Cyfarfodydd

Senedd Commission Budget 2026-27

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/11/2025 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Cyllideb derfynol y Comisiwn 2026-27

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2
  • Cyfyngedig 3
  • Cyfyngedig 4
  • Cyfyngedig 5

Cofnodion:

Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2026-27 drwy ei broses graffu, ers i’r Comisiwn gytuno ar y drafft ar 22 Medi.

Roedd y Pwyllgor Cyllid wedi cynnal sesiwn graffu ar 1 Hydref 2025 a nododd y Comisiynwyr Adroddiad y Pwyllgor, a gyhoeddwyd ar 21 Hydref 2025, a oedd yn cefnogi'r cais cyffredinol am adnoddau yn 2026-27, gan argymell bod y Senedd yn cefnogi cyllideb y Comisiwn.

Trafododd y Comisiynwyr eu hymateb i'r argymhellion a godwyd yn Adroddiad y Pwyllgor Cyllid, a chytunwyd y dylid gwneud gwaith ychwanegol mewn perthynas â’r Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) a chynnwys manylion ychwanegol cyn anfon yr ymateb at y Pwyllgor.

Bu’r Comisiynwyr hefyd yn trafod anghenion cymorth y Senedd yn y dyfodol, a chytunwyd y dylai gwybodaeth ariannol ychwanegol gael ei darparu i Bwyllgor Busnes y Seithfed Senedd fel y gallai penderfyniadau a wnaeth y Pwyllgor ynghylch gweithgaredd busnes y Senedd gael eu llywio gan wybodaeth am gostau.

Cymeradwywyd y Gyllideb Derfynol ar gyfer 2026-27 gan nodi, yn dilyn cael cymeradwyaeth gan y Comisiwn, y byddai dogfen y Gyllideb Derfynol ar gyfer 2026-27 yn cael ei gosod ar 12 Tachwedd 2025 gyda'r disgwyl i’r Cynnig ynghylch y Gyllideb fod yn destun dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 19 Tachwedd 2025.


Cyfarfod: 22/09/2025 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Cyllideb ddrafft y Comisiwn ar gyfer 2026-27

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 8
  • Cyfyngedig 9
  • Cyfyngedig 10

Cofnodion:

Ystyriodd y Comisiynwyr y Gyllideb Ddrafft arfaethedig ar gyfer 2026-27.

 

Roedd y Gyllideb Ddrafft wedi’i datblygu ymhellach ers i’r Comisiwn drafod y Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig yn y cyfarfod ar 2 Mehefin.

 

Trafododd y Comisiynwyr y cynigion a chytuno:

a)          ar y dyfarniad cyflog i staff y Comisiwn yn 2026-27;

b)         ar Gronfa Prosiectau (gan gynnwys £500,000 o gyfalaf) o £2 miliwn;

c)          i leihau’r gyllideb ar gyfer costau Cyllid Pensiwn yr Aelodau o £1 miliwn i £400,000; ac

d)         i gyfeirio at brosiect ‘Bae 32’ yn lle’r cyfeiriad at y Rhaglen ‘Ffyrdd o Weithio’;

Ystyriodd y Comisiynwyr agweddau ar y ddarpariaeth gyllidebol ar gyfer costau sy'n deillio o'r etholiad. Fe wnaethant gymeradwyo'r Memorandwm Esboniadol drafft fel y mae i’w weld yn Atodiad A, yn amodol ar newidiadau i'w cwblhau; a nodwyd y llythyr gan y Gweinidog Cyllid.

Byddai'r Gyllideb Ddrafft y cytunwyd arni yn cael ei gosod gerbron y Senedd a'i darparu i'r Pwyllgor Cyllid.


Cyfarfod: 14/07/2025 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Y diweddaraf am y gyllideb

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 13

Cofnodion:

Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa o ran y trafodaethau ffurfiol rhwng Ochr Rheoli'r Comisiwn Ochr Undebau Llafur y Comisiwn ynghylch y fframwaith cyflogau ar gyfer staff y Comisiwn o fis Ebrill 2026 ymlaen.

Fe wnaethant hefyd ystyried adborth ar y gwaith ymgysylltu a gynhaliwyd â dau Grŵp plaid hyd yn hyn (gydag un Grŵp yn gwrthod y cynnig) ar y paratoadau ar gyfer cyllideb ddrafft y Comisiwn ar gyfer 2026-27.

 

Gofynnodd y Comisiynwyr i swyddogion y Comisiwn sicrhau bod y Gyllideb Ddrafft a gyflwynir ym mis Medi mor dynn ag y gallai fod, gan ystyried yr angen i sicrhau bod gofynion y Senedd a'r ddarpariaeth gyllidebol gysylltiedig ar gyfer blwyddyn gyntaf y Seithfed Senedd yn cael eu proffilio'n briodol, a chan ystyried hefyd faterion capasiti a llesiant.

 

Hefyd, fe gawsant ragor o wybodaeth i lywio’r drafodaeth ar opsiynau, i sicrhau bod yr adnoddau angenrheidiol ar gyfer yr opsiwn a ffafrir yn cael eu cynnwys yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2026/27.

Gwnaeth y Comisiynwyr

 

a.        nodi’r sefyllfa ddiweddaraf o ran y trafodaethau ag Ochr yr Undebau Llafur ynghylch cyflogau staff y Comisiwn;

b.        ystyried yr opsiynau pellach a gyflwynwyd a chytuno ar y camau nesaf dymunol yn y broses o drafod cyflogau, sef:

-           symud i drafodaethau cyflog blynyddol;

-           hunan-ariannu'r 0.5% ychwanegol o'r dyfarniad cyflog;

-           gwneud codiannau targedig a graddol ar 3.75% i raddau TS hyd at SEO, 3.25% i G7 i G6 a 3% i Gyfarwyddwyr/Prif Swyddog Gweithredol; a

-           chytuno ar safbwynt ar ddeialog bellach gydag Ochr yr Undebau Llafur, a ddaw i ben ym mis Awst.

 


Cyfarfod: 02/06/2025 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Blociau Adeiladu’r Gyllideb

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 16
  • Cyfyngedig 17

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr y prif dybiaethau yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2026-27 sydd â goblygiadau ariannol, a’r hyn y dylid ei adlewyrchu yn y cyflwyniad cyllidebol i'r Pwyllgor Cyllid ym mis Hydref.

Rhoddodd y comisiynwyr eu barn gychwynnol ar y sail y bydd cyllideb ddrafft fanwl 2026/27 yn cael ei pharatoi; a chadarnhau fod y rhagdybiaethau gweithio yn briodol.

 

Byddai'r Gyllideb Ddrafft yn cael ei pharatoi ar gyfer cyfarfod y Comisiwn ym mis Medi, cyn cael ei gosod.