifadedd Disgyblion.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cryfhau'r canllawiau ar y
defnydd o'r Grant Amddifadedd Disgyblion i sicrhau ei fod yn cael ei
ddefnyddio'n effeithiol ac yn effeithlon i godi cyrhaeddiad disgyblion
difreintiedig yn seiliedig ar dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio; a
b) cryfhau'r broses o fonitro’r
defnydd o’r Grant Amddifadedd Disgyblion i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio
at y diben a fwriadwyd.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
38 |
0 |
18 |
56 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 20/11/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5362 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn Nodi:
a)
canfyddiadau adroddiad ar newid yn
yr hinsawdd gan y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn
yr Hinsawdd ei bod 95% yn sicr
mai dylanwad dynol ar yr
hinsawdd a achosodd dros hanner o'r
cynnydd a nodwyd mewn tymereddau arwyneb cyfartalog o 1951-2010;
b)
dibyniaeth barhaus Cymru ar
danwyddau ffosil ar gyfer ynni,
sy'n darparu tua 80% o'r anghenion
ynni;
c)
mai Llywodraeth
y DU sy'n gyfrifol am y defnydd o adnoddau nwy siâl
Cymru, ynghyd â rheoli unrhyw fudd
sy'n deillio ohono;
d) methiant
Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei tharged
o gynhyrchu 4TWh o drydan o
ynni adnewyddadwy erbyn 2010;
e)
er gwaethaf y ffaith bod Cymru yn allforiwr net trydan, mae biliau'n
uwch yng Nghymru nag yn Lloegr neu'r Alban;
2.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a)
datblygu ‘Map Llwybr’ manwl a Chynllun Gweithredu a fydd yn arwain
at dargedau ynni adnewyddadwy 2020, gan ddangos targedau ar gyfer pob
math unigol o ynni a'r camau a gymerir
i gyrraedd y targedau hynny;
b)
rhoi pwysau
ar Lywodraeth y DU i ddatganoli yn llawn
y portffolio ynni a rheoli adnoddau naturiol Cymru i'r Cynulliad Cenedlaethol;
c)
cadarnhau gydag Ofgem a'r
Grid Cenedlaethol a oes unrhyw ymchwil wedi'i gwneud i gost a hyfywedd cebl tanfor sy'n
cysylltu'r Grid Cenedlaethol
rhwng gogledd a de Cymru, ac os felly darparu copi o'r
ymchwil honno;
d)
ymchwilio i'r potensial i sefydlu cwmni ynni
cyhoeddus, di-ddifidend i fuddsoddi mewn ynni er budd
pobl Cymru.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu is-bwynt
1c a rhoi yn ei le:
er mai
Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am y drefn drwyddedu ar gyfer
chwilota am nwy anghonfensiynol a’i echdynnu, mae angen
mathau eraill o ganiatâd (megis caniatâd cynllunio lleol) cyn y caniateir
i waith ddechrau gyda nwy anghonfensiynol.
Gwelliant
2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys is-bwynt
1d newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
bod Llywodraeth
y DU wedi ymgynghori ar drefn ariannol
ar gyfer echdynnu nwy siâl
ac wedi addo darparu fframwaith cydlynol er mwyn
galluogi cymunedau lleol i elwa’n uniongyrchol o unrhyw adnoddau a ddatblygir yn eu hardal.
Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 1:
bod Llywodraeth
Cymru wedi sefydlu Banc Buddsoddi
Gwyrdd gwerth £3 biliwn, y cyntaf o’i fath yn
y byd, a fydd yn sianelu £15 biliwn o fuddsoddiad y sector preifat i brosiectau gwyrdd.
Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 1:
pwysigrwydd cynlluniau
ynni cymunedol i gynaliadwyedd ardaloedd lleol, gan feithrin
ysbryd cymunedol a chodi ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud
ag ynni a newid yn yr
hinsawdd.
Gwelliant
5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 1:
bod prosiectau
seilwaith cenedlaethol eu harwyddocâd (NSIP) ar ynni, gan
gynnwys ynni niwclear, yn cael
effaith y tu hwnt i ffin Cymru/Lloegr.
Gwelliant
6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu is-bwynt
2b a rhoi yn ei le:
Gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddatblygu cynnig cynhwysfawr i ddatganoli rhagor o bwerau i Gymru ar gyfer
cydsyniadau ynni ac ymrwymo i ynni adnewyddadwy.
[Os
derbynnir gwelliant 6, bydd gwelliant 7 yn cael ei
ddad-ddethol]
Gwelliant
7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu is-bwynt
2b a rhoi yn ei le:
ailddatgan y gefnogaeth
gan bob plaid i ddatganoli cydsyniadau ynni ar gyfer prosiectau
ar y tir sy’n fwy na
50MW ac i weithio gyda Llywodraeth y DU i gysoni pwerau cydsynio ar y môr yn
nyfroedd Cymru.
Gwelliant
8 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys is-bwynt
2c newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Gweithio gyda
Llywodraeth y DU i ystyried
a yw’r drwydded
bresennol ar gyfer Datblygu a Chwilota am Betrolewm yn y DU yn drefn
effeithiol i ddatblygu nwy anghonfensiynol yn y dyfodol.
Gwelliant
9 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys is-bwynt
2c newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Datblygu canllawiau
cynllunio technegol ar chwilota am nwy anghonfensiynol er mwyn helpu
awdurdodau cynllunio lleol i gyflawni eu swyddogaethau yn briodol.
Gwelliant
10 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 2:
cadarnhau a yw’n
cefnogi Prosiect Cysylltu Canolbarth Cymru, a fyddai’n arwain at lawer iawn o dyrbinau gwynt ar y tir
ledled Canolbarth Cymru.
Gwelliant
11 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 2:
cyflwyno’r gwerthusiad
gwerth am arian o brosiect Ynni’r Fro, a oedd i fod yn
barod erbyn diwedd mis Medi
2013.
Gwelliant
12 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 2:
cyflwyno datganiad
manwl yn amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau
cymaint o gyfleoedd ag y bo modd
i Gymru drwy’r Banc Buddsoddi Gwyrdd.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 15.59
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5362
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn Nodi:
a)
canfyddiadau adroddiad ar newid yn
yr hinsawdd gan y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn
yr Hinsawdd ei bod 95% yn sicr
mai dylanwad dynol ar yr
hinsawdd a achosodd dros hanner o'r
cynnydd a nodwyd mewn tymereddau arwyneb cyfartalog o 1951-2010;
b)
dibyniaeth barhaus Cymru ar danwyddau ffosil ar gyfer ynni,
sy'n darparu tua 80% o'r anghenion
ynni;
c)
mai Llywodraeth
y DU sy'n gyfrifol am y defnydd o adnoddau nwy siâl
Cymru, ynghyd â rheoli unrhyw fudd sy'n
deillio ohono;
d) methiant
Llywodraeth Cymru i gyrraedd
ei tharged o gynhyrchu 4TWh o drydan o ynni adnewyddadwy erbyn 2010;
e)
er gwaethaf y ffaith bod Cymru yn allforiwr net trydan, mae biliau'n uwch
yng Nghymru nag yn Lloegr neu'r
Alban;
2.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a)
datblygu ‘Map Llwybr’ manwl a Chynllun Gweithredu a fydd yn arwain
at dargedau ynni adnewyddadwy 2020, gan ddangos targedau ar gyfer pob
math unigol o ynni a'r camau a gymerir
i gyrraedd y targedau hynny;
b)
rhoi pwysau
ar Lywodraeth y DU i ddatganoli yn llawn
y portffolio ynni a rheoli adnoddau naturiol Cymru i'r Cynulliad Cenedlaethol;
c)
cadarnhau gydag Ofgem a'r
Grid Cenedlaethol a oes unrhyw ymchwil wedi'i gwneud i gost a hyfywedd cebl tanfor sy'n
cysylltu'r Grid Cenedlaethol
rhwng gogledd a de Cymru,
ac os felly darparu copi o'r ymchwil
honno;
d)
ymchwilio i'r potensial i sefydlu cwmni ynni
cyhoeddus, di-ddifidend i fuddsoddi mewn ynni er budd
pobl Cymru.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
38 |
0 |
10 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 06/11/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5344 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn cydnabod y cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu'r
Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol.
2.
Yn cydnabod rôl trafnidiaeth o ran cysylltu Cymru yn fewnol ac yn
allanol.
3.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a)
ceisio cyllid canlyniadol Barnett parhaus neu unrhyw setliad
ariannol digolledu arall mewn perthynas
â phrosiect HS2 Llywodraeth
y DU;
b)
adolygu gweithrediad y
Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol
a llywodraethu trafnidiaeth
yn gyffredinol;
c)
ailddatgan ei hymrwymiad i drafnidiaeth gyhoeddus integredig; a
d)
cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU, i sicrhau bod coridorau trafnidiaeth gogledd a de Cymru wedi'u cynnwys yn rhwydwaith craidd
newydd TEN-T y Comisiwn Ewropeaidd.
Gellir gweld
y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol drwy'r linc a ganlyn:
http://cymru.gov.uk/docs/det/publications/100329ntpcy.pdf
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys pwynt
1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod
ymrwymiad Llywodraeth y DU
i fuddsoddi’n barhaus yn seilwaith trafnidiaeth
Cymru a'r Deyrnas Unedig.
Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt
1 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu
at yr oedi wrth weithredu addewidion allweddol o’r Cynllun Trafnidiaeth
Cenedlaethol gan gynnwys gwasanaeth pob awr ar
Reilffordd y Cambrian, a oedd
i fod i ddechrau yn 2011, a diffyg gwasanaethau uniongyrchol rhwng Casnewydd a Glyn Ebwy.
Gwelliant
3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys pwynt
2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu
at golli gwasanaethau bysiau ledled Cymru
ac yn galw ar Lywodraeth Cymru
i atgyfnerthu ymrwymiad y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol i wella gwasanaethau bysiau.
Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt
2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu
at yr oedi wrth gyflwyno ‘Cerdyn Oyster Cymru’, a ddylai gael ei
gyflwyno yn 2014, a fyddai wedi caniatáu
trosglwyddo didrafferth rhwng y gwasanaethau bysiau a’r trenau.
Gwelliant
5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt
3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod
gwaith Llywodraeth y DU o
ran cytuno i drydaneiddio Rhwydwaith y Cymoedd ac yn nodi absenoldeb
y cynllun hwnnw ym Maniffesto Etholiad
2010 y blaid Lafur.
Mae
Maniffesto 2010 y Blaid Lafur ar gael
yn:
http://www.labour.org.uk/uploads/TheLabourPartyManifesto-2010.pdf
Gwelliant
6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt
3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn croesawu
ymrwymiad Llywodraeth Cymru i System Drafnidiaeth Metro
ledled de-ddwyrain Cymru ac yn annog
Llywodraeth Cymru i gyflwyno rhestr o flaenoriaethau a chanddynt dargedau y gellir eu cyflawni.
Gwelliant
7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt
3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn croesawu
gwaith Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i baratoi achos busnes
dros drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru ac yn credu
y bydd hyn yn dwyn budd
enfawr i’r gwasanaethau i deithwyr ac i’r gwasanaethau cario llwyth.
Gwelliant
8 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu is-bwynt
3a) a rhoi yn ei le:
yn nodi
manteision HS2 i gysylltiadau
gogledd Cymru ac yn cydnabod bod angen rhwydwaith trafnidiaeth integredig ledled y Deyrnas Unedig.
Gwelliant
9 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys is-bwynt
3c) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
yn nodi
adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar Drafnidiaeth Gyhoeddus Integredig yng Nghymru.
Gwelliant
10 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu
cyhoeddiad Llywodraeth y DU
am drosglwyddo pwerau benthyca newydd i Lywodraeth Cymru i ariannu gwelliannau i’r M4.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 16.25
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5344
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn cydnabod y cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu'r
Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol.
2.
Yn cydnabod rôl trafnidiaeth o ran cysylltu Cymru yn fewnol ac yn allanol.
3.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a)
ceisio cyllid
canlyniadol Barnett parhaus
neu unrhyw setliad ariannol digolledu arall mewn perthynas â phrosiect HS2 Llywodraeth y DU;
b)
adolygu gweithrediad
y Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol
a llywodraethu trafnidiaeth
yn gyffredinol;
c)
ailddatgan ei hymrwymiad i drafnidiaeth gyhoeddus integredig; a
d)
cyflwyno sylwadau
i Lywodraeth y DU, i sicrhau
bod coridorau trafnidiaeth gogledd a de Cymru wedi'u cynnwys yn rhwydwaith
craidd newydd TEN-T y Comisiwn Ewropeaidd.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
35 |
0 |
17 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 09/10/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5324 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn condemnio bwriad Llywodraeth y DU i breifateiddio'r Post Brenhinol;
2.
Yn cydnabod bod preifateiddio yn agor y drws i
fygythiadau i wasanaethau post yng Nghymru wledig a threfol yn y dyfodol;
3.
Yn nodi pwysigrwydd
y Post Brenhinol i Rwydwaith Swyddfa’r Post;
4.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a)
cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU ar bwysigrwydd gwasanaethau post sy'n atebol i'r cyhoedd
i economi Cymru ac i gymunedau
Cymru; a
b)
ystyried cynnig Plaid Cymru ar gyfer
datganoli gwasanaethau post
er mwyn diogelu
gwasanaeth cyffredinol a fforddiadwy.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu’r cyfan
a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1)
Yn nodi bwriad
Llywodraeth y DU i breifateiddio’r Post Brenhinol.
2)
Yn cydnabod:
a)
y bydd preifateiddio yn diogelu’r gwasanaeth
cyffredinol, yn galluogi’r Post Brenhinol i gasglu arian
yn yr un modd â'i gystadleuwyr,
ac yn rhoi cyfranddaliadau am ddim i’r 150,000 o bobl sy’n gweithio i’r
Post Brenhinol; a
b)
y bydd gan y Post Brenhinol wedi’i breifateiddio gyfrifoldeb cyfreithiol o hyd i ddanfon i
bob cyfeiriad, boed mewn ardal drefol
neu wledig, o dan ofynion sylfaenol
y Gwasanaeth Cyffredinol.
3)
Yn cydnabod pa mor bwysig yw’r
Post Brenhinol i rwydwaith Swyddfa’r Post, nad yw Swyddfa’r
Post ar werth, ac na fydd cynllun
i gau Swyddfeydd
Post o dan Lywodraeth bresennol y DU.
4)
Yn gresynu bod 7,000 o Swyddfeydd Post wedi cael eu cau
o dan Lywodraeth Lafur ddiwethaf y DU.
5)
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda
Llywodraeth y DU ar ei rhaglen £1.34 biliwn i gynnal
rhwydwaith sy’n cynnwys o leiaf 11,500 o ganghennau Swyddfa’r Post ledled y DU.
[Os
derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei
ddad-ddethol]
Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ym mhwynt
1, dileu “Yn condemnio” a rhoi “Yn nodi” yn
ei le.
Gwelliant
3 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnwys pwynt
2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn rhannu
pryderon yr undebau llafur ynghylch y bygythiad posibl i weithlu’r
Post Brenhinol yng Nghymru;
[Os
derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 4 yn cael ei
ddad-ddethol]
Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt
2 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu'r
ffaith bod Llywodraeth y DU
yn trosglwyddo rhwymedigaethau hanesyddol o oddeutu £37.5 biliwn o Gynllun Pensiwn y Post Brenhinol i Gynllun
Pensiwn Statudol newydd y Post Brenhinol.
Gwelliant
5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt
3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn croesawu
ymrwymiad Llywodraeth y DU i wasanaeth post cyffredinol, chwe diwrnod yr wythnos,
a ddiogelir gan y gyfraith yn Neddf
Gwasanaethau Post 2011.
Mae
Deddf Gwasanaethau Post
2011 ar gael drwy ddilyn y linc
a ganlyn:
http://www.legislation.gov.uk/ukpga/2011/5/contents
[Os
derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 6 yn cael ei
ddad-ddethol]
Gwelliant
6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys ar
ddiwedd pwynt 3:
‘ac
nad yw’r bwriad i breifateiddio
yn cynnwys Swyddfa’r Post.’
Gwelliant
7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt
4 newydd, ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi
ymdrechion niferus y Blaid Lafur i
breifateiddio’r Post Brenhinol
hyd at 2009 a'r rhaglen i gau
Swyddfeydd Post, lle cafodd 216 o swyddfeydd post eu cau yng
Nghymru o dan y Blaid Lafur rhwng
mis Hydref 2007 a mis Ionawr 2009;
Gwelliant
8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt
4 newydd, ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn croesawu’r
ffaith nad oes unrhyw swyddfeydd
post wedi cau ers 2010 o ganlyniad i bolisi Llywodraeth
Glymblaid y DU.
[Os
derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 9 yn cael ei
ddad-ddethol]
Gwelliant
9 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu is-bwynt
4b.
[Os
derbynnir gwelliant 1 neu cynigir gwelliant
9, bydd gwelliant 10 yn cael ei
ddad-ddethol]
Gwelliant
10 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu is-bwynt
4(b).
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 16.28
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5324
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn condemnio bwriad Llywodraeth y DU i breifateiddio'r Post Brenhinol;
2.
Yn cydnabod bod preifateiddio yn agor y drws i fygythiadau
i wasanaethau post yng Nghymru wledig a threfol yn y dyfodol;
3.
Yn nodi pwysigrwydd
y Post Brenhinol i Rwydwaith
Swyddfa’r Post;
4.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a)
cyflwyno sylwadau
i Lywodraeth y DU ar bwysigrwydd gwasanaethau post sy'n atebol i'r
cyhoedd i economi Cymru ac i gymunedau Cymru; a
b)
ystyried cynnig
Plaid Cymru ar gyfer datganoli gwasanaethau post er mwyn diogelu gwasanaeth
cyffredinol a fforddiadwy.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
9 |
0 |
45 |
54 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu’r cyfan
a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1)
Yn nodi bwriad
Llywodraeth y DU i breifateiddio’r
Post Brenhinol.
2)
Yn cydnabod:
a)
y bydd preifateiddio
yn diogelu’r gwasanaeth cyffredinol, yn galluogi’r Post Brenhinol i gasglu arian yn yr
un modd â'i gystadleuwyr, ac yn rhoi cyfranddaliadau am ddim i’r 150,000 o bobl sy’n gweithio
i’r Post Brenhinol; a
b)
y bydd gan
y Post Brenhinol wedi’i breifateiddio gyfrifoldeb cyfreithiol o hyd i ddanfon i bob cyfeiriad, boed mewn ardal
drefol neu wledig, o dan ofynion
sylfaenol y Gwasanaeth Cyffredinol.
3)
Yn cydnabod pa mor bwysig
yw’r Post Brenhinol i rwydwaith Swyddfa’r Post, nad yw Swyddfa’r
Post ar werth, ac na fydd cynllun
i gau Swyddfeydd Post o dan Lywodraeth bresennol y DU.
4)
Yn gresynu bod 7,000 o Swyddfeydd Post wedi cael eu cau
o dan Lywodraeth Lafur ddiwethaf y DU.
5)
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth
y DU ar ei rhaglen £1.34 biliwn i gynnal rhwydwaith sy’n cynnwys o leiaf 11,500 o ganghennau Swyddfa’r Post ledled y DU.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
18 |
0 |
36 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ym mhwynt 1, dileu “Yn condemnio” a rhoi “Yn nodi”
yn ei le.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
18 |
0 |
36 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant
3 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnwys pwynt
2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn rhannu
pryderon yr undebau llafur ynghylch y bygythiad posibl i weithlu’r Post Brenhinol yng Nghymru;
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 3:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
36 |
13 |
5 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt
2 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu'r
ffaith bod Llywodraeth y DU
yn trosglwyddo rhwymedigaethau hanesyddol o oddeutu £37.5 biliwn o Gynllun Pensiwn y Post Brenhinol i Gynllun Pensiwn Statudol newydd y Post Brenhinol.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 4:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
45 |
0 |
9 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant
5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt
3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i wasanaeth post
cyffredinol, chwe diwrnod yr wythnos,
a ddiogelir gan y gyfraith yn Neddf
Gwasanaethau Post 2011.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 5:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
45 |
0 |
9 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant
6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys ar
ddiwedd pwynt 3:
‘ac nad yw’r
bwriad i breifateiddio yn cynnwys Swyddfa’r
Post.’
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 6:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
18 |
0 |
36 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwelliant
7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt
4 newydd, ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi
ymdrechion niferus y Blaid Lafur i breifateiddio’r
Post Brenhinol hyd at 2009 a'r rhaglen i gau
Swyddfeydd Post, lle cafodd 216 o swyddfeydd post eu cau yng
Nghymru o dan y Blaid Lafur rhwng
mis Hydref 2007 a mis Ionawr 2009;
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 7:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
26 |
0 |
27 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Gwelliant
8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt
4 newydd, ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn croesawu’r
ffaith nad
oes unrhyw swyddfeydd post wedi cau ers 2010 o ganlyniad i bolisi Llywodraeth Glymblaid y DU.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 8:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
17 |
0 |
36 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 8.
Gwelliant
9 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu is-bwynt 4b.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 9:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
45 |
1 |
8 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 9.
Gan fod gwelliant 9 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 10 ei ddad-ddethol.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5324 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn condemnio bwriad Llywodraeth y DU i breifateiddio'r Post Brenhinol;
2.
Yn rhannu pryderon yr undebau
llafur ynghylch y bygythiad posibl i weithlu’r Post Brenhinol yng Nghymru;
3.
Yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn trosglwyddo rhwymedigaethau hanesyddol o oddeutu £37.5 biliwn o Gynllun Pensiwn y Post Brenhinol i Gynllun Pensiwn Statudol newydd y Post Brenhinol;
4.
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i wasanaeth post cyffredinol, chwe diwrnod yr
wythnos, a ddiogelir gan y gyfraith yn Neddf Gwasanaethau
Post 2011;
5.
Yn nodi pwysigrwydd
y Post Brenhinol i Rwydwaith
Swyddfa’r Post;
6.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a)
cyflwyno sylwadau
i Lywodraeth y DU ar bwysigrwydd gwasanaethau post sy'n atebol i'r
cyhoedd i economi Cymru ac i gymunedau Cymru.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
36 |
0 |
18 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 02/10/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5311 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn cydnabod yr angen i integreiddio
gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i oedolion er mwyn
darparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol i bobl mewn angen;
a
2.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddefnyddio cyfle'r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) i weithredu'r integreiddio hwn.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys pwynt
1 newydd, ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod
y rhwymedigaeth i gefnogi pobl mewn angen;
Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt
2 a rhoi yn ei le:
Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth ar wahân i integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn llawn, fel
yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ei Adroddiad Cam 1.
Gosodwyd Adroddiad Cam 1 y Pwyllgor ar Fil Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 18 Gorffennaf 2013.
Gwelliant
3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu fel
pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol
â hynny:
Yn croesawu’r
cyfleoedd sydd wedi codi yn
ystod yr ystyriaeth o'r Bil hwn i archwilio’r
posibiliadau o ran integreiddio
gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i oedolion drwy:
a)
cryfhau’r ddarpariaeth o wasanaethau eiriolaeth;
b)
sicrhau bod awdurdodau lleol yn hybu dewisiadau
gwasanaeth yng nghyswllt taliadau uniongyrchol; ac
c)
symleiddio’r ffordd y caiff gwybodaeth ei darparu
i gleifion, eu teuluoedd ac i ddefnyddwyr gwasanaeth.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 15.51
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5311
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn cydnabod yr angen i integreiddio
gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i oedolion er mwyn
darparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol i bobl mewn angen;
a
2.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddefnyddio
cyfle'r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol i weithredu'r integreiddio hwn.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
34 |
0 |
15 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 25/09/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5304 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1. Yn nodi bod
galwad olaf am dystiolaeth y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (Comisiwn Silk)
yn dod i ben ddydd Gwener, 27 Medi 2013.
2. Yn nodi bod y
gwaith ymchwil a wnaethpwyd ar ran Comisiwn Silk yn dangos cefnogaeth sylweddol
dros roi rhagor o bwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth
benodol dros drosglwyddo pwerau ynni adnewyddadwy (70%), plismona (63%) a
darlledu a rheoleiddio’r cyfryngau (58%).
3. Yn nodi
ymhellach y gefnogaeth a welwyd y llynedd dros drosglwyddo pwerau ariannol,
gyda 64% yn cefnogi trosglwyddo pwerau treth incwm i Lywodraeth Cymru, 80% yn
cefnogi pwerau benthyca ar gyfer prosiectau seilwaith, a 72% o blaid trethi
‘cymell’.
4. Yn mynegi
pryder bod Llywodraeth y DU wedi oedi cymaint cyn ymateb i adroddiad cyntaf
Comisiwn Silk, ac yn galw ar Lywodraeth y DU i lynu wrth yr amserlen a nodwyd
gan Gomisiwn Silk, a bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cyhoeddi eu
hymatebion yn brydlon i’r ail adroddiad pan gaiff ei gyhoeddi’r gwanwyn nesaf.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i greu gwell trefn
lywodraethu i Gymru o fewn y Deyrnas Unedig drwy gyflwyno’r refferendwm ar
bwerau deddfu sylfaenol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a sefydlu’r Comisiwn ar
Ddatganoli yng Nghymru (Comisiwn Silk) ar bwerau ac atebolrwydd ariannol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn croesawu’r ffaith fod Llywodraeth y DU wedi sefydlu
Comisiwn Silk, yn unol â’r ymrwymiad yng nghytundeb clymblaid Llywodraeth y DU.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cefnogi datganoli pwerau ariannol dros drethi a
benthyca fel yr argymhellwyd gan Ran I Comisiwn Silk.
Mae Rhan I Silk ar gael yn:
http://commissionondevolutioninwales.independent.gov.uk/cy/
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod bod angen ystyried ac asesu Rhan I Silk,
Grymuso a Chyfrifoldeb, yn ofalus o ran ei heffaith ar rannau eraill o’r
Deyrnas Unedig a’r manteision i Gymru ac, ar ôl cwblhau’r asesiadau hynny,
edrych ymlaen at gyflwyno’n brydlon y mesurau a amlinellwyd yn Rhan I Silk i
greu gwell atebolrwydd dros gyllid Cymru.
Mae Rhan I Silk ar gael yn:
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 15.58
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5304
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru
1.
Yn nodi bod galwad olaf am dystiolaeth y Comisiwn ar Ddatganoli yng
Nghymru (Comisiwn Silk) yn dod i ben ddydd
Gwener, 27 Medi 2013.
2.
Yn nodi bod y gwaith ymchwil a wnaethpwyd ar ran Comisiwn Silk yn dangos cefnogaeth sylweddol dros roi rhagor o bwerau
i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth
benodol dros drosglwyddo pwerau ynni adnewyddadwy (70%), plismona (63%) a darlledu a rheoleiddio’r cyfryngau (58%).
3.
Yn nodi ymhellach
y gefnogaeth a welwyd y llynedd dros drosglwyddo
pwerau ariannol, gyda 64% yn cefnogi
trosglwyddo pwerau treth incwm i Lywodraeth
Cymru, 80% yn cefnogi pwerau benthyca ar gyfer
prosiectau seilwaith, a 72%
o blaid trethi
‘cymell’.
4.
Yn mynegi pryder bod Llywodraeth y DU wedi oedi cymaint
cyn ymateb i adroddiad cyntaf Comisiwn Silk, ac yn galw ar Lywodraeth
y DU i lynu wrth yr amserlen a nodwyd
gan Gomisiwn Silk, a bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cyhoeddi eu hymatebion
yn brydlon i’r ail adroddiad pan gaiff ei gyhoeddi’r
gwanwyn nesaf.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
36 |
0 |
18 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 17/07/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5298 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi gyda
phryder bod 48.9% o ddisgyblion Cymru yn gadael yr
ysgol heb 5 TGAU A*-C gan gynnwys Cymraeg/Saesneg a mathemateg.
2.
Yn nodi gyda
phryder bod y bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndir difreintiedig a mwy breintiedig yn tyfu drwy'r cyfnodau
allweddol, gan gyrraedd 33% yng Nghyfnod Allweddol 4.
3.
Yn credu y dylid ailwerthuso polisïau i fynd i'r afael â lleoedd
dros ben i gynorthwyo safonau uchel fel
blaenoriaeth.
4.
Yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod disgyblion yn gadael
yr ysgol gyda chymwysterau perthnasol ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i flaenoriaethu sefydlu Cymwysterau Cymru yn sefydliad
annibynnol i reoleiddio cymwysterau yn y lle cyntaf.
5.
Yn cydnabod pwysigrwydd cau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndir difreintiedig a disgyblion o gefndir mwy breintiedig ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y grant amddifadedd disgyblion yn cael
ei ddyrannu i bolisïau sy'n mynd
i'r afael â hyn.
6.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyflwyno ei chynigion
cynhwysfawr i weithredu'r argymhellion yn adroddiad Hill.
7.
Yn croesawu cytundeb Plaid Cymru gyda Llywodraeth Cymru i greu 5,650 o gyfleoedd prentisiaeth ychwanegol, gan roi cyfleoedd gwerthfawr
i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau
a chael gwaith.
Gellir gweld
Adroddiad Hill drwy'r linc a ganlyn:
http://cymru.gov.uk/docs/dcells/consultation/130618-delivery-of-education-report-cy.pdf
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys ar
ddiwedd pwynt un:
‘ac
yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gydag Estyn
er mwyn sicrhau
bod pob ysgol yn mabwysiadu rhaglen
monitro disgyblion unigol, i fesur cynnydd disgyblion a chefnogi ysgolion i dargedu ymdrechion at y disgyblion hynny nad ydynt yn
cyflawni eu potensial yn llawn.’
Gwelliant
2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu fel
pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol
â hynny:
Yn nodi
gyda phryder y diffyg cysondeb rhwng Ysgolion ac Awdurdodau Addysg Lleol ar wella
a rheoli’r broses bontio rhwng ysgol gynradd
ac ysgol uwchradd yn gadarnhaol.
Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys ar
ddiwedd pwynt 4:
‘,
ac i gyhoeddi strategaeth gyfathrebu i hyrwyddo cymwysterau sy’n unigryw i Gymru ymysg darpar gyflogwyr
a sefydliadau addysg.’
Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt
6 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn croesawu
cytundeb Democratiaid Rhyddfrydol Cymru gyda Llywodraeth Cymru i sefydlu’r Grant Amddifadedd Disgyblion, sydd wedi rhoi
£32.4 miliwn o nawdd i ysgolion yn 2012-13 a £36.3 miliwn yn 2013-14, i helpu i dorri’r cysylltiad rhwng tlodi a chyrhaeddiad isel, ac yn galw
ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y bydd cyllid ar
gael yn y dyfodol.
Gwelliant
5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt
7 a rhoi yn ei le:
Yn nodi
ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu 5,650 o gyfleoedd prentisiaeth ychwanegol, ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a)
monitro’r gwaith o greu’r prentisiaethau ychwanegol hyn; a
b)
sicrhau bod y sgiliau a geir ar y prentisiaethau
hyn yn cyfateb
i anghenion y farchnad waith.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 16.30
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5298
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi gyda
phryder bod 48.9% o ddisgyblion Cymru yn gadael yr ysgol
heb 5 TGAU A*-C gan gynnwys Cymraeg/Saesneg a mathemateg.
2.
Yn nodi gyda
phryder bod y bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndir difreintiedig a mwy breintiedig yn tyfu drwy'r cyfnodau
allweddol, gan gyrraedd 33% yng Nghyfnod Allweddol 4.
3.
Yn credu y dylid ailwerthuso polisïau i fynd i'r afael â lleoedd
dros ben i gynorthwyo safonau uchel fel
blaenoriaeth.
4.
Yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod disgyblion yn gadael
yr ysgol gyda chymwysterau perthnasol ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i flaenoriaethu sefydlu
Cymwysterau Cymru yn sefydliad annibynnol i reoleiddio cymwysterau yn y lle cyntaf.
5.
Yn cydnabod pwysigrwydd cau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndir difreintiedig a disgyblion o gefndir mwy breintiedig ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau
bod y grant amddifadedd disgyblion
yn cael ei
ddyrannu i bolisïau sy'n mynd i'r
afael â hyn.
6.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyflwyno
ei chynigion cynhwysfawr i weithredu'r argymhellion yn adroddiad Hill.
7.
Yn croesawu cytundeb Plaid Cymru gyda Llywodraeth Cymru i greu 5,650 o gyfleoedd prentisiaeth ychwanegol, gan roi cyfleoedd gwerthfawr
i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau
a chael gwaith.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
34 |
0 |
17 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 19/06/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5269 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi rôl
allweddol y system gynllunio
o ran cyfrannu tuag at gynaliadwyedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol; a
2.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddiwygio'r system gynllunio fel ei bod yn
adlewyrchu'n well egwyddorion
datblygu cynaliadwy, yn arbennig:
a)
bod Cynlluniau Datblygu Lleol yn adlewyrchu
anghenion tai lleol yn well;
b)
bod yr iaith Gymraeg yn dod
yn ystyriaeth gynllunio fwy ystyrlon;
ac
c) bod y
system gynllunio'n hwyluso twf gwyrdd yn
well.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham
(Dwyrain De Cymru)
Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at oedi Llywodraeth Cymru wrth gyflwyno Bil
Cynllunio i Gymru.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod y gall y cyfrifoldeb ar y cyd am bolisïau
cynllunio, tai ac adfywio rhwng y Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Lleol
achosi llawer o densiwn a’i gwneud yn anodd i ddatblygu polisïau cynllunio ac
adfywio cydlynol mewn ardaloedd gwledig.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 2a):
i. drwy ddisodli’r targedau adeiladu tai a osodwyd gan
Lywodraeth Cymru ag asesiad o anghenion tai lleol; a
ii. drwy gamau gweithredu gan Lywodraeth Cymru i gynyddu
nifer y cartrefi i ddiwallu anghenion poblogaeth gynyddol a phoblogaeth sy’n
heneiddio;
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys is-bwynt 2b) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Rhaid i awdurdodau lleol gymryd rhan mewn ymgynghoriadau
ystyrlon sy’n galluogi cymunedau i gael eu grymuso er mwyn llunio eu dyfodol.
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys is-bwynt 2b) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cyflwyno canllawiau cynllunio ychwanegol ar gyfer
gwaith datblygu ac adnewyddu mewn ardaloedd cadwraeth.
Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod rôl bwysig cynghorau tref a chymuned fel ymgyngoreion
statudol yn y broses gynllunio ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i asesu ffyrdd o
gryfhau’r rôl hon, er mwyn cryfhau llais cynghorau tref a chymuned.
Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu system i adolygu
Nodiadau Cyngor Technegol yn gyfnodol, i sicrhau eu bod yn adlewyrchu’r
datblygiadau diweddaraf mewn polisïau a deddfwriaeth a’r datblygiadau
technolegol diweddaraf.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 16.48
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5269
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi rôl
allweddol y system gynllunio
o ran cyfrannu tuag at gynaliadwyedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol; a
2.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddiwygio'r system gynllunio fel ei bod yn
adlewyrchu'n well egwyddorion
datblygu cynaliadwy, yn arbennig:
a) bod Cynlluniau Datblygu Lleol yn adlewyrchu
anghenion tai lleol yn well;
b)
bod yr iaith
Gymraeg yn dod yn ystyriaeth
gynllunio fwy ystyrlon; ac
c)
bod y system gynllunio'n hwyluso twf gwyrdd
yn well.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
34 |
0 |
16 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 12/06/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5263 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn ailddatgan ei gefnogaeth i drafnidiaeth gyhoeddus integredig.
2.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i barhau i gyflawni'r ymrwymiadau yn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol, ac i gefnogi gweithredu cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol ledled y wlad.
3.
Yn cefnogi datblygu systemau trafnidiaeth integredig ledled Cymru, gan
gynnwys ‘system Metro’ i dde-ddwyrain
Cymru.
4.
Yn croesawu camau gweithredu Llywodraeth Cymru ar Faes Awyr
Caerdydd, ac yn galw am ddatblygu a chyhoeddi strategaeth hedfan i Gymru.
5.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gefnogi creu awdurdod
trafnidiaeth cenedlaethol i
Gymru.
Gellir gweld
Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol Llywodraeth Cymru drwy'r linc
a ganlyn:
http://wales.gov.uk/topics/transport/publications/ntp/?skip=1&lang=cy
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt
2, dileu popeth ar ôl ‘Lywodraeth
Cymru i’ a rhoi yn ei le ‘gyflawni’r
ymrwymiadau yn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol, i gefnogi’r broses
o weithredu cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol ledled y wlad, ac i sicrhau cysylltiadau effeithiol â meysydd datblygu economaidd eraill, gan gynnwys
Ardaloedd Menter a Dinas-ranbarthau’.
Gwelliant
2 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnwys ar
ddiwedd pwynt 2:
‘,
gan gydnabod y pwysau ar y gyllideb
sydd ar gael’
Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt
3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod
pwysigrwydd cynlluniau trafnidiaeth cymunedol, yn enwedig i bobl
hŷn a phobl anabl a’r rheini
sy’n byw mewn ardaloedd gwledig, ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i weithredu cyllidebau tair blynedd ar gyfer
cynlluniau trafnidiaeth cymunedol er mwyn
sicrhau bod cyllid ar gael
i weithredwyr trafnidiaeth cymunedol.
Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ym mhwynt
3, dileu ‘, gan gynnwys ‘system Metro’ i dde-ddwyrain
Cymru’ a rhoi yn ei le ‘ac yn
croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i’r cynllun gwerth £1 biliwn i drydaneiddio prif reilffordd Great Western, ac
i’r cynllun gwerth £350 miliwn i drydaneiddio Cledrau’r Cymoedd, a fydd yn braenaru’r tir
ar gyfer ‘system Metro’ i dde-ddwyrain Cymru’
[Os
derbynnir gwelliant 4, bydd gwelliant 5 yn cael ei
ddad-ddethol]
Gwelliant
5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt
3, ar ôl ‘gan gynnwys’ cynnwys
‘ystyried potensial’.
Gwelliant
6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt
4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cefnogi
trydaneiddio prif reilffordd Gogledd Cymru, ac yn galw
ar Lywodraeth Cymru i egluro a
yw Manceinion yn rhan o’r
achos strategol ac yn cael ei
chynnwys yn ystyriaethau'r Tasglu ynghylch yr achos
busnes dros drydaneiddio.
Gwelliant
7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt
4 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod
y cynigion a amlinellwyd yn nogfen ‘Glasbrint
ar gyfer Maes Awyr Caerdydd’
y Ceidwadwyr Cymreig, ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth hedfan gynhwysfawr i Gymru.
Gellir gweld
Glasbrint ar gyfer Maes Awyr
Caerdydd drwy fynd i:
[Os
derbynnir gwelliant 7, bydd gwelliant 8 yn cael ei
ddad-ddethol]
Gwelliant
8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ym mhwynt
4, dileu ‘croesawu’ a rhoi ‘nodi’ yn
ei le.
Gwelliant
9 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt
5 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu
wrth y penderfyniad i ddirwyn i ben y llwybr bws X91 sy’n gwasanaethu
Maes Awyr Caerdydd ar ddydd
Sul, ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyflwyno llwybr uniongyrchol o ansawdd uchel rhwng
canol dinas
Caerdydd a Maes Awyr Caerdydd.
Gwelliant
10 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwynt 5.
[Os
derbynnir gwelliant 10, bydd gwelliant 11 a 12 yn cael ei
ddad-ddethol]
Gwelliant
11 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt
5, dileu ‘gefnogi creu’ a rhoi yn
ei le ‘ystyried hyfywedd’.
[Os
derbynnir gwelliant 11, bydd gwelliant 12 yn cael ei
ddad-ddethol]
Gwelliant
12 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ym mhwynt
5, dileu ‘i gefnogi creu’ a rhoi yn
ei le ‘i ymgynghori ar rinweddau’.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 15.56
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5263
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn ailddatgan ei gefnogaeth i drafnidiaeth gyhoeddus integredig.
2.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i barhau i gyflawni'r ymrwymiadau yn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol, ac i gefnogi gweithredu cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol ledled y wlad.
3.
Yn cefnogi datblygu systemau trafnidiaeth integredig ledled Cymru, gan
gynnwys ‘system Metro’ i dde-ddwyrain
Cymru.
4.
Yn croesawu camau gweithredu Llywodraeth Cymru ar Faes Awyr
Caerdydd, ac yn galw am ddatblygu a chyhoeddi strategaeth hedfan i Gymru.
5.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gefnogi creu awdurdod
trafnidiaeth cenedlaethol i
Gymru.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
9 |
0 |
45 |
54 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 2, dileu popeth ar ôl
‘Lywodraeth Cymru i’ a rhoi yn ei
le ‘gyflawni’r ymrwymiadau yn y Cynllun Trafnidiaeth
Cenedlaethol, i gefnogi’r
broses o weithredu cynlluniau
trafnidiaeth rhanbarthol ledled y wlad, ac i sicrhau cysylltiadau effeithiol â meysydd datblygu economaidd eraill, gan gynnwys
Ardaloedd Menter a Dinas-ranbarthau’.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
45 |
0 |
9 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnwys ar
ddiwedd pwynt 2:
‘,
gan gydnabod y pwysau ar y gyllideb
sydd ar gael’
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 2:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
49 |
0 |
5 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt
3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod
pwysigrwydd cynlluniau trafnidiaeth cymunedol, yn enwedig i bobl
hŷn a phobl anabl a’r rheini
sy’n byw mewn ardaloedd gwledig, ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i weithredu cyllidebau tair blynedd ar gyfer
cynlluniau trafnidiaeth cymunedol er mwyn
sicrhau bod cyllid ar gael
i weithredwyr trafnidiaeth cymunedol.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 3:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
26 |
0 |
28 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ym mhwynt
3, dileu ‘, gan gynnwys ‘system Metro’ i dde-ddwyrain
Cymru’ a rhoi yn ei le ‘ac yn
croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i’r cynllun gwerth £1 biliwn i drydaneiddio prif reilffordd Great Western, ac
i’r cynllun gwerth £350 miliwn i drydaneiddio Cledrau’r Cymoedd, a fydd yn braenaru’r tir
ar gyfer ‘system Metro’ i dde-ddwyrain Cymru’
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 4:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
17 |
0 |
37 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant
5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 3, ar ôl
‘gan gynnwys’ cynnwys ‘ystyried potensial’.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 5:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
12 |
0 |
42 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant
6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt
4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cefnogi
trydaneiddio prif reilffordd Gogledd Cymru, ac yn galw
ar Lywodraeth Cymru i egluro a
yw Manceinion yn rhan o’r
achos strategol ac yn cael ei
chynnwys yn ystyriaethau'r Tasglu ynghylch yr achos
busnes dros drydaneiddio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 6:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
17 |
0 |
37 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwelliant
7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt
4 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod
y cynigion a amlinellwyd yn nogfen ‘Glasbrint
ar gyfer Maes Awyr Caerdydd’
y Ceidwadwyr Cymreig, ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth hedfan gynhwysfawr i Gymru.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 7:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
12 |
0 |
42 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Gwelliant
8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ym mhwynt 4, dileu ‘croesawu’ a rhoi ‘nodi’ yn ei
le.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 8:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
17 |
0 |
37 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 8.
Gwelliant
9 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt
5 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu
wrth y penderfyniad i ddirwyn i ben y llwybr bws X91 sy’n gwasanaethu
Maes Awyr Caerdydd ar ddydd
Sul, ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyflwyno llwybr uniongyrchol o ansawdd uchel rhwng
canol dinas
Caerdydd a Maes Awyr Caerdydd.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 9:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
45 |
0 |
9 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 9.
Gwelliant
10 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwynt 5.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 10:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
33 |
0 |
21 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 10.
Gan fod gwelliant 10 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau
11 a 12 eu dad-ddethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5263 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn ailddatgan ei gefnogaeth i drafnidiaeth gyhoeddus integredig.
2.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyflawni’r ymrwymiadau yn y Cynllun Trafnidiaeth
Cenedlaethol, i gefnogi’r
broses o weithredu cynlluniau
trafnidiaeth rhanbarthol ledled y wlad, ac i sicrhau cysylltiadau effeithiol â meysydd datblygu economaidd eraill, gan gynnwys
Ardaloedd Menter a Dinas-ranbarthau, gan gydnabod y pwysau ar y gyllideb sydd
ar gael.
3.
Yn cefnogi datblygu systemau trafnidiaeth integredig ledled Cymru, gan
gynnwys ‘system Metro’ i dde-ddwyrain
Cymru.
4.
Yn croesawu camau gweithredu Llywodraeth Cymru ar Faes Awyr
Caerdydd, ac yn galw am ddatblygu a chyhoeddi strategaeth hedfan i Gymru.
5.
Yn gresynu wrth y penderfyniad i ddirwyn i ben y llwybr bws X91 sy’n gwasanaethu
Maes Awyr Caerdydd ar ddydd
Sul, ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyflwyno llwybr uniongyrchol o ansawdd uchel rhwng
canol dinas
Caerdydd a Maes Awyr Caerdydd.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
48 |
5 |
0 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 05/06/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5256 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn credu
bod angen i gymunedau Cymru gael
gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys a mamolaeth wedi'u harwain gan ymgynghorwyr
mewn ysbytai cyffredinol dosbarth lleol.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Rhoi pwynt
newydd ar ddechrau’r cynnig:
Yn gresynu
bod y toriadau cyllidebol y
mae Llywodraeth
Cymru yn bwriadu eu gwneud
i gyllid y GIG, sef y toriadau dwysaf o blith gwledydd y DU, yn cael effaith
niweidiol ar allu GIG Cymru i barhau i ddarparu cyfluniad presennol gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys a mamolaeth wedi’u harwain gan ymgynghorwyr
yn ysbytai Cymru.
Gwelliant
2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gwrthod
y cynigion sy’n cael eu hystyried
ar hyn o bryd gan Raglen
De Cymru i israddio gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys a mamolaeth wedi’u harwain gan ymgynghorwyr
yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant.
Gwelliant
3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw
ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gyflawni ei ymrwymiad
i gadw’r gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys presennol yn Ysbyty Glan
Clwyd ym Modelwyddan.
Gwelliant
4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw
ar Weinidog Iechyd Cymru i sicrhau dyfodol y gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys presennol
yn Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli.
Gwelliant
5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod
y bydd ysbytai cyffredinol dosbarth lleol yn darparu
gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys a mamolaeth sy’n gynaliadwy ac yn glinigol gadarn os bydd lefelau
recriwtio meddygon yn gwella, ac yn
galw ar Lywodraeth
Cymru i gyhoeddi canlyniadau ei Hymgyrch Recriwtio Meddygon, a lansiwyd ym mis Ebrill
2012.
Gwelliant
6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod
y bydd ysbytai cyffredinol dosbarth lleol yn darparu
gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys a mamolaeth sy’n gynaliadwy ac yn glinigol gadarn os bydd lefelau
staffio nyrsys yn gwella, ac yn
galw ar Lywodraeth
Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i hwyluso lefel sylfaenol.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 15.55
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5256
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn credu
bod angen i gymunedau Cymru
gael gwasanaethau
Damweiniau ac Achosion Brys a mamolaeth wedi'u harwain gan ymgynghorwyr mewn ysbytai cyffredinol
dosbarth lleol.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
10 |
0 |
44 |
54 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Rhoi pwynt
newydd ar ddechrau’r cynnig:
Yn gresynu
bod y toriadau cyllidebol y
mae Llywodraeth
Cymru yn bwriadu eu gwneud i gyllid
y GIG, sef y toriadau dwysaf o blith gwledydd y DU, yn cael effaith niweidiol
ar allu GIG Cymru i barhau i ddarparu cyfluniad presennol gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys a mamolaeth wedi’u harwain gan ymgynghorwyr
yn ysbytai Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
12 |
14 |
28 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gwrthod y cynigion sy’n cael eu
hystyried ar hyn o bryd gan
Raglen De Cymru i israddio gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys a mamolaeth wedi’u harwain gan ymgynghorwyr
yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 2:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
27 |
0 |
0 |
27 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant
3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Fwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gyflawni ei ymrwymiad
i gadw’r gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys presennol yn Ysbyty Glan
Clwyd ym Modelwyddan.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 3:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
27 |
0 |
0 |
27 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant
4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Weinidog
Iechyd Cymru i sicrhau dyfodol y gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys presennol yn Ysbyty'r Tywysog
Philip yn Llanelli.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 4:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
27 |
0 |
0 |
27 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant
5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y bydd ysbytai cyffredinol dosbarth lleol yn darparu gwasanaethau
Damweiniau ac Achosion Brys a mamolaeth sy’n gynaliadwy ac yn glinigol gadarn
os bydd lefelau
recriwtio meddygon yn gwella, ac yn
galw ar Lywodraeth
Cymru i gyhoeddi canlyniadau
ei Hymgyrch Recriwtio Meddygon, a lansiwyd ym mis
Ebrill 2012.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 5:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
27 |
0 |
28 |
55 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y
Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly,
gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant
6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y bydd ysbytai cyffredinol dosbarth lleol yn darparu gwasanaethau
Damweiniau ac Achosion Brys a mamolaeth sy’n gynaliadwy ac yn glinigol gadarn
os bydd lefelau
staffio nyrsys yn gwella, ac yn
galw ar Lywodraeth
Cymru i gyflwyno deddfwriaeth
i hwyluso lefel sylfaenol.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 6:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
27 |
0 |
28 |
55 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y
Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly,
gwrthodwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5256 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu bod angen
i gymunedau Cymru gael gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys a mamolaeth wedi'u harwain gan ymgynghorwyr mewn ysbytai cyffredinol
dosbarth lleol.
Yn gwrthod y cynigion sy’n cael eu
hystyried ar hyn o bryd gan
Raglen De Cymru i israddio gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys a mamolaeth wedi’u harwain gan ymgynghorwyr
yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant.
Yn galw ar Fwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gyflawni ei ymrwymiad
i gadw’r gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys presennol yn Ysbyty Glan
Clwyd ym Modelwyddan.
Yn galw ar Weinidog
Iechyd Cymru i sicrhau dyfodol y gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys presennol yn Ysbyty'r Tywysog
Philip yn Llanelli.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
27 |
0 |
28 |
55 |
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei
ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig, gwrthodwyd y
cynnig.
Cyfarfod: 15/05/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5239 Jocelyn Davies
(Dwyrain De Cymru)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi pwysigrwydd buddsoddi yn y seilwaith o ran caffael, prentisiaethau,
cyflogaeth a busnesau bach yn economi Cymru;
2.
Yn cydnabod yr effaith negyddol ar economi Cymru yn sgîl toriadau i'r gyllideb
gyfalaf yn Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant 2010; a
3.
Yn galw am ddiogelu'r gyllideb gyfalaf i Gymru yn yr Adolygiad Cynhwysfawr o
Wariant sydd ar y gweill.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 - William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys
pwynt 1 newydd, ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i feddwl mewn ffordd arloesol ac i ystyried pob model
wrth ariannu prosiectau cyfalaf.
Gwelliant 2 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Ym
mhwynt 1, ar ôl ‘seilwaith’ cynnwys ‘, gan gynnwys cyllid ar gyfer band eang
cyflym iawn a thrydaneiddio Prif Reilffordd y Great Western i Abertawe a
chymoedd de Cymru,'
Gwelliant 3 - William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys
ar ddiwedd pwynt 1, ‘ac yn croesawu buddsoddiad Llywodraeth y DU mewn
seilweithiau band eang a thrafnidiaeth yng Nghymru’
Gwelliant 4 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys
pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn
croesawu’r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi creu Banc Buddsoddi Gwyrdd, sy’n
cyfeirio biliynau o bunnoedd o fuddsoddiad preifat i faes ynni adnewyddadwy, ac
yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu ei chamau i gefnogi busnesau i wneud
cais am arian i sicrhau'r buddsoddiad gorau posibl yn y seilwaith ynni a swyddi
gwyrdd yng Nghymru.
Gwelliant 5 - William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys
pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i roi gwybodaeth glir i’r gymuned fusnes yng Nghymru
am unrhyw bolisïau caffael newydd ar gyfer prosiectau seilwaith.
Gwelliant 6 - William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu
pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:
Yn
nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cael mwy na £858 miliwn o gyllid cyfalaf
ychwanegol yn ystod cyfnod yr Adolygiad o Wariant presennol.
[Os derbynnir gwelliant
6, bydd gwelliant 7 yn cael ei dad-ddethol]
Gwelliant 7 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu
pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn
gresynu at y lefelau gwario anghynaliadwy ac anghyfrifol o dan Lywodraeth Lafur
flaenorol y DU, a arweiniodd at ddiffyg blynyddol o £170.8 biliwn erbyn diwedd
2009-10, ac yn croesawu’r camau sy’n cael eu cymryd gan Lywodraeth bresennol y
DU sydd wedi torri traean oddi ar y diffyg, wedi creu miliwn a chwarter o
swyddi newydd yn y sector preifat ac wedi cadw'r cyfraddau llog ar eu lefelau
isaf erioed bron, a fydd yn helpu i sicrhau sefydlogrwydd ar gyfer buddsoddi yn
economi Cymru.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 16.55
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5239
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi pwysigrwydd
buddsoddi yn y seilwaith o ran caffael, prentisiaethau, cyflogaeth a busnesau bach yn
economi Cymru;
2.
Yn cydnabod yr effaith negyddol
ar economi Cymru yn sgîl
toriadau i'r gyllideb gyfalaf yn Adolygiad Cynhwysfawr
o Wariant 2010; a
3.
Yn galw am ddiogelu'r gyllideb gyfalaf i Gymru yn yr Adolygiad
Cynhwysfawr o Wariant sydd ar y gweill.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
33 |
0 |
18 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 01/05/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5224 Jocelyn Davies
(Dwyrain De Cymru)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r cylch gwaith i'r Comisiwn ar Lywodraethu
Gwasanaethau Cyhoeddus o fynd i'r afael â'r diffyg atebolrwydd democrataidd
presennol yn y GIG drwy ystyried:
a)
etholiadau uniongyrchol i Fyrddau Iechyd Lleol;
b)
goruchwylio democrataidd o drefniadau cydweithio a chyllideb gyfun rhwng
Byrddau Iechyd ac awdurdodau lleol;
c)
ethol defnyddwyr gwasanaethau i Gynghorau Iechyd Cymuned; a
d)
atebolrwydd ariannol Byrddau Iechyd Lleol yn uniongyrchol i Bwyllgor Cyllid y
Cynulliad Cenedlaethol.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 - William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu
‘roi’r cylch gwaith i’r Comisiwn ar Lywodraethu Gwasanaethau Cyhoeddus o fynd
i'r afael â'r diffyg atebolrwydd democrataidd presennol yn y GIG drwy
ystyried:’ a rhoi yn ei le ‘gynnwys yng nghylch gorchwyl y Comisiwn ar
Lywodraethu Gwasanaethau Cyhoeddus y diffyg atebolrwydd democrataidd presennol
yn y GIG ac a fyddai modd mynd i'r afael â hyn drwy:’
Gwelliant 2 - William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu
is-bwynt d) a rhoi yn ei le:
‘rôl
y Cynulliad Cenedlaethol ac awdurdodau lleol yn nhrefniadau atebolrwydd
ariannol GIG Cymru.’
[Os derbynnir gwelliant
2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 3 - Lesley
Griffiths (Wrecsam)
Dileu
is-bwynt d)
Gwelliant 4 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys
is-bwynt d) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
‘mabwysiadu
manyleb safonol o’r sgiliau, y profiad a’r doniau a fyddai’n ofynnol i aelodau
sy’n cael eu hethol i bwyllgorau gwaith Cynghorau Iechyd Cymuned;’
Gwelliant 5 - William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu
is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
‘gofyniad
ar fyrddau iechyd lleol i gyhoeddi manylion pob eitem o wariant sy’n fwy na
£500 (ar wahân i gostau staff unigol) ar-lein ar gyfer craffu cyhoeddus’.
Gwelliant 6 - William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu
is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
‘rôl
mudiadau’r trydydd sector i wella atebolrwydd y GIG i bobl Cymru.’
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.51
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5224
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r cylch gwaith i'r Comisiwn ar Lywodraethu
Gwasanaethau Cyhoeddus o fynd i'r afael â'r diffyg atebolrwydd democrataidd
presennol yn y GIG drwy ystyried:
a)
etholiadau uniongyrchol i Fyrddau Iechyd Lleol;
b)
goruchwylio democrataidd o drefniadau cydweithio a chyllideb gyfun rhwng
Byrddau Iechyd ac awdurdodau lleol;
c)
ethol defnyddwyr gwasanaethau i Gynghorau Iechyd Cymuned; a
d)
atebolrwydd ariannol Byrddau Iechyd Lleol yn uniongyrchol i Bwyllgor Cyllid y
Cynulliad Cenedlaethol.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
9 |
0 |
41 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu
‘roi’r cylch gwaith i’r Comisiwn ar Lywodraethu Gwasanaethau Cyhoeddus o fynd
i'r afael â'r diffyg atebolrwydd democrataidd presennol yn y GIG drwy
ystyried:’ a rhoi yn ei le ‘gynnwys yng nghylch gorchwyl y Comisiwn ar
Lywodraethu Gwasanaethau Cyhoeddus y diffyg atebolrwydd democrataidd presennol
yn y GIG ac a fyddai modd mynd i'r afael â hyn drwy:’
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
16 |
0 |
34 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu
is-bwynt d) a rhoi yn ei le:
‘rôl
y Cynulliad Cenedlaethol ac awdurdodau lleol yn nhrefniadau atebolrwydd
ariannol GIG Cymru.’
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 2:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
16 |
0 |
34 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant
3 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu
is-bwynt d)
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 3:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
26 |
8 |
16 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys
is-bwynt d) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
‘mabwysiadu
manyleb safonol o’r sgiliau, y profiad a’r doniau a fyddai’n ofynnol i aelodau
sy’n cael eu hethol i bwyllgorau gwaith Cynghorau Iechyd Cymuned;’
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 4:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
16 |
8 |
26 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant
5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu
is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
‘gofyniad
ar fyrddau iechyd lleol i gyhoeddi manylion pob eitem o wariant sy’n fwy na
£500 (ar wahân i gostau staff unigol) ar-lein ar gyfer craffu cyhoeddus’.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 5:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
16 |
0 |
34 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant
6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu
is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
‘rôl
mudiadau’r trydydd sector i wella atebolrwydd y GIG i bobl Cymru.’
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 6:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
46 |
0 |
4 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5224
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r cylch gwaith i'r Comisiwn ar Lywodraethu
Gwasanaethau Cyhoeddus o fynd i'r afael â'r diffyg atebolrwydd democrataidd
presennol yn y GIG drwy ystyried:
a)
etholiadau uniongyrchol i Fyrddau Iechyd Lleol;
b)
goruchwylio democrataidd o drefniadau cydweithio a chyllideb gyfun rhwng
Byrddau Iechyd ac awdurdodau lleol;
c)
ethol defnyddwyr gwasanaethau i Gynghorau Iechyd Cymuned; a
d)
rôl mudiadau’r trydydd sector i wella atebolrwydd y GIG i bobl Cymru.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 24/04/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5213 Jocelyn Davies
(Dwyrain De Cymru)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn
gresynu’n ddirfawr at anghydraddoldeb ar sail rhyw a'i fwlch cyflog parhaol ac
yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth tymor hir i fynd i'r afael â
stereoteipio o ran rhyw.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 - William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys
pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn
cefnogi cynlluniau Llywodraeth y DU i roi grym i Dribiwnlysoedd Cyflogaeth
orfodi archwiliadau cyflog ar gyflogwyr y ceir eu bod wedi gwahaniaethu ar sail
rhyw mewn materion tâl cytundebol neu anghytundebol.
Gwelliant 2 - William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys
pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu’r sefyllfa ddiweddaraf am y camau a
gymerir ganddi i fynd i’r afael â’r bwlch rhwng y rhywiau ym maes
entrepreneuriaeth yng Nghymru.
Gwelliant 3 - William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys
pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn
nodi argymhelliad Adroddiad Davies ‘Women on Boards’ y dylai Byrddau FTSE 100
anelu at leiafswm o 25% o gynrychiolaeth fenywaidd erbyn 2015 ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ymgynghori â busnesau Cymreig i gynyddu nifer y menywod mewn
swyddi uwch reoli.
Gellir
canfod Adroddiad Davies ‘Women on Boards’ drwy ddilyn y linc a ganlyn:
http://www.bis.gov.uk//assets/biscore/business-law/docs/w/12-p135-women-on-boards-2012.pdf
Gwelliant 4 - William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys
pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn
croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU am gynllun newydd ar gyfer gofal plant di-dreth
i deuluoedd sy’n gweithio ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio ffyrdd, yn
ogystal â Dechrau’n Deg, i gynorthwyo menywod i fynd yn ôl i’r gwaith ym mhob
rhan o Gymru.
Gwelliant 5 - William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys
pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn
cydnabod polisi Llywodraeth y DU i ddarparu adnoddau ar gyfer 5,000 o
fentoriaid busnes gwirfoddol ar gyfer menywod i roi cefnogaeth effeithiol i
fenywod sydd eisiau dechrau eu busnesau eu hunain neu dyfu eu busnesau, ac yn
galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda’r trydydd sector i ddatblygu cynllun
o’r fath.
Gwelliant 6 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
croesawu’r camau gan Lywodraeth y DU i symud cydbwysedd cyfrifoldeb drwy absenoldeb
rhieni ar y cyd, a fydd yn creu mwy o hyblygrwydd i rieni ac yn helpu i fynd
i'r afael â gwahaniaethu yn erbyn menywod yn y gweithle, ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gydweithio â busnesau yng Nghymru i sicrhau y gallant addasu
i'r trefniadau newydd.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 16.58
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5213
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn gresynu’n
ddirfawr at anghydraddoldeb
ar sail rhyw a'i fwlch cyflog
parhaol ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ddatblygu strategaeth
tymor hir i fynd i'r afael
â stereoteipio o ran rhyw.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
36 |
0 |
14 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 17/04/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5202 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i:
a)
adolygu'r rheolau caffael mewn llywodraeth leol i'w gwneud
yn haws i gwmnïau a busnesau lleol gynnig am waith a gwasanaethau a darparu cyrsiau hyfforddi i swyddogion caffael mewn awdurdodau lleol;
b)
gweithio gydag
awdurdodau lleol i ddenu cyfleoedd cyflogaeth newydd a sicrhau cymaint o gyflogaeth leol â phosibl pan fydd prosiectau seilwaith mawr ar y gweill;
ac
c)
darparu rhagor
o adnoddau i awdurdodau lleol gynnal a chadw eu rhwydwaith
ffyrdd mewn cyflwr da.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys is-bwynt
a) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
‘amlinellu ei
ymrwymiad i gefnogi busnesau lleol i gynnig am gontractau llywodraeth leol;’
Gwelliant
2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys ar
ddiwedd is-bwynt b):
‘gan sicrhau
bod y sector preifat lleol,
gan gynnwys mentrau cymdeithasol, yn cymryd rhan
lawn yn y broses hon’
Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu 'ffyrdd’
yn is-bwynt c) a rhoi ‘trafnidiaeth’ yn ei le
Gwelliant
4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys ar
ddiwedd is-bwynt c):
‘a sicrhau bod ei
phrosiectau rhwydwaith ffyrdd ei hun
yn dangos yr arfer gorau
i awdurdodau lleol, gan osgoi gorwario
diangen a sicrhau gwerth am arian’
Gwelliant
5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
‘cyflwyno deddfwriaeth
i ddatblygu economïau lleol drwy roi
pwerau ychwanegol i awdurdodau lleol adfywio canol trefi,
ysgogi creu swyddi yn lleol
a chaniatáu i awdurdodau lleol gadw rhywfaint
o’r arian a ddaw o ardrethi busnes er mwyn
ysgogi twf economaidd.’
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 16.31
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5202
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i:
a)
adolygu'r rheolau caffael mewn llywodraeth leol i'w gwneud
yn haws i gwmnïau a busnesau lleol gynnig am waith a gwasanaethau a darparu cyrsiau hyfforddi i swyddogion caffael mewn awdurdodau lleol;
b)
gweithio gydag
awdurdodau lleol i ddenu cyfleoedd cyflogaeth newydd a sicrhau cymaint o gyflogaeth leol â phosibl pan fydd prosiectau seilwaith mawr ar y gweill;
ac
c)
darparu rhagor
o adnoddau i awdurdodau lleol gynnal a chadw eu rhwydwaith
ffyrdd mewn cyflwr da.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
49 |
0 |
5 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 06/03/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5179 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Mae’r Cynulliad
Cenedlaethol hwn:
1.
Yn cydnabod effaith gymhleth ond negyddol yn
bennaf diffyg twf economaidd a newidiadau i fudd-daliadau lles ar fenywod
a theuluoedd yng Nghymru fel y nodwyd
yn adroddiad Sefydliad Bevan ‘Women, work and the recession in Wales';
2.
Yn nodi rhybudd
Sefydliad Jospeh Rowntree fod Cymru
yn wynebu degawd o dlodi;
3.
Yn credu bod Llywodraeth y DU wedi dilyn y llwybr economaidd anghywir ers 2010, gan roi
menywod a theuluoedd mewn perygl; a
4.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithredu argymhellion Cuts Watch
Cymru i liniaru ar effeithiau newidiadau
mewn budd-daliadau tai i deuluoedd ac i ddatblygu cynllun i gefnogi menywod ifanc i gyflogaeth briodol sy’n talu'n
dda er mwyn
diwallu eu hanghenion.
Gellir gweld
adroddiad Sefydliad Bevan drwy ddilyn y linc
a ganlyn:
http://www.bevanfoundation.org/publications/women-work-and-the-recession-in-wales/
Gellir gweld
argymhellion Cuts Watch Cymru
drwy ddilyn y linc a ganlyn:
http://cutswatchcymru.wordpress.com/2013/02/22/cuts-watch-cymru-lauch-housing-action-paper/
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt
1 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod
y camau y mae
Llywodraeth y DU wedi’u cymryd i fynd i’r
afael ag anghydraddoldeb yn y system budd-daliadau gan sicrhau na all neb ennill mwy ar
fudd-daliadau nag y mae teulu cyffredin yn ei ennill
drwy fynd allan i weithio.
Gwelliant
2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys ar
ddiwedd pwynt 2: ‘ac yn nodi ymhellach
y rhwystrau at waith a nodwyd yn flaenorol
gan Sefydliad Joseph Rowntree a bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio’r ysgogiadau economaidd sydd ganddi i ysgogi
economi Cymru a chefnogi teuluoedd Cymru’
Gwelliant
3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys pwynt
3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn croesawu’r
gwaith y mae Llywodraeth y DU wedi’i wneud i sicrhau bod mwy o fenywod nag erioed o’r blaen
mewn gwaith ar draws y DU gyda chwarter miliwn yn fwy o fenywod
mewn gwaith nag a oedd adeg yr
etholiad diwethaf.
Gwelliant
4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt
3 a rhoi yn ei le:
Yn nodi
bod Llywodraeth y DU yn cymryd y camau angenrheidiol i leihau’r diffyg strwythurol ac yn helpu teuluoedd
gyda chostau byw drwy gymryd
camau fel torri’r dreth incwm
i 25 miliwn o bobl.
Gwelliant
5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt
4 a rhoi yn ei le:
Yn credu
bod Llywodraeth Cymru a rhai awdurdodau lleol wedi aros
tan yn bryderus o hwyr i baratoi tenantiaid ar gyfer
newidiadau i’r budd-dal tai ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys
i fynd i’r afael â hyn.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 16:43
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5179 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Mae’r Cynulliad
Cenedlaethol hwn:
1.
Yn cydnabod effaith gymhleth ond negyddol yn
bennaf diffyg twf economaidd a newidiadau i fudd-daliadau lles ar fenywod
a theuluoedd yng Nghymru fel y nodwyd
yn adroddiad Sefydliad Bevan ‘Women, work and the recession in Wales';
2.
Yn nodi rhybudd
Sefydliad Jospeh Rowntree fod Cymru
yn wynebu degawd o dlodi;
3.
Yn credu bod Llywodraeth y DU wedi dilyn y llwybr economaidd anghywir ers 2010, gan roi
menywod a theuluoedd mewn perygl; a
4.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithredu argymhellion Cuts Watch
Cymru i liniaru ar effeithiau newidiadau
mewn budd-daliadau tai i deuluoedd ac i ddatblygu cynllun i gefnogi menywod ifanc i gyflogaeth briodol sy’n talu'n
dda er mwyn
diwallu eu hanghenion.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
32 |
0 |
16 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 27/02/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5170 Jocelyn Davies
(Dwyrain De Cymru)
Cynnig
bod y Cynulliad Cenedlaethol:
1.Yn
gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cynllunio’r gweithlu yn y
GIG yn gadarn a digonol i gwrdd ag anghenion poblogaeth Cymru dros y tymor hir;
a
2.Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r prinder meddygon drwy gyflwyno
rhaglen o gymhellion ariannol i gynyddu hyfforddiant meddygon mewn ardaloedd
lle y mae prinder neu lle y rhagwelir hynny.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys
pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo’r pwyntiau’n unol â hynny:
Yn
nodi arolwg y Cyngor Meddygol Cyffredinol o feddygon iau yng Nghymru a oedd yn
datgelu anghysonderau mawr yn safon yr hyfforddiant meddygol mewn ysbytai yng
Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn meddyginiaethau a
thechnegau meddygol sy’n fwy modern, i wella’r hyfforddiant a’r cyfleoedd
addysgol i feddygon iau yn ysbytai Cymru a denu rhagor o staff meddygol i
Gymru.
Gellir
gweld Arolwg y Cyngor Meddygol Cyffredinol drwy ddilyn y linc a ganlyn:
http://www.gmc-uk.org/National_training_survey_2012_key_findings_report.pdf_49280407.pdf
Gwelliant 2 - William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Ym
mhwynt 2 dileu ‘gyflwyno’ a rhoi ‘ystyried cyflwyno’ yn ei le
Gwelliant 3 - William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
nodi y gallai’r pwysau ariannol sydd ar GIG Cymru ar hyn o bryd gyfrannu at
sialensiau recriwtio.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 16.32
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5170 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol:
1.Yn gresynu
at fethiant Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cynllunio’r gweithlu yn y GIG yn gadarn
a digonol i gwrdd ag anghenion poblogaeth
Cymru dros y tymor hir; a
2.Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r
afael â’r prinder meddygon drwy gyflwyno rhaglen
o gymhellion ariannol i gynyddu hyfforddiant meddygon mewn ardaloedd
lle y mae prinder neu lle
y rhagwelir hynny.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
6 |
0 |
43 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt
newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo’r
pwyntiau’n unol â hynny:
Yn nodi
arolwg y Cyngor Meddygol Cyffredinol o feddygon iau yng
Nghymru a oedd yn datgelu anghysonderau
mawr yn safon
yr hyfforddiant meddygol mewn ysbytai
yng Nghymru ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn meddyginiaethau a thechnegau meddygol sy’n fwy
modern, i wella’r hyfforddiant
a’r cyfleoedd addysgol i feddygon iau yn ysbytai
Cymru a denu rhagor o staff meddygol i Gymru.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
24 |
0 |
25 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt
2 dileu ‘gyflwyno’ a rhoi ‘ystyried cyflwyno’ yn ei
le
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
13 |
0 |
36 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant
3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi y gallai’r pwysau ariannol sydd ar GIG Cymru
ar hyn o bryd gyfrannu at sialensiau recriwtio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 3:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
18 |
0 |
31 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio,
ac wedi gwrthod y gwelliannau i’r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.
Cyfarfod: 23/01/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5146 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn cydnabod ac yn dathlu cyfraniad
enfawr y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol i economi a diwylliant Cymru.
2.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau llwyddiant parhaus y sectorau hyn drwy:
a)
adolygu gweithrediad
adroddiad Hargreaves, 'Calon
Cymru Ddigidol’, i sicrhau
bod ei pholisïau’n berthnasol a chyfoes, yn benodol o ran datblygu system breindaliadau hawliau perfformio i Gymru; a
b)
sicrhau bod Cyngor Celfyddydau Cymru yn adolygu ei
strategaeth ar ffurfiau celf yn
ystod 2013 ac yn rhoi sylw llawn
i’r angen i gynyddu cyfranogaeth yn y celfyddydau, annog pobl ifanc
i ymgysylltu â chreadigrwydd,
hyrwyddo rhagoriaeth artistig yn y Gymraeg
a’r Saesneg a gosod Cymru ar lwyfan y byd.
Gellir dod o hyd i adroddiad Hargreaves ‘Calon Cymru
Ddigidol’ drwy fynd i:
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn edrych
ymlaen at weld adroddiad yr ymchwiliad gan
Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i Gyfranogiad yn y Celfyddydau yng Nghymru yn cael
ei gyhoeddi.
Gwelliant
2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad am y cynnydd a wnaed yng nghyswllt
argymhellion 4, 12, 19, 22 a 23 ymchwiliad
Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i’r Rhagolygon ar gyfer Dyfodol
y Cyfryngau yng Nghymru.
Gellir gweld
adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen drwy ddilyn y linc
a ganlyn:
Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i wella argaeledd seilwaith digidol sy’n gallu cefnogi’r
celfyddydau a diwydiannau creadigol drwy gynyddu’r mynediad at fand eang cyflym
a gwella mynediad at sianeli Cymreig drwy deledu digidol.
Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu
y bydd mwy o gyfranogiad yn y celfyddydau yn creu sylfaen gynaliadwy
ar gyfer y Diwydiannau Creadigol yn y dyfodol ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddatblygu
cynllun gweithredu ar gyfer cyfranogi
sy’n cynnwys llywodraeth leol, y sector gwirfoddol a Chyrff a Noddir gan Lywodraeth
Cymru.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.32
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5146 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn cydnabod ac yn dathlu cyfraniad
enfawr y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol i economi a diwylliant Cymru.
2.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau llwyddiant parhaus y sectorau hyn drwy:
a)
adolygu gweithrediad
adroddiad Hargreaves, ‘Calon
Cymru Ddigidol’, i sicrhau bod ei pholisïau’n berthnasol a chyfoes, yn benodol
o ran datblygu system breindaliadau
hawliau perfformio i Gymru; a
b)
sicrhau bod Cyngor Celfyddydau Cymru yn adolygu
ei strategaeth ar ffurfiau celf
yn ystod 2013 ac yn rhoi sylw
llawn i’r angen i gynyddu cyfranogaeth yn y celfyddydau, annog pobl ifanc i ymgysylltu
â chreadigrwydd, hyrwyddo rhagoriaeth artistig yn Gymraeg a’r
Saesneg a gosod Cymru ar lwyfan
y byd.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
33 |
0 |
17 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 09/01/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5129 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol:
1.
Yn dathlu bod y Gymraeg yn rhan
annatod a hanfodol o ddiwylliant a threftadaeth Cymru ac yn croesawu
bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi codi
mewn nifer o ardaloedd nad
ydynt yn rhai traddodiadol;
2.
Yn gresynu’n arw wrth y gostyngiad
yn nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg a gofnodwyd yng Nghyfrifiad 2011;
3.
Yn nodi bod angen gweithredu ar unwaith i wneud
iawn am y gostyngiad a sicrhau dyfodol Cymru fel cenedl
ddwyieithog;
4.
Yn gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth y DU i dorri rhagor ar gyllideb
S4C dros y ddwy flynedd nesaf a hithau’n adeg pan ddylai pawb fod
yn blaenoriaethu cefnogaeth ar gyfer
yr iaith; a
5.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu’r canlynol, er mwyn cefnogi’r
chwe ardal strategol ar gyfer
gweithredu a nodir yn ‘Iaith fyw:
iaith byw’:
a)
hybu a chefnogi
mentergarwch gan siaradwyr Cymraeg, yn enwedig yn
yr ardaloedd hynny lle mae’r
iaith yn dal i gael ei siarad
yn eang;
b)
buddsoddi mewn seilwaith, yn enwedig band eang, i gefnogi cymunedau a diwydiannau creadigol sy’n siarad Cymraeg;
c)
rhoi’r safonau
Cymraeg arfaethedig ar sail gyfreithiol;
d)
hybu twf
a defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, gan ddechrau gydag
awdurdodau cyhoeddus a gweithio gyda’r sector preifat;
e)
sicrhau canlyniadau
gwell ar gyfer addysgu’r Gymraeg fel ail iaith i oedolion ac i blant;
f)
cynllunio a hybu’r achos dros
ddatganoli darlledu a datganoli swyddi darlledu yn fewnol;
g)
diwygio’r system gynllunio er mwyn
i awdurdodau lleol allu osod cap ar
nifer yr ail gartrefi mewn lleoliadau
penodol; a
h)
ymchwilio i sut y gall polisïau caffael gefnogi’r gweithlu a’r gymuned
leol i ddefnyddio’r Gymraeg a hybu defnyddio polisïau o’r fath.
Mae
‘Iaith fyw: iaith byw’ ar
gael yn:
http://wales.gov.uk/topics/welshlanguage/publications/wlstrategy2012/?skip=1&lang=cy
Mae
canlyniadau cyfrifiad 2011 ar gael yn:
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt
newydd ar ôl pwynt 3 ac ail-rifo yn unol
â hynny:
Yn gresynu
nad yw
Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Nodyn
Cyngor Technegol (TAN) 20 newydd er i'r
ymgynghoriad ar y nodyn technegol newydd ddod i ben ym mis Mehefin
2011.
Gellir gweld
yr ymgynghoriad ar Nodyn Cyngor
Technegol Drafft 20 yn:
http://wales.gov.uk/consultations/planning/tan20consultation/?skip=1&lang=cy
Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt
newydd ar ôl pwynt 3 ac ail-rifo yn unol
â hynny:
Yn llongyfarch
Comisiynydd y Gymraeg ar yr ymgynghoriad
trylwyr a chynhwysfawr a gynhaliodd parthed y safonau Cymraeg arfaethedig ac yn cefnogi'r safonau fel y'u cyhoeddwyd
ganddi ym mis Tachwedd 2012.
Gellir gweld
y safonau a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg yn:
Gwelliant
3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt
4 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod
pwysigrwydd S4C modern ac effeithlon
ac yn croesawu cefnogaeth barhaus Llywodraeth y DU i’r darlledwr ar adeg
pan fo penderfyniadau
gwariant anodd yn gorfod cael
eu gwneud.
Gwelliant
4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt
5 a rhoi yn ei le:
Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i ddangos y camau gweithredu y mae’n eu cymryd
er mwyn cefnogi’r
chwe ardal strategol ar gyfer
gweithredu a nodir yn “Iaith Fyw:
Iaith Byw” ac yn benodol i:
(a)
hyrwyddo a chefnogi entrepreneuriaeth ymysg Cymry Cymraeg;
(b)
annog twf
y Gymraeg a’r defnydd ohoni yn
y gweithle a hyrwyddo’r defnydd o Nod Siarter Cymraeg i gydnabod gwasanaethau Cymraeg o ansawdd uchel;
(c)
hyrwyddo manteision
economaidd sgiliau dwyieithog mewn ardaloedd economaidd difreintiedig;
(d)
ymchwilio i sut gall polisïau caffael gefnogi’r defnydd o’r Gymraeg;
(e)
ystyried rhinweddau
gosod y safonau Cymraeg arfaethedig, ar ôl eu
cytuno, ar sail statudol;
(f)
buddsoddi mewn seilwaith, yn enwedig band eang, i gefnogi’r defnydd o’r Gymraeg
yn y diwydiannau creadigol ac mewn bywyd bod dydd mewn cymunedau;
(g)
archwilio pam nad oes rhagor
o bobl ifanc yn ystyried eu
bod yn gallu siarad Cymraeg ar ôl degawd
o ddysgu Cymraeg yn orfodol mewn
ysgolion, ac i sicrhau gwell canlyniadau ar gyfer dysgu
Cymraeg fel ail iaith;
(h)
adrodd ar
lefel y pwys a roddir gan bob awdurdod lleol ar dwf a chynaliadwyedd
y defnydd o'r Gymraeg wrth wneud
penderfyniadau cynllunio yn eu hardaloedd;
(i)
archwilio pa feysydd o’r diwydiant
darlledu yng Nghymru a allai fod yn atebol
i Lywodraeth Cymru ac i Lywodraeth y DU ac yna dadlau’r achos dros rannu cyfrifoldeb
[Os
derbynnir gwelliant 4, bydd gwelliannau 5 a 6 yn cael eu
dad-ddethol]
Gwelliant
5 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt
5 a rhoi yn ei le:
Yn nodi
gweledigaeth Llywodraeth Cymru o weld y Gymraeg yn ffynnu, ynghyd
â’r chwe maes gweithredu
a amlinellir yn Strategaeth y Gymraeg 2012-17, Iaith Fyw: Iaith
Byw, sef:
a)
annog a chefnogi'r
defnydd o'r Gymraeg o fewn teuluoedd;
b)
cynyddu’r ddarpariaeth o weithgareddau Cymraeg ar gyfer
plant a phobl ifanc a chynyddu eu hymwybyddiaeth
o werth yr iaith;
c)
cryfhau safle’r
Gymraeg o fewn y gymuned;
d)
cynyddu cyfleoedd
i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle;
e)
gwella gwasanaethau
Cymraeg ar gyfer dinasyddion; ac
f)
cryfhau’r seilwaith ar gyfer
yr iaith, gan gynnwys technoleg
ddigidol.
[Os
derbynnir gwelliant 4 neu 5, bydd gwelliant
6 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant
6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys ar
ddiwedd pwynt 5 g):
‘a gosod asesiadau
iaith annibynnol ar sail statudol drwy ddeddfwriaeth sylfaenol.’
Gwelliant
7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw
ar Weinidogion Cymru i weithredu ar eu haddewid
i brif-ffrydio’r Gymraeg ar draws holl weithgareddau
Llywodraeth Cymru drwy:
(a)
mynnu bod corff annibynnol yn cynnal adolygiad
cyflawn o holl wariant y Llywodraeth ac i asesu’r berthynas rhwng y gwariant hwnnw a’r Gymraeg
- sef mesur ôl-troed ieithyddol y gwariant - ac, o hyn ymlaen, cynnal asesiad effaith iaith cyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru bob blwyddyn;
(b)
cynnwys lles
y Gymraeg fel rhan o’r diffiniad
statudol o ddatblygu cynaliadwy yn y Bil Datblygu Cynaliadwy
arfaethedig; ac
(c)
sefydlu marchnad
lafur cyfrwng Cymraeg a fydd yn cynnwys monitro’r
angen am weithlu cyfrwng Cymraeg mewn sectorau a lleoliadau ledled Cymru a chynllunio i ateb y galw am weithlu â sgiliau iaith Gymraeg, gan gynnwys sicrhau
cynllun hyfforddiant uchelgeisiol Cymraeg yn y gweithle.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.03
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5129
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol:
1. Yn dathlu
bod y Gymraeg yn rhan annatod a hanfodol o ddiwylliant a threftadaeth Cymru ac yn croesawu bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi codi
mewn nifer o ardaloedd nad ydynt
yn rhai traddodiadol;
2. Yn gresynu’n
arw wrth y gostyngiad yn nifer
a chanran y siaradwyr Cymraeg a gofnodwyd yng Nghyfrifiad 2011;
3. Yn nodi
bod angen gweithredu ar unwaith i wneud
iawn am y gostyngiad a sicrhau dyfodol Cymru fel cenedl
ddwyieithog;
4. Yn gresynu
wrth benderfyniad Llywodraeth y DU i dorri rhagor ar gyllideb
S4C dros y ddwy flynedd nesaf a hithau’n adeg pan ddylai pawb fod
yn blaenoriaethu cefnogaeth ar gyfer
yr iaith; a
5. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu’r canlynol, er mwyn
cefnogi’r chwe ardal strategol ar gyfer gweithredu
a nodir yn ‘Iaith fyw: iaith
byw’:
a) hybu a chefnogi mentergarwch gan siaradwyr Cymraeg,
yn enwedig yn yr ardaloedd
hynny lle mae’r iaith yn
dal i gael ei siarad yn eang;
b) buddsoddi mewn seilwaith, yn enwedig band eang, i gefnogi cymunedau a diwydiannau creadigol sy’n siarad Cymraeg;
c) rhoi’r safonau Cymraeg arfaethedig ar sail gyfreithiol;
d) hybu twf a defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle,
gan ddechrau gydag awdurdodau cyhoeddus a gweithio gyda’r sector preifat;
e) sicrhau canlyniadau gwell ar gyfer addysgu’r
Gymraeg fel ail iaith i oedolion ac i blant;
f) cynllunio a hybu’r achos dros
ddatganoli darlledu a datganoli swyddi darlledu yn fewnol;
g) diwygio’r system gynllunio er mwyn
i awdurdodau lleol allu osod cap ar
nifer yr ail gartrefi mewn lleoliadau
penodol; a
h) ymchwilio i sut y gall polisïau caffael gefnogi’r gweithlu a’r gymuned
leol i ddefnyddio’r Gymraeg a hybu defnyddio polisïau o’r fath.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
9 |
0 |
44 |
53 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ail-rifo yn unol â
hynny:
Yn gresynu nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Nodyn
Cyngor Technegol (TAN) 20 newydd er i'r ymgynghoriad ar y nodyn technegol
newydd ddod i ben ym mis Mehefin 2011.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
26 |
0 |
27 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ail-rifo yn unol â
hynny:
Yn llongyfarch Comisiynydd y Gymraeg ar yr ymgynghoriad
trylwyr a chynhwysfawr a gynhaliodd parthed y safonau Cymraeg arfaethedig ac yn
cefnogi'r safonau fel y'u cyhoeddwyd ganddi ym mis Tachwedd 2012.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
26 |
0 |
27 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3
- William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei
le:
Yn cydnabod pwysigrwydd S4C modern ac effeithlon
ac yn croesawu cefnogaeth barhaus Llywodraeth y DU i’r darlledwr ar adeg
pan fo penderfyniadau gwariant anodd yn gorfod cael
eu gwneud.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
17 |
0 |
36 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant
4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt
5 a rhoi yn ei le:
Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i ddangos y camau gweithredu y mae’n eu cymryd
er mwyn cefnogi’r
chwe ardal strategol ar gyfer
gweithredu a nodir yn “Iaith Fyw:
Iaith Byw” ac yn benodol i:
(a)
hyrwyddo a chefnogi entrepreneuriaeth ymysg Cymry Cymraeg;
(b)
annog twf y Gymraeg a’r defnydd
ohoni yn y gweithle a hyrwyddo’r defnydd o Nod Siarter Cymraeg i gydnabod gwasanaethau Cymraeg o ansawdd uchel;
(c)
hyrwyddo manteision economaidd sgiliau dwyieithog mewn ardaloedd economaidd difreintiedig;
(d)
ymchwilio i sut gall polisïau caffael gefnogi’r defnydd o’r Gymraeg;
(e)
ystyried rhinweddau gosod y safonau Cymraeg arfaethedig, ar ôl eu
cytuno, ar sail statudol;
(f)
buddsoddi mewn seilwaith, yn enwedig
band eang, i gefnogi’r defnydd o’r Gymraeg
yn y diwydiannau creadigol ac mewn bywyd bod dydd mewn cymunedau;
(g)
archwilio pam nad oes rhagor o bobl
ifanc yn ystyried eu bod yn gallu siarad
Cymraeg ar ôl degawd o ddysgu
Cymraeg yn orfodol mewn ysgolion,
ac i sicrhau gwell canlyniadau ar gyfer dysgu Cymraeg
fel ail iaith;
(h)
adrodd ar lefel y pwys a roddir gan bob awdurdod lleol ar dwf a chynaliadwyedd
y defnydd o'r Gymraeg wrth wneud
penderfyniadau cynllunio yn eu hardaloedd;
(i)
archwilio pa feysydd o’r diwydiant darlledu
yng Nghymru a allai fod yn
atebol i Lywodraeth Cymru ac i Lywodraeth y DU ac yna dadlau’r achos
dros rannu cyfrifoldeb
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
12 |
0 |
41 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5
- Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei
le:
Yn nodi gweledigaeth
Llywodraeth Cymru o weld y Gymraeg yn ffynnu,
ynghyd â’r chwe maes gweithredu
a amlinellir yn Strategaeth y Gymraeg 2012-17, Iaith Fyw: Iaith
Byw, sef:
a) annog
a chefnogi'r defnydd o'r Gymraeg o fewn
teuluoedd;
b) cynyddu’r
ddarpariaeth o weithgareddau
Cymraeg ar gyfer plant a phobl ifanc a chynyddu eu hymwybyddiaeth o werth yr iaith;
c) cryfhau
safle’r Gymraeg o fewn y gymuned;
d) cynyddu
cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle;
e) gwella
gwasanaethau Cymraeg ar gyfer dinasyddion;
ac
f) cryfhau’r
seilwaith ar gyfer yr iaith,
gan gynnwys technoleg ddigidol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
39 |
0 |
14 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Derbyniwyd gwelliant 5, felly cafodd gwelliant 6 ei
ddad-ddethol.
Gwelliant
7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw
ar Weinidogion Cymru i weithredu ar eu haddewid
i brif-ffrydio’r Gymraeg ar draws holl weithgareddau
Llywodraeth Cymru drwy:
(a)
mynnu bod corff annibynnol yn cynnal
adolygiad cyflawn o holl wariant y Llywodraeth ac i asesu’r berthynas rhwng y gwariant hwnnw a’r Gymraeg - sef
mesur ôl-troed ieithyddol y gwariant - ac, o hyn ymlaen, cynnal
asesiad effaith iaith cyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru bob blwyddyn;
(b)
cynnwys lles y Gymraeg fel rhan
o’r diffiniad statudol o ddatblygu cynaliadwy yn y Bil Datblygu Cynaliadwy
arfaethedig; ac
(c)
sefydlu marchnad lafur cyfrwng Cymraeg
a fydd yn cynnwys monitro’r angen am weithlu cyfrwng Cymraeg mewn sectorau a lleoliadau ledled Cymru a chynllunio i ateb y galw am weithlu â sgiliau iaith Gymraeg, gan gynnwys sicrhau
cynllun hyfforddiant uchelgeisiol Cymraeg yn y gweithle.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
25 |
1 |
27 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5129
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol:
1. Yn dathlu
bod y Gymraeg yn rhan annatod a hanfodol o ddiwylliant a threftadaeth Cymru ac yn croesawu bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi codi
mewn nifer o ardaloedd nad ydynt
yn rhai traddodiadol;
2. Yn gresynu’n
arw wrth y gostyngiad yn nifer
a chanran y siaradwyr Cymraeg a gofnodwyd yng Nghyfrifiad 2011;
3. Yn nodi
bod angen gweithredu ar unwaith i wneud
iawn am y gostyngiad a sicrhau dyfodol Cymru fel cenedl
ddwyieithog;
4. Yn gresynu
wrth benderfyniad Llywodraeth y DU i dorri rhagor ar gyllideb
S4C dros y ddwy flynedd nesaf a hithau’n adeg pan ddylai pawb fod
yn blaenoriaethu cefnogaeth ar gyfer
yr iaith; a
5. Yn
nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru o weld y Gymraeg yn ffynnu,
ynghyd â’r chwe maes gweithredu
a amlinellir yn Strategaeth y Gymraeg 2012-17, Iaith Fyw: Iaith
Byw, sef:
a) annog
a chefnogi'r defnydd o'r Gymraeg o fewn
teuluoedd;
b) cynyddu’r
ddarpariaeth o weithgareddau
Cymraeg ar gyfer plant a phobl ifanc a chynyddu eu hymwybyddiaeth o werth yr iaith;
c) cryfhau
safle’r Gymraeg o fewn y gymuned;
d) cynyddu
cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle;
e) gwella
gwasanaethau Cymraeg ar gyfer dinasyddion;
ac
f) cryfhau’r
seilwaith ar gyfer yr iaith,
gan gynnwys technoleg ddigidol.
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
27 |
17 |
9 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 05/12/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5115 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu wrth y lefel uchel barhaus o bobl ifanc sy’n ddi-waith;
2. Yn croesawu cytundeb Llywodraeth Cymru i ddarparu £20m ychwanegol ar gyfer 2013-14, a swm dangosol tebyg ar gyfer 2014-15, i gyllido prentisiaethau a chyfleoedd hyfforddi ychwanegol i bobl ifanc 16-24 oed;
3. Yn cydnabod bod angen rhoi rhagor o gymhellion i gyflogwyr bach a chanolig gynnig prentisiaethau sy’n gallu cynnig amrywiaeth o sgiliau i bobl ifanc.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn mynegi pryder nad yw cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru yn sicrhau’n ddigonol bod swyddi’n cael eu creu’n barhaol i bobl ifanc.
[Os
derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei
ddad-ddethol]
Gwelliant 2 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn nodi nad yw’n glir yn union pa raglenni’r Llywodraeth fydd yn cael eu hehangu, na pha raglenni newydd fydd yn cael eu creu, o ganlyniad i gytundeb Llywodraeth Cymru i ddarparu cyllid ychwanegol ar gyfer cyfleoedd hyfforddi a phrentisiaethau, ac felly’n galw ar y Llywodraeth i wneud datganiad cyn gynted â phosibl ynghylch sut y mae’n bwriadu dyrannu’r arian hwn.
Gwelliant 3 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu bod diweithdra ymysg pobl ifanc yn uwch yng Nghymru (43%) nag yn Lloegr (39%) yn 2011/12.
Gwelliant 4 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 3:
‘, gan gynnwys, o bosibl, grantiau hyfforddi i fusnesau sy’n cyflogi pobl ifanc ddi-waith’
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth y ffaith, o dan un Llywodraeth Cymru ar ôl y llall ers datganoli, nad yw canran y bobl ifanc rhwng 18 a 24 oed sy’n hawlio budd-dal diweithdra erioed wedi bod o dan ffigur cyfartalog y DU.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17:23
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM5115 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu wrth y lefel uchel barhaus o bobl ifanc sy’n ddi-waith;
2. Yn croesawu cytundeb Llywodraeth Cymru i ddarparu £20m ychwanegol ar gyfer 2013-14, a swm dangosol tebyg ar gyfer 2014-15, i gyllido prentisiaethau a chyfleoedd hyfforddi ychwanegol i bobl ifanc 16-24 oed;
3. Yn cydnabod bod angen rhoi rhagor o gymhellion i gyflogwyr bach a chanolig gynnig prentisiaethau sy’n gallu cynnig amrywiaeth o sgiliau i bobl ifanc.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
34 |
0 |
18 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig
heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 21/11/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5099 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd hollbwysig cyllideb yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer dyfodol y Polisi Amaethyddol Cyffredin a chronfeydd rhanbarthol; a
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i beidio â hybu na chytuno ar unrhyw ostyngiad yn y gyllideb Ewropeaidd a fydd yn golygu effaith andwyol ar Gymru a’n gallu i gryfhau economi Cymru.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 2, dileu popeth ar ôl ‘Lywodraeth y DU’ a rhoi yn ei le ‘i negodi cyllideb gadarn ac effeithlon i ddiwallu anghenion ariannol Cymru, gan sicrhau economi sefydlog sy’n cefnogi cyllid y Polisi Amaethyddol Cyffredin a chyllid rhanbarthol.’
Gwelliant 2 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod Cymru, er ei bod wedi cael mwy na £6 biliwn mewn cyllid Undeb Ewropeaidd rhwng 2000 a 2008, wedi mynd yn gymharol dlotach ac yn dal i fod yn un o’r rhanbarthau tlotaf yn yr Undeb Ewropeaidd.
Gwelliant 3 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â defnyddio cyllid yr Undeb Ewropeaidd er budd pobl Cymru.
Gwelliant 4 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod y trafodaethau ar y cylch nesaf o Bolisi Amaethyddol Cyffredin yr Undeb Ewropeaidd mewn cyfnod allweddol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio’i dylanwad i sicrhau bod budd cenedlaethol hirdymor, yn hytrach na chyfleustra gwleidyddol tymor byr, yn pennu’r agwedd at gyllideb gyffredinol yr Undeb Ewropeaidd.
Gwelliant 5 - William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i rewi cyllideb yr Undeb Ewropeaidd ar lefel gynaliadwy a chyflawni’r fargen orau i drethdalwyr Cymru.
Gwelliant 6 - William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu mai’r ffordd orau y caiff buddiannau Cymru eu gwasanaethu mewn trafodaethau ar gyllideb yr Undeb Ewropeaidd yw trwy fod yn aelod o’r Deyrnas Unedig.
Gwelliant 7 - William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn annog Llywodraeth Cymru i wneud defnydd llawn o gronfeydd strwythurol y dyfodol i ddatblygu economi gref a chynaliadwy yng Nghymru.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.55
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio:
NDM5099 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd mawr cyllideb yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer dyfodol y Polisi Amaethyddol Cyffredin a chronfeydd rhanbarthol; a
2.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyflwyno
sylwadau i Lywodraeth y DU
i beidio â hybu na chytuno
ar unrhyw ostyngiad yn y gyllideb Ewropeaidd a fydd yn cael
effaith andwyol ar Gymru a’n
gallu i gryfhau economi Cymru.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
34 |
0 |
18 |
52 |
Derbyniwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 14/11/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5091 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r cynnydd diweddar mewn prisiau ynni ac yn gresynu wrth yr effaith a gaiff hyn ar bob aelwyd yng Nghymru, yn enwedig y rheini sy’n dlawd o ran tanwydd;
2. Yn gresynu bod Llywodraeth y DU wedi methu â rheoleiddio’r farchnad ynni i ddiogelu’r rheini sy’n byw mewn tlodi tanwydd; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio cynllun i uwchraddio sgoriau effeithlonrwydd ynni holl stoc tai Cymru, gan flaenoriaethu’r rheini sy’n dlawd o ran tanwydd.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
[Os
derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei
ddad-ddethol]
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn nodi Bargen Werdd Llywodraeth y DU a fydd:
a) yn sicrhau, o dan y Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni newydd, ei bod yn ofynnol i gwmnïau ynni ganolbwyntio eu cymorth ar y cartrefi tlotaf a mwyaf agored i niwed, yn ogystal â’r rheini mewn eiddo sy’n anodd eu trin sy’n methu â gwneud arbedion ariannol heb rywfaint o gymorth;
b) yn sicrhau y bydd llawer o bobl yn gallu ad-dalu costau cychwynnol gwaith inswleiddio eu cartrefi drwy gyfrwng biliau is o ganlyniad i welliannau i’w cartrefi; ac
c) yn sicrhau bod cwmnïau ynni’n cyfathrebu â’u cwsmeriaid i wneud yn siŵr eu bod ar y tariff mwyaf addas yn unol â’u hanghenion;
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu cynlluniau Llywodraeth y DU i ddefnyddio’r Bil Ynni sydd yn yr arfaeth i ddeddfu ar dariffau isel ar gyfer pob cwsmer.
Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ym mhwynt 3, dileu ‘lunio cynllun i uwchraddio sgoriau effeithlonrwydd ynni holl’ a rhoi yn ei le ‘adeiladu ar y gwaith y mae’n ei wneud eisoes i uwchraddio sgoriau effeithlonrwydd ynni’
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru)
Cynnwys fel pwynt 3 newydd ac ailrifo’r pwyntiau sy'n dilyn:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio ar y cyd â Bargen Werdd Llywodraeth y DU i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi yng Nghymru.
Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi mai’r cynnydd sylweddol ym mhris cyfanwerthu nwy sy’n bennaf cyfrifol am y codiadau diweddar mewn prisiau ynni, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i fynd ar drywydd dulliau amgen o gynhyrchu ynni adnewyddadwy er budd y cyhoedd yng Nghymru ac i ddiogelu ffynonellau ynni’r wlad.
Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu’n arw fod nifer y cartrefi mewn tlodi tanwydd yng Nghymru wedi codi o 28% i 33.5% rhwng 2008 a 2011.
Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth y DU yn cyflwyno’r Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni i helpu’r rheini sydd fwyaf mewn angen ac ar gyfer eiddo sy’n anos eu trin, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei chynlluniau effeithlonrwydd ynni ei hun yn cyd-fynd â’r Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni yn hytrach na’i dyblygu’n ddiangen.
Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn annog Llywodraeth Cymru i fanteisio i’r eithaf ar bolisi Bargen Werdd Llywodraeth y DU.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16:52
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau
o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM5091 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r cynnydd diweddar mewn prisiau ynni ac yn gresynu wrth yr effaith a gaiff hyn ar bob aelwyd yng Nghymru, yn enwedig y rheini sy’n dlawd o ran tanwydd;
2. Yn gresynu bod Llywodraeth y DU wedi methu â rheoleiddio’r farchnad ynni i ddiogelu’r rheini sy’n byw mewn tlodi tanwydd; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio cynllun i uwchraddio sgoriau effeithlonrwydd ynni holl stoc tai Cymru, gan flaenoriaethu’r rheini sy’n dlawd o ran tanwydd.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
7 |
0 |
39 |
46 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn nodi Bargen Werdd Llywodraeth y DU a fydd:
a) yn sicrhau, o dan y Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni newydd, ei bod yn ofynnol i gwmnïau ynni ganolbwyntio eu cymorth ar y cartrefi tlotaf a mwyaf agored i niwed, yn ogystal â’r rheini mewn eiddo sy’n anodd eu trin sy’n methu â gwneud arbedion ariannol heb rywfaint o gymorth;
b) yn sicrhau y bydd llawer o bobl yn gallu ad-dalu costau cychwynnol gwaith inswleiddio eu cartrefi drwy gyfrwng biliau is o ganlyniad i welliannau i’w cartrefi; ac
c) yn sicrhau bod cwmnïau ynni’n cyfathrebu â’u cwsmeriaid i wneud yn siwr eu bod ar y tariff mwyaf addas yn unol â’u hanghenion;
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
28 |
10 |
7 |
45 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ym mhwynt 3, dileu ‘lunio cynllun i uwchraddio sgoriau effeithlonrwydd ynni holl’ a rhoi yn ei le ‘adeiladu ar y gwaith y mae’n ei wneud eisoes i uwchraddio sgoriau effeithlonrwydd ynni’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
31 |
0 |
15 |
46 |
Derbyniwyd
gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Cynnwys fel pwynt 3 newydd ac ailrifo’r pwyntiau sy'n dilyn:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio ar y cyd â Bargen Werdd Llywodraeth y DU i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
46 |
0 |
0 |
46 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi mai’r cynnydd sylweddol ym mhris cyfanwerthu nwy sy’n bennaf cyfrifol am y codiadau diweddar mewn prisiau ynni, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i fynd ar drywydd dulliau amgen o gynhyrchu ynni adnewyddadwy er budd y cyhoedd yng Nghymru ac i ddiogelu ffynonellau ynni’r wlad.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
36 |
10 |
0 |
46 |
Derbyniwyd
gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu’n arw fod nifer y cartrefi mewn tlodi tanwydd yng Nghymru wedi codi o 28% i 33.5% rhwng 2008 a 2011.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
21 |
0 |
24 |
45 |
Gwrthodwyd
gwelliant 6.
Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth y DU yn cyflwyno’r Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni i helpu’r rheini sydd fwyaf mewn angen ac ar gyfer eiddo sy’n anos eu trin, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei chynlluniau effeithlonrwydd ynni ei hun yn cyd-fynd â’r Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni yn hytrach na’i dyblygu’n ddiangen.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
39 |
0 |
7 |
46 |
Derbyniwyd
gwelliant 7.
Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn annog Llywodraeth Cymru i fanteisio i’r eithaf ar bolisi Bargen Werdd Llywodraeth y DU.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
45 |
0 |
1 |
46 |
Derbyniwyd
gwelliant 8.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5091 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r cynnydd diweddar mewn prisiau ynni ac yn gresynu wrth yr effaith a gaiff hyn ar bob aelwyd yng Nghymru, yn enwedig y rheini sy’n dlawd o ran tanwydd;
2. Yn nodi Bargen Werdd Llywodraeth y DU a fydd:
a) yn sicrhau, o dan y Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni newydd, ei bod yn ofynnol i gwmnïau ynni ganolbwyntio eu cymorth ar y cartrefi tlotaf a mwyaf agored i niwed, yn ogystal â’r rheini mewn eiddo sy’n anodd eu trin sy’n methu â gwneud arbedion ariannol heb rywfaint o gymorth;
b) yn sicrhau y bydd llawer o bobl yn gallu ad-dalu costau cychwynnol gwaith inswleiddio eu cartrefi drwy gyfrwng biliau is o ganlyniad i welliannau i’w cartrefi; ac
c) yn sicrhau bod cwmnïau ynni’n cyfathrebu â’u cwsmeriaid i wneud yn siwr eu bod ar y tariff mwyaf addas yn unol â’u hanghenion;
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio ar y cyd â Bargen Werdd Llywodraeth y DU i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi yng Nghymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adeiladu ar y gwaith y mae’n ei wneud eisoes i uwchraddio sgoriau effeithlonrwydd ynni stoc tai Cymru, gan flaenoriaethu’r rheini sy’n dlawd o ran tanwydd.
5. Yn nodi mai’r cynnydd sylweddol ym mhris cyfanwerthu nwy sy’n bennaf cyfrifol am y codiadau diweddar mewn prisiau ynni, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i fynd ar drywydd dulliau amgen o gynhyrchu ynni adnewyddadwy er budd y cyhoedd yng Nghymru ac i ddiogelu ffynonellau ynni’r wlad.
6. Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth y DU yn cyflwyno’r Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni i helpu’r rheini sydd fwyaf mewn angen ac ar gyfer eiddo sy’n anos eu trin, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei chynlluniau effeithlonrwydd ynni ei hun yn cyd-fynd â’r Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni yn hytrach na’i dyblygu’n ddiangen.
7. Yn annog Llywodraeth Cymru i fanteisio i’r eithaf ar bolisi Bargen Werdd Llywodraeth y DU.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
36 |
0 |
10 |
46 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 07/11/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5086 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod:
a) Llywodraeth Cymru wedi dynodi mai partneriaethau gwella ysgolion rhanbarthol yw’r ateb ar gyfer mynd i’r afael â’r methiant systematig ym myd addysg;
b) y cynllun bandio ar gyfer ysgolion uwchradd wedi dynodi bod angen gwella ysgolion ym Mandiau 4 a 5 ar fyrder;
2. Yn gresynu nad oedd yr holl bartneriaethau gwella ysgolion rhanbarthol ar waith erbyn mis Medi 2012 fel yr addawyd; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod:
a) y consortia addysg rhanbarthol ar waith yn llawn cyn gynted â phosibl; a
b) bod yr ysgolion a roddwyd yn y bandiau is yn cael y cymorth angenrheidiol ar unwaith i fynd i’r afael â methiant systematig.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 1 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn nodi’r gwaith pwysig y mae penaethiaid, athrawon a llywodraethwyr yn ei
wneud o ddydd i ddydd i sicrhau’r addysg orau bosibl i’n plant.
Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Yn is-bwynt 1a, ar ôl ‘partneriaethau gwella ysgolion rhanbarthol’,
ychwanegu ‘, ynghyd â’r diwygiadau addysgol eraill a gefnogir gan y cynllun
gweithredu i wella ysgolion a lansiwyd yn ddiweddar a chydweithredu effeithiol
ehangach rhwng gwasanaethau cyhoeddus,’
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ym mhwynt 1b, dileu popeth ar ôl ‘ysgolion uwchradd,’ a rhoi'r canlynol yn
ei le:
yn ddiffygiol iawn, ac nad oes gan athrawon, rhieni na disgyblion hyder
ynddo.
Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 2.
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro pam y methwyd â rhoi partneriaethau
gwella ysgolion rhanbarthol ar waith cyn y dyddiad a bennwyd.
Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ym mhwynt 3a, dileu popeth ar ôl ‘rhanbarthol,’ a rhoi'r canlynol yn ei le:
yn cynnwys ymgeiswyr o’r safon uchaf bosibl ac yn gwbl weithredol cyn
gynted â phosibl ac, os nad yw hyn yn bosibl yn y chwe mis nesaf, bod rôl y
consortia addysg rhanbarthol yn nyfodol system addysg Cymru yn cael ei
hadolygu.
Gwelliant 7 -Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi sut y gallai gweithredu’r Grant Amddifadedd Disgyblion yn
llwyddiannus gael effaith fuddiol ar gyrhaeddiad mewn ysgolion.
Gwelliant 8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag ysgolion, athrawon a
phartneriaethau gwella ysgolion i sicrhau bod y Grant Amddifadedd Disgyblion yn
cael ei ddefnyddio yn y modd gorau posibl, er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn
gallu cyflawni ei botensial.
Gwelliant 9 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â gweithredu pecyn cymorth
helaeth a gwahaniaethol ar gyfer ysgolion uwchradd ym Mandiau 4 a 5 y mae angen
eu gwella ar frys.
Gwelliant 10 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi nad yw 96.5 y cant o benaethiaid ysgolion cynradd yng Nghymru yn
credu y bydd cynigion ar gyfer bandio ysgolion o fudd i’w hysgol, ac yn credu y
gallai diffyg cefnogaeth o’r fath gan y sector i un o bolisïau allweddol
Llywodraeth Cymru gael effaith negyddol ar unrhyw agenda i wella ysgolion.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.21
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5086 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod:
a) Llywodraeth Cymru wedi dynodi mai partneriaethau gwella ysgolion rhanbarthol yw’r ateb ar gyfer mynd i’r afael â’r methiant systematig ym myd addysg;
b) y cynllun bandio ar gyfer ysgolion uwchradd wedi dynodi bod angen gwella ysgolion ym Mandiau 4 a 5 ar fyrder;
2. Yn gresynu nad oedd yr holl bartneriaethau gwella ysgolion rhanbarthol ar waith erbyn mis Medi 2012 fel yr addawyd; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod:
a) y consortia addysg rhanbarthol ar waith yn llawn cyn gynted â phosibl; a
b) bod yr ysgolion a roddwyd yn y bandiau is yn cael y cymorth angenrheidiol ar unwaith i fynd i’r afael â methiant systematig.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
6 |
0 |
35 |
41 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 1 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn nodi’r gwaith pwysig y mae penaethiaid, athrawon a llywodraethwyr yn ei wneud o ddydd i ddydd i sicrhau’r addysg orau bosibl i’n plant.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
39 |
0 |
2 |
41 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Yn is-bwynt 1a, ar ôl ‘partneriaethau gwella ysgolion rhanbarthol’, ychwanegu ‘, ynghyd â’r diwygiadau addysgol eraill a gefnogir gan y cynllun gweithredu i wella ysgolion a lansiwyd yn ddiweddar a chydweithredu effeithiol ehangach rhwng gwasanaethau cyhoeddus,’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
27 |
0 |
14 |
41 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru)
Ym mhwynt 1b, dileu popeth ar ôl ‘ysgolion uwchradd,’ a rhoi'r canlynol yn ei le:
yn ddiffygiol iawn, ac nad oes gan athrawon, rhieni na disgyblion hyder ynddo.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
14 |
0 |
27 |
41 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
21 |
0 |
19 |
40 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro pam y methwyd â rhoi partneriaethau gwella ysgolion rhanbarthol ar waith cyn y dyddiad a bennwyd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
20 |
0 |
21 |
41 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru)
Ym mhwynt 3a, dileu popeth ar ôl ‘rhanbarthol,’ a rhoi'r canlynol yn ei le:
yn cynnwys ymgeiswyr o’r safon uchaf bosibl ac yn gwbl weithredol cyn gynted â phosibl ac, os nad yw hyn yn bosibl yn y chwe mis nesaf, bod rôl y consortia addysg rhanbarthol yn nyfodol system addysg Cymru yn cael ei hadolygu.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
35 |
0 |
5 |
40 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 -Aled Roberts (Gogledd
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi sut y gallai gweithredu’r Grant Amddifadedd Disgyblion yn llwyddiannus gael effaith fuddiol ar gyrhaeddiad mewn ysgolion.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
24 |
6 |
10 |
40 |
Derbyniwyd gwelliant 7.
Gwelliant 8 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag ysgolion, athrawon a phartneriaethau gwella ysgolion i sicrhau bod y Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei ddefnyddio yn y modd gorau posibl, er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn gallu cyflawni ei botensial.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
40 |
0 |
0 |
40 |
Derbyniwyd gwelliant 8.
Gwelliant 9 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â gweithredu pecyn cymorth helaeth a gwahaniaethol ar gyfer ysgolion uwchradd ym Mandiau 4 a 5 y mae angen eu gwella ar frys.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
20 |
0 |
21 |
41 |
Gwrthodwyd gwelliant 9.
Gwelliant 10 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi nad yw 96.5% o benaethiaid ysgolion cynradd yng Nghymru yn credu y bydd cynigion ar gyfer bandio ysgolion o fudd i’w hysgol, ac yn credu y gallai diffyg cefnogaeth o’r fath gan y sector i un o bolisïau allweddol Llywodraeth Cymru gael effaith negyddol ar unrhyw agenda i wella ysgolion.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
14 |
0 |
27 |
41 |
Gwrthodwyd gwelliant 10.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5086 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r gwaith pwysig y mae penaethiaid, athrawon a llywodraethwyr yn ei wneud o ddydd i ddydd i sicrhau’r addysg orau bosibl i’n plant.
2. Yn nodi bod:
a) Llywodraeth Cymru wedi dynodi mai partneriaethau gwella ysgolion rhanbarthol ynghyd â’r diwygiadau addysgol eraill a gefnogir gan y cynllun gweithredu i wella ysgolion a lansiwyd yn ddiweddar a chydweithredu effeithiol ehangach rhwng gwasanaethau cyhoeddus yw’r ateb ar gyfer mynd i’r afael â’r methiant systematig ym myd addysg;
b) y cynllun bandio ar gyfer ysgolion uwchradd wedi dynodi bod angen gwella ysgolion ym Mandiau 4 a 5 ar fyrder;
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod:
a) y consortia addysg rhanbarthol yn cynnwys ymgeiswyr o’r safon uchaf bosibl ac yn gwbl weithredol cyn gynted â phosibl ac, os nad yw hyn yn bosibl yn y chwe mis nesaf, bod rôl y consortia addysg rhanbarthol yn nyfodol system addysg Cymru yn cael ei hadolygu.
b) bod yr ysgolion a roddwyd yn y bandiau is yn cael y cymorth angenrheidiol ar unwaith i fynd i’r afael â methiant systematig.
4. Yn nodi sut y gallai gweithredu’r Grant Amddifadedd Disgyblion yn llwyddiannus gael effaith fuddiol ar gyrhaeddiad mewn ysgolion.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag ysgolion, athrawon a phartneriaethau gwella ysgolion i sicrhau bod y Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei ddefnyddio yn y modd gorau posibl, er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn gallu cyflawni ei botensial.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
35 |
0 |
6 |
41 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 24/10/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 9.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5074 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi dull Llywodraeth Cymru o reoli adnoddau naturiol yng Nghymru, sef ar lefel yr ecosystem.
2. Yn cydnabod gwerth y dull rheoli ar lefel yr ecosystem i fusnesau ac i gymunedau, yn ogystal â’i fanteision i fioamrywiaeth.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau bod y dull rheoli ar lefel yr ecosystem yn cael ei ddefnyddio ar draws Llywodraeth Cymru; a
b) hyrwyddo gwerth y dull rheoli ar lefel yr ecosystem i'r cyhoedd yng Nghymru ac i fusnesau yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Mewnosod ar
ddiwedd pwynt 1:
“yn ogystal â gwerth dull rheoli llwyddiannus ar lefel yr
ecosystem i economi Cymru.”
Gwelliant 2 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Ychwanegu fel
pwynt 3b) newydd ac ailrifo’r pwyntiau sy'n dilyn:
hybu'r defnydd o’r dull rheoli ar lefel yr ecosystem ar draws pob lefel o lywodraeth yng Nghymru, yn cynnwys llywodraeth leol, ac ymgysylltu â dinasyddion lleol drwy ddarparu rhagor o wybodaeth am faterion ymarferol y dull rheoli newydd ar lefel yr ecosystem er mwyn gallu defnyddio gwybodaeth leol;
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 3:
datblygu dealltwriaeth gyffredin o’r dull o reoli ar lefel yr
ecosystem gyda rhanddeiliaid,
yn ogystal â darparu rhagor o fanylion ynghylch sut y dylid cyflawni’r
dull gweithredu’n ymarferol
drwy Gorff Adnoddau Naturiol Cymru
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 3:
sicrhau pan fydd y sector preifat yn cyflenwi gwasanaethau ecosystem ei fod yn cael ei dalu’n briodol am y gwaith cyflenwi hwnnw
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.54
Gorhiriwyd y bleidlais ar y cynnig tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5074 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi dull Llywodraeth Cymru o reoli adnoddau naturiol yng Nghymru, sef ar lefel yr ecosystem.
2. Yn cydnabod gwerth y dull rheoli ar lefel yr ecosystem i fusnesau a chymunedau, yn ogystal â’i fanteision i fioamrywiaeth.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau bod y dull rheoli ar lefel yr ecosystem yn cael ei ddefnyddio ar draws Llywodraeth Cymru; a
b) hyrwyddo gwerth y dull rheoli ar lefel yr ecosystem i'r cyhoedd ac i fusnesau yng Nghymru.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
32 |
0 |
16 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 10/10/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5059
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd masnachfraint Prif Reilffordd Arfordir y Gorllewin i wasanaethau rheilffyrdd yng ngogledd Cymru ac yn cydnabod blerwch Llywodraeth y DU wrth ddelio â masnachfraint Prif Reilffordd Arfordir y Gorllewin yn ddiweddar.
2. Yn nodi bod gan Lywodraeth y DU swyddogaeth gydlofnodi o hyd ym masnachfraint Cymru a’r Gororau.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ceisio cyfrifoldeb llawn dros adnewyddu masnachfraint Cymru a’r Gororau;
b) ceisio datganoli’r gyllideb a’r pwerau dros y seilwaith rheilffyrdd; ac
c) sicrhau bod model di-elw yn cael ei greu ar gyfer masnachfraint Cymru a’r Gororau.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ym mhwynt 1, dileu popeth ar ôl ‘Cymru’.
Yn unol â Rheol Sefydlog
12.23 (iii), ni ddewiswyd Gwelliant
2 a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Dileu pwynt 3.
[Os derbynnir gwelliant 3 bydd gwelliant 4, 5 a 6 yn cael eu
dad-ddethol]
Gwelliant 4 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Dileu 3c) a rhoi yn ei le “archwilio’r holl ddewisiadau ar gyfer masnachfraint Cymru a’r Gororau gan gynnwys model busnes di-elw posibl”
[Os derbynnir gwelliant 4 bydd gwelliant 5 yn cael ei
ddad-ddethol]
Gwelliant 5 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Yn is-bwynt 3c), dileu ‘sicrhau bod model di-elw yn cael ei greu’ a rhoi yn ei le ‘archwilio’r posibilrwydd o greu model di-elw’
Gwelliant 6 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3):
Yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod prif reilffordd gogledd Cymru yn cael ei thrydaneiddio erbyn diwedd Cyfnod Rheoli 6.
Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ymroddiad Llywodraeth y DU i Gymru drwy ei hymrwymiad i drydaneiddio Prif Reilffordd y Great Western i Abertawe a thrydaneiddio rheilffyrdd Cymoedd y De.
Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi pa mor bwysig yw bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r dulliau sydd ar gael iddi i wneud y mwyaf o fanteision trydaneiddio’r rheilffyrdd.
Gwelliant 9 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â Llywodraeth y DU ynghylch y posibilrwydd o drydaneiddio’r rheilffyrdd yng ngogledd Cymru yn y dyfodol.
Gwelliant 10 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio’r posibilrwydd o ddefnyddio’r broses dendro i sicrhau buddsoddiad yn ansawdd cerbydau a’r seilwaith.
Gwelliant 11 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod Prif Reilffordd Arfordir y Gorllewin a’r Rheilffordd HS2 newydd yn hanfodol ar gyfer gwella gwasanaethau i ranbarth Gogledd Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod gwasanaethau i Ogledd Cymru yn cael eu hatgyfnerthu yn y dyfodol.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16:33
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio:
NDM5059
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd masnachfraint Prif Reilffordd Arfordir y Gorllewin i wasanaethau rheilffyrdd yng ngogledd Cymru ac yn cydnabod blerwch Llywodraeth y DU wrth ddelio â masnachfraint Prif Reilffordd Arfordir y Gorllewin yn ddiweddar.
2. Yn nodi bod gan Lywodraeth y DU swyddogaeth gydlofnodi o hyd ym masnachfraint Cymru a’r Gororau.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ceisio cyfrifoldeb llawn dros adnewyddu masnachfraint Cymru a’r Gororau;
b) ceisio datganoli’r gyllideb a’r pwerau dros y seilwaith rheilffyrdd; a
c) sicrhau bod model di-elw yn cael
ei greu ar
gyfer masnachfraint Cymru a’r Gororau.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
8 |
0 |
43 |
51 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ym mhwynt 1, dileu popeth ar ôl ‘Cymru’.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
17 |
0 |
34 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Yn unol â Rheol Sefydlog
12.23 (iii), ni ddewiswyd
Gwelliant 2 a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Dileu pwynt 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
12 |
0 |
39 |
51 |
Gwrthodwyd
gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Dileu 3c) a rhoi yn ei le “archwilio’r holl ddewisiadau ar gyfer masnachfraint Cymru a’r Gororau gan gynnwys model busnes di-elw posibl”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
43 |
0 |
8 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gan fod gwelliant 4 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 5 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 6 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3):
Yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod prif reilffordd gogledd Cymru yn cael ei thrydaneiddio erbyn diwedd Cyfnod Rheoli 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ymroddiad Llywodraeth y DU i Gymru drwy ei hymrwymiad i drydaneiddio Prif Reilffordd y Great Western i Abertawe a thrydaneiddio rheilffyrdd Cymoedd y De.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
17 |
0 |
34 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi pa mor bwysig yw bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r dulliau sydd ar gael iddi i wneud y mwyaf o fanteision trydaneiddio’r rheilffyrdd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 8.
Gwelliant 9 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â Llywodraeth y DU ynghylch y posibilrwydd o drydaneiddio’r rheilffyrdd yng ngogledd Cymru yn y dyfodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 9.
Gwelliant 10 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio’r posibilrwydd o ddefnyddio’r broses dendro i sicrhau buddsoddiad yn ansawdd cerbydau a’r seilwaith.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 10.
Gwelliant 11 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod Prif Reilffordd Arfordir y Gorllewin a’r Rheilffordd
HS2 newydd yn hanfodol ar gyfer
gwella gwasanaethau i ranbarth gogledd Cymru ac yn galw
ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod gwasanaethau i ogledd Cymru yn
cael eu hatgyfnerthu
yn y dyfodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 11:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd
gwelliant 11.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5059
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd masnachfraint Prif Reilffordd Arfordir y Gorllewin i wasanaethau rheilffyrdd yng ngogledd Cymru ac yn cydnabod blerwch Llywodraeth y DU wrth ddelio â masnachfraint Prif Reilffordd Arfordir y Gorllewin yn ddiweddar.
2. Yn nodi bod gan Lywodraeth y DU swyddogaeth gydlofnodi o hyd ym masnachfraint Cymru a’r Gororau.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ceisio cyfrifoldeb llawn dros adnewyddu masnachfraint Cymru a’r Gororau;
b) ceisio datganoli’r gyllideb a’r pwerau dros y seilwaith rheilffyrdd; ac
c) archwilio’r holl ddewisiadau ar gyfer masnachfraint Cymru a’r Gororau gan gynnwys model busnes di-elw posibl
d) yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod prif reilffordd gogledd Cymru yn cael ei thrydaneiddio erbyn diwedd Cyfnod Rheoli 6
4. Yn nodi pa mor bwysig yw bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r dulliau sydd ar gael iddi i wneud y mwyaf o fanteision trydaneiddio’r rheilffyrdd.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â Llywodraeth y DU ynghylch y posibilrwydd o drydaneiddio’r rheilffyrdd yng ngogledd Cymru yn y dyfodol.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio’r posibilrwydd o ddefnyddio’r broses dendro i sicrhau buddsoddiad yn ansawdd cerbydau a’r seilwaith.
7. Yn credu
bod Prif Reilffordd Arfordir y Gorllewin a’r Rheilffordd HS2 newydd yn hanfodol
ar gyfer gwella gwasanaethau i ranbarth gogledd Cymru ac yn galw
ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod gwasanaethau i ogledd Cymru yn
cael eu hatgyfnerthu
yn y dyfodol.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
46 |
0 |
5 |
51 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 26/09/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5050 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu adroddiad McClelland ‘Gwneud y Gorau o Bolisi Caffael Cymru’;
2. Yn cydnabod gwerth caffael cyhoeddus i economi Cymru;
3. Yn nodi bod diweithdra hirdymor ymhlith pobl ifanc wedi cynyddu bedair gwaith bron dros y flwyddyn ddiwethaf; a
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol er mwyn rhoi hwb i’r economi:
a) gwneud polisi caffael yn fwy agored i gwmnïau yng Nghymru; a
b) cynyddu gwariant ar brosiectau seilwaith.
Gellir gweld adroddiad McClelland ‘Gwneud y Gorau o Bolisi Caffael Cymru’ drwy fynd i:
http://cymru.gov.uk/docs/dpsp/publications/valuewales/120919mcclellandreviewfullfinalcy.pdf
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu is-bwynt 4b a rhoi yn ei le:
gweithio'n agos â Llywodraeth y DU i fanteisio i’r eithaf ar brosiectau seilwaith, fel trydaneiddio’r rhwydwaith rheilffyrdd.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:
gwneud prosesau caffael yn fwy agored i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru drwy ddadfwndelu contractau ar gyfer gwaith y Llywodraeth.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i hyrwyddo arferion gorau mewn prosesau caffael.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi pwysigrwydd diwydiant adeiladu Cymru wrth roi prentisiaethau i bobl ifanc yng Nghymru.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15:17
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio:
NDM5050 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu adroddiad McClelland ‘Gwneud y Gorau o Bolisi Caffael Cymru’;
2. Yn cydnabod gwerth caffael cyhoeddus i economi Cymru;
3. Yn nodi bod diweithdra hirdymor ymhlith pobl ifanc wedi cynyddu bedair gwaith bron dros y flwyddyn ddiwethaf; a
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol er mwyn rhoi hwb i’r economi:
a) gwneud polisi caffael yn fwy agored i gwmnïau yng Nghymru; a
b) cynyddu gwariant ar brosiectau seilwaith.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
36 |
0 |
16 |
52 |
Derbyniwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 11/07/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5035 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio modelau eraill dielw o berchnogaeth dros y rhwydwaith rheilffyrdd sy’n esgor ar y manteision mwyaf posibl i’r cyhoedd ac i deithwyr.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y rôl bwysig y mae perchnogion y rhwydwaith rheilffyrdd yn ei chwarae o ran cynyddu faint o nwyddau sy’n cael eu cludo'n fasnachol ar y rhwydwaith.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.19
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon
tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5035 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio modelau eraill dielw o berchnogaeth dros y rhwydwaith rheilffyrdd sy’n esgor ar y manteision mwyaf posibl i’r cyhoedd ac i deithwyr.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
33 |
4 |
12 |
49 |
Derbyniwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 04/07/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5027 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gwrthwynebu lleoli Trident, neu unrhyw arfau niwclear eraill, yn Aberdaugleddau neu yn unrhyw le arall yng Nghymru; a
2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i beidio â bwrw ymlaen i gael olynydd i Trident ac i ddefnyddio’r adnoddau a arbedwyd i greu swyddi.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn nodi nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw bwerau i benderfynu ble y lleolir arfau niwclear ac yn cydnabod mai mater i Lywodraeth y DU yw hyn.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.12
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant
o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM5027 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gwrthwynebu lleoli Trident, neu unrhyw arfau niwclear eraill, yn Aberdaugleddau neu yn unrhyw le arall yng Nghymru; a
2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i beidio â bwrw ymlaen i gael olynydd i Trident ac i ddefnyddio’r adnoddau a arbedwyd i greu swyddi.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
13 |
0 |
39 |
52 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn nodi nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw bwerau i benderfynu ble y lleolir arfau niwclear ac yn cydnabod mai mater i Lywodraeth y DU yw hyn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
39 |
0 |
13 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5027 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw bwerau i benderfynu ble y lleolir arfau niwclear ac yn cydnabod mai mater i Lywodraeth y DU yw hyn.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
44 |
0 |
8 |
52 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 13/06/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5003 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu’r syniadau ar gyfer dod ag adnoddau ynghyd a chydweithio i gryfhau economïau lleol fel y nodir yn ‘Cynllun Gwyrdd i’r Cymoedd.’
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar ffyrdd o ddatblygu rhaglen benodol i adfywio cymunedau a thrwy hynny sicrhau bod ganddynt ddyfodol economaidd ffyniannus a chynaliadwy.
Mae‘r ‘Cynllun Gwyrdd i’r Cymoedd’ ar gael drwy fynd i: http://www.plaidcymru.org/cynllun-gwyrdd-ir-cymoedd/?force=2
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
[os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael eu dad-ddethol]
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 1.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Dileu pwynt
1 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod bod ‘Cynllun
Gwyrdd i’r Cymoedd’ yn cydnabod
sefyllfa economaidd wael Cymoedd De Cymru.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cefnogi datblygu
‘metro’r Cymoedd’ ar gyfer rheilffyrdd
y Cymoedd a fydd yn helpu i adfywio
cymunedau yng nghymoedd de Cymru.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu
nad yw
‘Cynllun Gwyrdd i’r Cymoedd’ yn
mynd ati’n gynhwysfawr i archwilio sut y mae datblygu’r
sector preifat yng Nghymoedd De Cymru.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16:26.
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM5003 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu’r syniadau ar gyfer dod ag adnoddau ynghyd a chydweithio i gryfhau economïau lleol fel y nodir yn ‘Cynllun Gwyrdd i’r Cymoedd.’
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar ffyrdd o ddatblygu rhaglen benodol i adfywio cymunedau a thrwy hynny sicrhau bod ganddynt ddyfodol economaidd ffyniannus a chynaliadwy.
Mae‘r ‘Cynllun Gwyrdd i’r Cymoedd’ ar gael drwy fynd i: http://www.plaidcymru.org/cynllun-gwyrdd-ir-cymoedd/?force=2
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
8 |
0 |
35 |
43 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
26 |
0 |
17 |
43 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod bod ‘Cynllun Gwyrdd i’r Cymoedd’ yn cydnabod sefyllfa economaidd wael Cymoedd De Cymru.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd
gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cefnogi datblygu ‘metro’r Cymoedd’ ar gyfer rheilffyrdd y Cymoedd a fydd yn helpu i adfywio cymunedau yng nghymoedd de Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
43 |
0 |
0 |
43 |
Derbyniwyd
gwelliant 3.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad yw ‘Cynllun Gwyrdd i’r Cymoedd’ yn mynd ati’n gynhwysfawr i archwilio sut y mae datblygu’r sector preifat yng Nghymoedd De Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
35 |
0 |
8 |
43 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5003 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar ffyrdd o ddatblygu rhaglen benodol i adfywio cymunedau a thrwy hynny sicrhau bod ganddynt ddyfodol economaidd ffyniannus a chynaliadwy.
Mae‘r ‘Cynllun Gwyrdd i’r Cymoedd’ ar gael drwy fynd i: http://www.plaidcymru.org/cynllun-gwyrdd-ir-cymoedd/?force=2
2. Yn cefnogi datblygu ‘metro’r Cymoedd’ ar gyfer rheilffyrdd y Cymoedd a fydd yn helpu i adfywio cymunedau yng nghymoedd de Cymru.
3. Yn gresynu nad yw ‘Cynllun Gwyrdd i’r Cymoedd’ yn mynd ati’n gynhwysfawr i archwilio sut y mae datblygu’r sector preifat yng Nghymoedd De Cymru.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
42 |
0 |
0 |
42 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 30/05/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
Dadl Plaid Cymru
NDM5000 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cefnogi’r cais gan Nominet i Gorfforaeth y Rhyngrwyd ar gyfer Enwau a Rhifau a Neilltuir (ICANN) am ddau Barth Lefel Uchaf i Gymru, sef .cymru a .wales
2. Yn credu y bydd presenoldeb o’r fath ar y rhyngrwyd yn helpu i hyrwyddo Cymru yn rhyngwladol ac mewn twf e-fasnach; a
3. Yn galw ar Gomisiwn y Cynulliad i fabwysiadu’r ddau Barth Lefel Uchaf hyn cyn gynted ag y bo'n ymarferol.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ym mhwynt 3, dileu ‘Yn galw ar Gomisiwn' a rhoi yn ei le 'Yn galw ar Lywodraeth Cymru, ei hasiantaethau a Chomisiwn'
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Rhoi ar ddiwedd pwynt 3, ‘ac yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i annog cyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru i wneud yr un fath’.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y bydd presenoldeb o’r fath ar y rhyngrwyd yn annog y defnydd o’r Gymraeg mewn bywyd bob dydd.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16:05.
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio:
NDM5000 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cefnogi’r cais gan Nominet i Gorfforaeth y Rhyngrwyd ar gyfer Enwau a Rhifau a Neilltuir (ICANN) am ddau Barth Lefel Uchaf i Gymru, sef .cymru a .wales
2. Yn credu y bydd presenoldeb o’r fath ar y rhyngrwyd yn helpu i hyrwyddo Cymru yn rhyngwladol ac mewn twf e-fasnach; a
3. Yn galw ar Gomisiwn y Cynulliad i fabwysiadu’r ddau Barth Lefel Uchaf hyn cyn gynted ag y bo'n ymarferol.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
39 |
0 |
18 |
57 |
Derbyniwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 09/05/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Dadl Plaid Cymru
NDM4978 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi â phryder y cynnydd mewn ffigurau diweithdra, yn enwedig ymysg menywod, pobl ifanc a phobl ag anableddau.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt
(Bro Morgannwg)
Ychwanegu ar ddiwedd y cynnig ‘ac effaith y polisïau y mae Llywodraeth y DU yn eu dilyn ar ddiweithdra’.
Gwelliant 2 - Peter
Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu bod Llywodraeth y DU wedi cyflwyno’r Contract Ieuenctid sy’n cynnwys lleoliadau profiad gwaith gwirfoddol i bobl ifanc yng Nghymru, ac yn croesawu cymorth ariannol ychwanegol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Rhaglen Recriwtiaid Newydd.
Gwelliant 3 - William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod diweithdra yng Nghymru yn dal yn uwch na holl wledydd eraill y DU.
Gwelliant 4 - William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod diweithdra ieuenctid yng Nghymru wedi bod yn uwch na chyfradd y DU ym mhob blwyddyn er 2001 a bod 11.5 y cant o bobl ifanc rhwng 16 ac 18 oed a 23.2 y cant o bobl ifanc rhwng 19 a 24 oed yn cael eu dosbarthu ar hyn o bryd fel pobl nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant.
Gwelliant 5 - William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r datganiad gan y Ffederasiwn Busnesau Bach sy’n honni y gellid cyflogi pawb sy’n chwilio am swydd petai bob busnes bach a chanolig yn recriwtio un unigolyn arall.
Gellir gweld y datganiad o Faniffesto Cynlluniad y Ffederasiwn Busnesau Bach, Mawrth 2011 drwy fynd i:
http://www.fsb.org.uk/policy/rpu/wales/images/fsb%20wales%202011%20manifesto.pdf
Gwelliant 6 - William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n adeiladol gyda Llywodraeth y DU a’r gymuned fusnes i greu rhagor o gyfleoedd swyddi.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16:25.
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM4978 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi â phryder y cynnydd mewn ffigurau diweithdra, yn enwedig ymysg menywod, pobl ifanc a phobl ag anableddau.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
8 |
0 |
38 |
46 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ychwanegu ar ddiwedd y cynnig ‘ac effaith y polisïau y mae Llywodraeth y DU yn eu dilyn ar ddiweithdra’.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
31 |
0 |
15 |
46 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu bod Llywodraeth y DU wedi cyflwyno’r Contract Ieuenctid sy’n cynnwys lleoliadau profiad gwaith gwirfoddol i bobl ifanc yng Nghymru, ac yn croesawu cymorth ariannol ychwanegol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Rhaglen Recriwtiaid Newydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
5 |
11 |
30 |
46 |
Gwrthodwyd
gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod diweithdra yng Nghymru yn dal yn uwch na holl wledydd eraill y DU.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
38 |
0 |
8 |
46 |
Derbyniwyd
gwelliant 3.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod diweithdra ieuenctid yng Nghymru wedi bod yn uwch na chyfradd y DU ym mhob blwyddyn er 2001 a bod 11.5 y cant o bobl ifanc rhwng 16 ac 18 oed a 23.2 y cant o bobl ifanc rhwng 19 a 24 oed yn cael eu dosbarthu ar hyn o bryd fel pobl nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
46 |
0 |
0 |
46 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r datganiad gan y Ffederasiwn Busnesau Bach sy’n honni y gellid cyflogi pawb sy’n chwilio am swydd petai bob busnes bach a chanolig yn recriwtio un unigolyn arall.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
38 |
0 |
8 |
46 |
Derbyniwyd
gwelliant 5.
Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n adeiladol gyda Llywodraeth y DU a’r gymuned fusnes i greu rhagor o gyfleoedd swyddi.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
46 |
0 |
0 |
46 |
Derbyniwyd
gwelliant 6.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4978 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi â phryder y cynnydd mewn ffigurau diweithdra, yn enwedig ymysg menywod, pobl ifanc a phobl ag anableddau ac effaith y polisïau y mae Llywodraeth y DU yn eu dilyn ar ddiweithdra’.
2. Yn nodi bod diweithdra yng Nghymru yn dal yn uwch na holl wledydd eraill y DU.
3. Yn nodi bod diweithdra ieuenctid yng Nghymru wedi bod yn uwch na chyfradd y DU ym mhob blwyddyn er 2001 a bod 11.5 y cant o bobl ifanc rhwng 16 ac 18 oed a 23.2 y cant o bobl ifanc rhwng 19 a 24 oed yn cael eu dosbarthu ar hyn o bryd fel pobl nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant.
4. Yn nodi'r datganiad gan y Ffederasiwn Busnesau Bach sy’n honni y gellid cyflogi pawb sy’n chwilio am swydd petai bob busnes bach a chanolig yn recriwtio un unigolyn arall.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n adeiladol gyda Llywodraeth y DU a’r gymuned fusnes i greu rhagor o gyfleoedd swyddi.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
31 |
4 |
10 |
45 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 25/04/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Dadl Plaid Cymru
NDM4964 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod:
a) gwerth y gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol;
b) bod awdurdodau lleol yn hanfodol i gynaliadwyedd economïau lleol;
c) ei bod yn bwysig bod awdurdodau lleol yn gyflogwyr da, cyfrifol; a
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo arfer da ymysg awdurdodau lleol, gan gynnwys creu partneriaethau, sy’n diwallu anghenion lleol.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Yn is-bwynt 1b), dileu popeth ar ôl ‘awdurdodau lleol’ a rhoi yn ei le:
‘yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at economïau lleol, ond yn
credu bod yn rhaid i awdurdodau lleol ymgysylltu’n ehangach â'r sector annibynnol
a'r trydydd sector er mwyn sicrhau bod ffyniant economïau lleol yn gynaliadwy'
Gwelliant 2 - Peter
Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi pwysigrwydd ethol cynghorwyr sydd â gweledigaeth ar gyfer gwella gwasanaethau lleol er mwyn codi safonau.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.19.
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM4964 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod:
a) gwerth y gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol;
b) bod awdurdodau lleol yn hanfodol i gynaliadwyedd economïau lleol;
c) ei bod yn bwysig bod awdurdodau lleol yn gyflogwyr da, cyfrifol; a
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo arfer da ymysg awdurdodau lleol, gan gynnwys creu partneriaethau, sy’n diwallu anghenion lleol.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
34 |
0 |
17 |
51 |
Derbyniwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 28/03/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Dadl Plaid Cymru
NDM4953 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu bod cynnig Llywodraeth y DU i gyflwyno cyflogau rhanbarthol i’r sector cyhoeddus yn anghyfiawn i weithwyr, yn andwyol i economi Cymru ac yn niweidiol i fusnesau.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Andrew RT Davies (Canol
De Cymru)
Dileu’r cyfan
a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi
bod Llywodraeth Lafur flaenorol y DU wedi cyflwyno cyflogau rhanbarthol yn y gwasanaeth llysoedd yng Nghymru; a
2. Yn credu
y gallai sefydlu Cymru annibynnol arwain at lefelau cyflog is i weithwyr ledled Cymru, gan gynnwys y rheini
yn y sector cyhoeddus, ac y
byddai felly’n cael effaith debyg
i gyflwyno cyflogau rhanbarthol yng Nghymru.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi
bod Llywodraeth flaenorol y
DU wedi cyflwyno cyflogau rhanbarthol yn y gwasanaeth llysoedd.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio asesiad effaith
i roi hwb i’r achos dros
gynnal y strwythurau cyflog presennol.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cytuno
â’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes,
Arloesi a Sgiliau y byddai cyflog rhanbarthol
yn hollol anghywir ac amhriodol ac y gallai arwain at ostyngiadau cyflog mewn rhannau o’r
wlad lle mae incwm yn
gymharol isel, ac felly’n galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda’r Ysgrifennydd Gwladol i sicrhau na chaiff cyflogau
rhanbarthol eu cyflwyno.
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu
na fyddai annibyniaeth yn galluogi Cymru i elwa o raddfeydd cyflog sector cyhoeddus DU gyfan ac y byddai hynny mewn
gwirionedd yn arwain at gyflogau rhanbarthol.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.59.
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM4953 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu bod cynnig Llywodraeth y DU i gyflwyno cyflogau rhanbarthol i’r sector cyhoeddus yn anghyfiawn i weithwyr, yn andwyol i economi Cymru ac yn niweidiol i fusnesau.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
36 |
0 |
17 |
53 |
Derbyniwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 21/03/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Dadl Plaid Cymru
NDM4945 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu y byddai datganoli rhagor o bwerau yn helpu i sicrhau economi gynaliadwy a ffyniannus.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1- William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu
gwaith Comisiwn Silk ac yn disgwyl ei
argymhellion ar ragor o ddiwygio cyfansoddiadol.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod
bod economi gynaliadwy a ffyniannus yn galw
am:
a) strategaeth i hyrwyddo busnesau cynhenid ar y farchnad
ryngwladol; a
b) ymgysylltiad llawn â Llywodraeth y DU i hyrwyddo’r cwmnïau hynny o’r DU sydd
â sefydliadau yng Nghymru.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r
Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru a sefydlwyd gan lywodraeth y DU i edrych ar ddatblygiad
pellach o ran datganoli pwerau gan gynnwys
cyfrifoldeb ariannol.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.42.
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM4945 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu y byddai datganoli rhagor o bwerau yn helpu i sicrhau economi gynaliadwy a ffyniannus.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
33 |
0 |
17 |
50 |
Derbyniwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 14/03/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
Dadl Plaid Cymru
NDM4938 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu’r cynnydd sydd wedi cael ei wneud o ran sicrhau pwerau datganoledig ychwanegol yn dilyn y refferendwm llwyddiannus yn 2011;
2. Yn cydnabod y gefnogaeth eang ar gyfer rhagor o ddatganoli; a
3. Yn edrych ymlaen at ragor o ddatblygiadau o ran datganoli pwerau, gan gynnwys cyfrifoldeb ariannol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Cynnwys ar
ddiwedd pwynt 1:
‘, ond yn
gresynu wrth fethiant Llywodraeth bresennol Cymru i ddefnyddio potensial llawn y pwerau a roddwyd i’r Cynulliad Cenedlaethol
o ganlyniad i’r refferendwm yn 2011 ers yr etholiad
ym mis Mai 2011’;
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ym mhwynt
3, dileu popeth ar ôl ‘Yn
edrych ymlaen at’ a rhoi yn ei
le ‘gael argymhellion Comisiwn Silk, yn dilyn ei adolygiad
helaeth o faterion ariannol yng Nghymru.’
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r
Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru a sefydlwyd gan lywodraeth y DU i edrych ar ddatblygiad
pellach o ran datganoli pwerau gan gynnwys
cyfrifoldeb ariannol.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r
arolwg a gyhoeddwyd gan BBC Cymru / ICM sy’n dangos bod y rhan fwyaf o bobl yng
Nghymru yn cefnogi rhyw fath
o bwerau amrywio treth i Gymru.
Gellir gweld
canlyniadau’r arolwg drwy fynd i:
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.54.
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM4938 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu’r cynnydd sydd wedi cael ei wneud o ran sicrhau pwerau datganoledig ychwanegol yn dilyn y refferendwm llwyddiannus yn 2011;
2. Yn cydnabod y gefnogaeth eang ar gyfer rhagor o ddatganoli; a
3. Yn edrych ymlaen at ragor o ddatblygiadau o ran datganoli pwerau, gan gynnwys cyfrifoldeb ariannol.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
40 |
0 |
16 |
56 |
Derbyniwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 07/03/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7.)
Dadl Plaid Cymru
NDM4931 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i gyflwyno ysgogiad ariannol cynhwysfawr ar gyfer yr economi, sy’n cynnwys buddsoddiad cyfalaf a ddaw o ffrydiau ariannu y tu allan i’r grant bloc; a
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno pecyn o brosiectau cyfalaf a mesurau pellach i gefnogi busnesau ac i ddiogelu swyddi.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi’r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i gyflwyno pecyn ariannol cynhwysfawr er mwyn helpu i ysgogi’r economi, gan gynnwys darparu buddsoddiad cyfalaf, o ffynonellau traddodiadol a rhai nad ydynt yn draddodiadol; a
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ym mhwynt 2, ar ôl ‘pellach’, rhoi ‘, fel gwell seilwaith a lefelau sgiliau uwch,’.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 2:
'gan gynnwys diddymu ardrethi busnes ar gyfer cwmnïau hyd at werth ardrethol o £12,000’.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n agos gyda Llywodraeth y DU i wella economi Cymru.
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y gellid darparu ysgogiad economaidd cynhwysfawr pe bai gan y Cynulliad bwerau benthyca a rhagor o gyfrifoldeb ariannol, ac yn croesawu sefydlu Comisiwn Silk sy’n ymchwilio i’r posibilrwydd hwn.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17:05.
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM4931 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i gyflwyno ysgogiad ariannol cynhwysfawr ar gyfer yr economi, sy’n cynnwys buddsoddiad cyfalaf a ddaw o ffrydiau ariannu’r tu allan i’r grant bloc; a
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno pecyn o brosiectau cyfalaf a mesurau pellach i gefnogi busnesau ac i ddiogelu swyddi.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
9 |
0 |
44 |
53 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi’r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i gyflwyno pecyn ariannol cynhwysfawr er mwyn helpu i ysgogi’r economi, gan gynnwys darparu buddsoddiad cyfalaf, o ffynonellau traddodiadol a rhai nad ydynt yn draddodiadol; a
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
33 |
0 |
20 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ym mhwynt 2, ar ôl ‘pellach’, rhoi ‘, fel gwell seilwaith a lefelau sgiliau uwch,’.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd
gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 2:
'yn cynnwys diddymu ardrethi busnes ar gyfer cwmnïau hyd at werth ardrethol o £12,000’.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
12 |
0 |
41 |
53 |
Gwrthodwyd
gwelliant 3.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n agos â Llywodraeth y DU i wella economi Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y gellid darparu ysgogiad economaidd cynhwysfawr petai gan y Cynulliad bwerau benthyca a rhagor o gyfrifoldeb ariannol, ac yn croesawu sefydlu Comisiwn Silk sy’n ymchwilio i’r posibilrwydd hwn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
41 |
12 |
0 |
53 |
Derbyniwyd
gwelliant 5.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4931 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i gyflwyno pecyn ariannol cynhwysfawr er mwyn helpu i ysgogi’r economi, gan gynnwys darparu buddsoddiad cyfalaf, o ffynonellau traddodiadol a rhai nad ydynt yn draddodiadol.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno pecyn o brosiectau cyfalaf a mesurau pellach, fel gwell seilwaith a lefelau sgiliau uwch, i gefnogi busnesau ac i ddiogelu swyddi.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n agos â Llywodraeth y DU i wella economi Cymru.
4. Yn credu y gellid darparu ysgogiad economaidd cynhwysfawr petai gan y Cynulliad bwerau benthyca a rhagor o gyfrifoldeb ariannol, ac yn croesawu sefydlu Comisiwn Silk sy’n ymchwilio i’r posibilrwydd hwn.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
32 |
0 |
21 |
53 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 29/02/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Dadl Plaid Cymru
NDM4926 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y cyfraniad gwerthfawr a wneir i iechyd y wlad gan rwydwaith o Ysbytai Cyffredinol Dosbarth y GIG yn gweithio gyda Chanolfannau Arbenigol rhanbarthol;
2. Yn nodi bod Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi methu â chynnal ffydd y cyhoedd a chlinigwyr; a
3. Yn galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i:
a) cynnal rhwydwaith o Ysbytai Cyffredinol Dosbarth i sicrhau bod dinasyddion Cymru o fewn pellter diogel i’w gwasanaethau achub bywydau; a
b) cyfarwyddo Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Powys i weithio ar draws ffiniau gweinyddol i sicrhau bod anghenion meddygol a llawfeddygol pobl canolbarth Cymru yn cael eu diwallu’n ddiogel ac yn ddigonol gan Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Bronglais.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ym mhwynt
2, dileu popeth ar ôl "Dda"
a rhoi yn ei le:
"yn gweithio’n arloesol ac yn eang, er
bod ganddo waith i’w wneud eto,
i ymgysylltu ac egluro dyfodol gwasanaethau’r GIG i’r cyhoedd a chlinigwyr
yn ei ardal
leol; a"
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu fel
pwynt 3 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:
3. Yn nodi
ac yn llongyfarch y gwaith gwerthfawr a wneir gan ‘The aBer Group’ o ran cryfhau cyfranogiad y cyhoedd yn nyfodol Ysbyty
Cyffredinol Dosbarth Bronglais; a
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.02.
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM4926 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y cyfraniad gwerthfawr a wneir i iechyd y wlad gan rwydwaith o Ysbytai Cyffredinol Dosbarth y GIG yn gweithio gyda Chanolfannau Arbenigol rhanbarthol;
2. Yn nodi bod Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi methu â chynnal ffydd y cyhoedd a chlinigwyr; a
3. Yn galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i:
a) cynnal rhwydwaith o Ysbytai Cyffredinol Dosbarth i sicrhau bod dinasyddion Cymru o fewn pellter diogel i’w gwasanaethau achub bywydau; a
b) cyfarwyddo Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Powys i weithio ar draws ffiniau gweinyddol i sicrhau bod anghenion meddygol a llawfeddygol pobl canolbarth Cymru yn cael eu diwallu’n ddiogel ac yn ddigonol gan Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Bronglais.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
24 |
0 |
27 |
51 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ym mhwynt 2, dileu popeth ar ôl "Dda" a rhoi yn ei le:
"yn gweithio’n arloesol ac yn eang, er bod ganddo waith i’w wneud eto, i ymgysylltu ac egluro dyfodol gwasanaethau’r GIG i’r cyhoedd a chlinigwyr yn ei ardal leol; a"
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
27 |
0 |
24 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu fel pwynt 3 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:
3. Yn nodi ac yn llongyfarch y gwaith gwerthfawr a wneir gan ‘The aBer Group’ o ran cryfhau cyfranogiad y cyhoedd yn nyfodol Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Bronglais; a
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd
gwelliant 2.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4926 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y cyfraniad gwerthfawr a wneir i iechyd y wlad gan rwydwaith o Ysbytai Cyffredinol Dosbarth y GIG yn gweithio gyda Chanolfannau Arbenigol rhanbarthol;
2. Yn nodi bod Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn gweithio’n arloesol ac yn eang, er bod ganddo waith i’w wneud eto, i ymgysylltu ac egluro dyfodol gwasanaethau’r GIG i’r cyhoedd a chlinigwyr yn ei ardal leol;
3. Yn nodi ac yn llongyfarch y gwaith gwerthfawr a wneir gan ‘The aBer Group’ o ran cryfhau cyfranogiad y cyhoedd yn nyfodol Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Bronglais; a
4. Yn galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i:
a) cynnal rhwydwaith o Ysbytai Cyffredinol Dosbarth i sicrhau bod dinasyddion Cymru o fewn pellter diogel i’w gwasanaethau achub bywydau; a
b) cyfarwyddo Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Powys i weithio ar draws ffiniau gweinyddol i sicrhau bod anghenion meddygol a llawfeddygol pobl canolbarth Cymru yn cael eu diwallu’n ddiogel ac yn ddigonol gan Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Bronglais.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
27 |
0 |
24 |
51 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 01/02/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Dadl Plaid Cymru
NDM4906 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r stigma sydd ynghlwm wrth y rheini sy’n ddibynnol ar y system fudd-daliadau.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Dileu ‘y rheini sy’n
ddibynnol ar y system fudd-daliadau’ a rhoi yn ei le ‘y bobl
hynny sy’n cael cymorth lles’.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Cynnwys ar
ddiwedd y Cynnig:
‘ac yn credu mai un o’r
ffyrdd mwyaf effeithiol o leihau’r stigma hwn yw drwy
helpu pobl yn ôl i waith’.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod bod bod
heb waith a dibyniaeth ar fudd-daliadau
yn creu rhwystrau
mwy byth i’r rheini sy’n
dymuno dianc o fywyd ar fudd-daliadau
a chael gwaith.
Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cytuno
y bydd agenda diwygio lles Llywodraeth y DU yn cynyddu’r stigma i’r rhai sy’n
ddibynnol ar y system fudd-daliadau, a chan mai mater sydd heb ei ddatganoli
yw hwn, na
ddylai Llywodraeth Cymru ysgwyddo’r baich ariannol fydd ynghlwm
wrth leddfu’r sefyllfa.
Penderfyniad:
Dechreuodd
yr eitem am
16.31.
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio:
NDM4906 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r stigma sydd ynghlwm wrth y rheini sy’n ddibynnol ar y system fudd-daliadau.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
9 |
0 |
45 |
54 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Dileu ‘y rheini sy’n ddibynnol ar y system fudd-daliadau’ a rhoi yn ei le ‘y bobl hynny sy’n cael cymorth lles’.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
4 |
13 |
37 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd y Cynnig:
‘ac yn credu mai un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o leihau’r stigma hwn yw drwy helpu pobl yn ôl i waith’.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
17 |
0 |
37 |
54 |
Gwrthodwyd
gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod bod bod heb waith a dibyniaeth ar fudd-daliadau yn creu rhwystrau mwy byth i’r rheini sy’n dymuno dianc o fywyd ar fudd-daliadau a chael gwaith.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
17 |
0 |
37 |
54 |
Gwrthodwyd
gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cytuno y bydd agenda diwygio lles Llywodraeth y DU yn cynyddu’r stigma i’r rhai sy’n ddibynnol ar y system fudd-daliadau, a chan mai mater sydd heb ei ddatganoli yw hwn, na ddylai Llywodraeth Cymru ysgwyddo’r baich ariannol fydd ynghlwm wrth leddfu’r sefyllfa.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
37 |
0 |
17 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4906 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r stigma sydd ynghlwm wrth y rheini sy’n ddibynnol ar y system fudd-daliadau.
Yn cytuno
y bydd agenda diwygio lles Llywodraeth y DU yn cynyddu’r stigma i’r rhai sy’n
ddibynnol ar y system fudd-daliadau, a chan mai mater sydd heb ei ddatganoli
yw hwn, na
ddylai Llywodraeth Cymru ysgwyddo’r baich ariannol fydd ynghlwm
wrth leddfu’r sefyllfa.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
37 |
0 |
17 |
54 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 25/01/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Dadl Plaid Cymru
NDM4900 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn
1. Croesawu'r penderfyniadau adeiladol ar Gonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd yn Durban, De Affrica, 28 Tachwedd i 9 Rhagfyr 2011;
2. Croesawu cyfraniad Rhwydwaith y Llywodraethau Rhanbarthol dros Ddatblygu Cynaliadwy at ganlyniad y gynhadledd ac yn llongyfarch Llywodraeth Cymru gan fod Cynllun Prosiect Partneriaeth Plannu Coed Mbale-Cymru wedi cael ei ddewis yn un o 9 prosiect enghreifftiol y Cynllun Momentwm i Newid; a
3. Galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi achrediad Rhwydwaith y Llywodraethau Rhanbarthol dros Ddatblygu Cynaliadwy ar gyfer cyfrannu at Gynhadledd Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig yn Rio de Janeiro, Mehefin 20-22 2012.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Mewnosod ar ddiwedd pwynt 1:
‘ac yn cydnabod y swyddogaeth ganolog sy’n cael ei chwarae gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Newid Hinsawdd i drafod telerau’r cytundeb hwn’.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ym mhwynt 2, dileu ‘Croesawu’ a rhoi ‘Nodi’ yn ei le.
Gwelliant 3 -
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 3 dileu ‘i gefnogi achrediad Rhwydwaith y Llywodraethau Rhanbarthol dros Ddatblygu Cynaliadwy ar gyfer cyfrannu at’ a rhoi yn ei le ‘i weithio’n agos gyda Llywodraeth y DU i sicrhau ei bod yn manteisio ar bob cyfle i gael y setliad byd-eang gorau o’r’.
Penderfyniad:
Dechreuodd
yr eitem am 16.48
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio:
NDM4900 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn
1. Croesawu penderfyniadau adeiladol Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd yn Durban, De Affrica, 28 Tachwedd - 9 Rhagfyr 2011;
2. Croesawu cyfraniad Rhwydwaith y Llywodraethau Rhanbarthol dros Ddatblygu Cynaliadwy at ganlyniad y gynhadledd ac yn llongyfarch Llywodraeth Cymru gan fod Cynllun Prosiect Partneriaeth Plannu Coed Mbale-Cymru wedi cael ei ddewis yn un o naw prosiect enghreifftiol y Cynllun Momentwm i Newid; a
3. Galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi achrediad Rhwydwaith y Llywodraethau Rhanbarthol dros Ddatblygu Cynaliadwy ar gyfer cyfrannu at Gynhadledd Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig yn Rio de Janeiro, 20-22 Mehefin 2012.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
34 |
0 |
18 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig
heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 18/01/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
Dadl Plaid Cymru
NDM4893 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru dros GIG Cymru a’r ddarpariaeth o dros £5 biliwn i Fyrddau Iechyd Lleol i gyflenwi gwasanaethau iechyd;
2. Yn gresynu wrth ddiffyg tryloywder ac atebolrwydd y Byrddau Iechyd Lleol wrth wneud penderfyniadau ac ym maes rheoli ariannol hyd yma.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Mewnosod ar ddiwedd pwynt 1 ‘ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddangos mwy o gyfrifoldeb dros berfformiad Byrddau Iechyd Lleol’.
Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu a diweddaru ei harweiniad i Fyrddau Iechyd Lleol ar gynnwys
y cyhoedd yn y gwaith o gynllunio a chyflenwi gwasanaethau’r GIG.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu y bydd cyllideb ddiweddar Llywodraeth Cymru yn arwain at dorri 6.6% ar gyllideb y GIG mewn termau real.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.03
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio:
NDM4893 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru dros GIG Cymru a’r ddarpariaeth o dros £5 biliwn i Fyrddau Iechyd Lleol i gyflenwi gwasanaethau iechyd;
2. Yn gresynu wrth ddiffyg tryloywder ac atebolrwydd y Byrddau Iechyd Lleol wrth wneud penderfyniadau ac ym maes rheoli ariannol hyd yma.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
10 |
0 |
45 |
55 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Mewnosod ar ddiwedd pwynt 1 ‘ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddangos mwy o gyfrifoldeb dros berfformiad Byrddau Iechyd Lleol’.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
28 |
0 |
29 |
57 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog
6.20, defnyddiodd y Dirprwy
Llywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd
y gwelliant.
Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
29 |
0 |
27 |
56 |
Derbyniwyd
gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu a diweddaru ei harweiniad i Fyrddau Iechyd Lleol ar gynnwys y cyhoedd yn y gwaith o gynllunio a chyflenwi gwasanaethau’r GIG.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
27 |
0 |
29 |
56 |
Gwrthodwyd
gwelliant 3.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu y bydd cyllideb ddiweddar Llywodraeth Cymru yn arwain at dorri 6.6 y cant ar gyllideb y GIG mewn termau real.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
17 |
0 |
39 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4893 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru dros GIG Cymru a’r ddarpariaeth o dros £5 biliwn i Fyrddau Iechyd Lleol i gyflenwi gwasanaethau iechyd;
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
29 |
0 |
27 |
56 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 11/01/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Dadl Plaid Cymru
NDM4887 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno system fandio ar gyfer ysgolion uwchradd a chynradd yng Nghymru;
2. Yn credu nad yw bandio’n rhoi darlun cyflawn o berfformiad ysgol a dylid cyfyngu ei ddefnydd i sicrhau bod unrhyw ysgol yn cael y cymorth angenrheidiol sydd ei angen arni i wella’r meysydd hynny a gaiff eu mesur gan y system fandio;
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno proses werthuso adeiladol sy’n arwain at gymorth wedi’i dargedu i ddatrys perfformiad gwael mewn ysgolion.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fonitro dealltwriaeth rhieni, athrawon a Llywodraethwyr o'r system fandio ac ystyried y pryderon a fynegwyd gan staff addysgu a chymryd camau eraill
i egluro os bydd angen.
Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod
y camau y mae Awdurdodau Lleol wedi’u cymryd, drwy gonsortia, i ad-drefnu’r gwasanaethau gwella ysgolion ac yn credu y dylai
cefnogaeth sy’n manteisio ar arbenigedd
yr ymarferwyr blaenllaw ddod yn fodel ledled
Cymru.
Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu
mai safon yr addysgu ac arweinyddiaeth
ysgolion yw’r ffactorau allweddol ar gyfer gwella
ysgolion ac yn talu teyrnged i waith y proffesiwn addysgu yng Nghymru
am sicrhau bod safonau wedi codi dros
y degawd diwethaf.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu
y bydd y system fandio hon, drwy ganolbwyntio
ar berfformiad cyffredinol ysgolion, yn methu cydnabod
perfformiadau unigol disgyblion ac adrannau yn yr ysgolion
hynny.
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn bryderus
nad yw Llywodraeth
Cymru wedi llunio canllawiau penodol ar gyfer sut
gall awdurdodau lleol a chanddynt nifer o ysgolion ym Mandiau
3, 4 a 5 wneud gwelliannau ymarferol.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.55
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio:
NDM4887 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno system fandio ar gyfer ysgolion uwchradd a chynradd yng Nghymru;
2. Yn credu nad yw bandio’n rhoi darlun cyflawn o berfformiad ysgol a dylid cyfyngu ei ddefnydd i sicrhau bod unrhyw ysgol yn cael y cymorth angenrheidiol sydd ei angen arni i wella’r meysydd hynny a gaiff eu mesur gan y system fandio;
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno proses werthuso adeiladol sy’n arwain at gymorth wedi’i dargedu i ddatrys perfformiad gwael mewn ysgolion.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
12 |
0 |
44 |
56 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fonitro dealltwriaeth rhieni, athrawon a Llywodraethwyr o'r system fandio ac ystyried y pryderon a fynegwyd gan staff addysgu a chymryd camau eraill i egluro os bydd angen.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
55 |
0 |
0 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y camau y mae Awdurdodau Lleol wedi’u cymryd, drwy gonsortia, i ad-drefnu’r gwasanaethau gwella ysgolion ac yn credu y dylai cefnogaeth sy’n manteisio ar arbenigedd yr ymarferwyr blaenllaw ddod yn fodel ledled Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
44 |
0 |
12 |
56 |
Derbyniwyd
gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu mai safon yr addysgu ac arweinyddiaeth ysgolion yw’r ffactorau allweddol ar gyfer gwella ysgolion ac yn talu teyrnged i waith y proffesiwn addysgu yng Nghymru am sicrhau bod safonau wedi codi dros y degawd diwethaf.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
56 |
0 |
0 |
56 |
Derbyniwyd
gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y bydd y system fandio hon, drwy ganolbwyntio ar berfformiad cyffredinol ysgolion, yn methu cydnabod perfformiadau unigol disgyblion ac adrannau yn yr ysgolion hynny.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
17 |
0 |
39 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn bryderus nad yw Llywodraeth Cymru wedi llunio canllawiau penodol ar gyfer sut gall awdurdodau lleol a chanddynt nifer o ysgolion ym Mandiau 3, 4 a 5 wneud gwelliannau ymarferol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
27 |
0 |
29 |
56 |
Gwrthodwyd
gwelliant 5.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4887 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno system fandio ar gyfer ysgolion uwchradd a chynradd yng Nghymru;
2. Yn credu nad yw bandio’n rhoi darlun cyflawn o berfformiad ysgol a dylid cyfyngu ei ddefnydd i sicrhau bod unrhyw ysgol yn cael y cymorth angenrheidiol sydd ei angen arni i wella’r meysydd hynny a gaiff eu mesur gan y system fandio;
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno proses werthuso adeiladol sy’n arwain at gymorth wedi’i dargedu i ddatrys perfformiad gwael mewn ysgolion.
4. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i fonitro dealltwriaeth rhieni, athrawon a Llywodraethwyr o'r system fandio ac ystyried y pryderon a fynegwyd gan staff addysgu a chymryd camau eraill
i egluro os bydd angen.
5. Yn cydnabod
y camau y mae
Awdurdodau Lleol wedi’u cymryd, drwy gonsortia, i ad-drefnu’r gwasanaethau gwella ysgolion ac yn credu y dylai
cefnogaeth sy’n manteisio ar arbenigedd
yr ymarferwyr blaenllaw ddod yn fodel ledled
Cymru.
6. Yn credu
mai safon yr addysgu ac arweinyddiaeth
ysgolion yw’r ffactorau allweddol ar gyfer gwella
ysgolion ac yn talu teyrnged i waith y proffesiwn addysgu yng Nghymru
am sicrhau bod safonau wedi codi dros
y degawd diwethaf.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
44 |
0 |
12 |
56 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 07/12/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7.)
Dadl Plaid Cymru
NDM4874 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cyflwyno sylwadau brys i Lywodraeth y DU, yn dilyn cyhoeddi Datganiad yr Hydref, ynglyn â’i methiant i ddarparu ysgogiad economaidd digonol i Gymru wrth ymateb i’r sefyllfa economaidd bresennol, ac ynglyn â’i chynigion i gyflwyno tâl sector cyhoeddus rhanbarthol; a
b) mynd ati ar frys i osod ei chynlluniau ei hun ar gyfer ysgogiad economaidd, a ddylai gynnwys prosiectau seilwaith, cymorth i fusnesau a chymorth i bobl ifanc sy’n ddi-waith.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Dileu is-bwynt 1a) a rhoi yn ei le:
Parhau i weithio gyda Lywodraeth y DU, ar ôl cyhoeddi Datganiad yr Hydref sy’n cynnwys mesurau ar gyfer ysgogiad economaidd, ar ei chynigion i ystyried tâl sector cyhoeddus rhanbarthol.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Cynnwys is-bwynt b) newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:
Cynnwys goblygiadau cymharol tâl datganoledig mewn unrhyw sylwadau i Lywodraeth y DU ynghylch tâl sector cyhoeddus rhanbarthol.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r ysgogiad economaidd a fydd yn deillio o’r £216 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol ar gyfer Cymru a gyhoeddwyd fel rhan o Ddatganiad Hydref Llywodraeth y DU.
Gellir gweld Datganiad yr Hydref drwy ddilyn yr hyperddolen a ganlyn:
http://cdn.hm-treasury.gov.uk/autumn_statement.pdf
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu cyhoeddi’r Contract Ieuenctid a fydd yn darparu help i bobl ifanc ddi-waith.
Penderfyniad:
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio:
NDM4874 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cyflwyno sylwadau brys i Lywodraeth y DU, yn dilyn cyhoeddi Datganiad yr Hydref, ynglyn â’i methiant i ddarparu ysgogiad economaidd digonol i Gymru wrth ymateb i’r sefyllfa economaidd bresennol, ac ynglyn â’i chynigion i gyflwyno tâl sector cyhoeddus rhanbarthol; a
b) mynd ati ar frys i osod ei chynlluniau ei hun ar gyfer ysgogiad economaidd, a ddylai gynnwys prosiectau seilwaith, cymorth i fusnesau a chymorth i bobl ifanc sy’n ddi-waith.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
38 |
0 |
15 |
53 |
Derbyniwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 06/12/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 9.)
Dadl Plaid Cymru
NDM4872 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu wrth y nifer uwch o farwolaethau yn y gaeaf oherwydd y cynnydd yn nifer y bobl sy’n dioddef o dlodi tanwydd.
2. Yn annog Llywodraeth Cymru i ddefnyddio’r holl bwerau sydd ganddi y gaeaf hwn i leihau nifer y marwolaethau yn y gaeaf.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei strategaeth tlodi tanwydd yn sgil cynnydd diweddar mewn prisiau tanwydd, gan ganolbwyntio ar:
a. Ôl-ffitio stoc tai Cymru; a
b. Mynd i’r afael â diffyg sicrwydd mewn perthynas ag ynni drwy fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, a buddsoddi mewn datblygu ‘sgiliau gwyrdd’ y sector adeiladu yng Nghymru, fel y cofnodwyd mewn papur diweddar ‘Skills for Eco-Refurbishment’.
Gellir gweld Strategaeth Tlodi Tanwydd Llywodraeth Cymru drwy ddilyn y linc a ganlyn:
http://wales.gov.uk/docs/desh/publications/100723fuelpovertystrategycy.pdf
Gellir gweld y papur ‘Skills for Eco-Refurbishment’ drwy ddilyn y linc a ganlyn:
http://calvjones.com/pages/greenskills-74987 - Saesneg yn unig
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham
(Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt
3:
yr hyn sy’n achosi mwy o dlodi tanwydd
ymysg cartrefi gwledig;
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De
Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt
3:
cartrefi sy’n dlawd iawn o ran tanwydd nad
ydynt yn gymwys ar gyfer Gwelliannau i’r Cartref o dan gynllun “Nyth”
Llywodraeth Cymru;
Gellir gweld y Cynllun Nyth drwy ddilyn y
linc a ganlyn:
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgorffori
cynllun gweithredu’r Siarter Tlodi Tanwydd yn ei Strategaeth Tlodi Tanwydd.
Gellir gweld y Siarter Tlodi Tanwydd drwy
ddilyn y linc a ganlyn:
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig:
Yn nodi bod llai o bobl wedi manteisio ar
y brechlynnau ffliw tymhorol ymysg y grwpiau ‘mewn perygl’ o dan 65 oed, ac
felly’n galw ar Lywodraeth Cymru i roi mesurau ar waith i gynyddu’r niferoedd
sy’n cael y brechlyn ffliw tymhorol er mwyn atal un o brif achosion
marwolaethau diangen dros y gaeaf.
Penderfyniad:
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio:
NDM4872 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu wrth y nifer uwch o farwolaethau yn y gaeaf oherwydd y cynnydd yn nifer y bobl sy’n dioddef o dlodi tanwydd.
2. Yn annog Llywodraeth Cymru i ddefnyddio’r holl bwerau sydd ganddi y gaeaf hwn i leihau nifer y marwolaethau yn y gaeaf.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei strategaeth tlodi tanwydd yn sgil cynnydd diweddar mewn prisiau tanwydd, gan ganolbwyntio ar:
a. Ôl-ffitio stoc tai Cymru; a
b. Mynd i’r afael â diffyg sicrwydd mewn perthynas ag ynni drwy fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, a buddsoddi mewn datblygu ‘sgiliau gwyrdd’ y sector adeiladu yng Nghymru, fel y cofnodwyd mewn papur diweddar ‘Skills for Eco-Refurbishment’.
Gellir gweld Strategaeth Tlodi Tanwydd Llywodraeth Cymru drwy ddilyn y linc a ganlyn:
http://wales.gov.uk/docs/desh/publications/100723fuelpovertystrategycy.pdf
Gellir gweld y papur ‘Skills for Eco-Refurbishment’ drwy ddilyn y linc a ganlyn:
http://calvjones.com/pages/greenskills-74987 - Saesneg yn unig
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
50 |
0 |
6 |
56 |
Derbyniwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 23/11/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
Dadl Plaid Cymru
NDM4860 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y rhan hanfodol y mae nyrsys, gan gynnwys nyrsys arbenigol, yn ei chwarae yn y GIG.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gynnal y cynllun bwrsariaeth nyrsio fel y mae’n cael ei weithredu ar hyn o bryd;
b) sicrhau datblygiad proffesiynol parhaus yn y proffesiwn nyrsio; ac
c) datblygu rhwydwaith digonol o nyrsys arbenigol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu is-bwynt
2a) a rhoi yn ei le:
sicrhau
bod egwyddorion cydraddoldeb
a thegwch wedi’u dilyn wrth newid
y cynllun bwrsariaeth ar gyfer nyrsys.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Cynnwys is-bwynt
2a) newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:
‘diffinio a datblygu swyddogaeth Nyrsys Presgripsiynu yng Nghymru’.
Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Gorgannwg)
Dileu is-bwynt
2c) a rhoi yn ei le:
sicrhau
bod y BILlau yn cynllunio ac yn cynnal rhwydwaith digonol o nyrsys arbenigol.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu fel
is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt
2:
‘gwella diogelwch a gwella’r amgylchedd gweithio diogel i nyrsys.’
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 2:
sicrhau
bod pob nyrs yn gallu cael
gafael ar yr hyfforddiant angenrheidiol er mwyn gallu bod yn gwbl effeithiol
yn eu swyddogaeth.
Penderfyniad:
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio:
NDM4860 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y rhan hanfodol y mae nyrsys, gan gynnwys nyrsys arbenigol, yn ei chwarae yn y GIG.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gynnal y cynllun bwrsariaeth nyrsio fel y mae’n cael ei weithredu ar hyn o bryd;
b) sicrhau datblygiad proffesiynol parhaus yn y proffesiwn nyrsio; ac
c) datblygu rhwydwaith digonol o nyrsys arbenigol.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
10 |
12 |
33 |
55 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu is-bwynt 2a) a rhoi yn ei le:
sicrhau bod egwyddorion cydraddoldeb a thegwch wedi’u dilyn wrth newid y cynllun bwrsariaeth ar gyfer nyrsys.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
33 |
0 |
21 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Cynnwys is-bwynt 2a) newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn: ‘diffinio a datblygu swyddogaeth Nyrsys Presgripsiynu yng Nghymru’.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
55 |
0 |
0 |
55 |
Derbyniwyd
gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Gorgannwg)
Dileu is-bwynt 2c) a rhoi yn ei le:
sicrhau bod y BILlau yn cynllunio ac yn cynnal rhwydwaith digonol o nyrsys arbenigol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
29 |
0 |
26 |
55 |
Derbyniwyd
gwelliant 3.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:
‘gwella diogelwch a gwella’r amgylchedd gweithio diogel i nyrsys.’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
55 |
0 |
0 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:
sicrhau bod pob nyrs yn gallu cael gafael ar yr hyfforddiant angenrheidiol er mwyn gallu bod yn gwbl effeithiol yn eu swyddogaeth.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
55 |
0 |
0 |
55 |
Derbyniwyd
gwelliant 5.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4860 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y rhan hanfodol y mae nyrsys, gan gynnwys nyrsys arbenigol, yn ei chwarae yn y GIG.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) diffinio a datblygu swyddogaeth Nyrsys Presgripsiynu yng Nghymru
b) sicrhau bod egwyddorion cydraddoldeb a thegwch wedi’u dilyn wrth newid y cynllun bwrsariaeth ar gyfer nyrsys;
c) sicrhau datblygiad proffesiynol parhaus yn y proffesiwn nyrsio;
d) sicrhau bod y BILlau yn cynllunio ac yn cynnal rhwydwaith digonol o nyrsys arbenigol;
e) gwella diogelwch a gwella’r amgylchedd gweithio diogel i nyrsys; ac
f) sicrhau bod pob nyrs yn gallu cael gafael ar yr hyfforddiant angenrheidiol er mwyn gallu bod yn gwbl effeithiol yn eu swyddogaeth
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
45 |
0 |
10 |
55 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 16/11/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Dadl Plaid Cymru
NDM4850 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cadarnhau targedau ‘Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned’ a ‘Strategaeth Cymru ar Newid yn yr Hinsawdd’ ac yn croesawu’r cyfraniad nodedig at gyrraedd y targedau hyn gan y Ganolfan Dechnoleg Amgen yn ei strategaeth ar gyfer ‘Prydain Di-garbon 2030’; ac
2. Yn galw ar Weinidogion Cymru i lansio ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus ar newid yn yr hinsawdd hyd at Gynhadledd Rio+20.
Gellir gweld ‘Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned’ drwy ddilyn y ddolen ganlynol:
http://wales.gov.uk/topics/sustainabledevelopment/publications/onewalesoneplanet/?skip=1&lang=cy
Gellir gweld ‘Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd’ drwy ddilyn y ddolen ganlynol:
Gellir gweld y strategaeth ar gyfer ‘Prydain Di-garbon 2030’ drwy ddilyn y ddolen ganlynol:
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
[os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei dad-ddethol]
Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn camau rhagweithiol i leihau cyfraniad Cymru at y newid yn yr hinsawdd drwy fuddsoddi mewn cynlluniau effeithlonrwydd ynni a fydd hefyd yn helpu i leihau tlodi tanwydd ledled Cymru.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ym mhwynt 2, dileu ‘gwybodaeth’ a rhoi ‘ymgysylltu’ yn ei le.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) rhoi’r Strategaeth Ymgysylltu ar y Newid yn yr Hinsawdd ar waith yn gynt;
b) gweithredu fel esiampl i eraill drwy ymrwymo i wneud rhagor o doriadau sylweddol i ôl troed carbon ystad y Llywodraeth a helpu i hybu lleihau allyriadau drwy’r sector cyhoeddus, y sector busnes a'r sector gwirfoddol ehangach yng Nghymru;
c) cefnogi busnesau i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd economi carbon isel; a
d) ailedrych ar ei tharged i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr 3% i weld a yw’n dal yn feincnod cenedlaethol priodol i geisio lliniaru’r cynnydd o 2°C yn yr hinsawdd fyd-eang.
Gellir gweld y Strategaeth Ymgysylltu ar y Newid yn yr Hinsawdd drwy ddilyn y ddolen ganlynol:
Penderfyniad:
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM4850 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cadarnhau targedau ‘Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned’ a ‘Strategaeth Cymru ar Newid yn yr Hinsawdd’ ac yn croesawu’r cyfraniad nodedig at gyrraedd y targedau hyn gan y Ganolfan Dechnoleg Amgen yn ei strategaeth ar gyfer ‘Prydain Di-garbon 2030’; ac
2. Yn galw ar Weinidogion Cymru i lansio ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus ar newid yn yr hinsawdd hyd at Gynhadledd Rio+20.
Gellir gweld ‘Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned’ drwy ddilyn y ddolen ganlynol:
http://wales.gov.uk/topics/sustainabledevelopment/publications/onewalesoneplanet/?skip=1&lang=cy
Gellir gweld ‘Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd’ drwy ddilyn y ddolen ganlynol:
Gellir gweld y strategaeth ar gyfer ‘Prydain Di-garbon 2030’ drwy ddilyn y ddolen ganlynol:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
36 |
12 |
5 |
53 |
Derbyniwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 09/11/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Dadl Plaid Cymru
NDM4846 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i:
a) ymateb yn weithredol i’r argyfwng economaidd presennol;
b) delio â’r problemau a wynebir gan y sector gweithgynhyrchu; ac
c) mynd i’r afael â diweithdra ymysg pobl ifanc; a
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno pecyn cynhwysfawr o fesurau i fynd i’r afael â’r argyfwng economaidd presennol, yn cynnwys dwyn prosiectau cyfalaf ymlaen er mwyn rhoi hwb i’r sector adeiladu ac i greu swyddi.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ym mhwynt 1, ar ôl ‘fethiant’, rhoi ‘presennol, a blaenorol,’
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ym mhwynt 2, dileu popeth ar ôl ‘presennol,’ a rhoi yn ei le
chwilio am fwy o gyllid arloesol i roi hwb i’r sector adeiladu ac i greu swyddi yn y sector preifat.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
“Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r mathau o gyllid preifat y mae wedi bod yn eu hystyried, a sut mae modd defnyddio'r rhain i ymateb i wella economi Cymru."
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
“Yn croesawu’r ffaith efallai y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried galluogi ariannu drwy gynyddrannau treth i helpu adfywio economaidd, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynigion pendant cyn gynted ag sy’n ymarferol.”
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod pwysigrwydd
Ardaloedd Menter i economi Cymru ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyhoeddi amserlen ar gyfer eu
cyflwyno.
Penderfyniad:
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio:
NDM4846 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i:
a) ymateb yn weithredol i’r argyfwng economaidd presennol;
b) ymdrin â’r problemau a wynebir gan y sector gweithgynhyrchu; ac
c) mynd i’r afael â diweithdra ymysg pobl ifanc; a
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno pecyn cynhwysfawr o fesurau i fynd i’r afael â’r argyfwng economaidd presennol, yn cynnwys cyflwyno prosiectau cyfalaf er mwyn rhoi hwb i’r sector adeiladu a chreu swyddi.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
18 |
0 |
35 |
53 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ym mhwynt 1, ar ôl ‘fethiant’, rhoi ‘presennol, a blaenorol,’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
15 |
0 |
38 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 2, dileu popeth ar ôl ‘presennol,’ a rhoi yn ei le
chwilio am fwy o gyllid arloesol i roi hwb i’r sector adeiladu ac i greu
swyddi yn y sector preifat.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
43 |
0 |
10 |
53 |
Derbyniwyd
gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
“Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r mathau o gyllid preifat y mae
wedi bod yn eu hystyried, a sut mae modd defnyddio'r rhain i ymateb i wella
economi Cymru."
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd
gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
“Yn croesawu’r ffaith efallai y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried galluogi
ariannu drwy gynyddrannau treth i helpu adfywio economaidd, ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynigion pendant cyn gynted ag sy’n ymarferol.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
4 |
11 |
38 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod
pwysigrwydd Ardaloedd Menter i economi Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i
gyhoeddi amserlen ar gyfer eu cyflwyno.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
25 |
0 |
28 |
53 |
Gwrthodwyd
gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio:
NDM4846 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i:
a) ymateb yn weithredol i’r argyfwng economaidd presennol;
b) ymdrino â’r problemau a wynebir gan y sector gweithgynhyrchu; ac
c) mynd i’r afael â diweithdra ymysg pobl ifanc; a
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno pecyn cynhwysfawr o fesurau i fynd i’r afael â’r argyfwng economaidd presennol, chwilio am fwy o gyllid arloesol i roi hwb i’r sector adeiladu a chreu swyddi yn y sector preifat.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r mathau o gyllid preifat y mae wedi bod yn eu hystyried, a sut mae modd defnyddio'r rhain i ymateb i wella economi Cymru.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
25 |
0 |
28 |
53 |
Gwrthodwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 02/11/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
Dadl Plaid Cymru
NDM4839 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio cynllun gweithredu ar gyfer y diwydiant llaeth, sy’n mynd i’r afael â’r arferion masnachol annheg sy’n bodoli yn y gadwyn gyflenwi, ac sy’n cynnwys darpariaeth ar gyfer y canlynol:
a) contract gwaelodlin llaeth amrwd safonol;
b) cod ymarfer y gellir ei orfodi i sicrhau trafodion teg rhwng ffermwyr a chwmnïau llaeth; ac
c) cyhoeddi gwybodaeth dryloyw am ddosbarthiad elw a phrisiau cyfanwerthu.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu gwaith Llywodraeth y DU i gyflwyno Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Bwydydd i fonitro ac i orfodi'r Cod Ymarfer Cyflenwi Bwydydd.
Gellir gweld y Cod Ymarfer Cyflenwi Bwydydd drwy glicio ar y linc isod:
http://www.competition-commission.gov.uk/inquiries/ref2006/grocery/pdf/revised_gscop_order.pdf
(Saesneg yn unig)
Penderfyniad:
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM4839 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio cynllun gweithredu ar gyfer y diwydiant llaeth, sy’n mynd i’r afael â’r arferion masnachol annheg sy’n bodoli yn y gadwyn gyflenwi, ac sy’n cynnwys darpariaeth ar gyfer y canlynol:
a) contract gwaelodlin llaeth amrwd safonol;
b) cod ymarfer y gellir ei orfodi i sicrhau trafodion teg rhwng ffermwyr a chwmnïau llaeth; ac
c) cyhoeddi gwybodaeth dryloyw am ddosbarthiad elw a phrisiau cyfanwerthu.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
56 |
0 |
0 |
56 |
Derbyniwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 19/10/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Dadl Plaid Cymru
NDM4833 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu wrth:
a) dirywiad sydyn darpariaeth cyfryngau lleol ac effaith hynny ar yr adroddiadau ar fywyd cyhoeddus ac ar wleidyddiaeth yng Nghymru; a
b) yr argyfwng cyllido yn y diwydiant darlledu.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) chwilio am atebion i roi sylw i’r bwlch democrataidd a achosir gan hyn; a
b) ymdrechu’n frwd i ddylanwadu ar y Bil Cyrff Cyhoeddus fel bo dyfodol S4C yn cael ei ddiogelu.
Gellir gweld y Bil Cyrff Cyhoeddus drwy ddilyn y ddolen ganlynol:
http://services.parliament.uk/bills/2010-11/publicbodieshl.html
- (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Cynnwys is-bwynt
1b) newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn
‘methiant
Llywodraeth Cymru i ddarparu
cyfeiriad clir i annog a hyrwyddo mwy o luosogrwydd yn y cyfryngau’
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Dileu 1b) a rhoi
yn ei le:
‘y rheidrwydd i dorri gwariant cyhoeddus yn y sector darlledu ar ôl i Lywodraeth flaenorol y DU gamreoli’r economi’.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Cynnwys is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 1:
‘methiant
Llywodraeth flaenorol Cymru
i gyflawni ei hymrwymiad i gyllido papur newydd dyddiol
Cymraeg.’
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Cynnwys ar
ddiwedd is-bwynt 2a):
‘drwy hyrwyddo hyfforddiant ac entrepreneuriaeth yn y diwydiannau cyfryngau Cymraeg i annog darpariaeth ehangach o raglenni sy’n adlewyrchu
diddordebau lleol a gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus yng Nghymru’
[os derbynnir gwelliant 5, bydd gwelliant 6 yn cael ei dad-ddethol]
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Dileu pwynt
2b) a rhoi yn ei le:
‘cydnabod
y sicrwydd a roddwyd gan yr Ysgrifennydd
Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon y bydd S4C yn cadw ei
annibyniaeth olygyddol a gweithredol mewn unrhyw drefniadau cyllido newydd ac i weithio’n gadarnhaol gyda Llywodraeth y DU, y BBC ac
S4C i sicrhau'r cyllid ar gyfer S4C y tu hwnt i 2014; a’
Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ym mhwynt
2b), ar ôl ‘ddiogelu’ cynnwys:
'a:
i) bod cyllid
S4C yn cael ei neilltuo’n benodol
tan 2016;
ii) nad yw cynrychiolwyr y BBC ar Awdurdod S4C hefyd yn aelodau
o Ymddiriedolaeth y BBC;
iii) bod bwrdd
rheoli S4C yn parhau’n annibynnol o’r BBC;
iv) dylai
Cynulliad Cenedlaethol
Cymru gymeradwyo penodiad aelod Ymddiriedolaeth y BBC gyda chyfrifoldeb dros Gymru a chadeirydd
Awdurdod S4C ar ôl iddynt gael
eu penodi gan Weinidogion Llywodraeth y DU;
v) bod S4C yn
cynnal a chadw annibyniaeth lawn yn olygyddol, yn weithredol
ac o ran creu rhaglenni;
vi) bod rhaglenni’n
dal i gael eu comisiynu gan gwmnïau
annibynnol o Gymru;
vii) bod strwythur
llywodraethol newydd S4C wedi’i wreiddio yn y gyfraith ar
ffurf siarter, ac y bydd y sianel yn
gweithio fel partner i’r BBC ac nid fel is-gwmni iddo;
a bod
viii) y Llywodraeth
a’r BBC yn rhoi ymrwymiad clir i raglenni Cymraeg.
Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 2:
‘gweithio
gyda Llywodraeth y DU ar y Bil Cyfathrebu
arfaethedig i greu mecanwaith ar gyfer
darlledwyr cyhoeddus yng Nghymru i adrodd
i’r Cynulliad Cenedlaethol.
Penderfyniad:
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM4833 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu wrth:
a) dirywiad sydyn darpariaeth cyfryngau lleol ac effaith hynny ar yr adroddiadau ar fywyd cyhoeddus ac ar wleidyddiaeth yng Nghymru; a
b) yr argyfwng cyllido yn y diwydiant darlledu.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) chwilio am atebion i roi sylw i’r bwlch democrataidd a achosir gan hyn; a
b) ymdrechu’n frwd i ddylanwadu ar y Bil Cyrff Cyhoeddus fel bo dyfodol S4C yn cael ei ddiogelu.
Gellir gweld y Bil Cyrff Cyhoeddus drwy ddilyn y linc a ganlyn:
http://services.parliament.uk/bills/2010-11/publicbodieshl.html
- (Saesneg yn unig)
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
40 |
0 |
12 |
52 |
Derbyniwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 12/10/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Dadl Plaid Cymru
NDM4822 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu wrth y toriad o 41% yng nghyllideb cyfalaf Llywodraeth Cymru ac effaith niweidiol hynny ar y sector adeiladu; a
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ysgogi’r economi drwy:
a) Creu cronfa buddsoddiad seilwaith;
b) Defnyddio pwerau benthyg Awdurdodau Lleol;
c) Gweithredu i helpu i gynyddu canran y cwmnïau yng Nghymru sy’n ennill tendrau caffael cyhoeddus; a
d) Chwilio am ffyrdd arloesol o godi cyfalaf ar gyfer prosiectau seilwaith ar wahân i Fenter Cyllid Preifat.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Dileu pwynt
1 a rhoi yn ei le “Yn nodi’r
gostyngiad o 41 y cant yng nghyllideb cyfalaf Llywodraeth Cymru; ac”
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ym mhwynt
2d dileu “ar wahân i Fenter Cyllid Preifat” a rhoi yn ei
le “yn cynnwys Banc Buddsoddi Ewrop”.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu fel
is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt
2:
Bidio i leoli’r
Banc Buddsoddi Gwyrdd yng Nghaerdydd
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu
cyn lleied o gontractau Olympaidd a enillwyd dan y llywodraeth “Cymru’n Un" flaenorol, a allai fod wedi bod o fudd i’r sector adeiladu.
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Cyflwyno proses ariannu drwy gynyddrannau
treth er mwyn galluogi awdurdodau
lleol i godi arian cyfalaf ar
gyfer prosiectau seilwaith.
Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Sefydlu cronfa
arloesedd i gynyddu nifer y patentau a sefydlu cynlluniau mentora busnes.
Penderfyniad:
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan
y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM4822 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu wrth y toriad o 41y cant yng nghyllideb cyfalaf Llywodraeth Cymru ac effaith niweidiol hynny ar y sector adeiladu; a
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ysgogi’r economi drwy:
a) Creu cronfa buddsoddiad seilwaith;
b) Defnyddio pwerau benthyg Awdurdodau Lleol;
c) Gweithredu i helpu i gynyddu canran y cwmnïau yng Nghymru sy’n ennill tendrau caffael cyhoeddus; a
d) Chwilio am ffyrdd arloesol o godi cyfalaf ar gyfer prosiectau seilwaith ar wahân i Fenter Cyllid Preifat.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
43 |
0 |
12 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig
heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 05/10/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7.)
Dadl Plaid Cymru
NDM4818 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at ddiffyg manylion a thargedau ystyrlon yn y Rhaglen Lywodraethu: a
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei Rhaglen yn canolbwyntio ar y sialensiau y bydd yr economi yn eu hwynebu dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
Gellir gweld y Rhaglen Lywodraethu drwy ddilyn y linc a ganlyn:
http://wales.gov.uk/about/programmeforgovernment/?skip=1&lang=cy
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1
- Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 1) a rhoi yn ei le:
"Yn nodi’r Rhaglen
Lywodraethu a’r angen i allu mesur
sut y gweithredir polisi’r Llywodraeth”; a
Gwelliant 2
- William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu fel pwynt 1 newydd
ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ddiwygio ei Rhaglen Lywodraethu i fynd i’r afael
â’r sialensiau economaidd a chymdeithasol sy’n wynebu pobl
Cymru.
Gwelliant 3
- Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad
yw Llywodraeth Cymru wedi cyflawni
addewid y Prif Weinidog ar gyfer
rhaglen lywodraethu sydd â thargedau mesuradwy.
Gwelliant 4
- Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gyflwyno rhaglen lywodraethu ddiwygiedig sydd â thargedau pendant a mesuradwy ac amserlen ar gyfer eu
cyflawni.
Gwelliant 5
- William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ailgyhoeddi ei Rhaglen Lywodraethu er mwyn cynnwys
targedau a chanlyniadau mesuradwy.
Gwelliant 6
- William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth
Cymru i bennu, yn y Rhaglen Lywodraethu,
fesurau i godi perfformiad Gwerth Ychwanegol Crynswth Cymru erbyn 2015.
Gwelliant 7
- William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai’r Rhaglen Lywodraethu gynnwys rhaglen gynhwysfawr o ryddhad ardrethi busnes sef yr ymyriad
polisi gorau i hybu cyflogaeth a buddsoddiad yn y sector preifat ac y gellid cyflwyno ymyriad o’r fath ar
unwaith heb yr angen am adolygiad
pellach.
Penderfyniad:
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio:
NDM4818 Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at ddiffyg
manylion a thargedau ystyrlon yn y Rhaglen
Lywodraethu: a
2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei Rhaglen yn canolbwyntio
ar y sialensiau y bydd yr economi
yn eu hwynebu
dros yr ychydig
flynyddoedd nesaf.
Gellir gweld y Rhaglen Lywodraethu drwy ddilyn y linc
a ganlyn:
http://wales.gov.uk/about/programmeforgovernment/?skip=1&lang=cy
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
27 |
0 |
27 |
54 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y
cynnig. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 1) a rhoi
yn ei le:
"Yn nodi’r
Rhaglen Lywodraethu a’r angen i allu mesur sut y gweithredir polisi’r
Llywodraeth”; a
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
27 |
0 |
27 |
54 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y
gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De
Cymru)
Ychwanegu fel pwynt
1 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddiwygio ei Rhaglen Lywodraethu i fynd i’r afael â’r
sialensiau economaidd a chymdeithasol sy’n wynebu pobl Cymru.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
27 |
0 |
27 |
54 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd
y cynnig:
Yn gresynu nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyflawni addewid
y Prif Weinidog ar gyfer rhaglen
lywodraethu sydd â thargedau mesuradwy.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
27 |
0 |
27 |
54 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd
y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gyflwyno rhaglen lywodraethu ddiwygiedig sydd â thargedau pendant a mesuradwy ac amserlen ar gyfer eu
cyflawni.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
27 |
0 |
27 |
54 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd
y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ailgyhoeddi ei Rhaglen Lywodraethu er mwyn cynnwys
targedau a chanlyniadau mesuradwy.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
27 |
0 |
27 |
54 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd
y cynnig:
Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth
Cymru i bennu, yn y Rhaglen Lywodraethu,
fesurau i godi perfformiad Gwerth Ychwanegol Crynswth Cymru erbyn 2015.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 6:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
16 |
0 |
38 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd
y cynnig:
Yn credu y dylai’r Rhaglen Lywodraethu gynnwys rhaglen gynhwysfawr o ryddhad ardrethi busnes sef yr
ymyriad polisi gorau i hybu cyflogaeth
a buddsoddiad yn y sector preifat ac y gellid cyflwyno ymyriad o’r fath ar
unwaith heb yr angen am adolygiad
pellach.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 7:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
11 |
5 |
38 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei
ddiwygio, ac wedi gwrthhod y gwelliannau i’r cynnig, nid
yw’r cynnig wedi ei gymeradwyo.
Cyfarfod: 28/09/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)
Dadl Plaid Cymru
NDM4812 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1) Yn credu bod Cymru’n cael ei gwasanaethu’n dda gan ei rhwydwaith o Ysbytai Cyffredinol Dosbarth; a
2) Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud datganiad clir na fydd yn caniatáu i Fyrddau Iechyd Lleol ganoli gwasanaethau oddi wrth Ysbytai Cyffredinol Dosbarth.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
[os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei dad-ddethol]
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ym mhwynt 2, dileu “wneud datganiad clir na fydd yn caniatáu i Fyrddau Iechyd Lleol ganoli gwasanaethau oddi wrth Ysbytai Cyffredinol Dosbarth” ac yn ei le rhoi “gefnogi Byrddau Iechyd Lleol wrth iddynt gyflawni eu cyfrifoldebau i gynllunio a darparu gwasanaethau mewn modd priodol.”
Gwelliant 2
- William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 2) rhoi ‘llawdriniaethau brys a chyffredinol’ ar ôl ‘gwasanaethau’
Gwelliant 3
- Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod cleifion yn cael eu
gwasanaethu orau gan wasanaethau a ddarperir mor
agos â phosibl at gartrefi’r cleifion, ac sy’n ddiogel yn
glinigol, gan ddefnyddio rhwydwaith o ysbytai cyffredinol dosbarth, ysbytai cymunedol a chanolfannau rhagoriaeth.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai’r Fforwm Clinigol Cenedlaethol, pan gaiff ei sefydlu,
ystyried anghenion Ysbytai Cyffredinol Dosbarth wrth aildrefnu’r
GIG yn y dyfodol.
Penderfyniad:
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM4812 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1) Yn credu bod Cymru’n
cael ei gwasanaethu’n dda gan ei rhwydwaith o Ysbytai Cyffredinol Dosbarth; ac
2) Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i wneud datganiad clir na fydd yn caniatáu i Fyrddau Iechyd
Lleol ganoli gwasanaethau oddi wrth Ysbytai Cyffredinol Dosbarth.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
12 |
0 |
45 |
57 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ym mhwynt 2,
dileu “wneud datganiad clir na fydd yn caniatáu i Fyrddau Iechyd Lleol ganoli
gwasanaethau oddi wrth Ysbytai Cyffredinol Dosbarth” ac yn ei le rhoi “gefnogi
Byrddau Iechyd Lleol wrth iddynt gyflawni eu cyfrifoldebau i gynllunio a
darparu gwasanaethau mewn modd priodol.”
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
33 |
0 |
23 |
56 |
Derbyniwyd
gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd
gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 3 -
Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod cleifion
yn cael eu gwasanaethu orau gan wasanaethau a ddarperir mor agos â phosibl at
gartrefi’r cleifion, ac sy’n ddiogel yn glinigol, gan ddefnyddio rhwydwaith o
ysbytai cyffredinol dosbarth, ysbytai cymunedol a chanolfannau rhagoriaeth.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 3:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
55 |
2 |
0 |
57 |
Derbyniwyd
gwelliant 3.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai’r
Fforwm Clinigol Cenedlaethol, pan gaiff ei sefydlu, ystyried anghenion Ysbytai
Cyffredinol Dosbarth wrth aildrefnu’r GIG yn y dyfodol.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
51 |
0 |
6 |
57 |
Derbyniwyd gwelliant
4.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1) Yn credu bod
Cymru’n cael ei gwasanaethu’n dda gan ei rhwydwaith o Ysbytai Cyffredinol
Dosbarth; ac
2) Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gefnogi Byrddau Iechyd Lleol wrth iddynt gyflawni eu
cyfrifoldebau i gynllunio a darparu gwasanaethau mewn modd priodol.
3) Yn credu bod
cleifion yn cael eu gwasanaethu orau gan wasanaethau a ddarperir mor agos â phosibl
at gartrefi’r cleifion, ac sy’n ddiogel yn glinigol, gan ddefnyddio rhwydwaith
o ysbytai cyffredinol dosbarth, ysbytai cymunedol a chanolfannau rhagoriaeth.
4) Yn credu y
dylai’r Fforwm Clinigol Cenedlaethol, pan gaiff ei sefydlu, ystyried anghenion
Ysbytai Cyffredinol Dosbarth wrth aildrefnu’r GIG yn y dyfodol.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
34 |
0 |
23 |
57 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 21/09/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Dadl Plaid Cymru
NDM4800 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) Y toriadau difrifol yn y cyllid cyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru;
b) Y diffyg gweithredu a fu gan Lywodraeth gyfredol Cymru i ganfod a denu ffynonellau newydd o gyllid i Gymru; ac
c) Effeithiau’r hinsawdd economaidd bresennol, gan gynnwys yr anawsterau sy’n wynebu busnesau Cymru oherwydd yr amodau byd-eang sy’n arafu a’r bygythiadau i swyddi yn sgil hynny; a
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) Mynd ati’n rhagweithiol i chwilio am ffrydiau ariannu ychwanegol i Gymru yn yr un modd ag y mae llywodraethau gwledydd datganoledig eraill wedi'i wneud;
b) Gweithio gyda’r sector cyhoeddus yng Nghymru i gyflwyno newidiadau i arferion caffael ar frys er mwyn ysgogi diwydiant a chreu swyddi yng Nghymru; a
c) Chyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i gyflwyno toriad dros dro mewn TAW er mwyn ysgogi twf economaidd ymhellach.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
[os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael eu dad-ddethol]
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Dileu pwynt 1a) a rhoi yn ei le:
'Yr angen i Lywodraeth Cymru wneud y defnydd gorau o’r arian cyfalaf sydd ar gael yn yr hinsawdd economaidd bresennol.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ym mhwynt 1a), ar ôl “Llywodraeth Cymru” rhoi, “ac o dan gynlluniau a gyhoeddwyd gan Alastair Darling yn ei gyllideb yn 2009, byddai toriadau o 45% dros 3 blynedd yng nghyllideb cyfalaf Cymru.
Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu “diffyg ” ym mhwynt 1b).
[os derbynnir gwelliant 4, bydd gwelliant 5 yn cael eu dad-ddethol]
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Dileu pwynt 2c) a rhoi yn ei le:
Sefydlu cynllun partneriaeth cyhoeddus-preifat ‘Gwnaed yng Nghymru’ fel rhan o gynllun Seilwaith Cymru.
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Dileu pwynt 2c).
Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar yr holl bleidiau a gynrychiolir yn y Cynulliad i weithio’n adeiladol ar y broses debyg i Calman sy’n cael ei chynnal gan Lywodraeth y DU.
Penderfyniad:
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio:
NDM4800 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) Y toriadau difrifol yn y cyllid cyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru;
b) Y diffyg gweithredu a fu gan Lywodraeth gyfredol Cymru i ganfod a denu ffynonellau newydd o gyllid i Gymru; ac
c) Effeithiau’r hinsawdd economaidd bresennol, gan gynnwys yr anawsterau sy’n wynebu busnesau Cymru oherwydd yr amodau byd-eang sy’n arafu a’r bygythiadau i swyddi yn sgil hynny; a
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) Mynd ati’n rhagweithiol i chwilio am ffrydiau ariannu ychwanegol i Gymru yn yr un modd ag y mae llywodraethau gwledydd datganoledig eraill wedi'i wneud;
b) Gweithio gyda’r sector cyhoeddus yng Nghymru i gyflwyno newidiadau i arferion caffael ar frys er mwyn ysgogi diwydiant a chreu swyddi yng Nghymru; a
c) Chyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i gyflwyno toriad dros dro mewn TAW er mwyn ysgogi twf economaidd ymhellach.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
11 |
0 |
45 |
56 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Dileu pwynt 1a) a rhoi yn ei le:
'Yr angen i Lywodraeth Cymru wneud y defnydd gorau o’r arian cyfalaf sydd ar gael yn yr hinsawdd economaidd bresennol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
13 |
0 |
43 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ym mhwynt 1a), ar ôl “Llywodraeth Cymru” rhoi, “ac o dan gynlluniau a gyhoeddwyd gan Alastair Darling yn ei gyllideb yn 2009, byddai toriadau o 45% dros 3 blynedd yng nghyllideb cyfalaf Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
17 |
0 |
39 |
56 |
Gwrthodwyd
gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu “diffyg ” ym mhwynt 1b).
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
29 |
0 |
27 |
56 |
Derbyniwyd
gwelliant 3.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt 2c) a rhoi yn ei le:
Sefydlu cynllun partneriaeth cyhoeddus-preifat ‘Gwnaed yng Nghymru’ fel rhan o gynllun Seilwaith Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
13 |
0 |
43 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Dileu pwynt 2c).
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
17 |
0 |
39 |
56 |
Gwrthodwyd
gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar yr holl bleidiau a gynrychiolir yn y Cynulliad i weithio’n adeiladol ar y broses debyg i Calman sy’n cael ei chynnal gan Lywodraeth y DU.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
56 |
0 |
0 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant
6.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio:
NDM4800 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) Y toriadau difrifol yn y cyllid cyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru;
b) Y gweithredu a fu gan Lywodraeth gyfredol Cymru i ganfod a denu ffynonellau newydd o gyllid i Gymru; ac
c) Effeithiau’r hinsawdd economaidd bresennol, gan gynnwys yr anawsterau sy’n wynebu busnesau Cymru oherwydd yr amodau byd-eang sy’n arafu a’r bygythiadau i swyddi yn sgil hynny; a
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) Mynd ati’n rhagweithiol i chwilio am ffrydiau ariannu ychwanegol i Gymru yn yr un modd ag y mae llywodraethau gwledydd datganoledig eraill wedi'i wneud;
b) Gweithio gyda’r sector cyhoeddus yng Nghymru i gyflwyno newidiadau i arferion caffael ar frys er mwyn ysgogi diwydiant a chreu swyddi yng Nghymru; a
c) Sefydlu cynllun
partneriaeth cyhoeddus-preifat
‘Gwnaed yng Nghymru’ fel rhan
o gynllun Seilwaith Cymru.
3. Yn galw ar yr holl bleidiau a gynrychiolir yn y Cynulliad i weithio’n adeiladol ar y broses debyg i Calman sy’n cael ei chynnal gan Lywodraeth y DU.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
30 |
0 |
26 |
56 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 13/07/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7.)
Dadl Plaid Cymru
NDM4789 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd cyflogaeth yn y sector cyhoeddus i gymunedau ledled y wlad; ac
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) Cyhoeddi ei chynllun ynghylch staffio swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn y dyfodol;
b) Gwrthod unrhyw gynnig i gau swyddfeydd Llywodraeth Cymru;
c) Sicrhau dosbarthiad teg o swyddi Llywodraeth Cymru ledled Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau â’r Strategaeth Leoli, sy’n ei gwneud yn bosibl i Lywodraeth Cymru ddarparu swyddi a gwasanaethau o fewn adeiladau effeithlon a hygyrch ar draws Cymru.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei hystâd yn cael ei defnyddio i’r eithaf i gefnogi cymunedau ledled Cymru.
Gwelliant 3 - Nick Ramsay (Mynwy)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod pwysigrwydd swyddi Llywodraeth Cymru yn Llandrindod, y Drenewydd, Caerfyrddin a Chaernarfon i’r economïau lleol.
Gwelliant 4 - Nick Ramsay (Mynwy)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ati’n ddi-oed i egluro sefyllfa ei swyddfeydd rhanbarthol mewn datganiad ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gwelliant 5 - Nick Ramsay (Mynwy)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori â’r undebau yn ei hadolygiad o anghenion staffio mewn swyddfeydd rhanbarthol.
Penderfyniad:
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM4789
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd cyflogaeth yn y sector cyhoeddus i gymunedau
ledled y wlad; ac
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) Gyhoeddi ei chynllun ynghylch staffio swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn
y dyfodol;
b) Gwrthod unrhyw gynnig i gau swyddfeydd Llywodraeth Cymru;
c) Sicrhau dosbarthiad teg o swyddi Llywodraeth Cymru ledled Cymru.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
14 |
1 |
37 |
52 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 2 a rhoi
yn ei le:
2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i barhau â’r Strategaeth Leoli, sy’n ei gwneud yn bosibl i
Lywodraeth Cymru ddarparu swyddi a gwasanaethau o fewn adeiladau effeithlon a
hygyrch ar draws Cymru.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
40 |
0 |
14 |
54 |
Derbyniwyd
gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei hystâd yn cael ei defnyddio i’r eithaf i
gefnogi cymunedau ledled Cymru.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd
gwelliant 2.
Gwelliant 3 -
Nick Ramsay (Mynwy)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod pwysigrwydd swyddi Llywodraeth Cymru yn Llandrindod, y
Drenewydd, Caerfyrddin a Chaernarfon i’r economïau lleol.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd
gwelliant 3.
Gwelliant 4 -
Nick Ramsay (Mynwy)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ati’n ddi-oed i egluro sefyllfa ei
swyddfeydd rhanbarthol mewn datganiad ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol
Cymru.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd
gwelliant 4.
Gwelliant 5 -
Nick Ramsay (Mynwy)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori â’r undebau yn ei hadolygiad o
anghenion staffio mewn swyddfeydd rhanbarthol.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd
gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4789
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd cyflogaeth yn y sector cyhoeddus i gymunedau
ledled y wlad; ac
2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i barhau â’r Strategaeth Leoli, sy’n ei gwneud yn bosibl i
Lywodraeth Cymru ddarparu swyddi a gwasanaethau o fewn adeiladau effeithlon a
hygyrch ar draws Cymru.
3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei hystâd yn cael ei defnyddio i’r eithaf i
gefnogi cymunedau ledled Cymru.
4. Yn cydnabod pwysigrwydd swyddi Llywodraeth Cymru yn Llandrindod, y
Drenewydd, Caerfyrddin a Chaernarfon i’r economïau lleol.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ati’n ddi-oed i egluro sefyllfa ei
swyddfeydd rhanbarthol mewn datganiad ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol
Cymru.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori â’r undebau yn ei hadolygiad
o anghenion staffio mewn swyddfeydd rhanbarthol.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
39 |
0 |
15 |
54 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 06/07/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8.)
Dadl Plaid Cymru
NDM4777 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â Llywodraeth y DU i sicrhau bod y cyfrifoldeb
dros benderfynu ar brosiectau ynni yng Nghymru sydd dros 50 megawatt ac unrhyw seilwaith
cysylltiedig yn cael ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Nick Ramsay (Mynwy)
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gyflwyno’r achos gerbron
Llywodraeth y DU dros ddatganoli pwer dros brosiectau ynni hyd at 100MW; ac
2. Yn gresynu wrth y dryswch a fu yn sgil Datganiad Ysgrifenedig y Prif
Weinidog ar 17 Mehefin ac yn credu mai dim ond drwy gynnal adolygiad cyhoeddus
trwyadl o Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 8: Ynni Adnewyddadwy (2005) y bydd modd
rhoi sicrwydd i awdurdodau lleol a rhoi hwb i hyder y sector ynni adnewyddadwy.
Gellir
gweld datganiad y Prif Weinidog drwy ddilyn y linc a ganlyn:
http://wales.gov.uk/about/cabinet/cabinetstatements/2011/110617plan/?skip=1&lang=cy
Gellir
gweld TAN8 drwy ddilyn y linc a ganlyn:
http://wales.gov.uk/topics/planning/policy/tans/tan8/?skip=1&lang=cy
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi’r holl dystiolaeth ac
adroddiadau y mae wedi’u cynhyrchu yng nghyswllt datganoli prosiectau ynni dros
50MW.
Penderfyniad:
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM4777 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â Llywodraeth y DU i sicrhau bod y cyfrifoldeb
dros benderfynu ar brosiectau ynni yng Nghymru sydd dros 50 megawatt ac unrhyw
seilwaith cysylltiedig yn cael ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
43 |
0 |
12 |
55 |
Derbyniwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 29/06/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Dadl Plaid Cymru
NDM4771 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi ymgynghoriad yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ‘A Communications Review for the Digital Age’, gan gynnwys ei bwyslais ar ddadreoleiddio a’r goblygiadau o ran comisiynu rhanbarthol a’r cyfryngau ehangach yng Nghymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ei hymateb.
Mae copi o ‘A Communications Review for the Digital Age’ ar gael yn:
http://www.culture.gov.uk/what_we_do/telecommunications_and_online/8109.aspx
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Hefyd yn galw ar y Llywodraeth i gyhoeddi unrhyw ohebiaeth rhyngddi â’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ar fater darlledu a’r cyfryngau yng Nghymru.
Gwelliant 2 - Nick Ramsay (Mynwy)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru, yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a sefydliadau’r cyfryngau yng Nghymru i ymrwymo i archwilio ac adnabod y buddion cynaliadwy a allai ddod i Gymru yn sgil teledu lleol er mwyn helpu i ddiogelu ein sector cyfryngau cryf ac amrywiol.
Penderfyniad:
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
NDM4771
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi ymgynghoriad yr Adran dros Ddiwylliant,
y Cyfryngau a Chwaraeon ‘A
Communications Review for the Digital Age’, gan gynnwys ei bwyslais
ar ddadreoleiddio a’r goblygiadau o ran comisiynu rhanbarthol a’r cyfryngau ehangach
yng Nghymru, ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyhoeddi
ei hymateb.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
40 |
0 |
11 |
51 |
Derbyniwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfarfod: 22/06/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8.)
Dadl Plaid Cymru
NDM4741 Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i hwyluso sefydlu cwmni nid-am-elw-dosbarthiadwy i godi cyfalaf ar
gyfer prosiectau seilwaith.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
[os derbynnir
gwelliant 1, bydd gwelliannau 2,3 a 4 yn cael eu dad-ddethol]
Gwelliant 1 - Nick Ramsay (Mynwy)
Dileu’r cyfan
a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) Ystyried yr holl gyfleoedd i godi cyfalaf ar
gyfer prosiectau seilwaith; a
b) Sicrhau bod mwy o ddadansoddi costau mewn prosiectau adeiladwaith mawr er mwyn cael
mwy o gyfrifoldeb dros gyllidebau a bod gwaith yn cael
ei gyflawni ar amser.
[os derbynnir
gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Dileu ‘yn galw
ar Lywodraeth Cymru i hwyluso sefydlu’ a rhoi yn ei le ‘yn
pryderu am y diffyg manylion sydd ar
gael ar
gyfer’.
[os derbynnir
gwelliant 3, bydd gwelliant 4 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth ar ôl ‘Lywodraeth
Cymru i’ a rhoi yn ei le:
archwilio dulliau
arloesol, cydweithredol y
gall Llywodraeth Cymru ac eraill, megis awdurdodau
lleol a’r sector preifat, reoli asedau a chodi cyfalaf ar gyfer
ei fuddsoddi mewn seilwaith ar gyfer y gwasanaeth
cyhoeddus, a pharhau i archwilio ffyrdd cynaliadwy a hyblyg eraill o fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ar ôl ‘seilwaith’ rhoi 'ond yn
galw ar Lywodraeth
Cymru i archwilio dichonoldeb cynllun o’r fath o fewn
y setliad datganoli ariannol presennol.’
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod, er mwyn
bod mewn safle cryfach i godi cyfalaf ar gyfer
prosiectau seilwaith, bod angen mwy o hunanreolaeth
ariannol ar Gymru.
Penderfyniad:
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau
o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM4741
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i hwyluso sefydlu cwmni nid-am-elw-dosbarthiadwy i godi cyfalaf ar gyfer prosiectau seilwaith.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
11 |
0 |
43 |
54 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Nick Ramsay
(Mynwy)
Dileu’r cyfan
a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i:
a) Ystyried yr
holl gyfleoedd i godi cyfalaf ar
gyfer prosiectau seilwaith; a
b) Sicrhau bod mwy o ddadansoddi costau mewn prosiectau adeiladwaith mawr er mwyn cael mwy o gyfrifoldeb dros gyllidebau a bod gwaith yn cael ei gyflawni ar amser.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
40 |
0 |
14 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Oherwydd y cafodd
gwelliant 1 ei dderbyn, cafodd gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol.
Gwelliant 2
- Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Dileu ‘yn galw
ar Lywodraeth Cymru i hwyluso sefydlu’ a rhoi yn ei le ‘yn
pryderu am y diffyg manylion sydd ar
gael ar
gyfer’.
Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth ar ôl ‘Lywodraeth
Cymru i’ a rhoi yn ei le:
archwilio dulliau
arloesol, cydweithredol y
gall Llywodraeth Cymru ac eraill, megis awdurdodau
lleol a’r sector preifat, reoli asedau a chodi cyfalaf ar gyfer
ei fuddsoddi mewn seilwaith ar gyfer y gwasanaeth
cyhoeddus, a pharhau i archwilio ffyrdd cynaliadwy a hyblyg eraill o fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ar ôl ‘seilwaith’ rhoi 'ond yn
galw ar Lywodraeth
Cymru i archwilio dichonoldeb cynllun o’r fath o fewn
y setliad datganoli ariannol presennol.’
Gwelliant 5 - Peter
Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod, er mwyn bod mewn safle cryfach i godi cyfalaf ar gyfer prosiectau seilwaith, bod angen mwy o hunanreolaeth ariannol ar Gymru.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
43 |
11 |
0 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4741
Dileu’r cyfan
a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i:
a) Ystyried yr
holl gyfleoedd i godi cyfalaf ar
gyfer prosiectau seilwaith; a
b) Sicrhau bod mwy o ddadansoddi costau mewn prosiectau
adeiladwaith mawr er mwyn cael
mwy o gyfrifoldeb dros gyllidebau a bod gwaith yn cael
ei gyflawni ar amser.
2.Yn cydnabod, er mwyn bod mewn safle cryfach i godi cyfalaf ar gyfer prosiectau seilwaith, bod angen mwy o hunanreolaeth ariannol ar Gymru.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
53 |
0 |
1 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfarfod: 15/06/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8.)
Dadl Plaid Cymru
NDM4734 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu rhaglen lywodraethu lawn a manwl ar gyfer
tymor 5 mlynedd nesaf y Cynulliad.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ar ôl ‘tymor 5 mlynedd
nesaf y Cynulliad’, ychwanegu ‘a rhoi cyfle i'r Cynulliad
drafod y rhaglen’.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ddarparu’r wybodaeth
ddiweddaraf yn rheolaidd, gan gynnwys manylion canlyniadau y gellir eu mesur, er
mwyn dangos y cynnydd a wneir wrth roi ei
rhaglen gyflenwi ar waith.
Penderfyniad:
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau
o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM4734