Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.32
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5146 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn cydnabod ac yn dathlu cyfraniad
enfawr y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol i economi a diwylliant Cymru.
2.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau llwyddiant parhaus y sectorau hyn drwy:
a)
adolygu gweithrediad
adroddiad Hargreaves, ‘Calon
Cymru Ddigidol’, i sicrhau bod ei pholisïau’n berthnasol a chyfoes, yn benodol
o ran datblygu system breindaliadau
hawliau perfformio i Gymru; a
b)
sicrhau bod Cyngor Celfyddydau Cymru yn adolygu
ei strategaeth ar ffurfiau celf
yn ystod 2013 ac yn rhoi sylw
llawn i’r angen i gynyddu cyfranogaeth yn y celfyddydau, annog pobl ifanc i ymgysylltu
â chreadigrwydd, hyrwyddo rhagoriaeth artistig yn Gymraeg a’r
Saesneg a gosod Cymru ar lwyfan
y byd.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
33 |
0 |
17 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 24/01/2013
Dyddiad y penderfyniad: 23/01/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 23/01/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad