Manylion y penderfyniad
Legislative Consent Motion - Growth and Infrastructure Bill - Deemed planning permission for generating consents
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Defnyddir hwn ble y bydd Llywodraeth y DU yn gofyn am
gydsyniad i Ddeddfu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar fater a allai ddod o
fewn cymhwysedd y Cynulliad fel arfer.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.33
Derbyniwyd y cynnig yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36.
NDM5124 John Griffiths
(Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y
DU ystyried y darpariaethau sy’n ymwneud â chaniatâd cynllunio tybiedig ar
gyfer cydsyniadau i gynhyrchu o dan adrannau 36 a 37 o Ddeddf Trydan 1989, sydd
wedi cael eu dwyn ymlaen yn y Bil Twf a Seilwaith, i’r graddau y maent yn dod o
fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Rhagfyr 2012
yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Dyddiad cyhoeddi: 06/02/2013
Dyddiad y penderfyniad: 05/02/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 05/02/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad