Manylion y penderfyniad

Debate on the Constitutional and Legislative Affairs Committee's Report on the Inquiry into the establishment of a separate Welsh jurisdiction

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Wedi’i gwblhau

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Ers i ganlyniad y refferendwm ar 3 Mawrth 2011 roi pwerau eang i’r Cynulliad Cenedlaethol wneud deddfau i Gymru, mae’r cwestiwn ynghylch a ddylai Cymru ddod yn awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân wedi dod yn fater o ddiddordeb a gaiff ei drafod yn gyhoeddus. Yn benodol, mae Prif Weinidog Cymru wedi nodi ei fod yn bwriadu dechrau trafodaeth gyhoeddus ynghylch a oes angen awdurdodaeth ar wahân i Gymru. 

 

Barn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yw bod y datblygiadau hyn yn rhoi cyfle da i archwilio’r  agweddau technegol  o’r cwestiwn hwn ac felly wedi cytuno i gynnal ymchwiliad iddo. 

 

Ceir rhagor o wybodaeth gefndir am y datblygiadau sydd wedi arwain at farn y Pwyllgor mewn papur a baratowyd gan Wasanaeth Ymchwil y Cynulliad, ac mae hwn wedi’i gynnwys isod.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15:03

NDM5178 David Melding (Canol De Cymru)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ei ymchwiliad i awdurdodaeth ar wahân i Gymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Rhagfyr 2012.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Dyddiad cyhoeddi: 07/03/2013

Dyddiad y penderfyniad: 06/03/2013

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 06/03/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad