Cyfarfodydd

Adroddiad Blynyddol Estyn

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/03/2026 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg (Eitem 5.)

Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn ar gyfer 2024 - 2025 - trafod y dystiolaeth


Cyfarfod: 11/03/2026 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg (Eitem 2.)

2. Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn ar gyfer 2024 - 2025

Owen Evans, Prif Arolygydd ei Fawrhydi, Estyn

Claire Morgan, Cyfarwyddwyr strategol, Estyn

Jassa Scott, Cyfarwyddwyr strategol, Estyn

Liz Miles, Cyfarwyddwyr cynorthwyol, Estyn

 

Adroddiad Blynyddol – Estyn

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 21/05/2025 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg (Eitem 3)

3 Adroddiad Blynyddol Estyn

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 21/05/2025 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg (Eitem 3)

3 Adroddiad Blynyddol Estyn

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 18/03/2025 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 7)

Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2023-24

NDM8856 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol 2023-24 gan Brif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Fawrhydi yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Chwefror 2025.

2. Yn nodi bod gan sectorau addysg a hyfforddiant Cymru gryfderau sylweddol ond bod yna feysydd sydd yn parhau i fod angen gwelliant.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod Adroddiad Blynyddol Estyn ar gyfer 2024-25 wedi tynnu sylw at faterion yn ymwneud â phresenoldeb is, ymddygiad gwael disgyblion a heriau o ran recriwtio staff, sy'n cael effaith negyddol ar addysg yng Nghymru.

Gwelliant 2 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu mai canlyniadau PISA diweddaraf Cymru ar gyfer mathemateg, darllen ac ysgrifennu yw'r rhai isaf yn y Deyrnas Unedig.

Gwelliant 3 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod yr Adroddiad Blynyddol yn nodi:

a) ar y gyfradd wella bresennol, byddai’n cymryd dros 10 mlynedd i bresenoldeb uwchradd wella i’r lefelau cyn y pandemig;

b) bod recriwtio athrawon i bynciau sydd â phrinder neu’n medru darparu drwy gyfrwng y Gymraeg, yn parhau i beri pryder arbennig; ac

c) mewn gormod o achosion, nid yw ansawdd addysgu ac asesu’n ddigon da.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.10 

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. 

 

NDM8856 Jane Hutt (Bro Morgannwg) 

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol 2023-24 gan Brif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Fawrhydi yng Nghymru aosodwydyn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Chwefror 2025. 

2. Yn nodi bod gan sectorau addysg a hyfforddiant Cymru gryfderau sylweddol ond bod yna feysydd sydd yn parhau i fod angen gwelliant. 

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: 

Gwelliant 1 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: 

Yn gresynu bod Adroddiad Blynyddol Estyn ar gyfer 2024-25 wedi tynnu sylw at faterion yn ymwneud â phresenoldeb is, ymddygiad gwael disgyblion a heriau o ran recriwtio staff, sy'n cael effaith negyddol ar addysg yng Nghymru. 

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1: 

O blaid 

Ymatal 

Yn erbyn 

Cyfanswm 

22 

25 

47 

Gwrthodwyd gwelliant 1. 

Gwelliant 2 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: 

Yn gresynu mai canlyniadau PISA diweddaraf Cymru ar gyfer mathemateg, darllen ac ysgrifennu yw'r rhai isaf yn y Deyrnas Unedig. 

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2: 

O blaid 

Ymatal 

Yn erbyn 

Cyfanswm 

22 

25 

47 

Gwrthodwyd gwelliant 2. 

Gwelliant 3 Heledd Fychan (Canol De Cymru) 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: 

Yn gresynu bod yr Adroddiad Blynyddol yn nodi: 

a) ar y gyfradd wella bresennol, byddai’n cymryd dros 10 mlynedd i bresenoldeb uwchradd wella i’r lefelau cyn y pandemig; 

b) bod recriwtio athrawon i bynciau sydd â phrinder neu’n medru darparu drwy gyfrwng y Gymraeg, yn parhau i beri pryder arbennig; ac 

c) mewn gormod o achosion, nid yw ansawdd addysgu ac asesu’n ddigon da. 

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3: 

O blaid 

Ymatal 

Yn erbyn 

Cyfanswm 

23 

24 

47 

 
Gwrthodwyd gwelliant 3. 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig: 

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol 2023-24 gan Brif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Fawrhydi yng Nghymru aosodwydyn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Chwefror 2025. 

2. Yn nodi bod gan sectorau addysg a hyfforddiant Cymru gryfderau sylweddol ond bod yna feysydd sydd yn parhau i fod angen gwelliant. 

 

 

O blaid 

Ymatal 

Yn erbyn 

Cyfanswm 

47 

47 

 

Derbyniwyd y cynnig. 

 


Cyfarfod: 05/03/2025 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg (Eitem 6)

Adroddiad Blynyddol Estyn a sesiwn ar yr ymchwiliad -trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau blaenorol.

 


Cyfarfod: 05/03/2025 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg (Eitem 2)

2 Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn ar gyfer 2023 - 2024

Owen Evans, Prif Arolygydd Ei Fawrhydi, Estyn

Claire Morgan, Cyfarwyddwr Strategol, Estyn

Jassa Scott, Cyfarwyddwr Strategol, Estyn

 

Adroddiad Blynyddol Estyn 2022-2023

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith Estyn ynghylch ei Adroddiad Blynyddol.

2.2 Cytunodd Estyn i ddarparu nodyn ar y niferoedd diweddaraf o ysgolion sydd ar gamau dilynol, y ddau gategori statudol sydd angen gwelliant sylweddol ac mewn mesurau arbennig, a ble y maent ar eu huchaf, er enghraifft rhanbarthau o Gymru a demograffeg.

2.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu gyda'r cwestiynau na chawsant eu gofyn oherwydd cyfyngiadau amser.

 

 

 


Cyfarfod: 21/02/2024 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg (Eitem 6)

Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod y sesiynau blaenorol.

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd yn y sesiynau blaenorol.

 


Cyfarfod: 21/02/2024 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg (Eitem 2)

2 Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2022 – 2023

Owen Evans, Prif Arolygydd Ei Fawrhydi, Estyn

Claire Morgan, Cyfarwyddwr Strategol, Estyn

Jassa Scott, Cyfarwyddwr Strategol, Estyn

 

Adroddiad Blynyddol Estyn 2022-2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar Estyn ynghylch ei Adroddiad Blynyddol.

 


Cyfarfod: 21/03/2023 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 10)

Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2021-22

NDM8227 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd:

1.   Yn nodi Adroddiad Blynyddol 2021-22 gan Brif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Fawrhydi yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Chwefror 2023.

2.    Yn nodi arddeliad yr adroddiad sef, er i nifer o'r materion a gododd yn ystod y pandemig ddechrau dangos arwyddion o welliant graddol, bod heriau yn parhau.

3.   Yn croesawu casgliad yr adroddiad bod darparwyr addysg a hyfforddiant wedi ymateb yn dda i'r heriau, gan osod dysgwyr wrth galon eu gwaith.

4.    Yn croesawu canfyddiadau’r adroddiad bod pob darparwr wedi canolbwyntio'n briodol ar les dysgwyr a staff, gyda'r darparwyr cryfaf yn parhau i hunanwerthuso yn agored ac yn onest a rhoi ffocws di-flino ar addysgu a dysgu.

Estyn Adroddiad Blynyddol | Annual Report – 2021-2022 (llyw.cymru)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.25

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8227 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd:

1.   Yn nodi Adroddiad Blynyddol 2021-22 gan Brif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Fawrhydi yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Chwefror 2023.

2.    Yn nodi arddeliad yr adroddiad sef, er i nifer o'r materion a gododd yn ystod y pandemig ddechrau dangos arwyddion o welliant graddol, bod heriau yn parhau.

3.   Yn croesawu casgliad yr adroddiad bod darparwyr addysg a hyfforddiant wedi ymateb yn dda i'r heriau, gan osod dysgwyr wrth galon eu gwaith.

4.    Yn croesawu canfyddiadau’r adroddiad bod pob darparwr wedi canolbwyntio'n briodol ar les dysgwyr a staff, gyda'r darparwyr cryfaf yn parhau i hunanwerthuso yn agored ac yn onest a rhoi ffocws di-flino ar addysgu a dysgu.

Estyn Adroddiad Blynyddol | Annual Report – 2021-2022 (llyw.cymru)

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

13

0

52

Derbyniwyd y cynnig.


Cyfarfod: 02/02/2023 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg (Eitem 9)

Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2020 – 2021: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

9.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn flaenorol gydag Estyn.

 


Cyfarfod: 02/02/2023 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg (Eitem 7)

7 Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn ar gyfer 2021 - 2022

Owen Evans, Prif Arolygwr Ei Fawrhydi, Estyn

Claire Morgan, Cyfarwyddwr Strategol, Estyn

Jassa Scott, Cyfarwyddwr Strategol, Estyn

 

 

Adroddiad Blynyddol Estyn 2021 - 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar Estyn ynghylch ei Adroddiad Blynyddol.

7.2 Cytunodd Estyn i ddarparu canfyddiadau darn o waith thematig sy'n cael ei wneud ar weithredu'r system ddiwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd i'r Pwyllgor pan fydd ar gael. 

 


Cyfarfod: 26/04/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 14)

Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2020-21

NDM7980 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd:

1.    Yn nodi Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2020-21 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Ebrill 2022.

2.    Yn croesawu'r ffaith bod yr adroddiad yn cydnabod gwydnwch a dyfalbarhad y gweithlu addysg a sut y maent wedi bod yn hyblyg, yn greadigol ac wedi addasu mewn ffyrdd arloesol i gefnogi dysgwyr.

3.    Yn croesawu'r ffaith ‘y rhoddodd yr holl ddarparwyr flaenoriaeth i les eu dysgwyr’ a’u bod yn parhau i gryfhau cysylltiadau gyda theuluoedd a chymunedau.

4.    Yn nodi na ddylem ddiystyru effaith y pandemig ar les dysgwyr, staff ac arweinwyr.

Cyflwynwyd y gwelliant canlynol:

Gwelliant 1 - Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at ganfyddiadau Estyn y "daeth y rhaniad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a mwy breintiedig yn amlycach dros gyfnod y pandemig."

Yn credu y bydd y gwahaniaethau a amlinellir yn yr adroddiad yn cael eu gwaethygu ymhellach gan yr argyfwng costau byw ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag Estyn i gynyddu ymdrechion i sicrhau bod mesurau i gefnogi plant o gefndiroedd difreintiedig mewn ysgolion yn cael eu gweithredu ar frys.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.35

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 - Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at ganfyddiadau Estyn y "daeth y rhaniad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a mwy breintiedig yn amlycach dros gyfnod y pandemig."

Yn credu y bydd y gwahaniaethau a amlinellir yn yr adroddiad yn cael eu gwaethygu ymhellach gan yr argyfwng costau byw ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag Estyn i gynyddu ymdrechion i sicrhau bod mesurau i gefnogi plant o gefndiroedd difreintiedig mewn ysgolion yn cael eu gweithredu ar frys.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

NDM7980 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd:

1.    Yn nodi Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2020-21 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Ebrill 2022.

2.    Yn croesawu'r ffaith bod yr adroddiad yn cydnabod gwydnwch a dyfalbarhad y gweithlu addysg a sut y maent wedi bod yn hyblyg, yn greadigol ac wedi addasu mewn ffyrdd arloesol i gefnogi dysgwyr.

3.    Yn croesawu'r ffaith ‘y rhoddodd yr holl ddarparwyr flaenoriaeth i les eu dysgwyr’ a’u bod yn parhau i gryfhau cysylltiadau gyda theuluoedd a chymunedau.

4.    Yn nodi na ddylem ddiystyru effaith y pandemig ar les dysgwyr, staff ac arweinwyr.

5.       Yn gresynu at ganfyddiadau Estyn y "daeth y rhaniad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a mwy breintiedig yn amlycach dros gyfnod y pandemig."

6.       Yn credu y bydd y gwahaniaethau a amlinellir yn yr adroddiad yn cael eu gwaethygu ymhellach gan yr argyfwng costau byw ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag Estyn i gynyddu ymdrechion i sicrhau bod mesurau i gefnogi plant o gefndiroedd difreintiedig mewn ysgolion yn cael eu gweithredu ar frys.

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 19.12 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.


Cyfarfod: 13/01/2022 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg (Eitem 6)

6 Adroddiad Blynyddol Estyn

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 13/12/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg (Eitem 4)

Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2020 – 2021: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd yn y sesiwn flaenorol.

 


Cyfarfod: 13/12/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg (Eitem 2)

2 Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2020 – 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith Estyn ynghylch ei Adroddiad Blynyddol.

2.2 Cytunodd Estyn i ddarparu nodyn ar nifer yr ysgolion sydd yn y ddau gategori statudol y mae sy’n gofyn am welliant sylweddol, ac sy'n gofyn am fesurau arbennig ar gyfer monitro gan Estyn.

2.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at bob awdurdod lleol i'w gwneud yn ymwybodol o'r hyfforddiant y mae Estyn yn ei ddarparu ar gyfer llywodraethwyr ysgolion.