Manylion y penderfyniad

Dadl Plaid Cymru

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:

  • dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu cynnal.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.32

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5170 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol:

 

1.Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cynllunio’r gweithlu yn y GIG yn gadarn a digonol i gwrdd ag anghenion poblogaeth Cymru dros y tymor hir; a

 

2.Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r prinder meddygon drwy gyflwyno rhaglen o gymhellion ariannol i gynyddu hyfforddiant meddygon mewn ardaloedd lle y mae prinder neu lle y rhagwelir hynny.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

6

0

43

49

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo’r pwyntiau’n unol â hynny:

 

Yn nodi arolwg y Cyngor Meddygol Cyffredinol o feddygon iau yng Nghymru a oedd yn datgelu anghysonderau mawr yn safon yr hyfforddiant meddygol mewn ysbytai yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn meddyginiaethau a thechnegau meddygol sy’n fwy modern, i wella’r hyfforddiant a’r cyfleoedd addysgol i feddygon iau yn ysbytai Cymru a denu rhagor o staff meddygol i Gymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

25

49

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ym mhwynt 2 dileugyflwyno’ a rhoiystyried cyflwynoyn ei le

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

36

49

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi y gallai’r pwysau ariannol sydd ar GIG Cymru ar hyn o bryd gyfrannu at sialensiau recriwtio.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

0

31

49

Gwrthodwyd gwelliant 3.

 

Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i’r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.

Dyddiad cyhoeddi: 28/02/2013

Dyddiad y penderfyniad: 27/02/2013

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 27/02/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad