Cyfarfodydd
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 27/02/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Rhoddodd y Trefnydd
wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y
Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mawrth
12 Mawrth 2024
· Datganiad gan y Gweinidog Newid
Hinsawdd: Ail Gartrefi a Fforddiadwyedd (30 munud)
· Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl
Ysgolion Arbennig (Darparwyr Gwasanaeth ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024 (5
munud)
· Rheoliadau Treth Gwarediadau
Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Diwygio) a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru)
2016 (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024 (5 munud)
· Cynnig i amrywio'r drefn o ystyried
gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Seilwaith (Cymru) (5 munud)
· Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2023-24
(30 munud) gohiriwyd
tan 13 Mawrth
Dydd
Mercher 13 Mawrth 2024
· Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud) gohiriwyd
tan 20 Mawrth 2024
· Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac
Addysg (45 munud) - wedi dwyn ymlaen o 20 Mawrth 2024
· Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2023-24
(30 munud)
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i ohirio Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol ar gyfer 20 Mawrth i ddwyn ymlaen y Cwestiynau i Weinidog y
Gymraeg ac Addysg i 13 Mawrth.