Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 16:43
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5179 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Mae’r Cynulliad
Cenedlaethol hwn:
1.
Yn cydnabod effaith gymhleth ond negyddol yn
bennaf diffyg twf economaidd a newidiadau i fudd-daliadau lles ar fenywod
a theuluoedd yng Nghymru fel y nodwyd
yn adroddiad Sefydliad Bevan ‘Women, work and the recession in Wales';
2.
Yn nodi rhybudd
Sefydliad Jospeh Rowntree fod Cymru
yn wynebu degawd o dlodi;
3.
Yn credu bod Llywodraeth y DU wedi dilyn y llwybr economaidd anghywir ers 2010, gan roi
menywod a theuluoedd mewn perygl; a
4.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithredu argymhellion Cuts Watch
Cymru i liniaru ar effeithiau newidiadau
mewn budd-daliadau tai i deuluoedd ac i ddatblygu cynllun i gefnogi menywod ifanc i gyflogaeth briodol sy’n talu'n
dda er mwyn
diwallu eu hanghenion.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
0 |
16 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 07/03/2013
Dyddiad y penderfyniad: 06/03/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 06/03/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad